Neidio i'r cynnwys

Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Ei Lyfrau (eto 3)

Oddi ar Wicidestun
Ei Lyfrau (eto 1) Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)

gan Owen Gaianydd Williams

Bwriadau Llenyddol

IX. LLYFRAU DAFYDD JONES.

(Parhad).

9. "LLAIS Y DURTUR, sef gwahoddiad grasol ar Bechaduriaid . . . gan y Parchedig Mr. D. Rowlands, Gweinidog yr Efengyl yn Llangeitho. Argraphwyd yn Llundain gan W. Roberts, ac ar werth Ynghymru gan D. Jones o Drefryw; a W. Thomas dan lun y Fuwch Goch, Cowlane yn agos i Smithfield 1764."

12 plyg 15 t.d. Ail Argraphiad yw'r uchod.

YMDDANGHOSODD y cyntaf yn 1762 o swyddfa R. Thomas, a thros T. Davies. Amheuaf ai priodol rhestru'r uchod ym mhlith llyfrau D. Jones, oherwydd anhawdd penderfynu a oedd ganddo fwy rhan na bod yn oruchwyliwr gwerthiant y llyfr yng Nghymru. Pa fodd bynnag, mae hyn yn unig yn rhoddi prif os nad holl gyfrifoldeb y gwerthu ar ei ysgwyddau ef, pa beth bynnag arall a gynhwysai. Paham na chyhoeddodd lawer o lyfrau o fath yr uchod sydd anhawdd ei esbonio; yn unig mai un o lyfrau'r Diwygiad oedd, a pha faint bynnag o dueddiadau crefyddol oedd yn ei galon, nid oedd ynddi ddafn o gydymdeimlad a'r deffroad crefyddol.

10. "DIFERION GWYBODAETH, &c. &c. A draddodwyd gan Dafydd Jones, o Drefrhyw, C.C.C.

Argraphwyd yn Llundain gan William Roberts ac a werthir Ynghymru gan Dafydd Jones o Drefrhyw." "20 t.d. 12 plyg."

'Diwedd y rhagymadrodd a ddywed fel hyn, Annerch wael, oddiwrth dy Garwr. Llundain, Mawrth 31, 1764. Ac yn niwedd y llyfr y mae Diwedd y Rhan gyntaf'; eithr ni welais yr un arall." Mae'r uchod o Lyfryddiaeth y Cymru (t.d. 475). Ni welais y llyfr na chofnodiad arall am dano.

11. "CYDYMAITH DIDDAN. Yn ddwy Rann. Y Rhan gyntaf sydd yn Cynnwys crynhodeb Araithyddiaeth yr Hen Frutaniaid yn mysg Brythonaeg iw gilydd. Yr Ail Rhann. Yn adrodd mewn Euraid Odlau, di-rif, Afiethus ddifyrrwch Brodorion Cymry.

Quae audisti vide, omnia, vos autem num annuntiastis? Audita feci tibi nova extunc & conservata sunt quae nescitis. Esay 48. 6.

Odiaith a pherffaith ydi, Iaith Gamber,
Waith Gwin-ber oll drwyddi;
A gwreiddin goreu iddi
Yw Beirdd hen yn i bwrdd Hi.

Areithiau geiriau ethol, safadwy
Sef odiaith gynhwynol;
Adawyd i'n iw deol,
Frydain Iaith hyfryd yn ol.

—Dewi Fardd.

Digon o Grwth a Thelyn,
Medd hên Gyrys o Iâl. 1216.


Gan DAFYDD JONES, o Drefriw, C.C.

Caer Lleon,

Argraphwyd gan ELIZABETH ADAMS, tros
DAFYDD JONES

ac a werthir ganddo ef.

(Pris Swllt yn Rhydd, Pymtheg yn Rhwym)."

Tybiais yn briodol roddi'r wyneb-ddalen yn gyflawn, er ei meithder a'i gwallau, gan mor anghywir y gwnaeth Wilym Lleyn hyn o waith.

Bu'r "Cydymaith Diddan" hwn, fel "Flodeugerdd," yn hir yn yr esgorfa. Canys dywed ei gasglydd mai—"hir faith i bu'r Cymro yma'n gorwedd yn fud. Colled o ugain punt gyda'r Flodeugerdd, a dirfawr glefyd, onid aethym yn ddi-obaith am ei osod allan, hyd oni fynegais fy meddwl i bendefig mwynlan," fu'r achos. Mae gair at y darllennydd yn nechreu hwn fel yn ei holl lyfrau eraill. Er fod ei anerchiad yn wallus ei iaith, mae'n nodedig ddyddorol; dengys fod ei amgylchiadau'n donnog, a'i feddwl yn drallodus. Hefyd ymferwa ei deimladau Cymreig mewn gwrthryfel yn erbyn ysbryd Saesonig yr Eglwys Wladol. Ei ddarllenwyr oeddynt,—

"Nid i neb o'r Dysgedig na'r Cynhenus y darfu i mi ddarlunio hyn o ddiddanwch; Ond i'r Bobl Wladaidd ddiniweid; ac i'r rhai Ifainc er mwyn eu denu i ddarllain oran digrifwch yr ymadrodd. Paham yntau y bydd rhaid i neb arall drwyn "Suro wrth?"

