Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc (testun cyfansawdd)


golygwyd gan Francis Jones, Abergele
I'w ddarllen pennod wrth bennod gweler Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader


Dechreuad a Chynydd

Y Methodistiaid Calfinaidd ————
Yn ABERGELE, PENSARN, BETTWS,
LLYSFAEN, LLANDDULAS, PEN-
BRYN-LLWYNI, MORFA a THYWYN



Golygydd

Parch FRANCIS JONES

ABERGELE




Argraffwyd gan E. W. Evans Swyddfa'r Goleuad

Dolgellau

BLAENAIR

WRTH ollwng y llyfryn bychan hwn o'm llaw, dymunwn yn gyntaf oll gydnabod yn ddiolchgar y cynorthwy a gefais gan amryw i gasglu yr hanesion hyn at eu gilydd. yn enwedig y brodyr y gwelir eu henwau ynglyn a'u hysgrifau, Ac hefyd am y rhyddid a ganiatawyd i mi i dynu oddiwrth, a chwanegu at yr hyn a ysgrifenwyd ganddynt. Bu y naill yn angenrheidiol droion er mwyn osgoi ail adroddiadau, a'r llall oherwydd ffeithiau a hanesion y teimlwn na ddylesid eu gadael allan oedd yn hysbys i mi, ond na choffeid ganddynt hwy.

Yr wyf yn ddiolchgar hefyd i swyddogion Cyfarfod Ysgolion Sabbothol y Dosbarth am ymgymeryd â phob cyfrifoldeb ynglyn à chyhoeddi yr hanes, heb i mi gymaint a gofyn hyny ganddynt.

Pan yn cyfeirio at yr oediad i gofrestru capel Abergele fel addoldy Ymneilltuol (tudalen 10) ofnaf fod fy ngeiriau yn gamarweiniol. Am ddwy flynedd yr oeddynt wedi oedi, ac nid am chwech; oblegid yn 1795 y penderfynodd y Methodistiaid osod eu hunain dan nawdd y gyfraith wladol.

F. J.

CYNWYSIAD

ABERGELE A PHENSARN
BETTWS
LLYSFAEN
LLANDDULAS
PEN BRYN LLWYNI A'R MORFA
TYWYN


METHODISTIAETH YN ABERGELE

GAN Y PARCH. FRANCIS JONES.

PENNOD I

Cyn Adeiladu y Capel.

ER mai y Methodistiaid Calfinaidd yw yr enwad Ymneillduol hynaf yn Abergele, nid yw eu hanes hwy, o leiaf yn y dref, yn ymestyn ymhellach yn ol na blynyddau diweddaf y ddeunawfed ganrif. Oherwydd rhyw reswm—yspryd erledigaethus y trigolion fel yr ymddengys—byddai y pregethwyr Ymneillduol pan yn ymweled â'r amgylchoedd hyn yn wastad yn osgoi y dref. Yr oedd profiad yr efengylwyr yn y parthau hyn yn ddiau yn gyffelyb i'r hyn oedd ymron yn mhob man arall, fod y cyd-gasgliad o ddynion digrefydd a geid yn y trefi yn eu gwneyd yn hyfach a mwy ymosodol na'r rhai fyddai yn byw yn yr ardaloedd. A dywedir fod Abergele yn yr adeg hono yn hynod am ei hannuwioldeb. Hyd yn nod yn nechreu y ganrif ddiweddaf yr oedd yr ymladdfeydd a gymerai le ar y ffeiriau yn fwystfilaidd. Pan y byddai yr ymladdfa yn parhau yn hir, neu yn debyg o barhau felly, symudai yr ymladdwyr a'r cwmni i'r cae sydd yn mhen gorllewinol y dref—"Cae y Bee;" ac y mae rhai yn awr yn fyw sydd yn cofio un o'r ymladdfeydd hyny yn terfynu yn angeuol. Pa bryd y beiddiwyd wynebu ar y dref gan bregethwr Ymneillduol nid yw yn hysbys; ond myn traddodiad mai un o bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd oedd, ac mai yn y Tanyard sydd yn bod eto, ar ochr ddwyreiniol Water Street, y cynhaliwyd yr odfa. Nid yw yn hysbys gan bwy nac yn mha le y pregethwyd gyntaf yn y gymydogaeth, chwaith. Sonir yn Methodistiaeth Cymru (iii. 272) am ymweliad o eiddo y Parch. William Davies, Castellnedd, a'r Bettws, yr hwn a ddaeth yno ar daer wahoddiad dau wr ieuanc o'r lle hwnw, sef Edward Evans a Copner Williams —yr olaf y cyfreithiwr wedi hyny o Ddinbych—y rhai a aethant i Gymdeithasfa y Bala yn bwrpasol i geisio cyhoeddiadau pregethwyr i'r ardaloedd hyn. Ond er iddo ddyfod, rhwystrwyd Mr. Davies i bregethu gan waith perchenogion tâs o frigau coed y safai ef yn ei chysgod, yn ceisio ei dymchwel arno, a thrwy hyny gythryblu ei feddwl yn ormod iddo fyned rhagddo. Dywedir hefyd i'r ddau wr ieuanc gael addewidion gan amryw eraill, ond nid oes gwybodaeth pwy oeddynt na pha bryd y daethant. Rhaid fod ymweliad Mr. Davies rywbryd wedi iddo ymadael â'r Eglwys Sefydledig, yr hyn a wnaeth tua 1773 neu 1774, a chyn 1781, oblegid y flwyddyn hono y bu ef farw. Crybwyllir yn Nghofiant y Parch. John Davies, Nantglyn, y bu Mr. Davies yn yr ardaloedd hyn tua 1779 neu 1780, pryd y pregethai ar y geiriau. "Yr hwn a osododd Duw yn iawn," &c., a'r pryd y cafodd efe "gymorth i roddi ei hun i'r Arglwydd i fyw a marw, ac am byth." Y tebyg yw mai dyna yr adeg yr ymwelodd a'r Bettws hefyd. Y mae sicrwydd modd bynag, y dechreuwyd pregethu gyda mwy neu lai o reoleidd-dra yn ffermdy y Nant Fawr tua'r adeg hono. Y mae yn amlwg y camarweiniwyd awdwr Methodistiaeth Cymru wrth ei hysbysu mai yn y Bryngwyn—ty bychan tua haner y ffordd rhwng Abergele a'r Bettws—y pregethwyd, ac yr arferid pregethu gyntaf yn yr ardaloedd hyn. Fel arall y dywedid wrth rai sydd eto yn fyw gan hen bobl oedd yn cofio hyny. "Yr oedd y seiat yn y Bryngwyn, a'r pregethu yn y Nant Fawr," meddent hwy. Ac â hyn y cytuna yr hyn a ddywedir yn y Drysorfa am 1847, t.d. 388, yn nghofiant merch i'r William ac Anne Jones oedd yn byw yno ar y pryd. Hwynthwy, meddir yno, "a agorasant eu ty gyntaf o bawb yn y cymydogaethau hyn i groesawu achos y Methodistiaid Calfinaidd." Yr oedd dau reswm dros drefnu i'r pregethu fod yn y Nant Fawr ac i'r cyfarfod eglwysig fod yn y Bryngwyn. Ty bychan oedd y Bryngwyn, tra yr oedd y Nant, fel y mae eto, yn dy eithriadol helaeth. Heblaw hyny, yr oedd Thomas Roberts, y gwr a gartrefai yn y Bryngwyn, yn aelod Eglwysig proffesedig, tra nad oedd William Jones, y Nant, felly y pryd hwnw o leiaf, na'r wraig chwaith, hyd y gwyddis, er eu bod yn bobl tra bucheddol. Naturiol, gan hyny, oedd i'r moddion gael eu trefnu fel y gwnaed. Y Nant Fawr yn ddiau, oedd cartref y moddion cyhoeddus, a'r Bryngwyn y cyfarfod eglwysig. Ymhlith y rhai a ddeuent i'r Nant i bregethu, y mynychaf oedd yr ymroddgar Edward Parry, o Frynbugad, ger Tanyfron, Llansannan. Tymhor ei weinidogaeth ef oedd o 1760 hyd 1784, pryd y bu farw. Yr oedd efe, heblaw bod yn rhagori ar y nifer fwyaf o'r pregethwyr lleygol a gyd-oesent âg ef mewn diwylliant a doniau gweinidogaethol, yn rhagori hefyd yn ei awyddfryd am ddwyn ei gymydogion a'r wlad oll hyd y gallai ef ei chyrhaedd, i dderbyn a chredu yr efengyl. Mae yn sicr gan hyny, yr ystyriai ef y Nant a'r amgylchoedd hyn yn rhan arbenig o'i ofalaeth, yn enwedig gan y tybir yr elai William Jones yn achlysurol i Frynbugad i'r pregethau, ac fod Thomas Roberts, fel y crybwyllwyd eisoes, yn aelod o'r eglwys oedd yn cyfarfod yno.

Yr oedd y Thomas Roberts hwn yn wr nodedig am ei yni naturiol, yn gystal a chrefyddolder ei ysbryd, ac yn haeddu cael coffa un ffaith ymhellach am dano. Pan na byddai pregethwr yn y Nant nac unman yn ei ardal ef ei hun, cerddai fore Sabboth erbyn naw o'r gloch i Frynbugad —pellder o tuag wyth milldir, ac yn gyffredin i'r Bontuchel, deg milldir yn mhellach, erbyn dau, ac i'r Dyffryn, chwech neu saith milldir i gyfeiriad arall, erbyn chwech; yna adref, wedi teithio o leiaf 37 milldir; a byddai wrth ei orchwyl bore Llun mor gynar a neb yn y fro. Dechreuwyd cynal y cyfarfod eglwysig yn ei dy ef yn dra chynar; ryw gymaint o leiaf cyn 1778, am y gwyddis mai dyna y flwyddyn yr ymunodd Mr. Thomas Edwards, Llanelian—Thomas Edwards y pregethwr o Liverpool, wedi hyny—â'r eglwys fechan yn y lle. Yr oedd y Bryngwyn yn fan canolog i'r aelodau oedd ar wasgar yn Llanelian, Llysfaen, Bettws, Llansantsior, ac Abergele, i gyfarfod ynddo; a dyma fu eu hunig fan cyfarfod am flynyddau lawer. Y mae enwau amryw o aelodau yr eglwys fechan hon eto ar gael. Heblaw. y Thomas Roberts oedd yn byw yn y ty, diau fod John Griffith, "gwr craff a llygadog," a ddaeth yma o Adwy'r Clawdd, ac Edward Evans a Copner Williams, o'r Bettws, yn mysg y rhai cyntaf; yna Thomas Edwards (Liverpool), John Hughes, (Mansfield Street, Liverpool); Robert Parry, Llansantsior; Thomas Lloyd—wedi hyny y gweinidog a'r ysgolfeistr " y mae ei enw a'i goffadwriaeth mor adnabyddus a pheraroglaidd; John Hughes, Penybryn; Thomas Jones, Tanyrogof; ac o bosibl Thomas Jones ac eraill o deulu y Nant Fawr. Ymddengys mai John Griffith a olygid yn flaenor y gymdeithas. Nis gellir bod yn hollol sicr am yr amser y peidiwyd a defnyddio y Bryngwyn fel man y cyfarfod eglwysig. Ond y mae yn sicr mai yno y cyfarfyddid am flynyddoedd wedi adeiladu y capel yn y dref. Yn y Bryngwyn yr oedd yr eglwys pan ymunodd Mr. T. Lloyd â hi yn 1796, er fod y capel wedi ei adeiladu yn y dref yn 1791. Ond yr oedd yr eglwys yn y Bryngwyn, mae'n amlwg erbyn hyn wedi dyfod yn ddigon lliosog i ymranu yn dair o wahanol gymdeithasau yn yr ardaloedd cylchynol—un yn nhref Abergele, arall yn Nhy'nycoed, Llanelian, y ty y traddododd y Parch. Henry Rees ei bregeth gyntaf ynddo, a'r llall mewn ty anedd o'r enw Court Field, yn y Bettws, lle y cartrefai Evan a Margaret Evans, hi yn ferch i Twm o'r Nant. Flynyddau yn ddiweddarach yr adeiladwyd yno gapel gan Mr. David Roberts, Bodrochwyn ganol, ar ei draul ei hun, ar anogaeth y Parch. John Davies, Nantglyn (Meth. Cym., iii. 279).

PENNOD II

O'r adeg yr Adeiladwyd y Capel cyntaf hyd ddiwedd oes y Parch. Thomas Lloyd.

HEBLAW y Bryngwyn a'r Nant Fawr, yr oedd gan yr ychydig Fethodistiaid yn Abergele a'r gymydogaeth, fan- cyfarfod yn y dref hefyd cyn adeiladu yma un capel. Ond ymddengys mai yr unig foddion crefyddol a gynhelid ynddo oedd cyfarfod gweddio, a hyny o bosibl yn unig yn achlysurol, weithiau ar y Sabboth, ac weithiau ar nosweithiau'r wythnos Eto gwneid cymaint o ddefnydd o hono, fel, er mai ty anedd ydoedd, yr adnabyddid ef gan bawb wrth yr enw "y Ty Cwrdd." Safle y ty oedd ar yr ochr orllewinol i Heol y Capel, ychydig yn is na haner y ffordd o waelod yr heol i'r capel presenol. Y gwr a gartrefai yno ar y pryd oedd un o'r enw Hugh Jones. Wedi crybwyll ei enw ef, anhawdd peidio cyfeirio at asbri yn gystal a chrefyddolder ei ysbryd. Yr oedd efe yn rhywfaint o fardd—o leiaf yn gynganeddwr. Ryw dro, pan yn dymuno cael awrlais newydd, anfonodd archiad am dano at Mr. Richard Griffith, Awrlais-wneuthurwr, Dinbych, tad yr hybarch Archdderwydd Clwydfardd, yn y geiriau canlynol:—

Yn dda cywira ddeiol—y bysedd
A'i bwysau'n briodol,
Un gonest yn ei ganol,
A'i ben yn iawn, heb bin yn ol.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn Abergele yn 1791, ar dir a gafwyd ar delerau manteisiol, gan wr o'r enw Hugh Pierce, a ddaethai yma o Henllan. Ac y mae yn deilwng o'i gadw mewn cof mai gan yr un gwr y cafodd y Wesleyaid yn 1804, a'r Annibynwyr yn 1842, dir i adeiladu eu capelau cyntaf hwythau. Ymhen yn agos i chwe' blynedd—— a phaham yr oedwyd cyhyd tybed?—yr ydym yn eu cael yn ei gofrestru yn ol y gyfraith yn lle addoli. A ganlyn sydd gopi o'r cais ac o'r cadarnhad:—

"To the Right Reverend Lord Bishop of St. Asaph—

This is to Certify that we whose Names are hereunto subscribed being some of his Majesty's Protestant Dissenting Subjects together with Others of the Same Persuasion do intend to Meet for Religious Worship at a Chapel Called Chapel Street Ucha, in the Township of Gwrych, in the Parish of Abergele, in the County of Denbigh, and Desire the same to be Recorded.

