David Williams y Piwritan/Mab y Bryniau

Oddi ar Wicidestun
I'r Bryniau David Williams y Piwritan

gan Richard Thomas, Bontnewydd

Croesi'r rhiniog

II.

MAB Y BRYNIAU.

O'r man y safem i gael cip o olwg ar y wlad gwelwn ffermdy led deugae oddi wrth y ffordd bôst. Fe saif yn glyd megis mewn cwpan rhwng y mân fryniau. Dyma'r Bryniau, neu fel y gelwir ef ar dafod pobl Edern " y Byrna."

Gallesid ysgrifennu cryn lawer am deulu'r Bryniau, petai ofod i hynny, oblegid fe ddaeth yn deulu mawr, adnabyddus, ac anrhydeddus. Yn y cyfnod y soniwn am dano yr oedd yn deulu cynhyddol dros ben, a magwyd yma gynifer ag un ar ddeg o blant. O'r rheini y mae'n fyw heddiw Mrs. Williams, Tymawr, Clynnog, a'r Parch. R. O. Williams, Penmaenmawr.

Yr oedd y tad a'r fam, Owen a Mary Williams, yn bobl fucheddol a thra synhwyrol. Gwladwr oedd Owen Williams, o feddwl cryf, yn ddarllenwr mawr, ac yn gwybod ei Feibl yn dda. Fe ddywedir bod ganddo reolaeth bendant iawn ar ei deulu. Pan gychwynnai i'r oedfa fore Sul rhoddai dro drwy'r buarth, a chlywid ei Jais yn gofyn i'r llanciau a oeddynt yn barod am y capel, gan awgrymu, wrth gwrs, €u bod i ddyfod. Ni fu bywyd y cartref yma heb ei warchod, er nad oedd na'r tad na'r fam ar y pryd yn perthyn i grefydd. Ni fu Mary Williams yn hir lawn heb ddyfod; ond am Owen Williams cerddodd ef hyd at warthaf pedwar ugain mlwydd cyn ymrestru, ac fel hyn y bu: Tua'r blynyddoedd 1882 a 1883 yr oedd gweinidogaeth yr efengylydd mawr, Richard Owen, y diwygiwr, yn aredig yn ddwfn ardaloedd Llŷn. Nid oedd fawr son am ddim arall yn y dyddiau hynny, ac fe ddylifai'r bobloedd o fan i fan i wrando'r proffwyd rhyfedd hwnnw. Aeth Owen Williams yntau gyda'r lliaws i wrando arno fwy nag unwaith i gapel Edern. Fe fu i'r bregeth ar y 0 Llafurwyr yn y Winllan " lorio hyd yn oed Owen Williams—gŵr a fedrodd wrthsefyll, megis derwen gref, ruthr '59, a llawer dylanwad grymus wedi hynny. Fe ddug y llorio hwnnw ryw don ryfedd o lawenydd i galon pobl Y Dinas, oblegid yr oedd yn ŵr cyfrifol a charedig i'r achos ymhob peth a allai. Noson go ryfedd oedd honno pan ddaeth Owen Williams at y praidd yn Y Dinas. " Wel, Owen, mi ddaethoch chitha aton ni o'r diwedd," meddai John Moses Jones. "Wel, do, mi ddois," atebai Owen Williams, gan sychu'r ffrwd o ddagrau â chefn ei law, "Wel, do mi ddois, ond yr ydwy' i'n teimlo'i bod hi wedi mynd yn hwyr iawn arna 'i, John bach, —y mae hi wedi pasio'r unfed awr ar ddeg." "Ydi, ydi," meddai'r hen bregethwr, "ond diolch i Dduw dydi hi ddim wedi taro hanner nos arnat ti. Owen bach." Daeth teimlad i galon a dagrau i Iygad pawb y noson yr ymgasglodd y disgyblion yn Y Dinas, ac Owen Williams gyda hwynt.

Yn ol y cofnod a geir yn eglwys Tudweiliog, bedyddiwyd David, mab Owen a Mary Griffith, Bryniau, Rhagfyr 13, 1835. Gwelwn yma arfer, oedd yn lled gyffredin yn y dyddiau hynny, o gwtogi enwau. Yr enw'n llawn oedd Owen Griffith Williams.

Dafydd oedd yr hynaf o blant y Bryniau, ac, am ei fod yn henaidd ei ffordd, ni a gawn ei fod yn dra byw i bwysigrwydd ei enedigaethfraint. Gallasai'r craff weled bod ynddo ddeunydd clamp o Biwritan y pryd hwnnw. Ymhlith y plant yr oedd ei dueddiad yn gryf at awdurdodi yn dadol, ac ni phetrusai ddisgyblu'n ddiseremoni y rhai mwyaf anhydyn ohonynt. Y syniad cyffredin oedd ei fod o'n " lordio braidd ormod. Fodd bynnag, y mae'n amlwg ddigon nad oedd rheolaeth y brenin Dafydd ddim yn gorwedd yn esmwyth bob amser. I ysgol John Hughes yn Nhudweiliog yr âi'r plant o'r Bryniau, pellter o tua dwy filltir, ac un mater y methid yn lân a'i setlo i fodlonrwydd oedd: y rhan a ddylai hwn ac arall ohonynt gymryd mewn cario'r piser llaeth ar gyfer cinio. Ai'n streic gynhennus yn rhywle tua Phont-rhyd-trwodd, a mynych y byddai rheolaeth Dafydd yn deilchion.

