Neidio i'r cynnwys

Dafydd Jones o Drefriw, Cymru 1903/Dafydd Jones o Drefriw

Oddi ar Wicidestun
Dafydd Jones o Drefriw, Cymru 1903

gan Rees Jenkin Jones

Dafydd Jones o Drefriw

Dafydd Jones o Drefriw.

[Codwyd y darnau sy'n canlyn o lawysgrif Dafydd Jones o Drefriw, yn awr ym meddiant y Parch. R. J. Jones, M.A. Gwn y bydd yn dda gan efrydwyr llenyddiaeth gael y manylion rydd casglydd y Blodeugerdd" am dano ei hun, a'r ychydig oleuni deifl ar y cyfeillgarwch rhyngddo â Morysiaid Mon ac a thad Goronwy Owen, a'r nodion dyddorol sy'n ffrwyth ei sylwadaeth neu ei efrydiaeth. Ceir amryw bethau yn ei ysgrifau am ardal Penllyn; yr oedd Sion Dafydd Las o Lanuwchllyn yn ewythr iddo o gefnder ei fam, ac feallai ei fod yn hannu o ochr ei fam o'r Fychaniaid.]

DAFYDD JONES a anwyd yn y flwyddyn 1703, dydd Mawrth, mis Mai 4 dydd, yr haul yn 24 arwydd y Tarw a'r lleuad yn newid 4dd, 8A. 4 mynyd o'r prydnawn. Ei eni ef yn y bore'nghylch 11 ar gloch, y lleuad yn 30 oed.



Cwnstabl Trefriw ym Medi 1758.



Achau ei fab Ismael fu farw 1735. Ismael ap David ap Sion ap David ар Sion ap Rhys ap Rhydderch ap Lewis ap Ieuan ар Sion ap Heilin ap Euan ар Gro ap Llowarch ap Dafydd ap Dafydd ap Gr. ap Lln. ap Iorwerth ap Owen Gwynedd ap Gth. ap Conan tywysog Cymru.



CHWEDL AM LYN TEGID.

Yn y flwyddyn hon—1735—y bum i yn siarad â gŵr ynghylch Llyn Tegid. Efe a glybu gan hen bobl mai ffynnon ydoedd ynghylch ei ganol ar gyfer Llangywer, a'r ffynnon a elwid Ffynnon Gywer, a'r dre ydoedd yn yr amser hwnnw ynghylch y ffynnon ag o'i deuty. A gorchymyn oedd am roi caead ar wyneb y ffynnon bob nos. (Cyffelyb fod yn y dyddiau hynny wybodaeth gan rywrai oni wneid hyny y byddai ddistrywiad i'r dre). Ond fe anghofiwyd rhoi'r caead ryw nos, ag erbyn y bore, Wele! sinciodd y dref ag aeth y llyn yn 3 milldir o hyd ag un filldir o led. Hwy a ddywedant hefyd fod rhai ar ddiwrnod eglur yn canfod y simnau y tai. Wedi hynny yr adeiladwyd y dre yn is na'r llyn. Hi a elwir y Bala. A'r gŵr a ddywawd wrthyf fi ei fod ef yn siarad â hen wr o'r Bala, a hwnnw a fuasai pan oedd ef yn ifangc yn lladd 2 bladur neu 2 ddydd o wair rhwng y ffordd a'r llyn; ond yrwan mae y llyn wedi myned dros hynny o dir a'r ffordd hefyd. Fe fu rhaid prynnu tir ymhellach i wneud y ffordd, ag mae rhai yn dywedyd y sincia'r dref etto hyd at y lle a elwir Llanfor; eraill a'i geilw Llanfawdd neu Llanfawr Ymhenllyn. Mae 4 eglwys o gwmpas y llyn, ag a elwir Llanfor, Llangywer, Llanuwchyllyn, Llanyccil. Llandderfel a wna gwmwd Penllyn. Hefyd pan fyddo'r hin yn demhestlog fe fydd dŵr yn ymddangos ag yn codi o bob llawr tŷ o fewn y Bala, ag amser arall fe all pawb gael digon o ddŵr yn llawr ei dŷ i wasanaethu ei dŷ ond cloddio ychydig i'r llawr. Meddaf fi. Dd. Jones.