JOHN HUGHES.
JOHN GRIFFITHS.
WILLIAM JONES.
JOHN JONES.
THE MARK X OF DAVID ROBERTS.
JNO. HUGHES.

Entered of Record in the publick episcopal Registry of Saint Asaph the 15th day of June, in the year of our Lord, 1797.
JOHN JONES, Dep. Regr."

Y cyfleusdra a'r llonyddwch y gwelai a roddid iddo yn y capel hwn yn ddiau a arweiniodd y Parch. Thomas Lloyd i symud ei ysgol o Llansantsior i'r dref yn 1799. Mor fuan ag yr ymunodd efe â'r Methodistiaid yn y Bryngwyn, aeth y son am hyny i glustiau y gweinidog plwyfol a Mr. Hughes, Kinmel, tad Arglwydd Dinorben, yr hwn oedd yn byw gerllaw-dau o noddwyr yr ysgol; a chafodd y crefyddwr ieuanc brawf yn dra buan mai nid boddhaol ganddynt hwy ac eraill a fuasent hyd yma yn gefnogwyr iddo, oedd y cam a gymerasai. Ac i ddyfnhau ei gamwedd, ymhen dwy flynedd neu ychydig yn rhagor, beiddiodd yr ysgolfeistr ddechreu pregethu. Y canlyniad o hyn oedd i'r ddau foneddwr a enwyd, ac amryw eraill oeddynt yn gyfeillion iddo hyd yma gilio oddiwrtho, a deallodd yntau mai gwell fyddai iddo symud. Ond i ba le? Nid oedd Abergele yn fan deniadol iawn i ysgolfeistr Ymneillduol, yn enwedig i un oedd hefyd yn rhyfygu pregethu heb urddau esgobol. Yn y flwyddyn 1794, bum' mlynedd cyn hyn, yr oedd gwr o'r enw y Parch. Richard Jackson, M.A.. wedi ei benodi yn ficer y plwyf. Ac yr oedd ef, yn enwedig yn nechreu ei drigias yma, yn Eglwyswr cul ac erlidgar. Prawf o hyny yw y gwrthsafiad a wnaeth unwaith, yn dra buan wedi dod yma i fyw, i'r Parch. Rowland Hill, M.A., Llundain, i bregethu yn y man y saif y Town Hall arno yn awr—Odyn Frág y pryd hyny. Ond yn Mr. Hill cafodd ei drech ymhob ystyr. Pan y gorchymynai y Ficer iddo dewi, Pwy ydych chwi?" gofynai y gwr dieithr.

"Ficer y plwyf," atebai yntau. "Felly yn wir," meddai y gwr o Lundain. "Rhyfedd iawn"; a chan droi at y gynulleidfa, ychwanegai, "A welwch chwi, fy nghyfeillion, yr wyf fi yma yn ceisio dweyd gair am a thros yr Arglwydd Iesu Grist, a dyma wr sydd yn proffesu bod yn was i Grist yn fy ngorchymyn i dewi." Mewn cywilydd, ac hwyrach gyda ias o euogrwydd cydwybod, troes y Ficer ymaith, ac yn ei ol i'w letty i Dyddyn Morgan. Ceisiodd hefyd aflonyddu ar odfa a gynhaliai y Wesleyaid ar yr heol yn ddiweddarach, tua 1802 neu 1803. Ond er y medrai ambell wr ei gywilyddio, nid oedd ef, a'r rhai a gydymdeimlent ag ef, yn gyfryw y gallai Mr. Lloyd ddisgwyl nemawr ffafrau ar eu llaw. Eto yr oedd y dref yn safle ganolog a manteisiol i gael ysgolheigion ac yr oedd yma gapel, a chroesaw iddo ef wneyd defnydd o hono. Yma y daeth, ac yma y cartrefodd wedi hyny yn fawr ei barch a'i ddefnyddioldeb am naw mlynedd a deugain gweddill ei oes.

Mewn rhan yn ddiau oherwydd yr achles a'r ymgeledd a roddwyd i'r achos trwy weinidogaeth a dylanwad personol Mr. Lloyd, aeth y capel cyntaf yn fuan yn rhy fychan. Helaethwyd ef yn 1808, a thrachefn yn 1833, ac y mae yn aros hyd yn awr fel y gwnaed ef y pryd hyny; a chynhelir Ysgol Sabbothol a moddion nosweithiau canol yr wythnos ynddo. Daeth yr eglwys yn ddigon cref yn 1836 (Meh. 2, 3) i gynal cyfarfod a elwid ar y pryd yn Gymdeithasfa. Nid y Gymdeithasfa Chwarterol reolaidd chwaith, canys yn y Bala ymhen y pymthegnos y cynhelid hono. Ond "Cymdeithasfa" ydyw yr enw a roddir arni yn yr adroddiad a anfonodd Mr. Emrys Evans, a adnabyddid yn ddiweddarach fel y Parch. Emrys Evans, i'r Drysorfa (1836 t.d. 284). Pregethid, oddieithr am 6 bore yr ail ddydd, yn yr awyr agored yn Nghae bach y Gwindy—y cae y mae New Street yn awr yn myned trwyddo. Y gweinidogion oeddynt William Brown. Mynwy; Hugh Edwards, Llandderfel: Rees Jones, Lledrod; Isaac Williams, Llanbrynmair; William Roberts, Amlwch: Cadwaladr Owen, Dolyddelen; Richard Jones, Bala; William Morris, Carmel (Rhuddlan yn ddiweddarach), a Roger Edwards, Wyddgrug. Ac ymhen pedair blynedd a haner, sef Ion. 6, 7, 8. 1841, cawn fod Cymdeithasfa Chwarterol yn cael ei chynal yma; ac un arall drachefn, Rhagfyr 22 a'r 23, 1842, ymhen llai na dwy flynedd, a sonir llawer am hono hyd heddyw gan y rhai sydd yn fyw o'r sawl oedd ynddi, oherwydd yr odfa ryfedd a gafodd y Parch. Hugh Jones, Llanerchymedd, 6 o'r gloch fore y diwrnod olaf. Er fod y Parch. Henry Rees, ac eraill o oreuon pregethwyr y Cyfundeb yn y Gymdeithasfa, am bregeth y Parch. Hugh Jones yn benaf, os nad yn unig y sonid ar ol i'r cyfarfodydd fyned heibio. O'r adeg hono ymlaen, cymerodd y frawdoliaeth yn Abergele y cyfrifoldeb yn eu tro o gynal y Gymdeithasfa pa bryd bynag y rhoddwyd iddynt y fraint o'i derbyn.

PENNOD III

O 1848 hyd 1908

YN mis Gorffenaf, 1848, cyfarfu yr eglwys Fethodistaidd yn y dref hon â'r golled fwyaf a gawsai er adeg ei sefydliad. Ar y 15fed o'r mis hwnw, bu farw y Parch. Thomas Lloyd. Nid oedd y brodyr oeddynt hyd yma wedi bod yn cyd-ofalu âg ef am yr achos, wedi bod erioed o'r blaen ond yn achlysurol, heb ei bresenoldeb a'i arweiniad ef, ac weithiau ddau neu dri o weinidogion eraill heblaw efe, i'w cynorthwyo ymhob cynulliad. Ond wele hwynt yn awr heb neb o honynt. Eithr gofalodd yr Hwn biau y gwaith am danynt. Yn ffodus iddynt hwy, ymhen tair blynedd, sef yn 1851, darfu i Mr. David Roberts, Liverpool, a'i fab, Mr. John Roberts, wedi hyny yr Aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Fflint, brynu palasdy Tanyrallt, yn y gymydogaeth, y lle ynghyd a Bryngwenallt yn ddiweddarach, y buont yn byw wedi hyny y rhan fwyaf o bob blwyddyn i ddiwedd eu hoes, a'r lleoedd y mae eu hiliogaeth yn parhau i gartrefu. Ac y y mae y nawdd a deimlai frawdoliaeth yn nghymdeithas a chynorthwy y Robertses o Danyrallt a Bryngwenallt," yn cael ei brofi yn y camrau a gymerasant yn y blynyddau dilynol. Yn fuan, sef yn 1858, cawn hwy yn paratoi ar gyfer cynydd yr iaith Seisoneg yn y lle, am yr hyn y cawn son eto. Ac yn gyfamserol yr ydym yn eu cael yn chwilio am bregethwr i lafurio yn eu mysg fel bugail, ac yn gwahodd y gwr ieuanc rhagorol, Mr. Joseph Evans, Dinbych, atynt ar derfyn ei dymor yn Athrofa y Bala yn 1859. Eithr ni bu ef yma ond ychydig wythnosau. "A nychdod fe'i torwyd ymaith," yn 26ain oed. Yn 1860, cawn hwy yn galw y Parch. Wm. Roberts atynt o Dywyn (Dyffryn Clwyd), lle yr oedd yn weinidog ac yn cadw ysgol. Bu ef yma mewn cysylltiad bugeiliol am 17eg o flynyddoedd, sef hyd nes yr yr ymddiswyddodd i wneyd gwaith efengylwr teithiol. Profodd ef yn helaeth o'r adfywiad crefyddol a fu yn y deyrnas hon trwy weinidogaeth y Mri. Moody a Sankey o'r America; a bu ei weinidogaeth yntau yn effeithiol i chwanegu llawer at yr eglwys hon, a lliaws o eglwysi eraill yn ngwahanol siroedd y Gogledd yn y blynyddoedd hyny. Yn 1866, ymgymerwyd a'r cyfrifoldeb o adeiladu capel newydd, am fod yr un a adeiladwyd yn 1791, er ei helaethu ddwywaith, wedi myned rhy fychan, yn gystal ag yn rhy henaidd; ac oherwydd dylanwad ac esiampl y Mri. David. a John Roberts, y naill yn addaw £500, a'r llall £250, dilynwyd hwy gan eraill gyda symiau llai, nes bod cyfanswm yr addewidion y noson gofiadwy hono yn Hydref y flwyddyn a enwyd yn agos i ddwy fil o bunau—swm na addawsid ei gymaint ar unwaith, o leiaf at gapel mewn unman yn Nghymru erioed o'r blaen.

Nis gallwn wrthsefyll y demtasiwn i roddi i mewn yma yr adroddiad a gyhoeddwyd yn y Faner yr wythnos ddilynol:—

CAPEL NEWYDD Y TREFNYDDION CALFINAIDD YN ABERGELE. Gan fod y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele mewn angen am gapel newydd, mwy na'r un presenol, a chan eu bod wedi llwyddo i brynu tir cyfleus i adeiladu arno, daethant i'r penderfyniad o gynal cyfarfod cyhoeddus i roddi cyfleusdra i'r eglwys a'r gynulleidfa hysbysu pa faint a gyfranant tuag at y Capel Newydd. Yr ydym yn deall mai y prif ysgogydd yn y mater oedd David Roberts, Ysw., Tan'rallt a Liverpool, yr hwn sydd bob amser yn esiampl i bawb mewn haelioni at bob achos da.

Aeth o amgylch at amryw o'r cyfeillion i edrych pa fodd yr oeddynt yn teimlo at y cynygiad o gael Capel Newydd, a chafodd dderbyniad mor groesawgar, ac addewidion am symiau mor dda, fel y teimlai Mr. Roberts yn hyderus fod y cyfeillion ereill yn y lle yn meddu yr un ysbryd haelionus. Wedi cyd- ymgynghori a'r cyfeillion, barnwyd mai y peth doethaf oedd iddynt roddi cyfleusdra i bawb roddi eu haddewidion yn gyhoeddus, gan gredu y byddai eu haelioni hwy yn ol geiriau yr Apostol yn foddion i "anog llawer iawn ereill" i ddangos yr un haelioni; ac y mae yn dda genym ddyweyd fod y canlyniad nos Wener diweddaf wedi profi doethineb eu cynllun. Er mwyn creu cymaint a ellid o ddyddordeb yn y symudiad, cydeisteddodd oddeutu tri chant o bersonau i yfed te rhagorol a barotoisid gan wahanol foneddigesau perthynol i'r eglwys, am yr hwn yr oedd pob un yn talu swllt. Amcan y tea party hwn oedd, nid yn gymaint cael arian at y capel, ond cael ychydig o gymhorth i roddi te am ddim i holl blant yr Ysgol Sabt thol perthynol i'r capel, yr hyn a wnaed ddydd Sadwrn diweddaf. Y Y Cyfarfod Hwyrol.—Cynhaliwyd y cyfarfod hwn am haner awr wedi chwech. Yr oedd y capel yn llawn o gynulleidfa barchus; ac yr oedd sirioldeb yn teyrnasu ar bob wyneb, yr hyn a ddangosai eu bod wedi dyfod ynghyd i gefnogi achos ag oedd yn agos iawn at eu calonau. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Henry Rees, Liverpool. Cymerwyd y gadair gan D. Roberts, Ysw., Tanyrallt, yr hwn a ddywedodd: Y mae yn llawen genyf weled y cyfarfod hwn mor liosog, a phawb yn ymddangos mor siriol a hyfryd. Nid wyf yn meddwl fod eisieu i mi dreulio ond ychydig o amser i ddyweyd beth ydyw amcan y cyfarfod hwn. Nid oes un amheuaeth nad oes yma angen am gapel newydd. I brofi hyn, nid oes eisieu ond dyweyd fod y capel hwn yn rhy fychan, a bod yn anmhosibl cael eisteddleoedd ynddo i gyfarfod â'r gofyn am danynt. Pan ddaethum i yma, ni ellais gael ond haner set, ac yr oedd amryw ereill yn yr un amgylchiad; ac y mae Abergele wedi cynyddu llawer ar ol hyny, yr hyn sydd yn peri fod mwy o angen fyth am addoldy helaethach. Yn ol y lle sydd genym yn awr, nis gallwn fyned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau" i wahodd dynion i ddyfod i'r addoliad, oblegid nid oes genym ddim lle i'w rhoddi. Ond yn bresenol, yr ydym yn gwneyd cynygiad i adeiladu capel newydd eang a hardd, ac yr ydym yn meddwl mai ewyllys yr Arglwydd ydyw i ni wneyd hyn, oblegid y mae Efe yn ei Ragluniaeth ddoeth a da wedi agor y ffordd mewn modd neillduol i ni gael tir cyfleus i adeiladu arno. Ychydig o flynyddoedd yn ol, ni allesid cael tir cyfleus am bris yn y byd.