Adfesur ei feirniaid, beirniaid y Flodeugerdd" yr oedd pan yn son am bobl yn trwyn Suro." A chwareu teg iddo, yr oedd y "Flodeugerdd" a'r Cydymaith yn lled agos i, os nad gwell na'r hyn y proffesai iddynt fod. Dadlea hawliau'r Gymraeg yn wresog oherwydd ei chamdrin mewn llys ac eglwys, gan gyfeillion, gelynion, cyfreithwyr, esgobion, a phersoniaid, heb ond ambell fardd yn rhoddi iddi air da..

"Yr achos a wnaeth i mi fod neu fynd i Philosophi i hwn, oedd weled fod y Brython yn Adlaw; oblegid ni fedd ef na Bil, na Band na Llythyr Cymmyn yn ei iaith. Paham nad allwn ni ei gael cystal ac ieithoedd eraill? A hithau fal i geilw Moses Williams yn iaith a ddyellir yn gyffredin trwy holl Gymru; ar oreu i gyfranu gwybodaeth a Duwioldeb rhwng y Gwerinos uniaith er tragwyddol les iw Heneidiau."

Wele ddarn o hanes rhodres yn ynfydu. Ei hen arfer. Ond er gwrthuned yr arfer, mae eto yn fyw,—

"Pan fyddo cyfaill yn anfon Llythyr at ei Gyfaill, è fydd yn Saes'neg, ac ni hwyrach a fedr un o'r ddau ddau deall gair ohonaw."

Eglwyswr selog a chlochydd oedd Dafydd Jones, a hyd y gwyddom ni siomwyd ef yn ei swyddau. Felly gellir cymeryd ei adroddiad o ffeithiau hanes ei amser heb eu hameu. Trueni hefyd ei fod yn teimlo mwy dros y Gymraeg a'r anfri deflid arni, na thros eneidiau a'r golled iddynt hwy o'r gamarfer,—

"A phan fyddir yn Scrifennu Cofrestr i'r Esgob-ty, am rai a fedyddir a briodir, ac gleddir, Ladin a fydd. Beth yw'r achos iddo fod felly? Fal i gallo'r Esgob wybod pa un a'i lleihau a'i cynnyddu i mae ei Esgobaeth ef. Ai ni fedr ef ddim Cymraeg? Na fedr air. Pa ddaioni a wna ef yn ei Esgobaeth pan ddel ef iddi? Conffirmio Plant, a phregethu. Mewn pa iaith? Saesonaeg a Ladin. Pwy sy'n i ddeall ef? Y Deon, a'r Ficeriaid ac ymbell wr bonheddig

***

Oblegid mae'n salw fod y Brython a fu gynt mor enwog a meddu'r holl ynys! Y rwan heb un Esgub o Gymro ganddo, o fewn ei 4 (Bangor, Llan Elwy, Ty Ddewi, Llan Daff) Esgobaeth, o bydd neb i'm gohebu, am fod mor eofn."

Nid oes dyddiad ar y llyfr, ond mae'r rhagymadrodd hwn wedi ei leoli a'i ddyddio Caer Lleon, Chwefror 7, 1766.

Mae rhan flaenaf y llyfr yn cynnwys 22 o hanesion, wedi eu cymeryd o lyfrau argraffedig gan mwyaf, ac mae'r hanesion. hyn oddeutu un ran o dair o'r llyfr. Dywed Ashton (Hanes Llen. Gymreig, t.d. 192), mai llyfr "o farddoniaeth ydyw, ar yr un dull a'r Blodeugerdd," yr hyn sydd gamgymeriad. Felly yr oedd yr ail argraffiad a ddaeth allan yn 1824; diau mai hwn yn unig a welodd Ashton, ac felly y syrthiodd i'r camgymeriad.

"Stori'r Cardiau," y gwelodd un o'r Germaniaid Cymreig gymaint tlysni ynddi, yw'r gyntaf. A pheth bynnag am dlos ei hiaith, mae'n grynhodeb rhyfedd o wybodaeth. Ynddo hefyd mae "Araith Gwgan," y gwelir cyfeiriad mor fynych ati yn yr amrywiol MSS. Mabinogi ddymunol ydyw, er yn amddifad o goethder iaith, a swyn meddwl yr hen Fabinogion. Mae yma lawer o ddarnau wedi eu codi o Almanaciau John Rhydderch o ddyddiau 1718, 1722, 1726, 1727, 1728. A dwy chwedl allan o "Dlysau'r Hen Oesoedd. Barddoniaeth yw'r ail ran, ugain o ddarnau, a rhai yn feithion, a'r oll o'r "ail-awen,"