Parhau i gynhyddu a wnaeth bagad bugeiliaeth Dafydd cyhyd ag y daliodd i fyned i'r ysgol. Fe ddaeth y plant i ddygymod yn rhyfedd a llywodraeth y teyrn, er iddi fod yn dipyn o niwsans lawer tro, a hynny am y rheswm da y medrai ef ei amddiffyn ei hun mewn cwff, a gwastrodi pawb a fyddai'n ymosod arnynt hwythau.

Yr oedd John Hughes, yr athro, yn ŵr hyfedr mewn dysgu, debygid, a cheir pob lle i gasglu, oddi wrth yr hyn a ddigwyddodd wedyn, fod ganddo syniad go uchel am allu'r bachgen Dafydd. Fodd bynnag o'r ysgol y daeth, a diau mai'r rheswm pennaf am y symud hwnnw ydoedd bod angen ei help ar y fferm. Faint elwach a fu'r fferm a'i hwsmoniaeth, ni wyddom; ond colled anadfer ydoedd i'r bachgen. Fe welwyd yn union ei fod yn fwy o fachgen llyfr nag o lafurwr, ac yn fwy o fyfyriwr nag o ddim arall.

Byddai teulu'r Bryniau yn wrandawyr pur gyson yng nghapel Edern.[1]

Amrywiai'r blaenoriaid yn eu maint, ac fe wisgai pob un ohonynt ei ddelw'i hun. Dyma John Hughes, Cefn Edern (tad Griffith Hughes), gwr grymus ei ddylanwad a hoyw ei gerdded; Thomas Roberts, Bryngwŷdd, yn dawel a bonheddig ei ysbryd, yn cyhoeddi "y soseiat " ac enw'r "llefarwr" y Sul nesaf; Robert Williams, yn ŵr pur ddoniol, ac, yn gyffredin yn taro tant gwahanol i Griffith Hughes,—weithiau'n siriol, dro arall yn ddifrif; William Jones, Tŷ Hen, yn dechrau porthi â "(hy)," a hwnnw'n myned yn "Amen" ddwbwl os byddai arddeliad, a dwy ffrwd loyw yn rhedeg i lawr ei ruddiau gwritgoch. Dyma eto William Hughes, efe weithian yn pregethu, ac yn gwneuthur hynny'n syml a difrifol, a'i weddiau gafaelgar yn dwyn bendith i laweroedd.

Am Griffith Hughes, yr oedd ef yn ŵr hynod ar lawer cyfrif, ac yn meddu ar bersonoliaeth a'i gwnai'n ddylanwad mawr gartref ac oddicartref. Clybuwyd ei leferydd yn llysoedd uchaf y Cyfundeb, a chafodd yn y flwyddyn 1872 eistedd yng nghadair y Gymdeithasfa. Enillodd ef radd dda fel pregethwr. Ni chyfrifid ef yn un hwyliog, ac ni fedrai ar y goslef-ganu hwnnw a geid gan rai o'i frodyr llai. Pregethai yn sylweddol, ysgrythyrol, a grymus, ac yr oedd ei feddwl cynhyrchiol yn dwyn i'r bobl ryw newydd-deb di-dor.

O ran ei fuchedd a'i gred yr oedd yn Griffith Hughes gryn lawer o'r piwritan. Meddyliai'n benderfynol a phendant, a datganai farn ddi-wyro. Ofn dyn, nis gwyddai; a derbyn wyneb neb pwy bynnag, nis goddefai. Pan ei derbyniwyd ef ac un arall i'r Cyfarfod Misol methai'i gyfaill ag ymgynnal wrth ymlwybro at y sêt fawr. Edrychai ef megis dyn ar lewygu gan ofn; ond dacw G. Hughes yn mynd rhagddo'n syth-hoyw a didaro, a rhyw hen frawd go gritig yn sisial wrth ei —gyfnesaf: "Wel, dyma un nad oes arno ofn na dyn na diawl." A gwir a ddywedodd.

Pan roes John Jones, Tremadog, orchymyn, fel Llywydd y Cyfarfod Misol, nad oedd neb i alw John Jones, Clynnog, i bregethu, ,gofynnodd Griffith Hughes: "Beth mae o wedi i wneud?" " Does dim chwaneg o siarad i fod ar i achos o," oedd yr ateb, " y mae o wedi'i setlo." "Pwy sydd wedi'i setlo fo ?" gofynnai Griffith Hughes wedyn, ac ychwanegu, " dydi o ddim i gael ei setlo ar hyn, beth bynnag. Chwi, y blaenoriaid, sydd a chyhoeddiadau John Jones, Clynnog, gennych am y mis nesaf. cyhoeddwch o, ac aed yntau i'w gyhoeddiadau. Mae geni gystal hawl i ddweud fel yna ag sydd gynoch chitha i ddweud fel arall." Diwedd yr ysgarmes hi dewis nifer i chwilio i achos y cŵyn, a chael John Jones yn lân a dieuog.[2]

Fe ddaeth llymder y Piwritan yn amlwg yn Griffith Hughes, ac yn bur fynych fe fyddai'i geryddon yn finiog, a'i ergydion yn dra thrymion, ac nid oedd dim a rwystrai eu harllwys pan fyddai galw.