Ond oddeutu blwyddyn a haner yn ol, cynygiwyd y tir ar werth yn ymyl y capel presenol, a phrynwyd ef i fod yn eiddo bythol i'r corff o Fethodistiaid; ond er fod y tir yn gyfleus iawn, nid oedd modd gwneyd mynedfa lydan a manteisiol iddo, gan fod ty yn gorwedd rhyngddo a'r ffordd. Modd bynag, oddeutu mis yn ol, symudwyd y rhwystr hwnw trwy brynu y ty; ac yr wyf yn gobeithio y caiff y weddw sydd yn byw ynddo dy cysurus yn ei le. Y mae dau glo wedi eu hagor, ac yr ydym ni wedi dyfod yma heno i agor y trydydd clo. Yr unig rwystr sydd ar ein flordd yn awr ydyw cael arian i ddwyn y draul; ac nid wyf yn amheu na chawn hwy. Y mae yn awr yn amser manteisiol i wneyd casgliad. Ychydig yn ol, yr oedd pla y gwartheg yn gwneyd dinystr mawr mewn rhanau o Sir Fflint, ac yn dwyn llawer o amaethwyr i gyfyngder mawr; ond cadwodd yr Arglwydd y pla dychrynllyd hwnw rhag dyfod i gymydogaeth Abergele, ac ni chollodd yr un ffarmwr gymaint ag un anifail oddiwrtho; ac y mae yn briodol iddynt gydnabod yr Arglwydd am ei ddaioni—ei gydnabod, nid yn unig trwy ddiolch â'u genau, ond hefyd trwy gyfranu at ei achos Ef. Ond ni ddymunem feddwl nad ydym yn disgwyl i neb gyfranu ond amaethwyr. Na, y mae y waredigaeth rhag y pla yn lles i raddau mwy neu lai i bawb yn y gymydogaeth; ac yr ydym yn disgwyl i ereill gystal a hwythau amlygu eu diolchgarwch trwy gyfranu rhyw gymaint at yr achos hwn. Yr wyf yn teimlo yn sicr erbyn hyn y bydd i Abergele wneyd yn y cyfarfod hwn fwy nag a wnaed ar achlysur cyffelyb gan unrhyw gynulleidfa yn Sir Ddinbych, a rhoddent esiampl o haelioni i'r holl Dywysogaeth, Y mae arnom eisieu i bobl Abergele eu hunain wneyd y capel newydd, heb ofyn am, na disgwyl cymorth o un lle arall; ac, ond i ni gydweithio, yr wyf yn credu y gallant ei wneyd yn annibynol ar bawb. Byddai yn dda i ni gofio mai mewn undeb mae nerth. Llawer yn un sydd yn gwneyd pob peth mawr. Nid rhyw un tywodyn ar ei ben ei hun sydd yn atal y môr mawr rhag myned dros ei derfyn, ond crynhoad neu gydgasgliad o filiynau aneirif o dywod. Beth yw y cables mawrion sydd yn dal llongau mawrion ond llawer o ddolenau, ac y mae pob dolen yn y gadwen yn gwneyd gwasanaeth ag y buasai yn anmhosibl iddynt ei wneyd ar eu penau eu hunain. Ond i bobl Abergele fod yn un—pob un a phawb gydweithio yn ffyddlon —gallent wneyd llawer; a chofiwch mai "Y neb a ddyfthao a ddyfrheir." Os oes rhai sydd yn meddwl am gyfranu yn hen, dymunaf ddwyn ar gof i'r cyfryw y bydd llawer yn derbyn bendith i'w heneidiau yn y capel newydd, ac yn canu hymnau melus Williams o Bantycelyn pan y byddant hwy wedi myned i orphwys oddiwrth eu llafur. Yr wyf yn gobeithio y bydd i bawb wneyd ei ran yn ffyddlawn gyda'r gwaith da hwn.

Yna galwodd y llywydd ar y Parch. William Roberts, gweinidog y lle, i anerch y cyfarfod, yr hwn a ddywedodd:—Nid oes genyf ryw lawer i'w ddyweyd ar y mater hwn; ond y mae yn dda iawn genyf weled pawb yn cymeryd dyddordeb yn y symudiad presenol. Nid oes un ddadl nad oes yma angen am gapel newydd. Mae y capel hwn, nid yn unig yn hen, ond yn rhy fychan i gynwys y rhai a garent ddyfod iddo i wrandaw yr efengyl; ac felly, y mae yn lled. anhawdd i ni gyflawni yr Ysgrythyr hono, "Cymhellwch hwynt i ddyfod i mewn;" oblegid y mae y lle eisoes yn llawn. Yr wyf yn meddwl na ddylem fod gyda ein haddoldy ar ol ein cymydogion. Y mae y capel hwn wedi ei wneyd er's dros ddeng mlynedd ar hugain, ac wrth ei gymharu âg addoldai ereill, yn enwedig un, mae ymhell ar ol. Darfu i un boneddwr o Gaernarfon, wrth basio, wedi sylwi ar ymddangosiad anolygus y capel, ddyweyd, Nid oes yma neb yn teimlo rhyw lawer dros grefydd." Ond yr wyf yn teimlo y dylem symud ymaith bob achlysur i neb allu dyweyd fel hyn am danom. Yr wyf yn hyderu y gwnawn gapel fydd yn anrhydedd i grefydd, ac yn anrhydedd i'r enwad yr ydym yn perthyn iddo. Mae Abergele wedi gwneyd llawer i gynorthwyo pobl ereill i gael capelydd heirdd, ac wedi ymfoddloni yn rhy hir ar un gwael eu hunain. Carwn yn fawr i'n haelioni fod mor helaeth fel y bydd y capel newydd yn ddiddyled ar ddydd. ei agoriad. Ewyllysiwn i ni fod ar y blaen mewn haelioni i roddi esiampl i holl Fethodistiaid Cymru—i ddysgu pawb o honynt i weithio eu hunain, ac i beidio dibynu ar ereill. Yr wyf yn gobeithio y dengys y canlyniad o'r cyfarfod hwn nad ydyw eglwys Abergele ar ol i un eglwys yn Nghymru mewn haelioni. Clywir rhai yn haeru—ac nid heb beth achos—mai lled isel ydyw wedi bod yn y gras hwn, ond yr ydym yma heno yn myned i wneyd peth a rydd daw bythol ar bob siarad o'r natur yma yn y sir. Pobl hael oedd pobl o galon fawr. Yr oedd rhyw gardotyn yn arfer gwneyd llun calonau y bobl a fyddent yn rhoddi cardod iddo; a byddai yn arfer gwneyd maint eu calonau yn ol maint eu rhoddion iddo. Os mawr fyddai y rhodd, gwnai lun y galon yn fawr; ac os bychan, bychan fyddai y llun. Yr wyf yn hyderu fod gan bob un sydd yma galon fawr—calon ddigon mawr i beri iddynt gyfrauu yn ol eu gallu at yr achos hwn.

Yna anerchwyd y cyfarfod yn yr iaith Saesneg, gan John Roberts, Ysw., Tan'rallt, mab D. Roberts, Ysw., o'r un lle, a gwnaeth y sylwadau canlynol:—Yr wyf yn codi i'ch llongyfarch ar y dyddordeb a gymerir yn y symudiad presenol. Nid symudiad afreidiol ydyw. Mae yn amlwg nad oes digon o le yn y capel fel y gallwn wahodd ein cymydogion i gyfranogi o'r un breintiau crefyddol a ni; ac os oedd yn rhy fychan, ein dyledswydd ydyw ei wneyd yn fwy. Dymunwn yn fawr anog y bobl ieuainc sydd yma, nid yn unig i deimlo dyddordeb yn yr achos hwn, ond i gefnogi pob achos da, gan gofio mai amcan y Creawdwr yn ein hanfon i'r byd yma ydyw gwneyd daioni. Ewyllysiwn i chwi hefyd, nid yn unig i beidio cywilyddio o'r enwad crefyddol yr ydych yn perthyn iddo, ond i fod yn falch o hono. Yr wyf yn credu fod ein henwad ni, o ran athrawiaeth, disgyblaeth, a thalentau, yn meddu y safle uchaf yn Nghymru. Gadewch i ni wneyd capel teilwng o honom ein hunain, ac o'n henwad. Yr ydym, fel y mae yn hysbys i lawer o honoch, yn adeiladu capel yn Liverpool a ddeil i'w gymharu âg un yn y dref hono, os nad yn y deyrnas; ac yr oedd y cyfeillion yno wedi dangos haelioni anghyffredin; ac yr wyf yn hyderu y bydd i bobl Abergele wneyd ymdrech gyffelyb. Yr ydym weithiau yn cael ein. gwawdio ar gyfrif gwaeledd ein capelydd, ac nid yn gwbl ddiachos; ond yr wyf yn gobeithio y gwnawn ymdrech egniol i symud y gwaradwydd hwn oddiarnom; ac y bydd i bob un sydd yn bresenol wneyd ei ran tuag at ei symud. Carwn weled pawb yn dyfod i deimlo eu rhwymedigaeth i gyfranu yn ol eu gallu, ac i gyfranu yn siriol. Yn Jamaica, cynhaliodd y Negroaid. gyfarfodi lunio rheolau pa fodd i gyfranu at achos crefydd; ac wedi peth ymddiddan, mabwysiadasant y tair rheol ganlynol:—Yn gyntaf, fod i bob. un roddi rhywfaint; yn ail, fod i bob un roddi yn ol ei allu; ac yn drydydd, fod i bob un roddi yn ewyllysgar. Daeth un ymlaen gyda rhodd fechan, ond gwrthodwyd hi am nad oedd yn ol yr ail reol; yna daeth yr un Negro ymlaen drachefn gan gynyg rhodd fwy, gan ei thaflu i lawr mewn dull anfoddog, ond gwrthodwyd y rhodd hono drachefn am nad oedd yn ol y drydedd reol. Hyderai y rhoddai pawb oedd yn bresenol at yr achos hwn. yn ol ei allu, ac yn siriol, gan gofio mai at achos yr Arglwydd yr oeddynt yn cyfranu, ac y derbynia pob un ei wobr gan yr Arglwydd am yr hyn a gyfranai.

Yna anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. Robert Roberts, Brynhyfryd, yr hwn a ddywedodd:—Nid oes genyf rhyw lawer i'w ddyweyd ar y mater; ond y mae yn dda iawn genyf weled y teimlad a ddangosir yma heno, ac yr wyf yn credu ei fod yn rhywbeth mwy nag a all dyn ei gynyrchu; ac nid wyf yn amheu nad esgora ar ffrwyth gwerthfawr. Byddaf yn ystyried bob amser y dylem wneyd ein haddoldai yn hardd yn deilwng o anrhydedd achos Iesu Grist. Yr oedd boneddwr yn cydfyned â mi i'r stesion oddeutu pedwar o'r gloch prydnawn heddyw, ac wedi dechreu ymddiddan am y capel newydd, gofynodd, "A ydych chwi yn meddwl gwneyd rhywbeth heblaw pedwar mur?" Yr ydym bob amser hyd yma wedi arfer gwneyd ein capelydd yn y dull rhataf. Wrth sylwi ar yr hen lanau, nis gallaf lai nag edrych arnynt fel cofgolofnau o haelioni a theimlad crefyddol yr hen bobl gynt.

Beth bynag a ddywedwn ni am grefyddolder Eglwys Loegr, y mae y llafur a'r gost a gymerant i wneyd yr eglwysydd yn adeiladau mor ardderchog, yn dangos eu bod yn meddu llawer iawn o ryw fath o deimlad crefyddol, ac o syniadau cywir am yr urddas priodol i le o addoliad. Yn ngwyneb llwyddiant presenol pob dosbarth yn y wlad, yr wyf yn teimlo y dylem wneyd mwy gydag achos crefydd. Mae sefyllfa y Methodistiaid —gweithwyr y wlad yn gystal a phob dosbarth arall—yn llawer uwch yn awr nag oedd flynyddau yn ol; a dylai fod cynydd cyfatebol mewn haelioni yn ein mysg. Ni wna gweddio heb haelioni mo'r tro; ond y mae yn rhaid i chwi gyfranu yn gystal a gweddio. Yr wyf yn teimlo yn hyfryd oherwydd yr hyn sydd yn cychwyn yn Abergele; ac yr wyf yn hyderu y bydd i bawb gyfranu at y capel newydd. Nid ydyw aur ac arian o un gwerth ynddynt eu hunain; ond y mae y teimlad iawn sydd yn peri i bobl eu cyfranu yn anhraethol werthfawr. Goddefwch i mi ofyn i chwi, A fuoch chwi erioed yn gweddio am galon hael? Yr wyf yn cofio i mi unwaith ofyn i hen wr, "A fuoch chwi yn gweddio am i'r Arglwydd eich cyfarwyddo pa faint i'w roddi?"

