Daw dydd o brysur bwyso

Oddi ar Wicidestun
Bydd myrdd o ryfeddodau Daw dydd o brysur bwyso

gan John Williams (Ioan ap Gwilym)

Er gwaetha'r maen a'r gwylwyr

667[1] Dydd o brysur Bwyso.
76. 76. D.

1 DAW dydd o brysur bwyso
Ar grefydd cyn bo hir;
Ceir gweld pwy sydd â sylwedd,
A phwy sydd heb y gwir:


O! Dduw, rho im adnabod
Ar f'ysbryd ôl dy law,
Cans dyna'r nod a'r ddelw
Arddelir ddydd a ddaw.


o bosib gan John Williams (Ioan ap Gwilym)
yn cael ei ddyfynu gan John Thomas, Rhaeadr

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 667 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930