Dafydd Jones o Gaio (Cymru 1898)
← | Dafydd Jones o Gaio (Cymru 1898) gan David Cunllo Davies golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol XV, Rhif 84, 15 Gorffennaf 1897, tudalen 8-11
Dafydd Jones o Gaio.
NID oes un sir yng Nghymru wedi cynyrchu cynifer o emynwyr a sir Gaerfyrddin, ac nid oes un ardal yn y sir honno wedi bod yn gartref i gynifer o awdwyr caniadau Seion a'r rhan uchaf o honi. Yno y trigai Richard Dafydd, John Dafydd, a Morgan Dafydd o Gaio. Heb fod ymhell, yn Llanfynydd, y cartrefai Morgan Rhys, ac yno y gorwedd ei lwch heb un beddfaen teilwng yn dangos ty ei hir gartref. Yn Nhal y Llychau y bu Thomas Lewis yn gweithio ei grefft fel gof du, ac y mae swn yr eingon yn ei bennill "Wrth gofio ei riddfannau'n yr ardd." Clywais un o'i brentisiaid yn dweyd sut y byddai Thomas Lewis yn canu wrth daro yr haiarn, ac oddiwrth y desgrifiad credwn na ddaeth neb a mwy o ysbryd y gŵr a garai mor gynnes at ei oruchwylion beunyddiol. A fyddai yn bechod i osod geiriau Wesley yn ei goffadwriaeth—Y mae gwaith yn addoliad?" Bu y per ganiedydd Williams o Bant y Celyn mewn cysylltiad agos â'r ardal am dymor maith, ac yma yn ddiau y canwyd y rhan fwyaf o'r emynnau am y tro cyntaf. Nid y lleiaf ymhlith yr emynwyr hyn oedd John Thomas Cwmsidan, a Dafydd Jones o Gaio,—cyfieithydd Salmau ac emynnau Dr. Isaac Watts, fel yr adnabyddir ef yn gyffredin.
Yr olaf o'r ddau yma oedd y cyntaf i gyfansoddi hymnau ar gyfer plant. Efe a deimlodd, feallai am y waith gyntaf yn eglwysi Cymru, fod yr Hwn a osododd ei ogoniant uwch y nefoedd yn peri nerth o enau plant bychain a rhai yn sugno. Fe hefyd biau lawer o emynnau mwyaf adnabyddus ein caniadaeth, megis "Wele cawsom y Messiah," "Yr oen aeth dan fy mhennyd i a'm poen," "O Arglwydd galw eto," &c.
Ganwyd Dafydd Jones o Gaio mewn ffermdy o'r enw Cwmgogerddan, yn ymyl pentref Crug y Bar, ym mhlwyf Caio. Gwlad wastad yw yr ardal, ac ar y gwastadedd hwn, yn ol traddodiad, yr ymladdwyd un o'r brwydrau mwyaf poethlyd rhwng Buddug a'r Rhufeinind. Dyma Faes Llanwrthwl. Daniel John oedd enw tad Dafydd, ond nid oes un darn o'i hanes ar gael, ond yn unig mai efe oedd perehen y ddwy fferm nesaf at eu gilydd, sef Cwmgogerddan Isaf a Chwmgogerddan Uchaf. Ni wna ei fab gymaint a son am dano, ac ni chyfeiria mewn dim a ysgrifennodd at ei fam ychwaith, ond ceir gair mewn rhigwm o'i eiddo am ei chwiorydd, a thybir fod ei dad a'i fam wedi marw pan oedd efe yn ieuanc. Y mae lle tyner iawn yng nghalon pob bardd i lun ei fam, ac nis gallwn lai na chredu, pe buasai mam Dafydd Jones byw pan ddihunodd ei awen, y buasai wedi canu rhywbeth iddi. Ni sonia am ei chariad pan yn desgrifio tynerwch, ac ni awgryma yn un o'i ffigyrau y gŵyr ddim am ei gofal, ei gwen, a'i chalon.
