Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Rhagymadrodd
← Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) | Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) gan Owen Gaianydd Williams |
Cynhwysiad |
RHAGYMADRODD.
DYMA i ti, Gymro mwyn, hanes cymhwynasydd i ti. Nid oes llawer yn cofio am dano heddyw, ond ni fuasai Cymru llawn cystal ag ydyw oni bai am Ddafydd Jones o Drefriw.
Cei ol llafur gonest a diflino, ol chwilota llwyddiannus, yn y llyfr hwn. Y mae'r awdwr, yn of a glywais gan ereill ac yn ol yr ychydig a wn fy hun, wedi gwneyd gwaith deheuig a da.
Nid yw'r llyfr yn gyflawn nac yn berffaith, nid oes neb yn honni hynny. Ond gwelir pa lawysgrifau ddefnyddiodd yr awdwr; a chyn belled ag y mae y rhai hynny yn mynd, ni raid gwneyd y gwaith eto.
Y mae llawysgrifau ereill, yn ddiameu, nad oeddynt yng nghyrraedd yr awdwr. I'r rhai wêl y rhai hynny, bydd y llyfr hwn yn gyn- horthwy derbyniol. Ac o dipyn i beth, daw Dafydd Jones a'i waith yn hysbys fel y dylai fod.
Yr wyf, fy hun, yn ddiolchgar iawn i'r Parch. O. Gaianydd Williams am y llafur cariad hwn. Y mae wedi codi gŵr da, gweith- gar, a dyddorol i'n sylw.
Pwy wna'n debyg gyda chymhwynaswyr ereill ein gwlad? Pwy rydd lyfr fel hyn ar Vavasour Powel, ar Stephen Hughes, ar Hugh Jones Maes Glasau, a llu ereill?
Pan darewi at y gwaith, mynn amynedd a gofal ac addfwynder, fel y rhai ddanghosir yn y llyfr hwn.
- OWEN M. EDWARDS.
- Rhydychen, 1907.
- OWEN M. EDWARDS.