"Naddo," atebai yntau, nid wyf yn meddwl fod eisieu gweddio am beth felly: gwn pa faint i'w roddi, a pha faint i'w gadw." Yr wyf yn gobeithio y bydd i bob un gyfranu at y capel newydd oddiar deimlad o'i ddyledswydd, yn ofn yr Arglwydd, a chydag amcan cywir i ogoneddu enw yr Arglwydd.

Yna anerchwyd y gynulleidfa gan y Parch. H. Rees, Liverpool, yr hwn a ddywedodd:—Buasai yn dda genyf pe gallaswn eich cyfarch mor gryno a chystal i'r pwrpas a'r cyfeillion sydd wedi eich cyfarch; ond yr wyf yn ofni fy mod yn rhy anfedrus i wneuthur, ac yn rhy hen i ddysgu. Yr wyf yn cofio capel yn Abergele cyn hwn, ac y mae yn arwyddo yn bresenol y caf fyw i weled capel newydd yma. Nid oes un lle ya Sir Ddinbych y carwn ei weled yn codi ei hun yn fwy nag Abergele. Bum yn Abergele yn yr ysgol gyda Mr. Lloyd, y dyn hoffaf a welais erioed. Yn nghymydogaeth Abergele y dechreuais bregethu 45 mlynedd yn ol. Mae yn hyfryd genyf weled Abergele yn ymysgwyd i weithio. Nid oes un amheuaeth nad oes yma nerth, a'r oll sydd yn eisieu ydyw iddi roddi ei nerth ar waith. Y mae son am danoch yn dechreu gweithio wedi cyrhaedd i Gonwy, ac ni synwn na bydd wedi cyrhaedd i Fangor a Chaergybi cyn nos yfory. Yr wyf wedi gweled Abergele lawer gwaith o'r blaen, ond ni welais mo honi erioed yn fwy bywiog nag y mae yn awr; ac yr wyf yn gobeithio mai nid bywiogrwydd y wenol ydyw. Mae y creaduriaid hyny yn fywiog, ond nid ydyw eu bywiogrwydd yn cynyrchu dim—yn dwyn un ffrwyth; ond yr wyf yn hyderu y dwg y bywiogrwydd sydd yma ffrwyth helaeth. Heb ddwyn frwyth ni bydd y te parti a phob peth ond ofer. Mi a ddymunwn fwy fwy ar achlysur fel hyn ochelyd bob dull o siarad ag sydd o duedd i hudo dynion yn unig—myned drostynt megis am eu harian, yn lle goleuo y meddwl a deffro y gydwybod a'r galon, a'u codi i actio oddiar egwyddorion ac ystyriaeth sanctaidd ac Ysgrythyrol. Pe bai'r efengyl yn nerthol weithio o'n mewn ni, mae hi yn ddigon cref i dynu ein henaid ni allan i bob haelioni, yn rhinwedd ei hysbryd a'i hegwyddorion ei hunan, heb gynorthwy dim moddion ansanctaidd a chynhyrfiadau dynol. Cauwch eich llogellau, a chofiwch tra y mae eich arian yn aros ynddynt, eu bod, fel y dywed Pedr wrth Ananias, yn aros i chwi, ac yn hollol yn eich meddiant, a pheidiwch a gadael i ddimai fyned allan o honynt ond oddiar argyhoeddiad o'ch dyledswydd. Ond tra yn cadw eich hunain yn berffaith annibynol ar ddynion, cofiwch eich rhwymedigaethau i Dduw. Gwyliwch, yn eich eiddigedd i gadw eich hawl eich hunain yn eich meddianau bydol, fyned i wadu hawl Duw. Os ydych yu berchenogion gyda golwg ar ddynion, goruchwylwyr ydych gyda golwg ar Dduw. Eiddo Ef yr aur, ac eiddo Ef yr arian; ac os oes rhyw gymaint o honynt yn eich gofal chwi heddyw, arian eich Harglwydd ydynt. Efe a'ch galwodd chwi, ac a roddes ei dda atoch; ac mor sicr ag iddo wneyd hyny, fe'ch geilw chwi eto i wneyd cyfrif â chwi am y defnydd a wnaethoch chwi o honynt hwy. Yr ydych yn awr yn myned it adeiladu capel newydd. Goddefwch i mi ofyn, I bwy yr ydych yn myned i'w godi ef? Oddiar ba ystyriaethau yr ydych yn myned i weithredu? A ydych chwi yn credu fod Duw yn eich galw chwi i wneyd hynyma? A ydych chwi yn credu fod rhwymau arnoch i'w wasanaethu Ef yn efengyl ei Fab? A ydych chwi yn credu bod eglwysi a chynulliadau Cristionogol, y gwasanaeth a'r addoliad sydd ynddynt, yn osodiadau Dwyfol—yn ffrwythau cnawdoliaeth a marwolaeth tragwyddol Fab Duw—yn foddion i waredu dynion o ddistryw, a'u parotoi i wynfyd diddiwedd? A ydych chwi yn profi eich bod chwi wrth ddyfod i gynulleidfa y saint yn dyfod i fynydd Seion?

Y mae yn sicr i chwi, pe na buasai y Beibl yn dyweyd gair wrthym am haelioni achos crefydd, y buasai naturiaeth ei hun, ond profi daioni gair ac ordinhadau ty yr Arglwydd, yn dysgu haelioni i ni, tra y mae achos crefydd yn galw am hyny. Ond y mae y Beibl yn dysgu y peth hefyd. Dyma un o'r prif ffyrdd i ddynion ddangos eu cariad at Grist yma. Oblegid y mae business teyrnas Crist ar y ddaear tan yr un condition a phob business arall yn gofyn arian i'w ddwyn ymlaen; ac felly, os bydd dyn yn caru Crist a'i achos, y mae'n sicr o ddangos ei gariad trwy fod yn gysegredig iddo. Gall angylion a saint yn y nef ei garu heb roddi dimai at ei achos ef; ond nid ellwch chwi wneyd felly, oblegid yn y byd yma y mae ei achos yn gofyn am arian i'w ddwyn ymlaen. Y mae crefydd, byth wedi'r cwymp, debygwyf fi, wedi bod yn fusnes costus yn ein byd ni. Yr oedd crefydd natur, o bosibl yn rhatach. Nid oedd ynddi hi un deml, oddieithr y greadigaeth; yr un eglwys na gwasanaeth crefyddol, oddieithr yn deuluaidd; nac un swyddog, oddieithr y pen teulu. Yr oedd crefydd, y pryd hwnw, gan mwyaf, hwyrach, yn gynwysedig mewn sancteiddrwydd ac ufudd-dod moesol. Wedi'r cwymp, yr oedd crefydd yn llawer iawn mwy costus. Fe welir yn eglur yn y Beibl fod dynion trwy'r oesoedd yn dwyn. o'u meddianau bydol i'r Arglwydd; ie, ac yn dwyn y goreu yn wastad hefyd. Dacw Cain ac Abel, y naill yn dwyn cynyrch y ddaear, a'r llall yn dwyn blaenffrwyth ei ddefaid, ac o'u brasder hwynt. Crefydd yn nyddiau Enoch oedd rhodio gyda Duw, a diamheu iddo gwrdd â llawer gate i'w thalu yn ffordd y cymundeb, cyn cyrhaedd i'r nefoedd. Crefydd Noah oedd gwneuthur yr arch; a chrefydd Abraham oedd gadael ei wlad, ac offrymu ei unig anedig fab. Os meddyliwn drachefn am y tabernacl yn yr anialwch y bobl oedd i godi hwnw; a dygasant hefyd eu pethau goreu ato, eu haur, eu harian, a'u tlysau. Ac, O! yr ysbryd oedd yno. Yr oedd y gwersyll yn llawn gwaith, a'r cwbl yn waith i Dduw. Yr oedd pob morthwyl yn curo, pob troell yn nyddu, pob gwaell yn gwau at y tabernacl, nes yn ebrwydd yr oedd yno ddigon a mwy na digon i'r gwaith. Yr oedd y gwasanaeth a ddygid ymlaen yn y tabernacl yn un costus iawn; a'r bobl oedd yn cynal y cwbl. Y bobl oedd yn dwyn yr aberthau drudfawr, o'r oen blwydd i'r bustach seith-mlwydd, yn feunyddiol, blynyddol, ac yn achlysurol, weithiau, yn ganoedd o rifedi. Fe neillduwyd un llwyth o'r deuddeg yn unig i wasanaethu Duw a'i dabernacl, ac yr oedd y llwyth hwnw i gael ei gynal gan y llwythau ereill. Yr oedd yr offeiriaid yn bwyta megis ar yr un bwrdd a Duw, a'r bwrdd hwnw yn cael ei gyflenwi trwy'r oesoedd gan y bobl. Os meddyliwn drachefn am y deml yn Jerusalem, gan y bobl y codwyd hi. A rhyfedd yr ysbryd, a rhyfedd y swm a gododd Dafydd a'i bobl at yr amcan hwnw. Beth oedd y draul i gynal y gwasanaeth hwnw am oesoedd? Ac eto, ni chawn mo Israel byth mor llwyddianus a phan yn ffyddlawn i Dduw a'i dy, a byth yn fwy tlawd a thruenus eu cyflwr a phan yn gybyddlyd a chrintachlyd at ei achos. A yw Duw yn gofyn llai wedi iddo roddi ei Fab? Na, fe'i gadawyd ef mewn tlodi o bwrpas i'w gyfeillion gael cyfleusdra i ddangos eu caredigrwydd iddo. Dechreuodd ei oes yn y preseb, a diweddodd hi ar y groes, a'r holl flordd rhwng y ddau heb le i roddi ei ben i lawr. Dangosodd y rhai a'i carai eu cariad ato yn union mewn haelioni. Daeth y doethion, nid yn unig i'w addoli, ond i gyfranu o'u meddianau iddo. Yr ydym yn cael fod gwragedd yn gweini iddo o'r pethau oedd ganddynt; a thorodd un wraig flwch o enaint o nard gwlyb gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef. Prynodd Joseph o Arimathea, yr hwn a fuasai ddisgybl i'r Iesu, liain main i amdoi corff yr Iesu. Dygodd Nicodemus hefyd tua chan' pwys o fyrr ac alöes yn nghymysg i'w berarogli ef. Yr oedd y disgyblion ar ddydd y Pentecost yn colli pob teimlad o'u meddiant yn eu meddianau gan fawredd eu cariad at Grist. Os awn i lawr i Macedonia, yr ydym yn cael ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu haelioni hwy, a'u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy." Amser drwg i wneyd casgliad oedd y pryd hwnw. Yr oeddynt mewn dwfn dlodi," "cystudd," ac erledigaeth; ond yr oeddynt yn profi y fath lawenydd crefyddol fel y chwyddodd eu haelioni yn llawer mwy nag yr oedd Paul yn ei ddisgwyl. Fe elwir arnom i anrhydeddu yr Arglwydd a'n cyfoeth; a chyn y gallwn wneyd hyny, rhaid i ni roddi i'r Arglwydd o'n cyfoeth. Nid ydyw yn anrhydedd yn y byd i'r Arglwydd ein bod yn casglu cyfoeth, ac yn cadw cyfoeth, ond ei roddi at ddwyn achos crefydd ymlaen yn y byd sydd yn anrhydedd i'r Arglwydd. Nid ydyw gwastraffu cyfoeth arnom ein hunain yn un anrhydedd i'r Arglwydd; ond ei gyfranu yn ol ein gallu sydd yn rhyngu ei fodd ef. Y mae yn bosibl i chwi ddirmygu yr Arglwydd, nid yn unig wrth beidio rhoddi, ond hefyd wrth roddi yn anheilwng—"Onid melldigedig yw'r twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddeadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i'r Arglwydd; canys Brenin Mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a'm henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd." Y rheol ddwyfol i roddi at achos crefydd ydyw, "megis y llwyddodd Duw ni"-hyny yw, rhoddi yn ol ein gallu, ac ni bydd llai na hyny yn gymeradwy gan yr Arglwydd. Ni wyr yr eglwys ei nerth heb ei roddi ar waith. Yr wyf yn gobeithio y bydd i eglwys a chynulleidfa Abergele wneyd ymdrech egniol y waith hon. Yr oedd son am haelioni y Cymry ymhlith y Saeson. Cynygiodd un boneddwr yn ei dystiolaeth o flaen y Pwyllgor Seneddol ar Addysg eu bod i adael i'r Cymry adeiladu eu hysgoldai eu hunain heb gymhorth y llywodraeth. Mewn atebiad i'r awgrymiad, gofynwyd iddo, "A ydych chwi yn meddwl yr aiff achos crefydd ymlaen felly yn Nghymru?" I'r hyn yr atebodd y boneddwr Y mae yn sicr o fyned ymlaen felly; y mae yn syndod beth y maent yn ei wneyd yn eu capelydd." Mewn un o gyfarfodydd y Social Science yn Manchester, dywedodd un boneddwr nas gellid dwyn addysg ymalaen felly yn Lloegr, ond ei fod yn credu y gellid yn Nghymru. Y mae sylw y Saeson fel hyn yn cael ei alw at haelioni y genedl fechan a llwydaidd sydd yn preswylio rhwng bryniau Cymru. Yr wyf yn gobeithio y bydd i bobl Abergele wneyd gorchest y waith hon, ac ymdrechu i ymgodi i safle uwch mewn haelioni nag unrhyw eglwys na chynulleidfa yn Sir Ddinbych. Diweddodd Mr. Rees yn ei araeth ragorol yn nghanol arwyddion o gymeradwyaeth frwdfrydig y gynulleidfa.

Dywedodd y llywydd eu bod wedi cael anerchiadau rhagorol, a'i fod yn hyderu yr esgorent ar ffrwyth helaeth. Hysbysodd y derbynid yr addewidion y noson hono, a'u bod i'w talu bob haner blwyddyn, ac i ddechreu yn nechreu y flwyddyn nesaf.

Yna anfonwyd tocynau o amgylch y gynulleidfa i bawb oedd yn bwriadu cyfranu at y capel newydd, i roddi i lawr arnynt symiau eu rhoddion a'u henwau.

