Datgan y nefoedd fawredd Duw

Oddi ar Wicidestun

Mae Datgan y nefoedd fawredd Duw yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Datgan y nefoedd fawredd Duw,
Yr unrhyw gwna'r ffurfafen;
Y dydd i ddydd, a'r nos i nos,
Sy'n dangos cwrs y wybren.


Er nad oes ganddynt air nac iaith,
Da 'dywed gwaith Duw Lywydd;
Diau nad oes na môr na thir
Na chlywir eu lleferydd.


Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawn,
A dry i'r iawn yr enaid,
Felly rhydd ei dystiolaeth wir
Wybodaeth i'r ffyddloniaid.


Uniawn yw deddfau'r Arglwydd Iôn,
Llawenant galon ddiddrwg;
A'i orchymyn sydd bur ddiau,
A golau rydd i'r golwg.


Ofn yr Arglwydd sydd lân, a byth
Y pery'n ddi-lyth hyfryd;
Barnau yr Arglwydd sydd wir llawn
I gyd, a chyfiawn hefyd.


Arglwydd! fy Mhrynwr a'm nerth,
Bydded yn brydferth genyd,
Fy 'madrodd, pan ddêl ger dy fron,
A'm myfyr calon hefyd.