Neidio i'r cynnwys

Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth/Amnaid

Oddi ar Wicidestun
Merched Llanbadarn Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Dafydd ap Gwilym

Y Serch Lledrad

Amnaid.

FAL yr oeddwn ymannos,
Druan iawn, am draean nos
Yn rhodiaw, rhydaer ddisgwyl
Rhy addwyn oedd, rhyw ddyn wyl,
Gar llys Eiddig a'i briod
(Gwaeddai'm ôl pe gwyddai 'mod)
Edrychais, drychaf drymfryd
Tew gaer, gylch y tý i gyd.
Cannwyf drwy ffenestr wydrlen,
Gwynfyd gwýr oedd ganfod Gwen!
Llyma ganfod o'm ystryw
Yr un fun orau yn fyw.
Llariaidd yw llun bun benfyr,
A'i lliw fel Branwen ferch Llyr,
Nid oedd liw dydd oleuni
Na haul wybr loywach no hi.

Mawr yw miragl ei gwynbryd,
Mor deg yw rhag byw o'r byd.
Mynnais gyfarch gwell iddi,
Modd hawdd y'm atebawdd hi.
Daethom hyd am y terfyn
Ein dau, ni wybu un dyn.
Ni bu rhyngom uwch trigair,
O bu, ni wybu neb air.
Ni cheisiais wall ar f'anrhaith,
Pei ceisiwn ni chawswn chwaith.
Dwy uchenaid a roesom
A dorrai'r rhwym dur y rhom.
Ar hynny cenais yn iach
I feinir, heb neb fwynach.
Un peth a wnaf yn fy myw,
Peidio dwedyd pwy ydyw!


Nodiadau

[golygu]