Tra yr oeddid yn myned o amgylch gyda'r tocynau, canodd y cantorion dôn.

Gan na oddef ein terfynau i ni roddi yr holl addewidion, ni wnawn yma ond yn unig rhoddi y symiau mwyaf i lawr:-D. Roberts, Ysw., Tanyrallt, 5oop.; J. Roberts, Ysw., Tanyrallt, 250p.; Mr. Ellis, Ty Mawr, 100p, ; Mis. Williams, druggist, 100p.; Parch. H. Hughes, Brynhyfryd, 50p.; Mr. Elias (Ty Mawr, gynt), 50p; Mr. Jones, Jessamine Villa, 50p.; Mrs. Wynne, gweddw y diweddar Barch. Richard Wynne, o Ddinbych, 50p. ; Mrs. Edwards, Hendre Cottage, 50p.: Mr. Hughes, Penybryn, 50p.; Mr. Jones, Bronyberllan, 40p.; Mr. R. Davies, Bryn Coch, 40p.; Mr. Williams, Sireior, 30p.; Mrs. Williams, Sireior, 30p.; Mr. John Edwards, meddyg anifeiliaid, 25p.; Mr. William Ellis, druggist, 25p.; Mr. Roberts, diweddar o Benybryn, 25p.; Mr. Edward Lloyd, Post Office, 25p.; Parch. R. Roberts, Brynhyfyd, 20p.; Mr. H. Roberts, Manchester House, 20p.: Chwaer garedig, 20p.; Parch. William Roberts, gweinidog y lle, 10p. ; Mr. Edwards, druggist, 10p.; Mr. H. Hughes, Pensarn, top. : Mrs. Jones, Brynyliynon House, 10p.; Mr. John Jones, Castle View 10p.; Mr. E. Roberts, crydd, 10p.: Mr. John Lloyd, tailor, top.; Mr. H. Williams, Sea View, 10p.; ac ymhlith y lliaws a roddasant 5p., gallwn enwi un sydd yn aelod parchus gyda'r Wesleyaid, sef Mr. Littler. Wedi cyfrif yr holl addewidion i fyny, cafwyd fod y cyfanswm yn cyrhaedd i'r swm mawr o £1,803 15s. Oc. Pe buasai amryw gyfeillion ag sydd yn arfer bob amser a bod yn haelionus yn bresenol, credir na buasai y cyfanswm ddim llai na DWY FIL O BUNAU. Gan fod yr amser wedi myned ymhell, ni wnaeth yr hen dad hybarch. Mr. Hughes, Brynhyfryd, ond yn unig dyweyd ychydig eiriau mewn ffordd o ganmol yr haelioni anghyffredin a ddangosasid gan y cyfeillion. Ni feddyliodd erioed, meddai, weled y fath beth yn Abergele, ac yr oedd yn edrych arno fel arwydd o'u llwyddiant ymhob daioni, yn dymhorol yn gystal ag yn ysbrydol; ac yr oedd y sirioldeb a ddangosid gan bawb oedd yn y cyfarfod yn brawf eu bod yn cyfranu o'u calonau, ac oddiar gariad at lwyddiant teyrnas yr Arglwydd Iesu.

Cyfanswm y casgliad hwn pan y daeth y cwbl i law, yn ol cyfrifon manwl y Parch. Robert Roberts, Dolgellau—y pryd hwnw o Abergele—oedd £2001 18s. 7c. Ond chwanegwyd ato cyn hir symiau a adawyd gan ddwy foneddiges yn eu hewyllysiau, sef yr eiddo Mrs. Williams, Druggist, £500, a Mrs. Wynne, Post Office—cyn hyny o Ala Fowlia, Dinbych—£50. Nodwyd allan le yr adeilad yn Mawrth, 1867, dechreuwyd adeiladu ddydd Llun, Mai 13eg, a gorphenwyd yn Awst, 1868. Pregethwyd ynddo y waith gyntaf y Sabbath, Awst 9fed, gan y Parch. Henry Rees, Liverpool. Costiodd yr adeilad yn agos i bedair mil o bunau, heb gyfrif y gwaith a wnaed yn ddi—dâl gan gynifer âg wyth—ar—hugain o amaethwyr yr ardal. Ac er mor egniol oedd yr ymdrech a wnaed, yr oedd dyled o dros fil o bunau yn aros heb ei thalu.

Am rai blynyddau gadawyd y ddyled hon heb wneyd un ymgais tuag at ei lleihau. Yn niwedd 1883, modd bynag. yn gyfamserol a dyfodiad y gweinidog presenol i gartrefu yma, penderfynwyd ei dileu. Ei swm y pryd hwnw oedd 1009, neu yn hytrach 1159 os cyfrifir y £150 a roddasai y diweddar Mr. John Lloyd yn fenthyg ar y capel, ond a adawsai yn ei ewyllys i dalu y ddyled ar ol marwolaeth ei briod, ar y dealltwriaeth ei bod hi i gael y llog am y swm tra y byddai byw. Ni chyfrifid y swm hwn, gan hyny, yn hollol fel dyled. Bu Mrs. Lloyd farw Medi 1, 1889. Yn ei awydd i gefnogi yr yspryd rhagorol a welai yn y frawdoliaeth, cynygiodd Mr. David Roberts, Tanyrallt, gyfarfod yr oll a wneid gan yr eglwys a'r gynulleidfa, bunt am bunt, hyd yn £500. Ar unwaith gwelwyd y lan. Daeth rhai yn mlaen gyda'u haner canoedd, ac eraill gyda symiau llai; ac erbyn diwedd 1887 yr oedd y cwbl o'r ddyled wedi ei chlirio. Rhagfyr yr 28ain y flwyddyn hono cynhaliwyd cyfarfod arbenig i ddathlu yr amgylchiad, pryd yr hysbysai Mr. Hugh Williams, 1, Sea View—casglydd diwyd a di-orphwys y symudiad—fod ganddo £6 2s. 10½c, mewn llaw, wedi talu y ddyled a threuliau "gwyl y dathliad" hefyd. Ar derfyn y cyfarfod hwn cyfarchwyd ni gan yr hybarch Clwydfardd gyda'r englyn canlynol:—

Wele wyl anwyl inni—bywiol iawn
Iwbili i'n lloni;
Gorwych oll yw'ch cysegr chwi—
Di—ddyled dy addoli.

Yn 1887, hefyd, adeiladodd Mr. J. Herbert Roberts ysgoldy newydd a thy ynglyn â'r hen gapel ar ei draul ei hun, yr hwn a gostiodd iddo tua £400.

Ond daeth angenrhaid arnom yn fuan i fyned i ddyled drachefn. O herwydd fod y fynwent yn gorlenwi bu raid i ni yn 1888 brynu tir i'w helaethu, yr hwn a gostiodd £100; ac yn 1901—1903 gwariwyd tua £1600 am lanhau ac adgyweirio y capel, a dodi organ ynddo. Yn nechreu 1906 ymgymerasom â £50 O ddyled capel newydd Llanddulas. Ond ar gyfer y treuliau yna gadawodd Mrs. Williams, gweddw y diweddar Mr. Hugh Williams, Sea View, yr hon a fu farw Tachwedd 27, 1901, £400 yn ei hewyllys. Rhoddodd Mr. W. Ellis, Ty mawr, £100 at dalu am yr organ. A gwnaed casgliad cyffredinol yn 1903, nes dwyn y ddyled i lawr i £400.

A thra yn son am roddion, anheilwng fyddai ynom anghofio y rhestr ganlynol o gymwynasau a dderbyniwyd o bryd i bryd yn ystod y deugain mlynedd diweddaf:—

Gan y ddiweddar Mrs. Roberts, Bryngwenallt, y cafwyd yr harmonium a ddefnyddiwyd am flynyddau lawer cyn adeiladu yr organ, ac a ddefnyddir eto, yn achlysurol, yn y capel newydd.

Gan Mrs. Matthews—Miss Davies y pryd hwnw—Pant Idda, ar agoriad y capel, y cafwyd y flaggon a ddefnyddir yn ngwasanaeth y Cymundeb. A chan Mrs. Robert Ellis—


Williams y pryd hwnw—y cafwyd y cwpanau a'r platiau at yr un gwasanaeth.

Gan Miss Lloyd, Ironmonger, y cafwyd y gwpan a ddefnyddir yn ngwasanaeth Bedydd, y platiau casglu, ac yn ddiweddarach harmonium, eiddo ei diweddar chwaer, at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol.

Gan Miss Roberts a Miss Ella Roberts, Tan yr allt, y cafwyd y piano sydd yn yr Ysgoldy.

Cafwyd, hefyd, Feibl yn rhodd gan Mrs. Edwards, Park Villas, at wasanaeth y pulpud; ac un arall gan Mrs. Vaughan, gynt o Benybryn.

PENNOD IV.

Yr Ysgol Sabbothol.

Ymddengys mai y man cyntaf y cynhaliwyd Ysgol Sabbothol ynddo yn yr amgylchoedd hyn oedd y lle y pregethwyd ynddo gyntaf—y Nant Fawr. Adroddid gan Mrs. Davies, Roe Gau, Llanelwy, yr hon a fagwyd yn y gymydogaeth, a fu farw yn 1895, yn 95 oed, y byddai William Jones, y Nant, yn cerdded prif—ffyrdd a chaeau a thai y gymydogaeth pan yr oedd hi yn blentyn i gymell hen ac ieuainc iddi. Ac nid amhossibl na pharhawyd yr ysgol hon am ysbaid wedi adeiladu y capel yn y dref. Dechreuwyd Ysgol hefyd, yn dra buan ar ol hon, yn nechreu y ganrif ddiweddaf, os nad cyn hyny, yn y Wern bach, gerllaw y lle y mae capel Tabor yn awr. Enwau gwr a gwraig y ty oedd Thomas a Catherine Jones. Gofalid am hon gan Mr. John Hughes, Penybryn. Wedi marw Thomas a Catherine Jones symudwyd yr ysgol i ffermdy Gwern y ciliau; ac yno y bu am flynyddau ac yn dra llewyrchus. Yn 1854 adeiladwyd capel Tabor ger llaw, a symudwyd yr ysgol yno. Wedi adeiladu capel yn y dref sefydlwyd yma hefyd ysgol yn ddioed; ond ymddengys mai gwedd dra syml oedd arni y Sabbothau a'r misoedd cyntaf. Yr oedd yr hen oedd yn dyfod iddi bron oll mor anwybodus a'r ieuainc, ac am hyny eisteddai y cwbl gyda'u gilydd yn un dosbarth. Tua chanol y ganrif o'r blaen cychwynodd caredigion crefydd yn y dref ysgol yn y Pant—ty anedd sydd yn awr yn adfeilion, ar ochr aswy y ffordd sydd yn arwain gyda chefn parc Castell Gwrych i Pant idda, &c. Rhoddwyd hon i fyny yr adeg yr adeiladwyd capel Llanddulas, yn 1844. Arolygwyd yr ysgol hon am dros ugain mlynedd gan Mr. Henry J. Roberts, Manchester House. Bu ysgol, hefyd, dan nawdd brodyr o'r dref, yn cael ei chynal am flynyddau mewn ty anedd yn Mhensarn, nes iddi gael cartref amgenach yn y capel—Cymraeg yn awr a adeiladesid i'r achos Saesnig yn 1858. Gwr ieuanc o Lysfaen, o'r enw Elias Evans, saer wrth ei alwedigaeth, ac a fu farw yn Ngholwyn Bay, oedd y gofalwr cyntaf am yr ysgol hon; ac ar ol hyny bu dan ofal y Mri. Edward Roberts, crydd; Jonah Lloyd. John Jones, saddler, Abergele; ac Owen Jones, Pensarn. Mewn llyfr sydd yn awr ar gael yn llawysgrif Mr. Thomas Lloyd, Ty mawr uchaf—cyfaill mynwesol y Parch. Henry Rees (gwêl Cofiant, t.d. 79, &c.)—cawn fanylion cyfrifon ysgolion y dosbarth hwn am y blynyddau 1819, 1820, ac 1821, ynghyd â chrynodeb o'r sylwadau a wneid yn nghyfarfod y cynrychiolwyr; a dyddorol ydyw gweled cofnodion un o'r cyfarfodydd hyny yn llawysgrif Henry Rees, yr hwn oedd ar y pryd yn wr ieuanc yn yr ysgol ddyddiol yn y dref gyda'r Parch. Thomas Lloyd. Dengys y cofnodion hyn fod yr Ysgol Sabbothol yn y dref a'r amgylchoedd yn y cyfnod hwnw yn dra llewyrchus.

Yr un a wnaeth fwyaf ynglyn a'r Ysgolion Sabbothol yn nosbarth Abergele, yn gystal a dosbarthiadau eraill yn sir Ddinbych yn ystod yr haner can mlynedd diweddaf, yn ddiau, oedd y Parch. Thomas Gee. Yr oedd ei yni, ei fywiogrwydd, a'i fedr i ddeffro meddyliau, ac i ddenu atebion yr ieuainc, canol oed, a hen, y fath fel ag i'w osod ef ar ei ben ei hun fel arholwr; ac ni byddai yntau byth yn fwy wrth ei fodd na phan yn gwneyd hyny. Ar ei waith yn ymddiswyddo yn Mehefin, 1891, cyflwynodd y dosbarth hwn iddo anerchiad goreuredig yn y Gymanfa Ysgolion a gynhelid yn Abergele ar y pryd, i gydnabod ac i gadw mewn cof eu rhwymau iddo. Dilynwyd ef yn y gwaith yn rhan orllewinol dosbarth Abergele, sef y saith ysgol sydd yr ochr hono i'r afon Glwyd gan y Parch. D. L.. Owen, Bettws y pryd hwnw; Mr. Isaac Jones, Mr. John Jones, saddler; y Parchn. Owen Foulkes, Bettws; Francis Jones, Abergele; Robert Griffiths, Dinbych, a Robert Williams, Tywyn, yr arholwr presenol.

PENNOD V.