os nad o ddosbarth pellach ei berthynas a'r awen wir na hynny; oddi—gerth dau ddarn gan Dafydd ap Gwilym. O'r ugain, mae 3 o waith Sion Tudur, ac 8 o waith Rhichard Parry o'r Ddiserth, Athraw Ysgol, Gwehydd, a Bardd, 1746," yn ol darnodiad Dafydd Jones o hono. Ystraeon y rhan gyntaf yw mwyafrif darnau barddonol yr ail ran, ond eu bod lawer llai swynol wedi eu troi i ffug-farddoniaeth. Mae darnau Richard Parry yn hirion, ei Ddihuniad Cysgadur yn ddwy ran, a "Hanes yr Oferferch " yn bedair rhan. Math o chwareu-gerddi byrion ydynt.

Mae'r un a elwir Polygynaeon" wedi ei thrwsio gan y casglydd ei hun, a rhydd y rheswm canlynol dros ei waith,—

"Derbyniwch hyn o hanes,
Yn gyfan fel i cefes
Mewn hen garp o 'Scrifen
Prin medrai neb i ddarllen;

Lle'r oedd ei ddalenau;
Gyd ôll ar Llythyrenau;
Wedi tywyllu a llwydo,
Ynnghyd ai rhugl rwygo;
Ac i mae ar gyhoedd,
Hir faith o flynyddoedd;
Er pan i gwnaed gynta,
Y traethiad hwn yma;
At wyth ugein-mlwydd,
I mae genyf Siccrwydd;
Pan ydoedd y rhain,
Yn wragedd yn Llundain;
Minau sef Dewi,
A'i trwsiodd ef gwedi."

12. Cerdd, "Dirifau yn cynwys Gogwyddiad neu Tebygoliaeth o Ddarostyngiad Brydain Fawr, i'w canu ar fesur a elwir Diniweidrwydd &c. (David Jones Antiq a'i gwnaeth) 1767." "Traethodydd" t.d. 278; "Hanes Llen. Gymreig," t.d. 192.

Mae Ashton yn rhoddi i ni y feirniadaeth ganlynol,—

"Yr oedd hon yr olaf o dair o gerddi a argraphwyd yn nghyd yn yr Amwythig, dros un Evan Ellis, yr hwn a ddesgrifiai ei hun ar brydiau yn Evan Ellis 'o bob man,' a phryd arall gosodai ei hun allan fel yn byw yn Llanfihangel Glyn Myfyr. Prynwr a gwerthwr edau wlan, a rhawn, a cherddi oedd yr Evan Ellis hwn. Ac efe, yn gystal ag eraill o'i gydoeswyr, megis William Morgan, William Roberts, William Jones a Richard Hughes, a gludent ffrwyth awen faledawl prydyddion o fath Dafydd Jones, at ddrysau y werin Gymreig."

Yr ydym wedi dyfynnu'r uchod er cael mantais i geisio symud ymaith gamflas camfarn Ashton. Pe datgan ei farn am Ddewi fel bardd a amcanai Ashton, tewi a son a wnaethem, er na phrofodd y meddai ef ei hun un ddirnadaeth am farddoniaeth. Datgan ei farn dan yr esgus o adrodd ffaith a wna, gan gyfrif Dafydd Jones ymhlith "prydyddion baledawl,' porthwr chwaeth isaf y werin, a chanwr pibau y tafarnau, a thrwy hyn wneuthur cam ag ef fel llenor, os nad darostwng ei gymeriad personol. Haeriad noeth, heb un prawf, ydyw. Os oedd felly, gofynwn eto, paham na roddodd ef restr o'r baledau. yn y rhestr rydd o'i weithiau? Yn ol rhestr Ashton ni chyhoeddodd un gerdd, heb son am falad, er 1742, os y cyhoeddodd un y pryd hwn. Os ar Dafydd Jones y dibynnai Evan Ellis am faledau, da oedd iddo ei fod yn "prynnu rhawn" a gwerthu "edeu wlan." Nid da rhoddi sen heb achos. Mae'r haneswyr yng Nghymru a uniawno wyrni ac a gywiro ffeithiau haneswyr yr oes o'r blaen, yn lle ein bod yn barhaus ail adrodd camfarnau a chamgymeriadau fel ffeithiau hanes?

13. "HISTORI YR IESU SANCTAIDD. YN CYNWYS Hanes byrr o Enedigaeth, Bywyd, Marwolaeth, Adgyfodiad, ac Esgyniad ein Iachawdwr Bendigedig: Ynghyd a Chasgliad o Brophwydoliaethau, Rhagddywediadau, a Rhyfeddodau perthynasol iddo ef, a grybwyllir am danynt yn yr Ysgrythyr Lan ac yn Ysgrifeniadau y Cenhedloedd.

At yr hyn y chwanegir,

BUCHEDD A MARWOLAETH

YR

EFANGYLWYR A'R APOSTOLION SANCTAIDD.

