Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Ei Lyfrau (eto 1)
← Llyfrau Dafydd Jones | Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) gan Owen Gaianydd Williams |
Ei Lyfrau (eto 2) → |
VII. LLYFRAU DAFYDD JONES.
Gwr cynhefin yn yr hen amser oedd y gwerthwr llyfrau crwydrol; os nad poblogaidd hefyd. Ceid hwy yn y ffeiriau, y marchnadoedd, a'r gŵyl-fabsantau. Ganddynt hwy y cai y gwreng a'r bonheddig eu halmanaciau a'u cerddi—a'r ddau fath hyn o lenyddiaeth oedd newyddiaduron yr oes honno. A gwerthai'r dosbarth goreu o honynt y llyfrau sylweddol, uwch eu pris. Pan oedd moddion teithio mor brin, ac amser y newyddiaduron heb wawrio, mor ddieithr y rhaid fod rhannau o'r wlad i rannau ereill. Felly caffai'r llyfrwerthydd groeso, beth bynnag am werthiant ar ei lyfrau, oherwydd ei fod yn gludydd hanes un wlad i wlad arall. Fel rheol, yr oedd y gwerthwyr llyfrau yn gyhoeddwyr llawer o'r hyn a werthent.
Er nad hyn oedd galwedigaeth Dafydd Jones, gwnaeth lawer o hyn; ac nid yn unig werthu ei lyfrau ei hun, ond llyfrau wedi eu cyhoeddi gan eraill hefyd. Ar sail erthygl yn Nhraethodydd 1886,[1] credodd Charles Ashton iddo ddechreu cyhoeddi cerddi mor fore a 1723, ac iddo gyhoeddi tair o gerddi,—un yn 1723, un arall yn 1724, a'r drydedd yn 1727. Prin y credaf fod hyn yn wir. Nid yw'r enw Dafydd Jones yn ddigon o sicrwydd dros ddilysrwydd y gosodiad. Yr oedd mwy nag un Dafydd Jones yn y wlad, a Dafydd Jones o Brion yn lenor da. Yr hyn yn gyntaf sy'n ein temtio i ameu yw ieuenctyd y cyhoeddwr; nid oedd eto ond glaslanc, fe allai heb ddechreu cymeryd dyddordeb yn y pethau roddodd gymaint o bleser iddo wedi hynny. Gwedi'r flwyddyn 1727 ni cheir ei enw fel cyhoeddwr un llyfr hyd 1742. Gwir fod cyfnod hir, diwaith o'r fath, yn hollol bosibl; ond anhebyg er hynny a barnu yn ol cysylltiad didor Dafydd Jones â llenyddiaeth, o 1742 hyd ei fedd. Nid ydym yn collfarnu cred Charles Ashton, ond yn unig ddatgan ein amheuaeth. Os oes a all chwalu ein amheuon, a phrofi'r hyn a ymddengys i ni yn anhebyg, croesaw iddo.