Ni welai na synnwyr na chrefydd mewn defnyddio pibell a baco, ac yr oedd ei wrthwynebiad i fyg yn ddi-gêl, pwy bynnag a geid yn sugno'i gysur yn y ffordd honno. Lletyai ef a'r (Dr.) John Hughes, Lerpwl, gyda'i gilydd ym Mhwllheli adeg Sasiwn. Wedi cinio, aed i'r ardd y tu cefn i'r tŷ. Yn y munud, dyma wraig y tŷ yn gosod gerbron John Hughes fwrdd taclus, ac arno'r celfi angenrheidiol a darpariaeth gyflawn at fygu. A'r mwg erbyn hyn yn torchi i fyny o gwmpas pen y Doctor daeth Griffith Hughes heibio. "Wel dyma hi," meddai, yn goeglyd braidd. "le," meddai'r llall, a'r pefriad hwnnw yn ei lygad, "wyddoch chi be' ddaeth i fy meddwl wrth ych gweld chi'n dwad?" "Wel, beth?" gofynnai Griffith Hughes yn o sych. "Y gair hwnnw: 'Ti a arlwyi ford ger fy mron yngwydd fy ngwrthwynebwyr.' "

Yr oedd Griffith Hughes yn llym yn ei sêl dros yr hyn oedd, i'w fryd ef, yn iawn. Yn hyn yr oedd ei wendid yn gystal a'i gryfder. Edward Morgan y Dyffryn a ddywedai, "Ni byddaf byth dan brofedigaeth i ddysgu smocio ond pan fydd Griffith Hughes yn areithio yn erbyn hynny."

Edrydd y Parch. John Hughes i un amgylchiad cofiadwy fynd yn drech na Griffith Hughes. Fe ddaeth Wil Parri Peter i'r capel un bore Sul. Un go od a syml oedd Wil a gai'i gynhaliaeth yn fferm Porthdinllaen am gyflawni mân gymwynasau. Eisteddai ef bob amser ar fainc rydd ar y llawr. Y tro hwn yr oedd Griffith Hughes yn pregethu, a chafodd Wil gyntyn trymach nag arfer. Wedi peth pendwmpian a nodio "moesgar," newidiodd ei dactics yn annisgwyliadwy, a syrthiodd yn wysg ei gefn. A dyna olygfa—Wil Parri ar ei gefn, a'i ddau lygad croes yn torwynnu, ei enau coch (gan sudd neilltuol) yn agored, ei ddwylo i fyny, a'i bedion yn cyfeirio at y pulpud.

Gorchfygwyd y gynulleidfa gan chwerthin dilywodraeth, ac eisteddodd Griffith Hughes i lawr mor ddilywodraeth â neb o'r saint. Pan gafodd Wil ei wadnau ar y llawr, cododd Griffith Hughes ar ei draed, a chasglu hynny a fedrai o urddas at ei gilydd, ac, eb efe, "Wel, dyma Wil Parri wedi'i gwneud hi heddiw, a choeliai ddim fod y Nefoedd yn digio wrtho ni am chwerthin tipyn—pa gnawd allsai ddal?" Ni synnem ddim nad oedd yn dda gan y saint gael praw, ar draul Wil druan, mai dyn oedd Griffith Hughes, a'i weld am dro wedi disgyn i'r un gwastad a hwythau.

Nodiadau[golygu]

  1. Y mae hanes Methodistiaeth yn Edern yn un diddorol dros ben. Ymwelodd Howel Harris â'r ardal pan ddaeth gyntaf i Lŷn yn 1741. Cafodd lety gan wraig Porthdinllaen, a bu hynny'n achlysur erledigaeth erch ar y pengryniaid. Daeth Hugh Griffith y Ty Mawr (hen daid Griffith Hughes) a Thomas Humphreys, Penybryn, yn swcwr i grefydd gan ddiogelu drysau agored i bregethu. Bu i'r ddau godi adeilad heb yngan ar y pryd mai capel oedd hwnnw i fod.
    Dywedir mai'r Thomas Humphreys hwn a gyfieithodd gyntaf waith Gurnal i'r Gymraeg. Gadawodd ei dŷ a'i dyddyn i'r hen ferch, y forwyn, ac yr oedd y lle i fod yn gartref i bregethwyr, ac arysgrif uwchben y drws " Deuwch i mewn i'm ty, ac aroswch yno." Daeth yr etifeddes hon yn briod i'r gŵr hynod hwnnw, John Jones, Edern. (Gwel Methodistiaeth Cymru, ii. 142)
  2. Y Parch. J. Hughes