Nid yw yr ardal wedi bod yn anenwog ar hyd yr oesoedd am ei manteision addysg. Bu Monachlog Tal y Llychau am hir flynyddau yn gartref diwylliant ac addysg. Tua dechreu y ganrif o'r blaen cawn ysgol adnabyddus yn Caio a gedwid gan ficer y plwyf,—y Parch. Leyshon Lewis. Bu yma offeiriad arall o'r enw Morgan yn cadw yr un ysgol. Curad oedd hwn, ac ni fu yn llanw un swydd oedd uwch am ei fod yn "caru ei ddyferyn." Pan fyddai o dan gynhyrfiad y gwirodydd deuai i fewn a'i fedwen yn ei law. Curai gliniau yr ysgolheigion mewn braw, a chyflymai eu gwaed gan ddychryn wrth weled eu penaeth yn nrws yr ysgol a'i lygaid yn fflam. Nid euogrwydd pechod y plant oedd yr achos o hyn, eithr dialai y curad ar gefnau y rhai oedd dan ei ofal am nad oedd siawns iddo byth am ddyrchafiad yn yr eglwys. Wedi curo popeth o fewn ei gyrraedd, bloeddai ar nodau uchaf ei lais "Nomen non crescens genitivo," yr hyn o'i gyfieithu yn iaith amgylchiadau yr ysgolfeistr hwn oedd "Curad oeddwn i, a churad fyddaf fi."
Bu y Parch. Richard Davies o'r Ynysau yma wedi hyn, ac ni thorrodd yr ardal ei chymeriad fel cartref addysg o'r radd flaenaf pan sefydlodd yr enwog Barch. William Davies, Ll.D. yn Ffrwd Fal flynyddau lawer ar ol hyn.
Cafodd Dafydd Jones addysg dda. O leiaf y mae yn amlwg ei fod yn deall yr iaith Saesneg yn dda am ei fod wedi cyfieithu ambell i ddarn pur anhawdd o waith yn llythrennol gywir.
Nid oes tystiolaeth gennym ei fod wedi dechreu barddoni cyn dydd ei briodas. Ar y diwrnod pwysig hwnnw yn ei hanes yr anturiodd yn gyhoeddus i roddi ei feddwl allan mewn rhyw fath o rigwm. Aeth dros y mynydd heibio i Graig Twrch, a thrwy Llanddewi Brefi, i briodi Miss Jones, Llancarfan, yn ymyl Llangeitho. Yr oedd llawer o ddireidi yn cael ei ymarfer ym mhriodasan y dyddiau gynt, a gallem feddwl fod rhai o'r pethau rhyfedd a gymerent le wedi digwydd ar ddydd priodas Dafydd Jones. Marchogai cyfeillion y priodfab tua chartref y ferch ieuanc, a'r rhan fynychaf yr oedd hithau yn ymguddio yn rhywle ar eu dyfodiad yno. Curent wrth y drws a gofynnent am dad y briodasferech. Hwnnw a wnai ei ymddanghosiad a gofynnai y marchogion iddo am ei ferch, ac wedi cryn siarad a chyfnewid llongyfarchiadau a nodweddid yn fynych gan foesgarwch digymar y dyddiau gynt, ffurfid yr orymdaith tua'r llan —y tad ar gefn ei farch, a'r ferch oedd i'w huno a'i chariad mewn glân briodas wrth ei ysgil ar y ceffyl. A chan fod hyn cyn dyddiau y cerbydau gwylltion sydd yn ein gwlad heddyw, byddai y wraig ieuanc yn myned tua'i chartref newydd wrth ysgil ei gwr. Dyma fel yr aeth Dafydd Jones a'i briod tua Cwmgogerddan ar brydnawn heulog dros y mynydd o Langeitho, ac y mae yn hawdd iawn i ni gredu ei fod yn dweyd y gwir yn y rhigwm cyntaf sydd ar gael o'i waith,—
Mae'r ceffyl glas yn egwan,
A'r chwys oddiarno'n tropian,
Y ffordd yinhell a'r llwyth yn drwm,
Oddiyma i Gwmgogerddan."
Bu y briodas yn un hapus dros ben, a phrofodd Mrs. Jones ei hun yn wraig dda, yn gymydog a fawr berchid, ac yn fam dduwiol. Blynyddau o dangnefedd oedd y rhai y bu yn briod â merch Abercarfan i'r emynnydd, ond tymor byr a fu. Bore teg, a chwmwl yn ei dristau cyn hanner dydd oedd eu bywyd, oherwydd bu farw Mrs. Jones tua 1748.