Fel llawer o bethau eraill, mae hanes. gwasg Dafydd Jones yn wead o ffeithiau a chwedlau, chwedlau a ysgrifenwyd cyn hyn fel ffeithiau hanes. Canwyd ei chlod fel hen wasg Lewis Morris, y wasg y galwyd ei chyntaf-anedig yn "Dlysau'r Hen Oesoedd." Dywedwyd iddo ei phrynnu gan Lewis Morris, a'i chario ar ei gefn o Fon i Drefriw. Mae peth rhamant yn yr olaf, beth bynnag am haelioni yn y cyntaf. Ei chael yn rhad ac yn rhodd, medd eraill. Methais weled dim yn holl ysgrifeniadau Dafydd Jones yn cydnabod rhodd mor dderbyniol. Ond wrth chwilio hen ysgriflyfrau fu'n eiddo iddo, gwelais a ganlyn wedi ei ysgrifennu* gan arall flynyddoedd wedi ei farw,—
These MSS. were purchased by the Thomas Pennant, Esq., from the Executors of David Jones of Trefriw, one of the first printers in the Principality, and who was presented with a Fount of letters by the celebrated Mr. Lewis Morris."[2]
Ysgrifenwyd yr uchod rywbryd yn flaenorol i 1835, yn yr hon flwyddyn y rhoddwyd yr hen ysgriflyfrau i'w cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yr hyn sydd yn ein taflu i ddyryswch yw,—Ai gwasg Lewis Morris oedd gwasg Bodedyrn? Os ie, pa hawl feddai Lewis Morris ar wasg oedd yn ol pob ymddanghosiad yn eiddo gŵr arall? Bu argraffu ym Modedyrn mor ddiweddar a 1760, os nad diweddarach. Trigai Lewis Morris y pryd hwn yn sir Aberteifi, yn ddigon llesg ei gorff, a bu farw yn 1765. A gofiodd am yr hen wasg, oedd anwyl iddo ddeng mlynedd ar hugain cynt, os ei eiddo oedd? Wrth fwrw golwg dros "Dlysau'r Hen Oesoedd," a rhannau o'r llyfrau argraffwyd yn Nhrefriw, hawdd credu mai llythyrennau Lewis Morris a ddefnyddiai Dafydd Jones. Nid oes gennyf farn i'w datgan ar lythyreniaeth gwasg Bodedyrn, am na welais ddalen o lyfr a argraffwyd yno. Os segur fu gwasg Lewis Morris wedi argraffu y Tlysau, os ei rhoddwyd ganddo i Ddafydd Jones, pa esboniad ellir roddi ar na ddarfu i Ddafydd Jones ddechreu argraffu am dros ddeng ar ol marwolaeth ei gymwynaswr? Ein casgliad yw hyn,—mai'r un wasg oedd gwasg Bodedyrn a Threfriw, a honno yn hen wasg Lewis Morris;[3] ond nad yw'r "fount of letters" uchod yn golygu ond yn syml y llythyrennau; i Lewis Morris roddi neu werthu ei wasg i John Rowland Bodedyrn; iddo gadw ei lythyrennau, gan mai ychydig oeddent; mewn amser di-weddarach iddo eu rhoddi i Ddafydd. Jones Trefriw; ac mewn amser diweddarach drachefn i Ddafydd Jones brynnu'r wasg a llythyrennau John Rowland. Hyn sydd amlwg, mae "Histori yr Iesu Sanctaidd," y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Nhrefriw, wedi ei argraffu â dau fath o lythyrennau, ac un math o'r un faint a delw a llythyrennau Tlysau'r Hen Oesoedd."
Gair ymhellach ar yr amser y dechreuodd argraffu, gan fod un o'n llyfrau safonol yn gamarweiniol ar hyn. Dywed Charles Ashton,—[4]
"Ond nid ydym yn cyfarfod â'i enw fel argraffydd hyd y flwyddyn 1777, pryd yr argraffodd Ddwy o Gerddi Newyddion o waith Elis y Cowper. Ond o'r flwyddyn uchod yn mlaen fe argraffwyd rhan ehelaeth o lenyddiaeth faledawl Cymru yn Nhrefriw."
Mae'r uchod yn anghywir. Nid yn 1777 y dechreuodd argraffu yn Nhrefriw. Ymddengys na welodd Ashton mo" Histori yr Iesu Sanctaidd," yr hwn a argraffwyd. yn Nhrefriw yn 1776, na chwaith y cofnodiad a geir o hono yn Llyfryddiaeth y Cymry; felly nid cerddi Elis Gowper oedd ei gynnyg cyntaf. Yr un mor anghywir yw'r haeriad mai yn Nhrefriw yr argraffwyd rhan ehelaeth o "lenyddiaeth faledawl Cymru," ped fai hynny yn anfri mawr. Os felly, paham na phrofodd Ashton ei osodiad trwy roddi rhestr o'r baledau a gyhoeddwyd yno yn amser Dafydd Jones?
