Dafydd y Garreg Wen (Ceiriog)

Oddi ar Wicidestun

"Cariwch," medd Dafydd,
"fy nhelyn i mi
Ceisiaf cyn marw
roi tôn arni hi
Codwch fy nwylo
i gyrraedd y tant
Duw a'ch bendithio,
fy ngweddw a'm plant."

"Neithiwr mi glywais
lais angel fel hyn
'Dafydd, tyrd adref
a chwarae trwy'r glyn,'
Delyn fy mebyd,
ffarwel i dy dant
Duw a'ch bendithio,
fy ngweddw a'm plant."

Geiriau:John Ceiriog Hughes (Ceiriog) 1832-1887

Tôn: Dafydd y Garreg Wen gan Dafydd ab Owain (Dafydd y Garreg Wen) 1711/2-1741)