Daff Owen/Tymor o Galedi

Oddi ar Wicidestun
Winnipeg Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Yr Hobo Cymreig


XXV. TYMOR O GALEDI

LLE digalon ydoedd Winnipeg i ddyn allan o waith ar yr adeg y taflwyd Daff ar drugaredd amgylchiadau yno tua diwedd yr haf 1893. Pe bai ei ddyfodiad rai misoedd yn gynt buasai yn well o gryn lawer, oblegid yr oedd nifer mawr o'r gweithwyr hur wedi mynd allan i'r wlad i gynaeafu'r gwenith. Ond erbyn hyn yr oeddynt yn dechreu dychwelyd i'r ddinas a chwilio am eu hen waith yn ôl. A gwell gan bob meistr ydoedd ail-dderbyn llafurwr y gwyddai rywbeth am ei werth, na chyflogi llanc dibrofiad a oedd wedi bod mor ffôl a chyrraedd y lle yn y "fall."

Profodd Daff i'r eithaf galeted oedd yr ystrydoedd, a faint caletach fyth oedd calon ambell gyflogwr yn yr ardal.

Druan o'r Cymro! yr oedd greenhorn wedi ei ysgrifennu yn fras drosto, ac yr oedd hyd yn oed ei ddillad o'i benwisg ysgafn i'w esgidiau haf— yn ei gyhoeddi, cyn yngan ohono air, fel yn perthyn i frawdoliaeth y newydd ddod."

"No, nothing doing!" oedd y frawddeg erchyll a âi'n greulonach bob dydd, am ei bod bob dydd hefyd vn golygu plymio'n ddyfnach i'r ystôr fechan o arian D.Y. a'i cadwai rhag newynu. Prin ddigon o'i arian ei hun a feddai Daff er talu ei gludiad i Winnipeg â hwynt, ond ar y ffordd tuag yno ni roddai hynny yr un anesmwythder iddo. Onid oedd ei frawd, perchennog y Dry Stores, wedi anfon amdano, ac yn ei ddisgwyl? Byddai popeth yn dda ond cyrraedd ato. Ond yn awr, heb frawd, heb gyfaill, heb gartref, heb lety priodol, heb ddillad gaeaf, yr oedd ei gyflwr yn resynus i'r pen.

"Paham na wnei di gynnig ar y La Dernière?" ebe rhywun wrtho yn y llety cyffredin un noswaith, pan nad oedd llygedyn o obaith o unman.

"La Dernière! beth oedd hwnnw, tybed?"

Yna yr eglurwyd iddo mai ystordy blawd mawr ydoedd ger y stesion, ac er nad oedd yn lle pleserus i weithio ynddo, ei fod yn well na dim.

Cofiodd Daff iddo dreio hwnnw ddeuddydd yn ôl, ac iddo gael ateb mwy angharedig nag arfer gan un o'r gyrwyr yno.

Treia di hi eto," ebe'r llall. "Meddwl oedd y gyrwr mai gwaith fel yr eiddo ef yr oeddet am ei gael. Cerdda di y tro nesaf drwy y drws mawr, ac mi fentraf na wrthodir mohonot yno. O, na! 'does dim gwrthod yno! Wyddost di Ffrensh, Gymro bach?"

Rhyfeddodd Daff na buasai wedi clywed am y lle hwn o'r blaen, a phenderfynodd fynd drwy'r drws mawr drannoeth, deued a ddel. Gwell unrhyw beth na rhynnu a newynu, a gwario'r cent olaf. "Ond paham y gofynnodd Greasy Jarge imi os gwyddwn Ffrensh, ys gwn i?"

Daff bach! pe gwypit mai talfyriad o "La Derniére Ressource" oedd yr enw, ac mai ystyr hwnnw oedd "y noddfa olaf," ti gawsit ryw syniad o ansawdd y gwaith.

Fodd bynnag am hynny, aeth Daff i fyny i'r lle drannoeth, ffeindiodd y drws mawr, ac aeth i mewn drwyddo. Ar ei fyned heibio clywodd lais i'w aswy yn gweiddi "Here's another!"

Credodd ar y pryd mai gair ynglŷn â'r gorchwyl mewn llaw ydoedd y waedd, ond gwybu'n well yn nes ymlaen.

Gofynnodd am waith i ŵr tal a ddaeth i'w gyfarfod, a chafodd waith ar unwaith, a thelerau'r gwaith yn ogystal. Cymerwyd ef i mewn i ystafell fawr arall, tywyllach o lawer na'r gyntaf. Yn hon yr oedd i gario hyn a hyn o sachau llawnion bob dydd a'u gosod yn rhestri hirion, trefnus wrth y pared, neu i'w cario oddiyno, fel y byddai'r galw.

"You can buck to, instanter, on this pile," ebe'r gŵr tal wrtho. "Twenty to the hour will be nothing to a strapper like you."

Byddai gosod un sach yn ei lle mewn tair munud yn gymharol hawdd pe na bai ond un i'w thrafod. felly. Ond cannoedd ohonynt yn aros i'w symud, a phob un ohonynt oddeutu deu canpwys a hanner— yr oedd y llafur yn llethol.