Wedi'r crwydro hyn, ceisiwn roddi rhestr o'r cerddi a'r llyfrau a gyhoeddodd, argraffodd, neu y bu iddo ryw ran ynglŷn â hwynt. Yn eu plith rhestrwn y cerddi y taflasom amheuaeth ar ei gysylltiad â hwynt, hyd oni ellir profi fod ein damcaniaeth yn gywir. Wrth fynd ymlaen, nodwn ein hawdurdod, fel y gallo'r darllennydd brofi pob peth drosto ei hun.
1. (1) CERDD, "Yn cynwys Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc a'i Gariad, ac fel ar y diwedd y Cyssylltwyd hwynt mewn gwir Rwymyn Briodas." 1723. (John Rhydderch, Amwythig).
2. (2) CERDD, "Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc o Gybydd a Merch Ifangc, (ar y Don a elwir Loth to Depart neu Anhawdd Ymadael." 1724. (John Rhydderch, Amwythig).
3. (3) Yn adrodd Dull y Farn Ddiweddaf, gan rifo 15 dydd o Aruthredd Rhyfeddol ar ddyfodiad Crist i'n Barnu. (Ar fesur a Elwir Syrthiad neu Gwympiad y Dail. Dafydd Jones a'i hail—wnaeth). 1727. (Amwythig).
4. (4) "Peder o Gerddi Diddanol. gyntaf, Carol Plygain ar fesur a elwir Crimson Velvet, 1742. (Gan Dafydd Jones, Antiquary). Yn ail, Carol o fawl i Fair y Forwyn i'w Ganu ar Fesur Tôn Deuair yw Ganu Wyneb y Gwrthwyneb. (Dafydd Jones a'i 'Sgrifennodd). Yn drydydd, Carol i'r Gwirod ar yr un Mesur. (Dafydd Jones a'i 'Sgrifennodd).
(1) Y Traethodydd, 1886, t.d. 221. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 186.
(2) Y Traethodydd 1886, t.d. 222. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 186.
(3) Y Traethodydd 1886, t.d. 273. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 187.
(4) Y Traethodydd 1888, t.d. 222. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 187.
Mae yma bump o "Gerddi Diddanol," ac nid "peder" fel. y nodir, na chwaith dair fel y nodir uchod. Ond nid yw enw Dafydd Jones fel awdwr nac ysgrifennydd wrth y ddwy olaf. Ysgrifennu dwy o'r uchod yn unig a wnaeth Dafydd Jones. Ym Mlodeugerdd Cymry" (1779, t.d. 226—7), nodir Carol Fair fel yr eiddo Thomas Evans, a'r Carol i'r Gwirod fel yr eiddo William Phylip.
5. "Histori Nicodemus Neu yn hytrach Ysgrifen Nicodemus oherwydd na ddethyniodd' (sic) yr Eglwys, ond pedair Efengyl. Ac yr oedd dyn o'r Phariseaid, ei enw Nicodemus pennaeth yr Iuddewon; Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ad a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai Dysgawdwr ydwyt ti, wedi dyfod oddi wrth Duw. Canys ni allai neb wneythyr yr Gwyrthiau hyn yr wyt ti yn ei gwneuthyr oni bai fod Duw gyd ag ef, &c.. St. Ioan 3 pen. 1, 2, &c. Ac y mae hefyd lawer o bethau a wnaeth yr Iesu y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y Cynnwysai y byd y llyfrau a Sgrifennid ult. St. Ioan, 21 pen. 2. Os Efengyla neb i chwi amgen na'i hyn a dderbyniasoch, bydded Anathema. Gal. 1. pen. 9. Da yw Mae'n gyd a'r Efengyl Medd Gwyddfarch gyfarwydd, 1206. A osodwyd allan gan Dafydd Jones; Myfyriwr ar hen beth au. Argraphwyd yn Ngwrecsam gan R. Marsh. 1745."
Gwyneb ddalen ryfedd. Pa un ai R. Marsh ynte Dafydd Jones biau'r anglod o'r gwallau, nis gwyddom. Gall mai'r goreu fai eu rhannu rhyngddynt. Wele engraifft bellach O iaith a synwyr y llyfryn. A pha mor garpiog bynnag ei wisg, yr oedd dda ddigon i'w syniadau ofergoelus.