A gasglwyd allan o'r Ysgrythyr Lan, Ysgrifenadau yr Hen Dadau, ac Awduriaid eraill o ddiamheuol wirionedd.

Gan William Smith A.M.

A gyfieithwyd i'r Iaith Gymraeg allan o'r 14 Argraphiad yn Saesnaeg gan Dafydd Ellis Curad Derwen Swydd Dinbych.

TREFRYW

Argraphwyd gan D. Jones MDCCLXXVI.

Pris Swllt."

Cofnoda Gwilym Lleyn yr uchod (Llyfr. y Cymry, t.d. 571), ond y wyneb-ddalen wedi ei hadysgrifennu yn anghywir. Ni wna Ashton un cyfeiriad ato. Yr awdwr oedd y Parch. William Smith, M.A., y cyfieithydd, Parch. David Ellis, Derwen, a'r cyhoeddydd, Dafydd Jones. A theg disgwyl, rhwng y tri, lyfr o werth llenyddol neu dduwinyddol. Yn ol cofnodiad Gwilym Lleyn, cyfieithiad o'r "Ail argraffiad yn Saesonaeg," pryd yn ol y wyneb-ddalen mai o'r " 14 Argraffiad" ei cyfieithiwyd. Ymddanghosodd gyntaf yn 1702, wedi ei gyflwyno gan yr awdwr i'r Frenhines Ann. Nid oedd dim nodedig yn hynny, gan nad oedd y nodded yn ddim ond enw, ac na fu'r frenhines mae'n debyg well na gwaeth o'r "Histori" hwn. Ffaith hynod, os gwir, oedd i'r llyfr gael ei argraffu 14eg o weithiau rhwng 1702 a 1776, heb un rheswm dros hynny, ond ei ofergoeledd, ei gyfeiriadau parhaus at straeon a greodd mynachod, gan eu galw yn hanes, a rhithio duwioldeb wrth eu credu. Dafydd Jones a ysgrifennodd y rhagymadrodd, a hynny yn llawer mwy trefnus ac mewn gwell iaith na rhai o'i flaenoriaid, gan gyflwyno'r llyfr i

"Aelodau y wir Eglwys, yr hon sydd yn milwrio yma ar y ddaear; y cyfryw ag sydd dda ganddynt son am yr Anwylyd, a hefyd wedi meddwi o'i Gariad ef fel y dywaid Solomon, Can. 2. 4. 5. 2."

Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at natur cynnwys y llyfr. Cymysgfa o beth gwir a llawer o goelion yw'r "ymadroddion," anghywir yn eu cyfeiriadau a'u hamseryddiaeth ysgrythyrol. Yn ol William Smith, M.A., yr oedd y proffwyd Esay yn byw 500 mlynedd o flaen Jeremi. Awdurdodau pwysig yn ol y llyfr ar ddwyfoldeb person Iesu Grist oedd y deg Sybiliaid," pen oracl yr Aifft, a llu o eilunod pabaidd a phaganaidd ereill. Ac er ein syndod geilw'r cyhoeddydd y cyfryw yn ymadroddion y Tadau Sanctaidd." Cofier, yr oedd y cyhoeddwr yn hollol ddifrifol a gonest, oherwydd ysgrifenna,—

"Mi a hoffais y Llyfr yma pan welais ef gyntaf, oherwydd fod ynddo lawer o ymadroddion y Tadau Sanctaidd, ynghylch ein Iachawdwr, y rhai nid ydynt i'w cael yn yr Ysgrythyrau; ac etto sydd bur wirionedd.

Nid wyf fi o natur i chwanegu at yr Ysgrythyrau, Dat. 22. 18. Ond eto rwy'n gweled fod y Tadau Duwiol wedi adrodd llawer trwy Ysbrydoliaeth Nefol, o Wrthiau nodedig yn eu Llyfrau; y rhai nid ydynt i'w cael yn ein Iaith ni'r Brutaniaid."

Mae'r rhagymadrodd uchod wedi ei ddyddio—

"Medi 23 1776. Trefryw, Tan-yr-Yw.

Dafydd Jones, C.C."

Hwn yw cynnyg cyntaf Dafydd Jones fel argraffydd. "Taerodd" wrth Ieuan Brydydd Hir ei fod ddaed argraffydd a Stamfford Prys. Hwyrach ei fod, ond prin y profodd ei fod yn rhagorach. Ei brofedigaeth fawr oedd prinder llythrennau. Felly rhaid oedd rhoddi "u yn lle "y" mewn mannau, defnyddio prif lythrennau heb eu hangen, a cheir yn y llyfr dri neu bedwar math o lythrennau. yr oes honno yr oedd yn gynnyg gweddol dda, yn neillduol felly pan y rhaid casglu mai hunan-addysgydd oedd yr argraffydd. Yr unig wir bwysigrwydd a berthyn i'r "Histori" hwn, er William Smith, M.A., a Dafydd Ellis curad, Derwen, yw ei fod yn llyfr cyntaf gwasg Trefriw, a chynnyg cyntaf Dafydd Jones i argraffu.