Priododd yr ail waith, fel y bu ffolaf. Miss Price o'r Hafod Dafolog, ym mhlwyf Llanwrda, oedd ei wraig. Bywyd anedwydd gafodd y bardd ar ol hyn. Gadawodd Cwmgogerddan, a symudodd i'r Hafod at ei wraig, ac yno y bu y rhan oedd yn ol o'i ddyddiau yn amaethu ac yn prynnu anifeiliaid ar hyd ffeiriau Cymru, a'u gwerthu yn Lloegr. Yr oedd hyn yn beth cyffredin flynyddau lawer yn ol. Byddai tair neu bedair ffair yn y cymydogaethau yn bur agos i'w gilydd. Prynnai y porthmyn wartheg a bustych ynddynt, ac yna cychwynnent tua rhai o ffeiriau Lloegr. Treulient ddyddiau lawer ar y daith. Cerddent yno, a cherddent bob cam o'r ffordd yn ol. Y mae degau o ddynion ar hyd y wlad yn awr sydd wedi bod ar bererindod ym mhrif drefydd Lloegr yn gyrru anifeiliaid. Maent yn alluog i siarad iaith y Saeson yn llithrig, ac y mae yn hawdd eu hadnabod wrth eu gwisg a'u siarad. Nid oedd eu hiaith bob amser yn rhy lân, ac yr oedd rhywbeth yn eu hosgo yn dweyd eu bod wedi gweled y byd—yn ei fan gwaethaf.
Gwaith fel hwn a ychwanegodd Dafydd Jones at ei oruchwylion ar y tyddyn, a phan yn dychwelyd ryw dro ar hyd y ffordd fawr o Lanfair Muallt i Lanymddyfri, trodd i mewn i hen gapel Troedrhiwdalar, a'r Sabboth oedd y dydd. Nid oes yr un hanes fod crefydd wedi cael un lle yn ei feddwl cyn hyn; ond dyn y byd, a'i awydd yn fawr am ymgyfoethogi ydoedd, ac nid oes un lle gennym i gredu fod unrhyw amcan arall ganddo wrth droi i mewn i'r capel nag i orffwys a bwrw ei flinder. Ond yr oedd yno bysgotwr dynion yn y pulpud y bore hwnnw, a phan dynnwyd y rhwyd i'r tir cafwyd fod Dafydd Jones wedi ei ddal. Y gŵr da a duwiol Isaac Price oedd y pregethwr, ac efe oedd gweinidog Troedrhiwdalar yr adeg honno. Wedi ei droedigaeth, cododd awydd angerddol yn Dafydd i wneyd rhywbeth dros ei feistr newydd, a gwahoddodd Isaac Price i bregethu i ardal Crug y Bar. Bu llwyddiant mawr ar ei bregethu, a sefydlwyd achos yn "nhy Mari Dafydd"—hen fwthyn llwyd, to gwellt, yn yr hwn y trigai hen wreigan pur dduwiol. Yn y cysegr hwn y bu Nansi Crug y Bar yn molianu gannoedd o weithiau, ac feallai mai yma y ganwyd yr hen alaw adnabyddus sydd yn gysylltiedig a'i henw am y waith gyntaf. Nid yw yr hen dy yn aros heddyw, a phrin y gwyr neb am le ei sylfaen. O biti, fod dwylaw anystyriol yn tynnu muriau hen leoedd cysegredig Cymru i lawr. Carem addoli ar garreg aelwyd yr hen dy a myned yn ol mewn dychymyg at lawer amgylchiad sydd a'i hanes ar lafar gwlad heddyw. Daeth rhywun a'r newydd yno ym mis Chwefror 1797 fod y Ffrancod wedi glanio yn Abergwaen. Yr oedd y cyffro yn fawr iawn. Dychrynai dynion cryfion, a dechreuai y gwragedd lefain allan. Nid oedd dim i wneyd ond gadael y cyfarfod yn y man a rhedeg adref, ac aros am i'r Ffrancod ddod. Mewn moment gwelent y meusydd gwenith yn cael eu hysgubo i ffwrdd, gwelent eu gwragedd a'u plant yn syrthio o dan garnau meirch y gelyn, ond yng nghanol y cyffro wele Nansi ar ei thraed ac yn ledio pennill,—
Mae ymn hen weddiwyr
Fel Elias gynt,
A chwytha Bonaparte
Fel niwl o flaen y gwynt."
Canwyd a chanwyd nes bod y pentref yn dispedain. Ciliodd ofn rhag y gelyn, a daethpwyd i deimlo fod Un yn darian ac yn astalch iddynt. Diosgwyd y suchwisg, a gwregyswyd pawb â llawenydd.