"A hynny a ddywedodd hi (Brenhines. Seba) wrth Selyf ap Dafydd, ac yno y bu y Prenn hwnnw yn gorwedd hyd yr amser y Dioddefodd Crist arno a phan farnodd yr Iddewon Grist i angeu, y dywedodd un or Iddewon o ymadrodd Prophwydoliaeth, Cymmerwch Brenn y Brenin sydd yn gorwedd tu allan i'r Ddinas, a gwnewch ohono Groes i Frenin yr Iddewon, ac yna y daethant o'r tu allan i'r Dref a thorrasant y drybedd rann o Trawst ac o hwnnw y gwnaethant Grog yr Arglwydd, o Saith Gufudd ynddi o hyd, a thri chufydd yn ei braich o faint, ac i Summudasant hi hyd y lle a Elwir Calfaria, ac ar honno y Groeshoeliasant Ein Harglwydd ni Iesu Grist er Iechyd ir rhai a gretto ir hwn y mae Anrhydedd a Gogoniant Tragwyddol ganddo. Amen."
Yr oedd y cyhoeddwr yn distaw dybied y ceid a amheuai wir ei lyfr, a rhag-ddarparodd ei amddiffyniad iddo ei hun yn lloches cyn dod o'r ystorm. Wele honno,—
"Fe ddywed rhyw rai (mae'n debyg) mae peth a ddyfeisiais i neu arall yw Efengyl Nicodemus; ond gwybydded y cyfryw rai mai o Lyfr ysgrifen y Dr. Tho. Williams o Drefryw y tynnais i y coppi hwn, or Llyfr Gwyn o Hergest y cadd yntau, yr hyn a ysgrifenodd ef ynghylch y flwyddyn 1596."
A yw'r "Efengyl Nicodemus" hon yn "Llyfr Gwyn Hergest"? Mae'r diweddar Ganon Silvan Evans (Llyfr. Cymry, t.d. 399), yn anwybyddu'r uchod, os ei gwelodd; gan roddi i'r llyfr ffynhonell arall; sef,—
O Hen gyfieithiad ydyw, ond wedi ei gyfnewid a'i waethygu gan Dafydd Jones "Nicodemus Gospell, Enprynted at London in Fletestrete at the sygne of the Sonne by Wynkyn de Worde, Prynter unto the moost excellent Pryncesse my Lady the Kynges Moder In the yere of our Lorde God m. ccccc. ix. the Daye of Marche."
Tueddir ni i farnu yn hollol wahanol i'r Canon dysgedig. Mae'r chwedl efengyl hon yn y Llyfr Gwyn Rhydderch," felly rhaid fod y Canon Evans yn anghywir. Ac mae'r Llyfr Gwyn wedi ei ysgrifenu yn flaenorol i'w chyhoeddiad yn Saesneg. Un o hen efengylau Pabaidd, y petheuach ofergoelus hynny a roddai'r Eglwys hon i'w deiliaid yn lle'r gwir oleuni, yw'r efengyl, neu'r chwedl hon. A'n tyb yw nad drwy'r Saesneg y daeth, ond iddi gael ei chyfieithu yn uniongyrchol o'r Lladin i'r Gymraeg. Methasom weled ei bod yn un o hen ysgriflyfrau Dr. Thos. Williams, ond mae ol llaw y Dr. ar y Llyfr Gwyn.[5] Hawdd y gall fod ar a welsom o honynt. Pabydd selog, dan rith Eglwyswr, oedd ef, ond a ddiarddelwyd yn y diwedd gan y Llysoedd Eglwysig am ei ragrith. Felly yr oedd efengyl o'r fath hon yn unol â'i chwaeth grefyddol. Hefyd yn un o hen ysgriflyfrau Dr. Thos. Williams (Caerdydd MSS. 15), ceir rhestr o enwau, wedi ei hysgrifennu gan Ddafydd Jones, y rhai a werthasant y llyfr hwn, ynghyd a'r nifer a werthasant. Ceir copi o honi mewn MSS. oedd unwaith yn eiddo Edward. Llwyd, ond yn awr sy'n eiddo'r Parch. Peris Williams, Gwrecsam, wedi ei ysgrifennu gan Rydderch Lewis ap Owen, yn yr unfed ganrif ar bymtheg.