Y Pregethwyr fu yma yn Cartrefu.

GAN fod hanes pob un o'r rhai hyn eisoes yn argraffedig, nid oes achos am nemawr mwy yn y nodiadau canlynol na choffa amser ac yspaid eu cysylltiad a'r lle ac a'r eglwys hon.

THOMAS LLOYD.—Brodor o Gyffylliog ydoedd efe. Ganwyd ef yn 1776. Yn 1794 agorodd Ysgol Ddyddiol yn Llansantsior. Safle ei ysgoldy yno oedd y man y mae Mausoleum teulu Kinmel arno yn awr. Tra yno yr ymunodd â'r eglwys fechan yn y Bryngwyn, ac ymhen dwy neu dair blynedd dechreuodd bregethu. Symudodd, a'i ysgol gydag ef, i Abergele yn 1799, ac yma ar ol hyny y cartrefodd. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y Bala, Mehefin 15, 1819. Oherwydd ei ddyledswyddau ynglyn a'r ysgol ni theithiodd ond ychydig i bregethu ar hyd a lled y dywysogaeth; ac am y 25 mlynedd diweddaf ei oes, ni theithiodd ddim o gwbl. Nid ei deithiau ac nid ei dalentau a'i gwnaeth ef yn wr mor gyhoeddus, ond ei lafur dyfal, maith a llwyddianus fel ysgolfeistr, a'i gymeriad crefyddol, diarebol lednais a phur. Mae yn debyg na welodd Abergele neb erioed o'i mewn yn llai ei frychau nag ef, na neb a fu o fwy o wasanaeth i'r achos crefyddol. Wrth weddio drosto yn ystod ei waeledd diweddaf, adroddir i un o'r brodyr—yr hynod William Mark—ddweyd yn symledd ei galon, "O! Arglwydd, cofia ein brawd, dy was, yn ei gystudd, a maddeu iddo ei bechodau, os oes ganddo bechodau hefyd. Ni wyddom ni am neb a chan lleied o honynt ag ef. Pa fodd bynag ni wn i ddim." Ac ysgrifenai y Parch. Henry Rees am dano yn y Traethodydd (1853. 231—260), "Mi a'i hanrhydeddwn ef fel tad: mi a'i hoffwn ef fel yr hoffir plentyn bychan diddichell; a thra y glynai fy enaid wrtho fel brawd anwyl, eto yr oeddwn yn teimlo rhyw fodd fel pe buasai honi brawdoliaeth a'r fath wr yn honi gormod o gydraddoldeb." Dioddefodd lawer oddiwrth amrywiol anhwylderau, ond yr hyn a derfynodd ei oes oedd cancer yn y wyneb. Daeth ei fywyd defnyddiol i ben Gorphenaf 15. 1848, yn y Bryndedwydd, yn y Street Uchaf, ac efe yn 72 mlwydd oed. Claddwyd ef yn y fynwent blwyfol, mewn hiraeth mawr a chyffredinol am dano, a gosodwyd cofadail hardd ar ei fedd.

HENRY REES. Wedi dechreu pregethu yn Ebrill. 1819, daeth yma i fod dan addysg y Parch. Thomas Lloyd yn Gorphenaf yr un flwyddyn, a bu yma hyd Mehefin, 1821. Yna aeth i'r Amwythig i ddysgu rhwymo llyfrau; ond fel y dywedai ei frawd, y Parch. William Rees am dano, "Y llyfrau yn hytrach a'u rhwymodd ef." Gwelodd y brodyr perthynol i'r eglwys fechan oedd yno ei werth, a gwahoddasant ef i roddi heibio ei alwedigaeth, a dyfod yn weinidog iddynt hwy, yr hyn a wnaeth nes y symudodd i Liverpool yn 1837. Ordeiniwyd ef yn 1827. Bu farw yn y Benarth, ger Conwy, Chwefror 18, 1869, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llandysilio, Mon. Efe yn ddiau, a chymeryd ei holl ragoriaethau i ystyriaeth, oedd y pregethwr efengyl perffeithiaf a welodd Cymru erioed.

EMRYS EVANS.—Ganwyd a magwyd ef yn Mronyberllan, gerllaw y dref hon. Dechreuodd bregethu yn 1837, pan yn 26ain oed, ac yr oedd wedi ei ddewis yn flaenor er's rhyw gymaint cyn hyny. Symudodd ymhen nifer o flynyddoedd o Fronyberllan i'r Llwyni, ac oddiyno i Cotton Hall, ger Dinbych. Bu am yspaid wedi dechreu pregethu dan addysg Dr. Edwards a Dr. Charles yn Athrofa y Bala, ac — efe oedd un o'r myfyrwyr cyntaf; a dywedai Dr. Edwards am dano ddydd ei gladdedigaeth na bu neb yn y sefydliad hwnw a enillodd iddo ei hun fwy o barch. Ordeiniwyd ef yn 1840. Bu farw, Mai 10, 1882, yn 71 mlwydd oed, wedi bod yn un o weinidogion mwyaf cymeradwy Sir Ddinbych am 45 mlynedd. Efe oedd Llywydd Cymdeithasfa y Gogledd am 1878.

JOHN FOULKES.—Ganwyd ef yn Henllan yn 1803. Dechreuodd bregethu pan tua 18 oed. Bu yn byw yn y Bontuchel a'r Bettws cyn symud i Abergele. Daeth yma yn 1837. Ordeiniwyd ef yn 1838. Bu yn cadw masnach dilledydd (draper) am ysbaid; ac ar ol rhoi y fasnach i fyny bu yn cartrefu yn Tanygoppa, gerllaw y dref, hyd 1847, pryd y symudodd i Liverpool. Ymadawodd oddiyno drachefn i Ruthin yn 1862, lle y bu farw, Ebrill 20, 1881, yn 78 mlwydd oed. Y mae ei fedd yn mynwent blwyfol Abergele. Ysgrifenodd ef gryn lawer i'r wasg yn ei ddydd; a bu yn Ysgrifenydd y Gymdeithasfa o 1831 hyd 1838.

JOSEPH EVANS.—Brodor oedd ef o Ddinbych. Galwyd ef, fel y crybwyllwyd eisoes, i fod yn fugail ar yr eglwys hon; ond wedi ymsefydlu yn y lle, bu raid iddo ymhen mis neu bum' wythnos ddychwelyd adref i farw. Cymerodd hyny le Mehefin 11, 1860, ac efe yn 26 oed. Yr oedd efe yn wr ieuanc o gymeriad nodedig o brydferth.

HUGH HUGHES, PENSARN. Symudodd oddiyma i Liverpool, ac yno y bu farw.

WILLIAM ROPERTS.—Ganwyd ef yn ardal y Carneddi, Arfon Dechreuodd bregethu pan tuag 20 oed. Bu am ddwy flynedd yn Athrofa y Bala. Ar ol hyny bu yn cadw ysgol yn ardal Salem, ger Llanrwst, ac wedi hyny yn gwneyd yr un gwaith, ac yn gofalu am yr eglwys yn Nhywyn, Dyffryn Clwyd. Yn 1860 galwyd ef yn fugail ar yr eglwys yn Abergele, yn olynydd i Mr. Joseph Evans. Ordeiniwyd ef yn 1861. Coffawyd eisoes am y gwaith da a wnaeth efe yma ac mewn manau eraill. Yr oedd efe yn ddiau yn wr da, llawn o ffydd, ac o'r Ysbryd Glan, a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd drwyddo. Bu farw Gorphenaf 20, 1886, yn 57 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent blwyfol Abergele.

HUGH HUGHES, BRYNHYFRYD. Gwr oedd efe a ystyrid yn ddiamheuol yn un o gedyrn y pulpud. Ganwyd a magwyd ef yn Llanrwst. Yr oedd yn fab i'r pregethwr da, sylweddol a chymeradwy, Mr. David Hughes, o'r dref hono, ac yn ŵyr o du ei fam i bregethwr cymeradwy arall, sef Mr. Humphrey Edwards, Bala. Bu am dymor gweddol faith yn ei ieuenctyd dan addysg y Parch. Thomas Lloyd. Dechreuodd bregethu pan tua 23 oed. Ordeiniwyd ef yn 1828. Yr oedd natur a gras wedi cytuno i'w addurno a chymhwysderau eithriadol at waith y weinidogaeth. Llanwodd le mawr, a hyny am oes faith, yn ei Gyfarfod Misol ei hun; ac, o ran cymhwysderau, gallasai lanw lleoedd anrhydeddusaf y Gymdeithasfa. Ond ni fynai. Er ei waethaf y gosodwyd ef yn Gadeirydd y Gymdeithasfa am y blynyddoedd 1859—60. Bu farw Chwefror 1, 1860, yn 74 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Methodistiaid yn Llanrwst.

ROBERT ROBERTS.—Daeth yma yn 1864 trwy briodi merch y Parch. H. Hughes, Brynhyfryd. Ganwyd ef yn Prion. Dechreuodd bregethu yn 1844. Wedi bod am rai blynyddau yn y Bala, cychwynodd Ysgol Ramadegol yn Rhyl. Ordeiniwyd ef yn 1853. Yn 1855 derbyniodd wahoddiad i fugeilio eglwys Seion, Llanrwst, lle y bu hyd 1862 yn ddedwydd a defnyddiol; ond oherwydd stad ei iechyd rhoddodd ei fugeiliaeth yno i fyny, a symudodd i ddechreu i'w hen gartref yn Prion, yna i Gonwy, o'r hwn le y daeth i'r dref hon. Yn 1875 derbyniodd alwad eglwys. Salem, Dolgellau, i ddyfod yn fugail iddi, lle y bu hyd ddiwedd ei oes. Bu farw yn dra disymwyth yn Aberystwyth, Medi 23, 1889, a chladdwyd ef yn mynwent Salem, Dolgellau. Ni charodd neb erioed ei enwad yn fwy nac y carai ef Fethodistiaeth; a gwnaeth ei ran i berffeithio ei holl drefniadau. Ysgrifenodd a chyhoeddodd gyfrol ar Elfenau Methodistiaeth. Bu am flynyddau yn Ysgrifenydd Athrofa y Bala; a pharotoi Hanes y Coleg yr oedd pan ddaeth y diwedd. Fel pregethwr yr ydoedd yn feddylgar a choeth, ac eto yn ymarferol; a derbyniodd bob swydd ac anrhydedd oedd gan ei Gyfundeb i'w roddi iddo.

NATHANIEL CYNHAFAL JONES, D.D.—Ganwyd ef yn Gellifor, Llangynhafal, yn 1832. Dechreuodd bregethu yn 1859. Ordeiniwyd yn 1866. Bu yn weinidog yn Adwy'rclawdd, Penrhyndeudraeth, Llanidloes, ac Engedi, Colwyn Bay. Yr oedd ef, heblaw bod yn bregethwr rhagorol, yn llenor a bardd o gryn fri. Golygodd argraffiad newydd o weithiau Williams, Pantycelyn. Cyhoeddodd hefyd gyfrol o farddoniaeth ar Fywyd Iesu Grist," ac amryw lyfrynau llai. A bu yn olygydd y Drysorfa am bum' mlynedd. Yn Hydref, 1902, rhoddodd ei fugeiliaeth i fyny yn Ngholwyn Bay, a symudodd i gartrefu i Abergele, ac oddiyma drachefn i Flaenau Ffestiniog yn Mai, 1905, lle y bu farw y 14 o Ragfyr dilynol, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Methodistiaid yn Abergele. Gwr anwyl iawn oedd efe. O ran nodwedd ei feddwl tebygai yn fawr i'w hoff Ddyffryn Clwyd, eang, ffrwythlawn a phrydferth. Yn 1889 anrhydeddodd Prifysgol Wooster, Ohio, ef a'r gradd o D.D.

ROBERT AMBROSE JONES.—Brodor oedd ef o Abergele. Ganwyd ef yn 1851. Dechreuodd bregethu yn 1868. Wedi bod dair neu bedair blynedd yn y Bala, dychwelodd adref i ddilyn ei efrydiau ac i bregethu ar y Sabbothau. Ei hoff waith oedd astudio ieithoedd. Gallai siarad y Ffrancaeg a'r Germanaeg gyda graddau o hwylusdod; a meddai gydnabyddiaeth helaeth â'r Ysbaenaeg a'r Italaeg. Darllenai lawer ar lenyddiaeth y Cyfandir. Yr oedd yn gymeriad hollol ar ei ben ei hun Ysgrifenai mewn orgraff, a phregethai mewn arddull gwahanol i bawb arall. Araf y cyfansoddai Cymerai drafferth fwy na mwy yn enwedig gyda'i bregethau. Ordeiniwyd ef yn 1883 Yn 1885 symudodd i Swyddfa Mr. Gee, Dinbych, lle y bu am ddwy flynedd. Wedi hyny bu yn weinidog yn y Tabernacl, Rhuthyn; Trefnant, a Rhydycilgwyn. Bu farw yn y lle olaf a enwyd Ionawr 7, 1906.

WILLIAM ROWLANDS.—Ganwyd ef yn nhy capel y Ty-mawr, Mon, yn y flwyddyn 1837. Dechreuodd bregethu yn Nowlais, Morganwg, tua'r flwyddyn 1860. Bu am ysbaid yn Ngholeg Trefecca, ac wedi hyny yn y Bala. Yn ganlynol i hyn bu yn cartrefu mewn amryw fanau—Llangristiolus, Llanarmon yn Iâl, lle yr oedd pan ordeiniwyd ef yn 1873; yna am ychydig amser yn Bontuchel, o'r hwn le y symudodd i'r Tywyn, Abergele, tua'r flwyddyn 1886, lle y treuliodd weddill ei oes. Cymeriad tawel ydoedd: Ni pharai glywed ei lef yn yr heol." Meddianai fesur nid bychan o arabedd, ac yr oedd yn gofiadur rhagorol. Cofiai ymddiddanion, sylwadau a dyddiadau gyda rhwyddineb. Yr oedd yn ysgrythyrwr cadarn, yn dduwinydd da, ac yn bregethwr buddiol, a chafodd rai odfeuon tra grymus. Chwech neu saith mlynedd cyn diwedd ei oes cafodd darawiad o'r parlys, ac analluogwyd ef i fyned o amgylch megis cynt. Bu farw Mai 13, 1906, pan ar fin cyraedd ei naw a thrugain oed, a chladdwyd ei weddillion yn mynwent capel Abergele.