Wrth drin y tir, a phrynnu a gwerthu anifeiliaid, yn ogystal a barddoni, y bu Dafydd Jones byw. Cymhwysder diogel iawn yn hanes dynion oedd yn cymeryd rhan amlwg gyda chrefydd oedd eu bod yn medru rhigymu. Dyma un rheswm paham na dderbyniodd Williams Pantycelyn erledigaeth fel ei frodyr oedd yn pregethu. Yr oedd yn "brydydd," chwedl mawrion y tir yn yr oes honno, ac ofnai pob erlidiwr rhag digwydd iddo wneyd cân o wawd iddynt. Cleddyf llym daufiniog oedd rhywfath o awen, ac nid oedd dim ar y ddaear yn cyffwrdd â hunan barch dynion i raddau mwy na bod yn destyn cân o wawd yn un o ffeiriau Cymru. Byddai y bechgyn a'r merched yn ei dysgu, a chenid hi ym mhob man nes bod diffyg rhagoriaethau a phechodau yr erlidiedig ar bob tafod trwy y gymydogaeth. Un parod iawn oedd Dafydd Jones gyda'i bennill. Wrth roddi gorchymyn i'r crydd i wadnu pâr o esgidiau iddo, dyma ddywed,—
Rhowch i mi bar o dapau,
Rhai tewion, nid rhai tenau,
A ddalio i fynd o fan i fan
Yn wydnon dan fy ngwadnau."
Yr oedd ganddo was hynod yn hoff rhyfeddol o gaws. Dyna yr unig rinwedd oedd yn perthyn iddo. A dywed ei feistr wrtho,
Ti fyti fwyd o'r gore;
Pe dalit gwys fel torit gaws
Fe fydde'n haws dy ddiodde."
Er nad oes gennym hanes ei fod wedi pregethu dim erioed, na'i fod ymhlith yr hen gynghorwyr, eto i gyd y mae ganddo syniad go dda am gymhwysderau y swydd. Dywedodd rhywun fod tri pheth yn angenrheidiol i bregethwr,—sef llygad eryr, calon llew, a llaw dynes; mewn geiriau ereill,— craffder i adnabod dynion, dewrder i siarad â dynion, a hyfedredd i drin dynion. Yn yr un cyfeiriadau y rhedai cymhwysderau Dafydd Jones o Gaio, ond credai fod ereill yn angenrheidiol, oherwydd dywed,—
Pumpeth wna bregethwr gallant,
Calon Pedr, doniau Rowlant,
Corff Will Harry, cffyl Benni,
Pwrs y Popkin gyda hynny."
Y Parch. Peter Williams, Caerfyrddin awdwr y Nodiadau, yw Pedr; a Rowland, Llangeitho, yw perchen y ddawn. Dyn o gorff cryf oeld Will Harry—yr oedd ei lais fel taran, a phregethai yn achlysurol gyda'r Methodistiaid. Ffermwr o sir Benfro oedd Benni, pregethai, a phob amser pan ar ei daith marchogai geffyl da. Dyn cyfoethog o Abertawy oedd Mr. Popkin. Daliai athrawiaethau Sandemaniaeth, a bu yn achos o lawer iawn o ofid i'r Corff Calfinaidd yn ei ddydd.
Lle digon llwm yw yr Hafod Dafolog. Y mae yn agored i'r tri gwynt, ac estynna y creigiau eu hesgyrn allan trwy groen y ddaear, ond yr oedd yr emynnydd yn credu yn gryf yn ei fferm,—
"Nid oes neb ond sy'n ei nabod
Wyr fath le rhyfedd sy'n yr Hafod.
Ceirch yn llawn, porfa'n iawn,
Gwair a mawn yn gywren.
Mae popeth yno ag sy'n angen
Ond y dwr, yr hairn, a'r halen."
Dyna ddywedodd efe pan boenodd ei gyfeillion ef, pan yn symud o Gwmgogerddan tua'r Hafod a'i anrhefn. Fe "Cyfieithydd Watts " yr adnabyddir Dafydd Jones, ac nid yw dylanwad y gwaith a wnaeth eto wedi ei lawn gydnabod.
