Dangos i'm, Arglwydd, dy ffordd di

Oddi ar Wicidestun

Mae Dangos i'm, Arglwydd, dy ffordd di, yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Dangos i'm, Arglwydd, dy ffordd di,
A ffâr i mi ei deall;
Arwain a dysg fi yr un wedd
Yn dy wirionedd di-ball.


Yr Arglwydd sydd uniawn a da,
A'i ffyrdd i'm noddfa ydynt;
Efe a arwain, fel mae'n rhaid,
Y pechaduriaid ynddynt.


Y sawl a gadwo ddeddfau'r Iôn,
A'i union dystiolaethau,
Gwirionedd a thrugaredd fydd
Ei lywydd yn ei lwybrau.


Er mwyn dy enw, Arglwydd mau,
O! maddeu fy anwiredd;
Cans fy nhroseddiad i mawr yw,
Mwy ydyw dy drugaredd.