Am y gweddill o'r pregethwyr sydd yn awr, ac wedi bod mewn cysylltiad a'r Methodistiaid yn y dref hon, gan eu bod yn aros hyd yn hyn," nid ymhelaethir am danynt hwy.

——————

ELLIS W. EVANS, M.A.—Ganwyd ef yn Liverpool, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1864. Ordeiniwyd ef yn 1873. Bu yn fugail yr eglwys Saesnig yn Mhensarn o 1880 hyd 1902.

FRANCIS JONES.—Ganwyd ef yn Llangadfan, Sir Drefaldwyn. Dechreuodd bregethu yn 1855. Ordeiniwyd yn 1860. Bu yn weinidog cyn dyfod yma yn Bethesda (Blaenau Ffestiniog), Aberdyfi, a'r Waenfawr. Ymsefydlodd yma yn Hydref, 1883.

EDWIN PETER JONES, B.A.—Mab yw efe i'r Parch. Francis Jones. Ganwyd ef yn Aberdyfi. Dechreuodd bregethu yn Abergele yn 1890. Ordeiniwyd ef yn 1896. Bu yn weinidog am ddwy flynedd yn eglwys Hermon, Llandegai; ac o Ionawr, 1897, hyd Medi, 1904, yn eglwys Saesneg Princes Road, Upper Bangor. Oddiyno symudodd i Blasnewydd, Caerdydd.

EDWIN ROWLANDS.—Genedigol o'r dref hon. Dechreuodd bregethu yn 1893. Ordeiniwyd ef yn 1898 i fyned yn Genhadwr i Fryniau Lushai, India.

JOHN KNOWLES JONES.—Ganwyd ef yn Mangor. Dechreuodd bregethu yn 1887. Ordeiniwyd ef yn 1900. Daeth yma y waith gyntaf trwy briodi yn 1896. Bu yn cartrefu yn Rhyl o 1897 hyd 1906, ac yn fugail yn Warren Road am chwech mlynedd o'r cyfnod hwnw. Yn y flwyddyn olaf a enwyd daeth i gartrefu i Abergele drachefn.

JOHN HENRY DAVIES.—Brodor yw ef o'r Trallwm, Swydd. Drefaldwyn. Dechreuodd bregethu yn 1888. Ordeiniwyd yn 1897. Ei fugeiliaeth gyntaf oedd Ewloe Green a Northop Hall. Bu yno o 1895 hyd 1906, pryd y symudodd i gymeryd. gofal yr eglwys Saesneg yn Mhensarn.

PENNOD VI.

Blaenoriaid

JOHN HUGHES, PENYBRYN.—Gwr gwir grefyddol a ffyddlon. Yr oedd ei wraig yn ferch i'r William Jones, o'r Nant Fawr, y soniasom am dano droion. Plant iddynt hwy oedd Mr. Isaac Hughes, Penybryn; Mrs. Foulkes, Llechryd; Mrs. Davies, Roe Gau, Llanelwy; Mrs. Edward Lloyd, Abergele; Mrs. Symond, Hendre: Mrs. Owen, Bodrochwyn; a Mrs. Wynne, Ala Vowlia. Oll yn hysbys yn eu gofal am "ei enw Ef." Bu Mr. J. Hughes farw Mawrth 23, 1814, yn 63 oed.

THOMAS JONES, TANYROGOF—tad y Parch. John Jones, Llangollen, gweinidog gyda'r Annibynwyr, a'r Cadben Daniel Jones, yr hwn a wnaeth yr ymgais cyntaf i ledaenu athrawiaeth y Mormoniaid yn yr ardaloedd hyn.

ROBERT PARRY, LLANSANTSIOR.—"Gwr crefyddol a da " (Meth. Cym. iii. 276). Gydag ef y llettyai y Parch. T. Lloyd tra yn aros yn y lle hwnw.

THOMAS LLOYD, TY MAWR UCHA. Cyfaill mynwesol Henry Rees, y sonir droion yn Nghofiant Mr. Rees am dano. Bu Mr. Lloyd, tra yn aros yn y Ty mawr, yn brif ofalwr am yr achos crefyddol yn ei holl ranau, nid yn unig yn y dref, ond yn yr ardaloedd cylchynol hefyd. Symudodd oddi yma i Gwmlanerch. Bettws y coed.

ROBERT ROBERTS.—Daeth yma o'r Geuffos, Llysfaen, a chariai fasnach yn mlaen yn Cumberland House. Efe oedd tad Mrs. Jones, priod Mr. J. Jones, Jessamine Villa, a grybwyllir eto. Yr oedd efe yn wr medrus a phrydlon gyda'r ddau fyd, yn ystwyth ei dymer, yn eang ei wybodaeth, ac addfed ei farn. Mae ei enw ef yn rhestr y rhai a arwyddasant y Constitutional Deed yn 1826. Bu farw Mawrth 29, 1838, yn 61 mlwydd oed.

ROBERT WILLIAMS, BRYNLLWYNI.—Gwr mawr ei barch, er nad oedd ond llafurwr tlawd gydag amaethwyr. Yr oedd o duedd wylaidd iawn, ac yn dra anfoddlawn i ymgymeryd a'r swydd.

THOMAS JONES, NANT FAWR.—Mab oedd efe i W. Jones, o'r un lle. Gwr o yspryd llednais a defosiynol ydoedd, ond o ddawn afrwydd; eto y cwbl a ddywedai yn dra derbyniol.

JOSEPH HUGHES.—Daeth yma o Landrillo-yn-Rhos tua 1826 trwy briodi. Gwr pwyllog a galluog oedd ef, hynod am nerth ei gof, a'i fedr i ddefnyddio a chymhwyso adnodau. Anfynych y cyfarfyddid a'i gyffelyb yn hyn. Bu farw Gorphenaf 22, 1855. yn 72 mlwydd oed. . THOMAS JEFFREYS, TY'R FELIN.—Methwyd a chael dim o'i hanes.

EMRYS EVANS, BRONYBERLLAN. Gweler yn mhellach am dano ef yn rhestr y pregethwyr.

WILLIAM HUGHES, PLASUCHA. Ei brif nodweddion ef oedd symlrwydd, ffyddlondeb, a gwresogrwydd ysbryd. Ei gyngor cyn pob ffair fyddai, "Gofalwch am y ddwy ffon; gwylio a gweddio." Ar ol ei ddewis yn flaenor, efe bob amser oedd y cyhoeddwr.

HENRY ELIAS, TY MAWR UCHA.—Call fel y sarph, diniwed fel y golomen, boneddigaidd, parod ei ateb, a pharod i bob. gweithred dda, hyd yr oedd yn ei allu. Yr oedd ei wraig yn chwaer i Mr. T. Lloyd, Ty mawr.

JOHN JONES, JESSAMINE VILLA.—Daeth yma o Fanchester trwy briodi merch i'r R. Roberts a grybwyllwyd uchod. Ganddo ef y bu y law benaf mewn darparu ar gyfer cynydd y Saesneg yn y dref a'r gymydogaeth. Yr oedd yn wr o feddwl bywiog, cof da, a gwybodaeth gyffredinol eang. Bu farw Ebrill 23. 1885, yn 81 mlwydd oed.

THOMAS PRITCHARD—prif arddwr Castell Gwrych. Brodor ydoedd o Henllan. Daeth yma o Bentrecelyn. Cartrefai yn yr Hen Wrych. Yr oedd yn wr eithriadol o fedrus yn ei alwedigaeth, ac yn swyddog eglwysig tra chymeradwy. Efe, yn absenoldeb gweinidog, fyddai yn arwain yn y cyfarfodydd eglwysig.

HENRY JONES, BRONYBERLLAN.—Gwr o safle barchus yn y byd, a neillduol ffyddlawn i ddilyn y Cyfarfod Misol.

JOHN LEWIS, DILLEDYDD.—Ei le genedigol ef oedd Llansantffraid Glan Conwy, ac yr oedd yn ŵyr o du ei dad i'r hybarch bregethwr Evan Lewis, Mochdre; a meddai yntau ei hun ddawn ymadrodd rhwydd a pharod, ynghyd â llawer o fedr i wneyd yn ddeheuig unrhyw orchwyl a ymddiriedid iddo. Bu farw Tachwedd 3, 1880, yn 55 mlwydd oed.

DAVID ROBERTS, Ysw., TANYRALLT.—Coffawyd eisoes am ei ddyfodiad ef yma yn 1851. Yr oedd ef wedi bod yn swyddog am flynyddau yn Bedford Street cyn dyfod yma, a dewiswyd ef yn ddioedi i'r un gwaith yma hefyd. Enillodd ef iddo ei hun radd dda, nid yn unig yn Liverpool ac Abergele, ond hefyd yn nghylchoedd uchaf y Cyfundeb. Bu farw Hydref 3, 1886, yn 80 mlwydd oed.

JOHN ROBERTS, Ysw. A.S.—mab i'r uchod. Gan ei fod fel ei dad yn flaenor yn Liverpool cyn ei ddyfodiad yma, dewiswyd yntau yr un modd ar ei ymsefydliad i ymgartrefu yn Mryngwenallt i fod yn flaenor yn Abergele. A bu hyd ei fedd yn gynorthwy gwerthfawr i'r achos. Cawn gyfeirio eto at ei haelioni ynglyn â'r achos Saesneg yn Mhensarn. Bu ef farw Chwefror 24, 1894, yn 58 mlwydd oed.

JOHN VAUGHAN, PENYBRYN.—Dewisasid ef yn flaenor yn Nghefn Berain pan yn wr tra ieuanc. Daeth yma trwy briodi merch Mr. Isaac Hughes, Penybryn, a dewiswyd ef yn swyddog yn 1877. Gwr nodedig o garuaidd oedd efe, "boneddigaidd, hawdd ei drin, llawn trugaredd a ffrwythau da." Bu farw yn dra disymwth Mawrth 21, 1900, yn 63 mlwydd oed.

THOMAS WILLIAMS, PENSARN.—Genedigol o Dywyn, ond buasai yn cartrefu am flynyddau yn Bury, swydd Lancaster, cyn dyfod yma, ac yno y dewisasid ef gyntaf yn flaenor. Dewiswyd ef i'r un swydd yma yn 1885. Llanwodd leoedd pwysig mewn byd ac eglwys, a gwnaeth hyny yn anrhydeddus. Meddai ddynoliaeth gref, a chrefydd gref hefyd. Bu farw Chwefror 15, 1901, yn 63 mlwydd oed.

HENRY WILLIAMS.—Buasai yntau yn flaenor am flynyddau yn y Morfa, cyn symud i'r dref hon. Mab ydoedd ef i Mr. W. Williams, Plas llwyd, blaenor uchel iawn ei barch yn eglwysi Tywyn a'r Morfa am ysbaid maith. Fel swyddog elusenol y tlodion yr oedd ganddo yn fynych achos i arfer craffder a barn, yn gystal a thynerwch; ond ni chlywsom i wir dlawd erioed gael ond tynerwch ganddo ef. Mab tangnefedd oedd, ac aeth i dangnefedd Medi 15, 1901, yn 55 mlwydd oed. Dewisasid ef yn flaenor yma er 1885.

EDWARD ROBERTS.—Brodor oedd ef o'r gymydogaeth hon, ac oddieithr blwyddyn neu ddwy a dreuliodd yn dilyn ei alwedigaeth fel crydd yn Liverpool, yma y treuliodd ei holl fywyd. Dewiswyd ef yn flaenor tua 1870. Yr oedd efe yn wr o feddwl cryf a gafaelgar. Darllenasai lawer yn y rhan gyntaf o'i oes. A phe yr ymroddasai i hyny gallasai ragori ar lawer fel bardd. Pan yn llanc ieuanc cafodd adwyth yn ei glun, a'i gwnaeth yn gloff weddill ei ddyddiau. O herwydd hyny, a hwyrach diffyg awydd hefyd, anfynych y gwelwyd ef mewn Cyfarfod Misol er's blynyddau lawer. Ond gwir ofalai am yr achos yn ei gartref. Bu farw wedi ychydig ddyddiau o gystudd Ebrill 10, 1907, yn 82 mlwydd oed.

Bu dau frawd arall yn swyddogion defnyddiol iawn yn yr eglwys hon am rai blynyddau, sef Mri. Edward Lloyd, Fferyllydd (1885—1890), ac Isaac Jones, Tyddyn Morgan (1893 —1901). Symudodd Mr. E. Lloyd i Golwyn Bay yn 1890, ac yno y bu farw, yn 1907, er dirfawr golled i'r eglwys. Saesneg, lle y dewisasid ef yn flaenor. Yr oedd efe yn ŵyr o du ei fam i Mr. John Hughes, blaenor cyntaf eglwys Abergele. Symudodd Mr. I. Jones oddi yma i Dyserth yn 1901, lle y mae yn awr yn swyddog. Gelwir arno ef, yn achlysurol, i lanw pulpudau, a gwna hyny yn dra chymeradwy. Y blaenoriaid presenol ydynt:—

Mr. John Jones, Bodeifion ——— 1877.
Mr. Edward Williams, Peel ——— 1877.
Mr. J. Herbert Roberts, A.S. ——— 1887.
Mr. Isaac Williams, Blytheham ——— 1896.
Mr. G. T. Evans, N. & S. W. Bank ——— 1900.
Mr. John H. Lewis ——— 1904.
Mr. John Davies, Gwreiddyn ——— 1904.

PENNOD VII.

Yr Achosion Cymraeg a Saesneg yn Mhensarn.