14. "Dechreuad, Cynnydd, a Chyflwr presenol y Ddadl rhwng pobl America a'r

Llywodraeth. Gan M.D. Gwedi ei gyfiaethu er budd i'r Cymru.

Trefryw. Argraphwyd gan Dafydd Jones,

1776.

Pris 2 geiniog."

(Llyfr. Cymry 8 1776).

Ni welais yr uchod, na'r un crybwylliad arall am dano.

15.Goruchafiaeth a Llawenydd y Gwir Gristion, gan Thos. Williams.

Argraphwyd yn Nhrefriw."

(Llyfr. Cymry 2 1777).

16. Dwy o Gerddi newyddion. Y Gyntaf ynghylch Llofryddiaeth a wnaeth Gwr yn ymryfus; ac fel y bwriwyd y Weithred ar Wr arall ac fel y safodd y Gwr ai lladdasai ef yn Fforman i achub y Dyn gwirion ac y bu ef 15 mlynedd yn fyw wedi lladd y Gwr, ar peth a fynegodd ir Ustus fel y bu. Yr Ail fel y darfu i Wr yn agos ir Bala dagu ei wraig newydd Briodi ai bwrw i Afon Dyfrdwy hwn sydd yn Garcharwr i aros i gyfiawn Farnedigaeth am ei Weithred.

Ni Werth Ddyn prydferth un pryd y Nefoedd
Er nwyf ac Ifienctyd
Siomedig Benthyg yw'r Byd
Ai fonedd ni sai funud.

Dewi Fardd C.C.

Trefriw. 1777."

Argraphwyd gan Dafydd Jones,

(Llyfr. Cymry 33 1777).

X. EI LYFRAU.

(Parhad).

"HANES Y FLINDERUS DYNGED a ddigwyddodd i un Wm. Williams Melinydd LlanIlechid; Yr hwn a gadd ei ddihenyddio gan un Morris Rowland: Yr hwn a dderbyniodd ei haeddedigol Wobr am ei Weithred echryslon: Duw a'n gwaredô Rhag Clywed na bod y fath beth yn ein Gwlad. Amen.

TREFRIW. 1778." Argraphwyd, Gan DAFYDD JONES (Traethodydd, Ion. 1874. (Caneuon Cymreig 1767—1870 Amgueddfa Brydeinig).

Wele engraifft o'r gerdd yn yr hen amser yn gwasanaethu swydd newyddiadur ein hamser ni. Mae'r uchod yn wyth tudalen, dwy yn adrodd yr hanes mewn rhyddiaith, a'r gerdd, fath ag ydoedd, yn ymestyn dros chwech. "John Roberts prentis William Roberts y Gof, Ystorws Gwig Aber a'i canodd." Eiddigedd oedd achos y gyflafan; y Morris Rowlands hwn a saethodd William Williams er cael ei gariad, ac a dderbyniodd ei "haeddglod wobr" medd y gerdd, trwy gael ei roddi "wrth sibede" ar y "Dalar Hir."

18. "Cerdd, ynghylch Gwraig ai Mab ai Merch ai Hwyres: mewn digwyddiad rhyfeddol, anarferol di gyffredin! Ar Dôn fechan. Gan Dewi Fardd 1778 (D. Jones Trefriw)."

(Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 192).

Ashton yw'n hunig awdurdod dros yr uchod. A dywed ef fod yn gysylltiedig a hi gerdd arall o waith Elis y Cowper;' ac mai dyma'r gyntaf o'i waith ei hun iddo gyhoeddi.

19. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. Yn gosod allan yr helynt drafferthus sydd o achos yr arian Cochion hyd Gymru.

ii. Yn dangos mor llesol ydyw perffaith gariad rhwng Cristionogion ai gilydd, ar perygl a fydd i ni fyw heb gariad an gilydd gan grybwyll am y Barnedigaethau a roddes Duw ar ddynion di gariad.

Trefriw, Argraphwyd, gan Dafydd Jones, tros Harri Owen 1779."

(Traethodydd, Ion. 1874, 19).

Yr enw wrth y gyntaf yw "E. Roberts." Ai Elis y Cowper oedd; nis gwyddom. A'r ail O. Roberts, joiner, a'i cant."

20. Blodeu-Gerdd Cymry, sef Casgliad o Ganiadau Cymreig, gan amryw Awdwyr o'r oes ddiweddaf. Yr hwn a gynnwys draethiadau Duwiol, a Diddanol; y rhai ni fuant gyhoeddedig mewn Argraph o'r blaen. O Gynnulliad David Jones o Drefriw. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth gan Stafford Prys.'

