Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth/Rhagair
← Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth | Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth gan Dafydd ap Gwilym |
Cynnwys |
RHAGAIR.
PAN ddeffrôdd meddwl Ewrop wedi gaeaf hir yr Oesoedd Tywyll, fe aeth ton o ganu dros y cyfandir i gyd—ton lawn o hoywder gwanwyn. Llais Dafydd ap Gwilym, a anwyd tua 1320 ac a fu farw tua 1380, oedd llais pereiddiaf Cymru yn y gytgan delynegol, ryfeddol honno.
Cyn gynted ag y dechreuodd Ewrop lefaru, llefarodd lawenydd ei chalon, nid ei chredo. "Ymaith â'r traddodiadau mynachaidd a'u culni," meddai'r beirdd a'r gwŷr wrth gelf, a throi am ysbrydiaeth newydd at fywyd a serch.
Gwawriodd oes y trwbadŵr ("darganfyddwr" neu grewr cerdd); oes y minnesinger ("canwr serch"); a'r glêr, neu'r ysgolheigion crwydrad. Canu mawl rhianedd prydferth a lleianod eiddil a wnai'r trwbadwriaid, a cherddorion yn cyfeilio iddynt ar fandolîn neu ffliwt. Gogoneddant serch llawen—serch at ferched, gan amlaf, a'r rheini'n fynych yn wragedd dynion eraill. Chwarddent am ben yr uffern dân a fygythiai'r Eglwys yn gosb arnynt am y fath "bechodau."
Yn neheudir Ffrainc, yn nhalaith Profens, sef y tir nesaf at Sbaen, lle y ffynnai diwylliant mirain yr Arab—yno y cododd cân y trwbadŵr gyntaf. Afraid holi, felly, o ba le y daeth y cynhyrfiad. Fe ddug y trwbadŵr i Ewrop felys naws barddoniaeth yr Arab, fel chwa gynnes o diroedd y De. Yr oedd y rhan hon o Ffrainc yn llawn heresi "wrth—Gristnogol"—heresi y ceisiodd y Pab Innocent III ei boddi yng ngwaed miloedd lawer o bobl. Trwy gydol y ddeuddegfed ganrif, ac ymlaen at 1300, dal ati i herio'r Eglwys a'i chenhadon yr oedd Profens, ac yr oedd hi'n wenfflam yr un pryd gan gân y trwbadŵr.
Fe helpwyd yr ymryddhau yn Ewrop, fe helpwyd y diwylliant newydd, gan dwf trefi rhyddion a masnach, gan y trafaelio a barodd y Crwsadau, a chan y chwedlau am y Brenin Arthur a ddygesid i Ffrainc gan y Cymry a aeth i Lydaw. Fe laddwyd y mudiad trwy i'r Babaeth fanteisio ar gynhennau brenhinoedd a chreu iddi ei hun awdurdod mwy ofnadwy nag erioed—yr Incwisisiwn.
Fe dducpwyd cân y trwbadwriaid i Gymru gan yr ysgolheigion crwydrad—y glêr—a chan y Normaniaid. I'r De y daeth. Y mae'r tinc dilys yng nghân Dafydd ap Gwilym. Y mae'n canu serch hoyw ac yn gwatwar yr offeiriaid. Iddo ef, y byd hwn ydyw gwlad yr addewid, ac nid cywir mo datguddiad yr Eglwys ar y byd. Os rhoes Duw reddfau neilltuol ynom, rhaid ei fod Ef ei Hun yn gyson â'r greddfau hynny:
Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion;
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Hefyd, yn lle cadw at hen ddulliau iaith anghynefin, fel yr oedd yn arfer gan y beirdd, y mae Dafydd yn canu yn iaith bob dydd pobl ddiwylliedig ei oes. Dafydd ddechreuodd wneud yr iaith Gymraeg gyffredin a geir gennym ni heddiw yn iaith lenyddol.
Y mae ffansi ac egni a nwyf anghyffredin yn ei gywyddau natur. Sylwa'n graff. Gŵyr arferion anifeiliaid. Trinia goed, dail a blodau fel bodau byw, gyda theimladau dynol (ni cheir hyn ym. marddoniaeth Lloegr cyn Henry Vaughan yn y 17 ganrif). Lle y mae adar, yno i Ddafydd y mae "cyfanheddrwydd."
Dafydd oedd tad llenyddol y ddwy ganrif a'i dilynodd. Ef a greodd y mesur cywydd—cyfres of gyplau o linellau saith sillaf, y naill yn gorffen ag acen drom a'r llall ag acen ysgafn, a'r ddwy'n odli,— ac fe yrrodd hwn y mesurau eraill i'r cysgod. Ond, er bod weithiau megis ar gyfyng gyngor, 'ymwrthododd Dafydd ddim â'r gynghanedd fel yr ymwrthododd Chaucer, ychydig yn ddiweddarach, â'r mesurau Anglo—Saxon.
Y mae arddull Dafydd weithiau'n dynn iawn, fel pe bwriedid ambell gywydd i'w adrodd neu i'w ganu, gydag ysgogiadau wyneb a chorff a goslef llais i wneud y meddwl yn eglur. Sylwer hefyd ar ei allu anghyffredin i greu geiriau cyfansodd, megis "eos gefnllwyd ysgafnllefn," "esgudfalch edn. bysgodfwyd."
Credir mai ym Mro Gynin, Llanbadarn, Sir Aberteifi, y ganwyd Dafydd, er i rai beirdd ei alw yn "eos Dyfed " a "bardd glan Teifi." Ifor Hael, o Faesaleg, oedd yn ei flodau tua 1345, oedd ei brif noddwr. Yn ôl un traddodiad, yn Nhal-y-llychau y bu Dafydd farw. Dywed Gruffydd Gryg iddo gael ei gladdu dan ywen "ger mur Ystrad Fflur a'i phlas."