[6] Pa un bynnag ai o'r Saesneg ynte o'r Lladin ei cyfieithwyd, OS oedd y copi welodd Dafydd Jones yn debyg i hwn, mae'n dra amheus a allasai waethygu Cymraeg y chwedl. A thebyg mai at Gymraeg y cyfryw y cyfeiriai'r Canon Silvan Evans. Rhoddwn ran o honi yma er difyrrwch, ac fel y gallo'r darllennydd farnu trosto. ei hun,—
"Yr unfed flwyddyn ar hygain o Amrodraeth Sesar Ymherodr Ryfain / ar ddegfed o dwysogaeth Erod fab erod frenin galalea / y Seithfed dydd o galan ebrill / Sef oedd hyny y 26ain o fis mawrth y 4edd flwyddyn o gonsseiliws Rwffi // 42 o dwyssogaeth yr yffeiriad olympas dann Siosseb a chaeffas . . . . ac eraill or Iddewon ddaethon at bilatys o ynys y bont yn erbyn Jessu yw gyhyddo . . . . hwnn eber hwynt a adnabyam ni ac awyddam i fod y [n] fab Siosseb Saer ai eni o fair ac yn doedyd i fod yn fab i ddûw ac yn frenin a hefyd i mae ef yn amherch y Sadwrn ni a hefyd i mae fe yn gillwng Kyfreithiau yn Rieni / pa. beth ebyr peilatws y mae yn i dillwng."
Wele ddigon i brofi a dangos fod anghenraid ar Ddafydd Jones newid llawer ar Gymraeg y cyfieithiad, ac iddo, er amled beiau ei lyfr, ei wella ac nid ei waethygu. Bu'r llyfryn trwy bedwar argraffiad, dau yn ystod oes ei gyhoeddydd cyntaf, a dau yn agos i'w gilydd wedi ei gladdu.[7]
6. Gwaedd Ynghymru yn wyneb pob cydwybod Euog. Yr ail Argraphiad, 1750. (Thomas Durston, Amwythig)." Ceir ynddo Lythyr at y Darllenydd, gan D. Jones (Dewi Fardd) o Drefriw. A "Llythur i'r Cymru cariadus" gan M. LI. Yng nghyd ag "Englynion perthynasol i'r Llyfr," gan Dewi Fardd, Thomas Llwyd, Huw Morus, Dafydd Lewis,. Iago ap Dewi, Bess Powys a Wiliam Phylip.
1. Gwrecsam 1745.
2. Amwythig 1750 (?).
3. Dolgellau 1799.
4. Caerfyrddin 1802.
Nid un, fel y rhoddir ar ddeall i ni gan Ashton, ond dau o lyfrau Morgan Llwyd a geir yma. Hefyd, mae "ail-argraffiad yn anghywir, y trydydd ddylasai fod.[8]
7. "Eglurun Rhyfedd. Sef, Ystyriaethau Godidog, Y Cyntaf, yn Cynnwys, Hanes yr Hen Wr o'r Coed. Yn Ail, Breuddwyd Troilus. Yn Drydydd, Troedigaeth Evagrius y Philosophydd. Yn Bedwerydd, Methyrdod Andronicus Ymmerawdr. Yn Bumed, Cywydd y Merthyron.
Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: O blegid rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ef a'i fod yn obrwywr i'r rhai sy yn ei geisio ef, Heb. 11. 6.
A osodwyd allan gan Dafydd Jones. Argraphwyd yn y Mwythig tros Dafydd Jones, 1750."
