Dau Englyn

Oddi ar Wicidestun

gan Cynddelw

A gant Cyndelw i gyndion Llywelyn am Madawc am maredud ac iw gyrn o achos rodi ido y carw a ladassant yn ymyl ei dy.

Balch ei fugunawr ban nefawr ei lef
pan ganer cyrn cydawr;
corn Llywelyn llyw lluydfawr
bon ehang blaen hang bloed fawr.
Corn wedi llad corn llaween
corn llugynor Llywelyn
corn gwyrd gwr gwydr ai can
corn rueinell yn ol gellgwn