CAMFA HWFA.

Myfi a fum dros Gamfa Hwfa, yr hon sydd yn agos i Yspytty Ewan, a'm cydym- maith John Dafydd o Bentre'r Fidog a ddywedodd i mi glywed o honaw ynteu gan hen bobl yno, fod rhyw yspryd yn y lle hwnnw, a dyfod dyn i'r tŷ sydd yn agos i'r gamfa i geisio lletty; a thylwyth y tŷ a addawodd iddo letty; ond hwy ofynasant iddo ei henw. Ynteu a ddywedodd mai Hwfa a oedd i enw. Yna ebr y naill wrth y llall—Hwfa. Un o'r teulu a ddy- wedodd fod rhywbeth yn galw arno ef wrth y gamfa ers talm o amser fel hyn,―

Ellyll rhiw yr Gamfa
Hir yw'r nos i aros Hwfa.

Pan fum i yno
Medi 16, 1735.

Yna'r dyn a ymofynnodd am y Gamfa. Hwythau a ddangosasant iddo y ffordd atti; yr hon sydd o fewn ergyd carreg at y tŷ, a phan aeth ef yno, ni welwyd mo'r dyn! na chlywed son am dano chwaith fyth! Hefyd ni chlywyd mo'r yspryd yno byth mwy.— Dafydd Jones.



Mae man y Mhenllyn a elwir Llys Arthur a Phant y Widdon.



YR ALLOR GOCH.

Mae llyn yn yr Ryri a elwir y Dulyn, mewn cwm erchyll, wedi ei amgylchu â chreigiau uchel perygl, a'r llyn yn ddu. dros ben, a'i bysgod sydd yn wrthun, gyda phennau mawr a chyrff bychain. Ni welwyd yrioed nag elyrch gwlltion (fal i byddant yn aml ar bob llyn yn yr Ryri) yn disgyn arno, na hwiad, na math yn y byd ar aderyn arall. Ag yn yr un rhyw lyn i mae sarn o gerrig yn myned iddo, a phwy bynnag eiff rhyd y sarn pan fo hi yn des gwresog ag a deifl ddwfr, gan wlychu y Garreg[1] eitha yn y sarn, odid na chewch wlaw cyn y nos.

Teste Tho. Price o Blas Iolyn, Esq., a John Davies o Rhiwlas yn Llansilin, Antiq.



MEINI GWYNEDD.

Y mae llyn yn yr Ryri a elwir Ffynnon y Llyffant, yn yr hwn yr ydoedd dau neu dri o feini mawr anferth ni thynnai mil o ychain, y rhain a fyddid yn i galw, pan oeddynt ynghanol y llyn, Meini Gwynedd. A David Ddu o Hiraddug (1340) a llawer o feirdd ereill a scrifennodd ag a brophwydodd y codent i fyny ag i doent allan o'r llyn. A Tho. Price o Blas Iolyn Esq. a fu yn siarad a llawer o hen bobloedd a'i gwelsant yn y llyn. Ond er ys llawer o flynyddoedd hwy a godasant ag a rwygasant graig fawr uchel, ag i maent yn awr ar i thop hi yn aros i bawb i'w gweld. Tyst, yr englyn isod. Teste Tho. Price, Plas Iolyn, yr hwn oedd fyw 1580, a John Davies o Riwlas, yn y flw. 1721.

Fe gododd y main o geudod―y llyn,
Fal llyna ryfeddod;
Di fai fu'r beirdd a'i dyfod,
Rhyw beth yw hyn a fyn fod.





Mae trydar adar odiaeth-y boreu
Yn barod a pherffaith,-
Da eilwaith ei duwiolwaith,
Fawl i Dduw, wiw ddyfal waith.
DAVID JONES.



