Ddaw Hi Dddim (Mynyddog)

Oddi ar Wicidestun
Yr o’wn i ’n hogyn gwirion gynt,
Yn destyn gwawd y plwy,
Awn gyda phawb yn llon fy hynt,
Pwy bynnag fyddent hwy;
Ond os ceisia dyn fy nhwyllo’n awr,
’Rwy’n edrych llawn mor llym,
A rhoddaf daw ar fach a mawr
Wrth ateb,—“Ddaw hi ddim.”


’Rwy’n adwaen ffrynd, a’i arfer yw
Benthyca pres yn ffôl;
Ond dyna’r drwg, ’dyw’r llencyn gwiw
Ddim byth yn talu’n ol;
Ryw dridiau’n ol, mi cwrddais ef
Wrth fyned tua’r ffair,
Gofynnodd im’ cyn mynd i’r dref
Am fenthyg tri a thair.
Ond os ceisia dyn, &c.


Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi
Y gwyddai hanes merch,
A wnaethai’r tro i’r dim i mi
I fod yn wrthrych serch;
Gwraig weddw oedd, yn berchen stôr
O bopeth, heb ddim plant,
A chanddi arian lond dwy drôr,
Ac yn ddim ond hanner cant.


Ond os ceisia dyn, &c.


Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy,
Ar bwynt priodi un;
Cyn mynd at allor llan y plwy,
Fel hyn gofynnai’r fun,—
“Mae gennyf fam a phedair chwaer
Sy’n anwyl iawn gen i,
A gaiff y rhain, wrth fegio’n daer,
I gyd fyw gyda ni?”


Ond os ceisia dyn, &c.