Gwan hefyd ydoedd Daff wedi hir ympryd y chwilio am waith. Ond gwnaeth ei oreu fel dyn, nes oedd y chwys yn mwydo'i grys, ac yn diferu dros ei arleisiau.

"Nineteen!" ebe llais y gŵr tal ymhen yr awr. "One Short!" Yr awr nesaf yr oedd dwy yn brin o'r nifer gofynnol, a'r un modd y drydedd, ac yn y cyfamser lluddedai a chwysai'r llanc yn fwyfwy o hyd. Rhyfeddai Daff nid ychydig am y chwysu mawr —yr oedd wedi arfer gweithio'n galed yn y lofa, ond nid oedd yn cofio iddo chwysu a lluddedu mwy erioed nag wrth y sachau y diwrnod cyntaf hwn. Ceisiai ei esbonio yn y ffaith ei fod ers rhai wythnosau heb weithio o gwbl, a'i fod ef wedi lleithio oherwydd hynny. Cafodd gyfran o arian ar gyfer y gwaith a wnaed, a'r noswaith honno prynodd Daff fwyd da, iachus iddo ei hun i fod yn gryf drannoeth.

Yr ail ddydd a ddaeth, ac o'r oriau y dydd hwnnw tair yn unig a welodd symud ugain sach yr un, dwy bedair ar bymtheg yr un, a'r gweddill ddeunaw yr un. Nid oedd ei ludded gymaint yn hollol y diwrnod hwn, ond chwysai gymaint ag erioed. Llafur caled ydoedd o dan unrhyw amgylchiadau, ond nid oedd ar Ddaff ofn gwaith, ac felly penderfynodd ddal yn y blaen. Erbyn hyn yr oedd y rhew a'r eira wedi dyfod, a ffodus iawn oedd i'r Cymro ei fod wedi ennill digon o arian i brynu dillad clyd yn barod i'r gaeaf, onide gresynus iawn fyddai arno.

Gwelodd lawer o fynd a dod ymhlith y rhai a gydweithai ag ef, a chyn pen deufis ef oedd y llaw hynaf yn ystordy'r sachau. Daeth i adnabod amryw o'r swyddogion a'r clercod hefyd, ac fel yr âi yr amser ymlaen edrychent hwy yn fwy serchog arno. Un peth oedd yn ddirgelwch mawr iddo serch hynny, sef paham yr arhosent, amryw ohonynt, gyda'i gilydd wrth y drws mawr ar ei ddyfod bob bore i'w waith, ac yr ymwasgarent y foment y deuai ef i'r golwg.

Ychydig a wyddai ef fod "ple" mawr am ba gyhyd y daliai efe ati, a bod sweep yn dibynnu ar y dydd y byddai'n rhaid iddo roi i fyny. Yr oedd ef eisoes wedi parhau'n hwy na'r un "greenhorn" o'i flaen, a thyfu yr oedd y diddordeb yn ei gylch.

Aeth Nadolig heibio, ac wedi dau ddiwrnod o seibiant aeth yntau yn ôl at ei galedwaith. Rhywbryd tua. diwedd Ionawr dechreuodd Daff besychu, ond daliodd ati am rai wythnosau er gwaethaf ei selni. Un bore, fodd bynnag, arhosodd yn ei wely, yr oedd meddwl am wynebu lludded y dydd yn ei wendid yn ormod iddo. Yr oedd y "sweep" wedi ei phenderfynu. Meddylid hefyd ymhlith y clercod na chysgoda; ef drothwy drws mawr y La Dernière byth mwy. Ond yn hyn fe'u siomwyd-yr oedd yn ôl cyn pen wythnos, er ei fod yn pesychu gymaint ag erioed.

"A game boy," eb un. "A blasted shame I call it all," eb arall. Wrth ei gilydd yn unig y dywedent hyn, ac yn y cyfamser âi Daff o ddrwg i waeth, hyd nes o'r diwedd y bu raid iddo ildio'r gwaith a gweld y meddyg.

Wedi clywed o hwnnw natur ei waith, a chyhyd y bu wrtho, eglurodd mai achos y peswch oedd mân ronynnau'r blawd a oedd yn hofran yn awyr ystafelloedd y La Dernière. Anadlai ef y rheini heb yn wybod iddo, ac o'u hanadlu creai hynny enynfa yn yr ysgyfaint. "Ac o bob greenhorn a ddanfonodd Prydain yma erioed," ebe fe yn ddigllon, "ti yw'r meddalaf ohonyn' nhw i gyd i ddioddef y penyd cyhyd. Wyddost ti ystyr La Dernière, 'y machgen i? ebe fe ymhellach. "Dos allan ar unwaith i'r paith i anadlu awyr Duw, wnei di? Rhof i ddim botwm corn am dy fywyd os arhosi yn y Last Resort ddiwrnod yn hwy. Two dollars, please! a phaid a ychwelyd i Winnipeg am flwyddyn o leiaf. Cofia fy ngair!