Cyn i Williams a'i hymnau ddod yn adnabyddus, yr oedd canu mawr ar waith Dafydd Jones. Efe ddiwallodd yr angen cyntaf yng Nghymru am odlau ysbrydol i osod allan y profiadau newydd a gynyrchwyd pan aeth heibio y cyfnod Laodiceaidd yn hanes crefydd ein gwlad. Yn 1753 y cyhoeddodd ei gyfieithiad o Salmau Watts, ac yn fuan iawn cyhoeddodd gyfrol o hymnau o'i waithef ei hunan. Nid oedd galwad am goethach cyfieithiad nag eiddo Edmwnd Prys o Salmau Dafydd. Gwae y gynulleidfa honno na theimla ei bod yn cael cyfodiad wrth eu canu yn nhawelwch bore dydd yr Arglwydd. Pan y mae yr addolwyr wedi eu bedyddio gan dangnefedd Duw, y mae salmau yr archddiacon wedi cyweirio allor ein calonnau ugeiniau o weithiau, a threfnu yr aberth ar gyfer y tan o'r nefredd. Ond nid rhoddi i'r genedl gyfieithiad coeth oedd amcan Dafydd Jones. Nid oedd ychwaith yn amcanu at gyfieithiad cywir o'r salmau, ac nid yw yn angenrheidiol dweyd nad oedd yn alluog i roddi coethder na chywirdeb. Casglu tanwydd i'r ysbryd newydd oedd wedi dod i blith crefyddwyr yn unig oedd ei amcan. Yn ei ragymadrodd i'r cyfieithiad cyntaf, dywed Watts, wrth gyfrif am ei fod wedi rhoddi syniadau y Testament Newydd yn iaith Psalmau yr Hen Destament,— Nid oes un angenrhaid arnom i ganu yn wastadol yn arddull aneglur rhagfynegiad, pan y mae y pethau a ragddywedwyd am danynt wedi eu dwyn llawn oleuni trwy gyflawniad llwyr o honynt. Pan y mae ysgrifenwyr y Testament Newydd yn dyfynu, neu yn cyfeirio at ryw rai o'r Salmau, cymerais y rhyddid o aralleirio yn fynych yn unol â geiriau Crist, neu yr apostolion Lle y mae y Salmydd yn desgrifio crefydd fel ofn Duw, mi a gysylltais ffydd a chariad yn aml at hynny. Lle y mae efe yn llefaru am faddeuant pechod trwy drugareddau Duw, mi a chwanegais haeddiannau yr Iachawdwr. Lle y mae efe yn aberthu bychod a bustych, yr wyf fi yn dewis yn hytrach enwi aberth Crist, Oen Duw. Pan y mae efe yn dwyn yr arch gyda bloddest i Seion, yr wyf fi yn canu esgyniad fy Iachawdwr i'r nef, neu ei bresenoldeb yn ei eglwys ar y ddaear. Lle y mae efe yn addaw helaethrwydd cyfoeth, anrhydedd, a hir oes, mi a newidiais rai o'r bendithion cysgodol hyn am ras, gogoniant, a bywyd tragwyddol, y rhai a ddygir i oleuni trwy yr efengyl, ac a addewir yn y Testament Newydd."
"Oherwydd," meddai Dafydd Jones, "nad oedd y fath beth wedi ei gyflawni yn ein iaith ni o'r blaen, ynghyda hiraeth am weled cyfansoddiad o'r fath gyda ninnau, trwy gynghor ac anogaeth rhai gweinidogion parchedig (ond nid heb olwg ar fy anghymwysdra fy hun), mi a ymosodais ar y gwaith; a thrwy lawer o boen a llafur (ond nid heb lawer o bleser a hyfrydwch weithiau) mi a'i gorffennais; ac wedi cael barn a phrofiad rhai gweinidogion dysgedig arno, danfonais ef i'r argraffwasg; ac wedi ei ddyfod i'm llaw drachefn yr wyf yn ei anfon i'm cydwladwyr dymunol; yr hyn beth sydd fath o gyfieithiad neu gyffelybrwydd o Salmau y difynydd parchedig hwnnw (Dr. Isaac Watts) mor agos ag y gellais i gael gan y ddwy iaith gydgordio a'u gilydd ar fesur cerdd." Dyna'r amcan oedd ganddo mewn golwg, a theg yw i ni, pan yn beirniadu ei waith a'i gydmaru ag eiddo ereill, yw cadw yr amcan oedd ganddo mewn golwg o flaen ein llygaid.
Ei holl gyhoeddiadau oeddynt,—
1. Cyfieithiad o Salman y Dr. Watts. Yr argraffiad cyntaf. Argraffwyd yn Llundain gan Ioan Olifer. 1753.
2 Cyfieithiad o "Hymnau a o "Hymna a Chaniadau Ysbrydol Watts.
3. Caniadau dwyfol i blant," sef cyfieithiad o Watts' Divine Songs for Children
4. Difyrrwch i'r pererinion, sef ei ganiadau ef ei hun
5. Can Dduwiol, ar ddull ymddiddan rhwng Proffeswr human-gyfiawn a'i gydwybod wedi ei argyhoeddi.
Bu farw yn 1777, yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ef yng Nghrug y Bar, a chywilydd i'n gwlad yw y ffaith nad oes un beddfaen yn dangos lle cul ei gartref. Murmura y nant wrth fyned heibio, ac y mae i'w hymnau le mawr yng nghalonnau y saint, ac hwyrach fod hyn, wedi'r cyfan, yn well cofgolofn na dim a fedr celfyddyd godi. O leiaf, y mae llu mawr o'r dynion a fu yn cerfio cymeriadau yr oesoedd gynt yn gorfod ymfoddloni arnynt.
Dowlais. D. CUNLLO DAVIES.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.