E ag L oleudeg wedd
I ag S wiw a ddwg wadd
Rag o a B i'w gwydd
E ag RTS a'i tawdd.
—DEWI AB IOAN.



L ap M ym Mon wyd enwog
A dawnus hyd Arfon
Rhyfeddol yw dy foddion
Gymro glan i Gymraeg lon.

Lewis addfwyn lwys eiddfodd,
Liwys o'i ddawn, lais i'w ddydd,
Liaws orhoen lys raen hedd
Loew ais iesin les oesawdd.

Derbyniais, cefais dan go-bêr annerch
Bur union i'm dwylo
Da hylwydd wyd yn eilio.
Dy ganiad fel clymiad clo.

Owen lwys a'i awen lon
Gronw doeth, gywreinia dŷn,
Mil o fraint a mawl i'r fron
Faith gwiwlwys fyth ith galyn.

Llwyddiant lluoedd
Moliant miloedd
Haeddiant heddoedd
Hynt ddyddiau
A fyddo iti
Rwyf fi'n mynegi
Y nefoedd wedi
I'n eneidiau.

Gwna, Wiliam ddinam heddwiw-bur arwain
Beroriaeth i Drefriw;
Fwyn haeddol o Fon heddiw
Ddiddan, dda ddwys, gyfan gyf wys
Morgan wir lwys myrr gân liw.

Addewaist im yn ddiau
O waith Lewis Morris mau,
Gyrr i mi ar gwrr y min,
Mael o'i win mel o'i enau.



GWELEDIGAETHAU D. J. YN 1735.

1. Yr ydym ni yn llaw Duw fel cerrig yn y dafl.
2. Fy llawenydd sydd i gyd i'm hetholedigion.
3. A gweddill y peth a fo rhaid.

Hydref y bore, 20, dydd Llun, 1735.

Fe symud y naill oddiwrth y llall, a'r lili oddiwrth y lafent.



CREDO ATHANASIUS.[2]

Ar fesur Cerdd, fel hymn.

Pwy bynnag fyth a fynno fod
Am gydol nod gadwedig,
Rhaid iddo gynnal nos a dydd
A theulu'r ffydd gatholig.


Anfesuredig yw Duw da,
A Mab Jehofa hefyd,
Felly yn gu mewn hollawl gân
Mae mesur y Glân Yspryd.

Yspryd Glan sy o'r Tad a'r Gair
Heb wneud ei grair na'i greaw;
Na'i genhedlu gan neb yn wir
Oherwydd mae'n clir ddeilliaw.

Canys fel y mae yr enaid rhydd
Rhesymol di—brudd—athrist
A'r Cnawd yn un, felly Duw
A dyn sydd, clyw, o'r unCrist.
—DAFYDD JONES.



Robert Wynn,[3] pn. Llanuwchllyn a gladdwyd yn Llangywer.

Mewn pryd, tro hyfryd, trwy hedd—was dewrwych
Ystyria dy ddiwedd;
Meddylia, ddyn meddaledd,
Diame mai dyma medd.
Mai 2 1720
ei oed 64.



I DYNNU DAINT.

Cymer lyffant melyn o'r dŵr fis Mawrth neu fis Mai, a berw mewn dŵr, a dod dy fys yn y dŵr hwnnw. Cyffwrdd y daint a fynnech, ac ef a syrth o'ch pen.



SWYN SERCH.

Cymer lysieuyn a elwir y gas-wenwyn, a thorr un a fo a 5 cainc neu a 3 cainc. Cadw yn dy fynwes un diwrnod, a thrannoeth dyro yn i mynwes hithau. A hi a'th gâr yn fawr. Hwn yw'r gore oll, ran i fod yn enw Duw a saint y nef.