Ail argraffiad yw'r uchod, fel y cyntaf oddigerth mân gyfnewidiadau yn yr orgraff. Gadawyd allan yn briodol restr y tanysgrifwyr. Hefyd newidiwyd teitl y llyfr o fod "Blodeugerdd Cymru" i fod "Blodeu-Gerdd Cymry," heb wella'r enw, os amcanwyd. Amheuaf a oedd a fynno Dafydd Jones a dygiad allan yr argraffiad hwn. Y tebyg nad oedd, gan nad oedd beirniadaeth led giaidd a cholled arianol o ugain punt lawer o galondid i ail ymgymeryd a'r un anturiaeth.

21. Y pedwerydd Llythyr, Oddi wrth eich Cyfaill a'ch Carwr (Pechadurus) sydd yn ymdrybaeddu Y'ngwynau a'i Chwantau fel y gwaethaf ohonoch. Yr ymadrodd a gymmerais allan o'r Ddeuddegfed Bennod o Lyfr y Pregethwr, (o'r eiddo Solomon ar Bedwerydd adnod ar ddeg &c.). O waith Ellis Roberts, Cowper.

Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones 1779."

Un o gyfres o lythyrau yw hwn a gyhoeddid yn achlysurol gan Elis y Cowper. Ymddanghosodd y cyntaf yn 1771, yr ail yn 1772, y trydydd yn 1774, a hwn yw'r "pedwerydd." Camgymera Gwilym Lleyn (Llyfr. y Cymry 13, 1779). wrth ei nodi fel "pedwerydd argraffiad," y "pedwerydd llythyr" ddylasai fod. Dylasai ganfod ei gamgymeriad gan y noda yn ei restr am y flwyddyn ddilynol, sef 1780 ail argraffiad o'r llythyr hwn (Llyfr. y Cymry i. 1780). Araeth o gynghorion, neu bregeth ddidrefn, oedd y llythyr. Yr oedd buchedd y Cylchwr, er gwaethed oedd, yn well nag y mynn ei feirniaid ei bod, a gall fod ei amcan yn well na'i fuchedd. Ond yr oedd y modd y ceisia gyrraedd ei amcan yn druenus i'r eithaf, yn ddim ond pentwr o feddyliau tlodion anrhefnus, wedi eu gosod ynghyd mewn iaith garpiog—rhyw gymysgfa o iaith lên a llafar.

22. "DWY O GERDDI NEWYDDION. Gwynfan i'r Cymry o golled am yr Arian cochion, oedd yn peru llawenydd o'i derbyn; ag i chwanegu ar eu galar mae'r hen Chwechainioge yn myned ar fyrr i Lundain i'w hail Gweinio.

O Ddeisyfiad hên bechadur am gymmorth Duw cyn ei ddiwedd

TREFRIW. Argraphwyd gan Dafydd J. tros H. Owen 1779."

(Traethodydd, Ion. 1874, 4).

23. "DWY BREGETH AR Y Testynau Canlynol SEF

i. Yr Ysbryd glan yn Argyhoeddi'r Bŷd o bechod, o gyfiawnder ag o farn.

ii. Rhodio gyda Duw. Gan y Diweddar Barchedig Mr. G. Witfield A. M.

Wedi ei Cyfiethu ir Gymraeg er budd ir CYMRY.

TREFRIW, ARGRAPH WYD, GAN D. JONES, tros y cyfiaethydd. 1779" 60 t.d.).

24. Cerdd, Myfyrdod am Weddio. 1770." (D. Jones Trefriw).

(Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 192).

Ein hunig awdurdod dros yr uchod yw Ashton.

25. "Y WANDERING JEW. Sef y Crydd Crwdredig o GAERSALEM. Rhyfeddfawr Newydd oddiwrth America gan y Captain enwog, William rheolwr y Llong, a elwir DOLPHIN yr hwn o fewn 7 wythnos a 3 dydd a ddaeth oddi-wrth Halifax yngogledd America, ac oedd rwymedig i ddyfod i Frusto; ond gwynt gwrthwynebus a'i gyrodd i'r Kingsale, gyda chyfrifol foddion rhyfeddol or Crydd gwybiedig, gyd ag Eglur ymofyniad o flaen 4 o Barchedig Ddifeinyddion. A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngwydd ei Ddisgyblion, y rhai nid ydynt Sgrifenedig yn y Llyfr hwn. Ioan xx. 30. Wedi eu cysylltu gan DEWI FARDD. Ni fynnwn I er dim yn y byd, chwanegu anwiredd at yr Sgrythyrau. Date. xxii. 18, 19.

TREFRIW. Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1780 tros Grace Roberts. (8 t.d.).

(Traethodydd, Ion. 1874, 9).

26. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. 1. Wedi ei Chymeryd allan o Eiriau Crist, sydd yn drydydd Bennod ar ddeg o Sainct Marc. 11. hanes y blindere a fu yn Mon ac Arfon yn amser y bu Captain TRODU yn Pressio gyda'i Army drygionus.