Wele wyneb-ddalen ddoniol yr Eglurun Rhyfedd; fel mae ei enw felly mae yntau. Yn gyntaf oll, mae ynddo ddalen o ragymadrodd gan Ddafydd Jones, wedi ei dyddio, Trefriw, 14 Mai, 1750. Nid oes fawr gamp ar iaith y rhagymadrodd, ei sillebiaeth yn ddrwg, ei arfer o'r prif—lythyrennau yn waeth. Ym— ddengys na welodd yn dda yma ddefnyddionyddio diwedd-nodau ond pan yn newid y pwnc. Ac mae ei atalnodau eraill fel pe heuasai dyn hwynt gan eu gadael lle'r syrthiasant ar ddamwain. Er diddanwch i'r darllennydd, wele rhan o'r rhagymadrodd,—
"Ni fedraf lai na'ch Annerch a llyfr bychan etto. Ni cheir lles o ddiogi Ebr Aneurin Gwawdrudd, wrth Cybi Sant, a St. Paul hefyd a Orchymyn, os bydd (ebr ef) neb na fynnai weithio na chai fwytta 'chwaith, 2 Thes. 3. 10. Ymmhlith yr Atheniaid, f'a fernid ac a gospid Dynion Segur megis y Troseddwyr dihiraf A chan fod gan i rai o 'Sgrifeniadau fy Iaith heb fod erioed mewn print, nid wyf yn gweled lles yn y Byd o'u cadw dan lestr, gyd a Gwladys nid wy'n 'wyllysgar i fod yn esmwyth fy hun oni chai fy nghyd wladwyr, y Brutaniaid mwynion wybyddiaeth o'r cyfryw a chan fy mod yn agos i Dy fy hir gartref; ac nad oes yno waith, dychymig, gwybodaeth, na doethineb."
Mae'r llenor yn ymddangos yn hollol ddifrifol, heb amcanu cellwair o leiaf yn yr uchod. Mae'r beirdd, o ba faint bynnag y bont, ar adegau yn ddifrifol a di-niweid, a gall fod haen go gref o ddi-niweidrwydd yn ei natur yntau, nid weithiau, ond bob amser. Rhaid fod y diniweidrwydd hwn o dan faich trwm o'r pruddglwyf pan sonia mor glir am "Dŷ ei hir gartref." Pa ofid a barodd i'w gyfeillion? Nid oedd achos, canys bu fyw 35 mlynedd ar ol hyn. Chwedlau crefyddol yw cynnwys y llyfr. "Hanes yr Hen Wr o'r Coed,"—hen stori wedi ei throi'n gân, neu'n ddwy gân, yw hon; am hen wr fu mewn coedwig am 350 mlynedd yn gwrando cân un o'r angylion. Cyhoeddwyd yr ystori ar y dechreu yn y "Drych Cristionogol," 1585, am yr hwn lyfr yr ymhola'r cyhoeddwr yn y geiriau hyn,—
"N.B. Fe fyddai da genyf gael y Drych Gristionogawl, &c., yn gyflawn; i werth neu i Fenthyg. Yr hwn wyf fi Dafydd Jones."
William Pirs Dafydd o Gynwyd (yn ei flodau oddeutu 1660), oedd awdwr y gyntaf o'r ddwy gerdd. Nid oes enw wrth yr ail. Mae 2, 3, a 4, wedi eu cymeryd o Ystyriaethau Drexelius am dragwyddoldeb" (1661). Yr olaf sydd Gywydd Merthyron, a chywydd gymharol dda. Ar ei diwedd ceir a ganlyn,—"John Morgan, M.A., medd Moses Williams, B.C., a'i gwnaeth 1716."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tud. 221
- ↑ Additional MSS. 9864.
- ↑ Gwel ar ddiwedd y Llyfr.
- ↑ Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t. d. 186.
- ↑ Penarth MSS. 4 v 5.
- ↑ Report on Welsh Manuscripts, Vol. II., part 1, p. 360—3. J. Gwenogfryn Evans.
- ↑ Mae copiau o'r tri blaenaf yn yr Amgueddfa Brydeinig yn dwyn Press Marks (1) 872. g. 20; (2) 872. g. 21.; 872. c. 30. (3).
- ↑ 1653 Llundain neu Dublin.,
1727 Caerfyrddin.
1750 Y Mwythig.