O mynni beri i bobl ffoi allan o'r ty cais frasder cath, a gwna 4 canwyll, a dod un ymhob congl i'r ty; a diffodd bob goleuni arall ond y 4 canwyll rheini; a phawb a fo yn y ty a welant lawer o anifeiliaid echrydus neu ddychrynllyd, a hwy a ffoant allan am y cynta.



RHINWEDD Y FERFAIN.

Dos lle i bod yn tyfu, a gostwng i lawr ar dy ddeulin ac addola iddo, a dywed bader ac afi a chredo ger ei fron, a dadwreiddia â phren heb ddim haiarn arno, oni fo agos o'r gwraidd, ac na thynn i fyny yn gwbl. A dyro ardes arian yn ei gylch, ac felly gad. A dos ymaith. A na ad i neb wybod dy gyfrinach. A thrannoeth. dos ato yn fore, cyn codi haul, a na ad i neb wybod, a dywed y geirie hyn,—

Molies radix concurris siper Patrem et Filium at Spiritum Sanctum et per firicem quatuor obsenuros et per anglost et aglost englost et per passim et nullum virtutem terram elincos et rem in et per potentem Diws de nomini Patris et Filii et Spiritus Sancti. Amen.

Ac yna cloddia ef yn gwbl i fyny, a golch mewn gwin neu laeth bronne, oblegid ei fonedd; ac yna cornia ef mewn llien cryf, a dyro dan y fferen, a chadw ef yn dda, oherwydd llawer a dâl ef.

1. Os cyffwrdd ef a chroen noeth merch, gofid a fydd arni o gariad y neb a'i twitsio, yn gymaint ag nas cymero na bwyd na diod o gariad arno hyd oni chaffo hi ef.

2. Pwy bynnag a geisio neges gan neb, ni naceir; ond ei ganiatau'n llawn iddo a wneir.

3. Rhodder ef mewn dŵr, y cwbl o'r pysgod a ddont i'r lan ato lle i bo yn aros.

4. O rhoir ef dan wraig lle bo hi yn eistedd, ni all eiste arno. Os morwyn, hi all eiste.

5. Y dyn a yfo ei sug, fo fydd cudd ple bynnag yr el, oni yfo ddŵr bendigaid ar i ol.

6. Pwy bynnag a'i dyco gydag ef, ni wneir afles iddo.

7. Os bydd gwenwyn mewn bwyd neu ddiod i ddyn, yfed i sug, a bydd iach.



RHINWEDD CROEN NEIDR.

Cymer groen neidr, a fwrio hi rhwng y ddwy wyl Fair, a llosg ef y trydydd dydd o brif lloer Ebrill, a chadw y lludw hwnnw'n dda, o ran mae rhinwedd mawr arno.

1. Os bydd gwraig yn trafaelio mae'n dda.
2. Mae'n dda i ennill campie a chwareuon.
3. Os bydd cymydog drwg, bwrw dipyn o'r powdr yn ei dŷ, ac ni thrig ef byth ynddo ar ol hynny.
4. Os mynni wybod cyfrinach, dyro dipyn yn dy glust, a thi a glywi y cwbl.

5. Os byddi yn chwennych cael dy alw i gyfrinach na'th alwer, dyro dipyn ar dy esgid, ac fe'th elwir, ac ni wneir dim hebot.
6 Rho mewn dŵr, a golch dy wyneb, a byddi fel angel.
7. Dod dan wadne dy draed, a doeth fyddi.
8. Dod ar dy iad pan elych i gysgu, ti gei weled trwy dy hun y peth a ddaw i ti.
9. Dod dan dy dafod, a thi gei'r gorchafieth ar y neb a ymresymo â thi.
10. Bwrw beth yn nillad y neb a fynnych gael i gyfrinach.
11. Dyro'r lludw mewn brath neu archoll, ac iach fydd.
12. O bydd ofn dy elynion, dyro beth o'r lludw rhwng dy ddwy ysgwydd.



MAINI GWENOLIAID.