TREFRIW. Argraphwyd gan DAFYDD JONES, 1780."

27. "Y pedwerydd Llythyr," &c. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones,

(Llyfr. y Cymry, 1, 1780).

Ail argraffiad o Rhif 21 yw'r uchod, lle'n barod y rhoddwyd y wyneb ddalen yn llawn.

Rhaid fod y llythyrau Esgobaidd hyn i raddau yn boblogaidd, pan y daeth y fath nifer o honynt allan, a rhai trwy fwy nac un argraffiad.

28. "Difrifol fyfyrdod am farwolaeth, sef y Pummed Llythyr Ystyriol am Wellhad Buchedd y Daearol Bererindod; cyn dyfod Cennad Pechod i'n cyrchu i'r Byd Anweledig o Olwg cnawdol. A fyfyriwyd gan Ellis Roberts, Prydydd o Llanddoged.

Trefriw Argraphwyd tros Harri Owen 1780.""

Un o lythyrau yr hen Gylchwr o Landdoged eto. A rhaid fod rhyw rinwedd neillduol yn hwn rhagor un o'r epistolau, canys yr oedd yn ei drydydd argraffiad cyn diwedd 1781, os yw cofnodiad Gwilym Lleyn yn gywir.

29. "History o Rybydd i Bechaduriaid i Edifarhau, neu ddisgrifiad rhyfeddol fel y cafwyd dau henuriad ynghoed Ressington, yn agos i Doncaster, yn Sir Gaer Efrog. O gyfieithiad Thomas Morris o'r Ysbytty. Trefriw."

(Llyfr. y Cymry, 1, 1781).

30. Dwy o Gerddi Newyddion, &c. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1781.

Gwaith Ellis y Cowper ydynt."

(Llyfr. y Cymry, 24, 1781).

31. "DWY GERDD NEWYDD.

Yn gyntaf, ystyriaeth ddifrifol ar y mawrion drugareddau a drefnodd yr Arglwydd, tuag at gynnal Dynolryw.

Yn ail,

Rhyfeddol Gariad ein Harglwydd Bendigedig yn marw o'i wirfodd er mwyn cael ein gwaredu ni fel y caem ni fyw gydag ef yn dragwyddol mewn llawenydd.

Gan Hugh Williams Ro Wen. Argraphwyd yn Nhrefriw 1781."

32. Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. Carol Plygain Newydd i'r flwyddyn 1783. ii. Hanes Mab a Merch a ddaliwyd gyda'i gilydd mewn mwyneidd-dra.

TREFRIW. Argraphwyd gan Dafydd Jones."

(Traethodydd, Ion. 1874, 1).

33. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. O ddiolchgarwch i Dduw a roes allu GEORGE RODNEY i orchfygu ein gelynion, ar y ffordd i India. Yn ail Carol Plygain Newydd i'r flwyddyn o Oedran Crist 1783.

TREFRIW Argraphwyd gan Dafydd Jones 1782."

(Traethodydd, Ion. 1874, 2).

34. Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. O waith ELLIS ROBERTS Cowper, o ddiolchgarwch i Dduw am ei fywyd drachefn wedi bod agos i borth Angeu drwy Llecheden drom fis Medi dwaetha. ii. O ymddiddan rhwng Siopwr ar Tafarnwr bob yn ail Odl.

Trefriw Argraphwyd, gan Dafydd Jones. 1782."

(Traethodydd, Ion. 1874, 5).

35. Difrifol Fyfyrdod am Farwolaeth, &c., O waith Ellis Roberts, Cowper.

Trefriw Argraphwyd gan Dafydd Jones. 1782."

"Seithfed" Epistol y Cylchwr yw hwn. Mae ei benawd debyg i eiddo'r pumed llythyr. A dichon fod yn hyn lawer o onestrwydd, fod yr epistolau lawer tebycach eu cynwys nac yr awgrymai'r penawdau.

36. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. Yn deisyf ar bob pechadur feddwl am Nos Angeu, yn Nyddie ei fywyd rhag iddo syrthio i'r Bedd cyn Ediferhau, chael ei gau allan or Nefoedd. ii. O gwynfan i'r Ffarmwr sy'n awr mewn Byd anghyfforddus, yr amser Rhyfelgar yn talu Terthi, ag Ardrethion mawrion ac yn ffaelio cael ond ychydig o bris ar ei heiddo.

TREFRIW, Argraphwyd, gan Dafydd Jones. 1782."

37. "Dwy o Gerddi Newyddion.

1. O drymder galarus am y Royal George yr hon a suddodd yn ei Harbwr gyda mil o bobl oedd arni lle yr aeth tri chant o ferched i'r gwaelod a Phlant gyda nhw. E. Roberts.

2. O Fawl i Ferch Robert Gruffydd ai Cant. Trefriw. Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782."

(Caneuon Cymreig 1767—1870 Amgueddfa Brydeinig).

38. "Dwy o Gerddi Newyddion.