O mynni gael main gwenoliaid, y seithfed o fis Awst cymer y trydydd aderyn a fo yn y nyth yn ol, a thorr ei forddwyd yn dri darn, a rhwym ede am y troed iach, fel na allo fe fyned dros y nyth hyd ymhen y saith niwrnod. Ac yna agor ei gropa, ac yno i cae dri maen,—un gwyn, ac un coch, ac un gwyrdd. Rhinwedd y maen gwyn yw, dyro yn dy enau, a dyro gusan i wraig neu forwyn, a hi a'th gâr yn fawr hyd na allo fod hebot. Rhinwedd y maen gwyrdd yw, dwg gyda thi a gelli fod heb fwyd na phryd. Rhinwedd y maen coch yw na chyll dim o'th waed yn erbyn dy ewyllys tra fo gyda thi.



ADAR Y LLWCH GWIN.

Drudwas ap Traffiniowg a gafas gan ei wraig dri aderyn a elwid Adar Llwch Gwin. Ac hwynt a wnaen bob peth ar a arche eu meistr iddynt. Ac ef a bwyntied maes rhwng Arthur a Drudwas, ac ni chae neb ddyfod i'r maes ond y nhw ill dau. A gyrru a wnaeth Drudwas ei adar, ac erchi iddynt ladd y cyntaf a ddae i'r maes. Fe ddaeth chwaer Drudwas, oedd ordderch i Arthur, ac a lesteiriodd Arthur i'r maes er cariad ar Arthur a Drudwas. Ac o'r diwedd ef a aeth Drudwas i'r maes, gan dybied ladd o'r adar Arthur yn ei arffed. Ac yna yr adar a'i lladdasant ef; ac wedi ei gipio i entrych awyr, pan adnabuant hwy y fo, disgyn a wnaethant i'r llawr, trwy ruddfan tosturiol am ladd Drudwas eu meistr. Ac y mae caniad ar y Llwch Gwin ar dannau, a wnaed i goffhau hynny. Ac o hynny y cafes Llywarch Hen destyn yr englyn hwn,—

E las y Drudwas Traffin,—trwm ddiwrnod
Rhag trallod a gorddin,
Adwyth gwnaeth ar gyffredin
Adar a'i lladdodd Llwch Gwin.



CWYMP LLYWELYN.

Coffadwriaeth am ladd Llywelyn ap Gruffydd ap Llywelyn, y tywysog diweddaf ar Gymru.

Dywed i wyr Gwynedd galon galed
Mai myfi yw Gronw gwirfab Ednyfed
Pe baswn i byw gyda'm llyw
Nis lladdesid gyn hawsed.

Hyn a draethwyd wrth wasanaethwyr Llywelyn ap Gruffydd ap Llywelyn, pan oeddynt yn ymolchi ym Mhistyll y Geiniog yn ymyl y Prysc Duon yn sir Faesyfaid, wedi dianc yn ol lladd eu meistr mewn lle a elwir Aber Edwy, mewn pwyntmant â merch. Hwnnw oedd dywysog diweddaf yng Nghymru. Ysbryd Gronw ap Ednyfed Fychan a draethodd y geirie hynny.



MAES Y CAERAU.

Pieu'r bedd yn y Caerau
Gyferbyn a Bryn Beddau?
Gwryd ap Gwryd glau.

Hwn a gladdwyd mewn lle a elwid Maes y Caerau, yn ymyl Dinas Embrys.



BEDD GELERT.

Claddwyd y Cilhart celfydd—ymlyniad
Ym mlaenau Efiionnydd;
Parod ginio da i'w gynnydd
Parai'r dydd i helai hydd.

Hwna ganed am gladdedigaeth bytheiad Llywelyn ap Iorwerth Drwyndwn, twysog, ac mewn lle a elwir heddyw Bedd Celerd neu Cilhart.

Nodiadau

[golygu]
  1. Yr Allor Goch y gelwir y garreg
  2. Detholir y rhai hyn o 42 pennill.
  3. Vicar Gwyddelwern.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.