1. I ddeisyf ar Dduw am drugaredd a'i Ragluniaeth i'n porthi y flwyddyn ddiweddar hon drwy erfyn arno roddi ei fendith ar yr ychydig luniaeth at ein porthi.

Ellis Roberts.

2. O ychydig o hanes y Fattel a fu'n Gibraltar. Y modd y cynorthwyodd Duw ychydig Wyr Prydain yn mhen llawer o elynion.

3. Hymn i'w chanu ar foreu ddydd Sul. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782."

(Caneuon Cymreig 1767—1870 Amgueddfa Brydeinig).

Nid dwy ond tair o gerddi sydd yma, neu "ddwy o Gerddi Newyddion a "Hymn Newydd." Nid oes enw wrth yr ail gerdd na chwaith wrth yr emyn. Ond mae delw Dafydd Jones yn amlwg ar y pum pennill crefyddol hyn a elwir yn emyn, fel na phetruswn am yr awdwr."

39. Y Testamentwr, neu Bregeth ar y 9 o Heb. a'r 16, 17. Gan y Parchedig Mr. J. Morgans, Ciwrat Llanberis, yn Sir Gaernarfon, Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones. 1783."

Llyfr. y Cymry, 1, 1783).

40. "Rhybydd i Bechaduriaid, neu Hanes. rhyfeddol am un Samuel Whilby, yr hwn a syrthiodd mewn gweledigaeth ar y 15 dydd o Ebrill, 1756; Wedi ei gyfiaethu yn Gymraeg ga un a chwenyche lesad i lawer.

Trefriw, Argraffwyd gan Dafydd Jones, 1783."

(Llyfr. y Cymry, 9, 1783).

41. "Dwy o Gerddi Newyddion

Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Llyfr. y Cymry, 22, 1783).

42. "Tair o Gerddi Newyddion.

1. Yn gosod yn fyrr Rhyfedddod Angylion, happusrwydd dynion, a blinder cythreiliaid, sef Iechydwriaeth drwy Grist a'r esgeulusdra o weddio am ran yn Mhren y Bywyd.

John Roberts a'i cant.

2. Yn mynegi fel y digwyddodd i Wr Ifangc, ac yn gweddio am edifeirwch am ei bechod.

3. Fel y bu i Wr Ifangc garu merch ac fo ffaeliodd ei chael yn briod; ar yr achos hwnnw fe a ganodd fel y mae'n canlyn.

John Williams o Lanbedrog yn Lleyn a'i cant. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Caneuon Cymreig 1767—1870 Amguddefa Brydeinig).

Rhyw 12 o benhillion yw'r tair cân ynghyd. Er holl siom John Williams o Lanbedrog, pedwar pennill yn unig ganodd—canodd ei ofid ymaith yn rhwydd a didrafferth. Ceiniogwerth o farddoniaeth oedd y tair cerdd hyn, a cheiniogwerth nodedig o salw.

43. "Dwy o Gerddi Newyddion.

1. O Hanes dychryn ofnadwy a fu yn yr Italia modd y darfu i Dduw Singcio Tri Chant o Drefydd a thair o Drefydd Caerog; ac nid oes yno ddim ond llyn o ddwr diwaelod. Ellis Roberts.

2. Ymddiddan bob yn ail penill ar Loath to Depart fyrraf. Ellis Roberts.

Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Caneuon Cymreig 1767—1870. Amgueddfa Brydeinig).

44. Tair o Gerddi Newyddion.

1. Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc a'i Gariad bob yn ail Odl. Lyseni Meistres. (25 penill).

2. Cwynfan Merch Ifangc (7 penill).

3. Canu ar Belile March o glod i'r Lord Pased or Plas Newydd yn Sir Fon am ei haelioni i'r Tylodion.

Ellis Roberts a ganodd y Tair.

Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Caneuon Cymreig 1767—1870. Amgueddfa Brydeinig).

"Lord Pased" meddai'r Cowper am Arglwydd y Plas Newydd, a gall mai hon oedd arfer ei oes o swnio'r enw. Mae'r gân hon loewach na'r arferol o'i ganeuon. Wele ei llinellau agoriadol,—

"Cenwch ganodd mawl a miloedd
Yn lluoedd ymhob lle,
O glod i hynod eurglod
Arglwydd Dawn ufudd dan y Ne', &c."


45. Dwy o Gerddi Newyddion.

1. Yn rhoddi byrr hanes Dynes a wnaeth weithred ofnadwy Ymhlwyf Llansantffraid Glyn Conwy, sef dihenyddio ffrwyth ei Bry a'i ado fo rhwng Bwystfilod y Ddaear. Ellis Roberts.

2. Cerdd ar ddioddefaint Crist wedi ei throi or Groeg ir Gymraeg. Sion ap Howell.

3. Hymn Dewi Fardd.

Trefriw. Argraphwyd gan Dafydd Jones tros Harri Owen, 1784."

Nodiadau

[golygu]