COFFHAWYD eisoes ddarfod i'r frawdoliaeth yn Abergele ragweled yn dra phrydlon yr angen yn misoedd yr haf, o leiaf, am weinidogaeth yn yr iaith Saesneg yn Abergele, neu ynte yn Mhensarn. Y gwr fu a'r llaw flaenaf yn y symudiad hwn oedd Mr. John Jones, Jessamine Villa, un o flaenoriaid. eglwys y dref. Y man y penderfynwyd arno oedd Pensarn. Sicrhawyd tir ar brydles, ac adeiladwyd capel yn 1858; ond rhaid addef mai anffodus fuwyd yn y safle, gan ei fod yn y gongl fwyaf anamlwg yn y pentref. Y gweinidog a bregethodd ynddo fore a hwyr Sabboth ei agoriad oedd y Parch. W. Howells, y pryd hwnw o Liverpool, wedi hyny. Prifathraw Coleg Trefecca. Yr oedd yno Ysgol Sabbothol Gymraeg, a chyfarfod gweddi ar noson waith yn cael eu cynal mewn ty anedd eisoes, a bwriedid i'r rhai hyny ar ol adeiladu y capel gael eu symud iddo, ac felly y bu. Tua'r flwyddyn 1875 teimlid mai buddiol fyddai i'r moddion Saesneg gael eu cynal yn ddifwlch ar hyd y flwyddyn, oblegid hyd yn hyn yn ystod misoedd yr haf yn unig y gwneid hyny. I gyfarfod â hyn, yn y flwyddyn 1877, adeilodd John Roberts, Ysw., Bryngwenallt, ar ei draul ei hun, gapel arall, ac mewn safle amgenach, i fod yn hollol at wasanaeth yr achos Saesneg, a bellach i sefydlu eglwys ynddo. Costiodd yr adeilad hwn tua £3,000, a throsglwyddwyd ef i fod yn rhyddfeddiant i'r Cyfundeb. Ac er mai un o flaenoriaid capel y dref oedd yntau, ac mai yno y derbyniwyd yr oll o'i blant i gyflawn aelodaeth, rhoddai ef a hwythau rhagllaw eu presenoldeb ran o bob Sabboth yn y capel Saesneg; ac arnynt hwy, o angenrheidrwydd, yn benaf y gorphwys y gofal am ddwyn yr achos ymlaen. Oherwydd nad ydyw poblogaeth Pensarn wedi cynyddu nemawr er's blynyddau lawer, a bod Eglwys Loegr hefyd. erbyn hyn wedi cyfodi yno adeilad i gynal gwasanaeth Saesneg, nis gellir disgwyl i'r eglwys Fethodistaidd fod yn lluosog. Ond y maent yn llawn sel a gweithgarwch. Yn 1890 adeiladwyd ganddynt ysgoldy cyfleus gerllaw y capel, a bydd yn fuan yn ddi-ddyled. Fel y crybwyllwyd eisoes, y gweinidogion sydd wedi bod yna yn gofalu am yr achos ydyw y Parch. E. W. Evans, M.A., o 1880-1902, a'r Parch. J. Henry Davies, o 1906 hyd yn awr.

Wedi agoriad y capel newydd Saesneg, defnyddiwyd y capel blaenorol yn unig at wasanaeth yr achos Cymraeg. Ar y dechreu ni chynhelid yno ond ysgol yn mhrydnawn y Sabboth a chyfarfod gweddio ganol yr wythnos. Ond mewn canlyniad i gais taer y cyfeillion yn y lle, a bod oedran ac amgylchiadau amrai o honynt yn gwneyd yn anhawdd iddynt fynychu y moddion yn y dref, caniatawyd iddynt gynal yr ysgol yn y bore a chael pregeth yn y prydnawn gan y gweinidog a fydd yn y dref. Dechreuwyd y gwasanaeth yn y ffurf hono y Sabboth cyntaf yn Mai, 1887. Ac er nad oes yno eglwys, na bwriad ar hyn o bryd i gael un, ar wahan i eglwys y dref, cynhelir yno gyfarfod eglwysig bob yn ail wythnos. Prynwyd rhyddfeddiant y capel hwn yn 1906 gan y diweddar Mr. William Ellis, Ty— mawr, a throsglwyddwyd ef yn rhodd i'r Cyfundeb.

PENNOD VIII.

——————

AMRYWION.

(a) Personau y tu allan i'r Swyddogaeth sydd yn teilyngu coffa am danynt.

JOHN HUGHES, PLAS UCHAF.—Un ffaith gwerth ei chadw mewn cof am dano ef ydyw a ganlyn ynglyn âg adeiladaeth y capel cyntaf:—Wedi deall ryw nos Sabboth, naill ai yn y Ty Cwrdd yn y dref neu yn y Nant Fawr, y bwriedid dechreu ar y gwaith bore dranoeth, prysurodd adref, a gorchymynodd i'r llanc oedd ganddo yn gofalu am y wedd fyned i'w wely yn ddioed, gan ei hysbysu yr un pryd y byddai eisieu iddo godi yn mhen ychydig oriau. Mor fuan ag y tarawodd yr awrlais hanner nos galwyd arno drachefn, gan orchymyn iddo wneyd y ceffylau a dwy drol yn barod a chyfeirio tua'r gloddfa. Felly y gwnaed; a chafodd John Hughes a'i was yr anrhydedd o gludo y ddau lwyth cyntaf o ddefnyddiau tuag at adeiladu y capel cyntaf a godwyd yn Abergele. Ffaith arall yn ei hanes ef sydd yn hawlio cael ei chroniclo ydyw, mai efe oedd y gwr a aeth yr holl ffordd i Lanfechell, Mon, yn haf y flwyddyn 1802, i geisio gan y Parch. John Elias ddyfod i bregethu i Ruddlan, gyda'r amcan o ddarostwng yr arferiad oedd yno er cyn cof, i ymgynull ar y Sabbothau yn amser y cynhauaf i gyflogi gweithwyr, ac i brynu a gwerthu arfau. Dywed un adroddiad mai at y Parch. Richard Lloyd, Beaumaris, yr aeth gyntaf, ac mai efe a'i cymhellodd i fyned i Lanfechell. Y Parch. J. Elias, modd bynag, a ddaeth. Yn Ninbych y pregethai foreu y Sabboth cofiadwy hwnw, a daeth ychydig gyfeillion oddi yno i'w ganlyn i Ruddlan erbyn y prydnawn. Nid oedd Mr. Elias ar y pryd ond wyth ar hugain oed, eithr arddelwyd ei weinidogaeth mor neillduol fel y dyryswyd y ffair ar unwaith, ac y rhoddwyd terfyn llwyr a bythol ar arferiad a fuasai yn ymwreiddio yn y lle yma am oesoedd. Mab i'r John Hughes hwn oedd y William Hughes y ceir ei enw yn rhestr y blaenoriaid.

BETTI THOMAS.—Cartrefai y ferch rinweddol hon yn y dref, ac yr oedd yn ddiarhebol am ei gweithgarwch crefyddol. Tra yr oedd eraill yn llafurio gyda'r Ysgol Sul yn y Nant Fawr a'r Wern Bach, gwnai hithau ei goreu yn ei chartref; a rhoddai yn fynych ddyddiau yn ystod yr wythnos i fyned ar hyd y tai oddi yma i Dywyn i ddysgu y preswylwyr i ddarllen, ac i ddeall egwyddorion crefydd. Cymerai y tai ar un ochr i'r ffordd wrth fyned, a'r ochr arall wrth ddychwelyd. Yn mhen ysbaid priododd wr o gryn gyfoeth, ond heb fod yn aelod eglwysig, a diarddelwyd hi. Ond ni thramgwyddodd hi wrth ei hen gyfeillion, nac wrth y Cyfundeb. Wedi i bawb arall o berchenogion y tiroedd o amgylch Tywyn wrthod, cafwyd lle gan wr Betti Thomas i adeiladu capel arno. Y capel hwnw yw y ty a adnabyddir yn awr dan yr enw Miller's Cottage.

WILLIAM MARK. Yr oedd ef yn gymeriad hynod ar amryw gyfrifon. Cyfeiriwyd ato eisoes, ac at ei weddi ar adeg cystudd diweddaf y Parch. T. Lloyd. Yn y Tanyard y gweithiai, ac er na fedrai ysgrifenu, cadwai yn ddi-feth y cyfrifon yr oedd eu gofal arno ef, mewn arwyddluniau o'i ddyfais ei hun. A phan y pwysid y defnyddiau a ddygid yno, gwnai ef i fyny gyfanswm eu gwerth yn gyflymach na'r clerk gyda'i bin a'i bapur. Hoff waith ganddo hefyd, oedd siarad am faint a symudiadau y ser a'r planedau. Bu farw yn ddisyfyd. Yr oedd yn ei iechyd arferol yn myned i orffwys, ac wedi myned i'r "orffwysfa sydd eto yn ol" er's oriau y cafwyd ef yn y bore. Cyfansoddwyd yr englyn canlynol yn feddargraph iddo gan y Parch. Wm. Ambrose. Portmadoc:—

"Un fu gryf yn ei grefydd—addolwr
Oedd William Mark beunydd:
Rhodiodd ef ar hyd ei ddydd
Yn llaw Duw drwy'i holl dywydd."

HENRY J. ROBERTS, MANCHESTER HOUSE.—Cyfeiriwyd yn barod at ei ofal ef am Ysgol Sabbothol y Pant am fwy nac ugain mlynedd. Mewn ffordd anghyhoedd ni wasanaethodd neb eu henwad yn ffyddlonach nag ef a'i hawddgar briod. O'r 663 o lwythi o ddefnyddiau a gludwyd yn rhad at y capel newydd gan weddoedd 28 o bersonau, yr eiddo ef a gludodd 313 o honynt. Ac ar un adeg edrychid ar ei dy ef yn lletty cyffredin" pregethwyr y dref a'r wlad. Ar nos Sadyrnau anfynych y byddai ei dy heb un neu ddau o bregethwyr yn aros ynddo; a degau o weithiau y rhoddodd ei anifail at wasanaeth "gwyr traed" a fyddent ar eu ffordd i un o'r teithiau cyfagos. Bu farw Ebrill 27. 1895, yn 81ain mlwydd oed.

——————

(b) Trefn y daith Sabbothol.

Ar ol adeiladu capelau Brynllwyni a Thowyn y drefn ar y cyntaf oedd—Towyn, Brynllwyni, ac Abergele. Wedi adeiladu capel Llanddulas yn 1845, a bod Abergele yn dymuno cael pregeth y boreu a'r hwyr, cysylltwyd y dref â Llanddulas—Abergele 10 a 6, a Llanddulas am 2. Hyn fu y drefn am o ddeutu naw mlynedd ar hugain. Ond yn mhen nifer o flynyddoedd teimlid yn y lle olaf drachefn awydd am ragor o weinidogaeth; a thrwy gyd-ddealltwriaeth o'r ddeutu cymerent bregethwr iddynt eu hunain tuag unwaith yn y mis hyd 1874, pryd y cysylltwyd hwy â Llysfaen, oedd o'r blaen ynglyn a'r Bettws, ac yn cael un odfa oddi yno bob Sabboth. Y symudiad diweddaf oedd yr un a wnaed yn 1887, sef fod y pregethwr fyddo yn gweinidogaethu yn y dref i fyned i Bensarn (Cymraeg) yn y prydnawn.

(c) Arweinwyr y Gan.

Y cyntaf oedd THOMAS PRITCHARD. Genedigol oedd ef of Benmachno. Crydd wrth alwedigaeth. Bu am ychydig flynyddau yn Liverpool, ac yr oedd yn un o'r pedwar a ffurfient y Society Fethodistaidd Gymreig gyntaf yn y dref hono. Cyfarfu W. Lloyd ac Owen Owen, dau o'r tri eraill, ag ef mewn bwthyn gweithwyr yn chwarel St. James, sydd yn awr yn gladdfa (St. James' Cemetry). Aethai ef yno heb wybod dim am danynt hwy, ond i'r un diben a hwythau, sef cael unigedd i ddarllen ei Feibl ac i ganu emynau.

Yr ail oedd JOHN LLOYD. Cynorthwyid ef gan Robert Roberts y Nant." R. Roberts oedd y cerddor, a J. Lloyd y lleisiwr." Bu efe yn drysorydd yr eglwys am haner can' mlynedd; ac efe oedd y J. Lloyd a adawodd £150 at ddyled y capel.

Y trydydd, JONAH LLOYD, yr Ironmonger. Bu farw Meh. 5. 1865, yn 29 mlwydd oed.

Y pedwerydd, DAVID DAVIES, Bowden House. Bu farw Mai 19, 1887.

Y presenol,HUGHES LEWIS, Bridge House, er 1884, yr hwn a gynorthwyir gan Thomas Williams, Ivy Cottage; Thomas Jones, Rose Cottage; a W. P. Morris, New Street.

BETTWS-YN-RHOS.

GAN Y PARCH. O. FFOULKES.

—————————————

YN y Pistyll Gwyn, yn agos i Beniarth Bach, y cawn i'r Ysgol Sabbothol gael ei dechreu yn nghymydogaeth y Bettws, a hyny yn mis Medi, 1800. Y rhai oedd yn byw yno ar y pryd ydoedd John Jones a Mary, ei wraig, sef taid a nain John Jones, Prince Arthur Cottage. Pensarn, Abergele.

Cyfnod tywyll a phruddaidd ydoedd hwn. Yr oedd y campau yn eu bri yr adeg hon, yn arbenig yn Nhafarn-y-Pwll, Llangernyw, Abergele, a Llansannan—ymladd ceiliogod, betio, gwerthu crymanau, cyflogi, a neidio; ac ar y Sabboth, gan mwyaf, y cyflawnid y pethau hyn. Y Sabboth ydoedd dydd mawr eu cyfarfod, ac elai y chwareuwyr o'r naill le i'r llall, fel y byddai y campau wedi eu cyhoeddi, a'r tebyg yn ymgasglu at ei debyg.

Gyda hyn daeth i feddwl y bobl oreu oedd yn yr ardal i ddechreu Ysgol Sabbothol, er cael cyfle i wareiddio eu cymydogion, a'u dysgu i ddarllen Gair Duw. Araf iawn y llwyddodd yr ysgol yn y Pistyll. Yn 1802 cawn mai un-ar- bymtheg o ysgolheigion, a thri o athrawon ydoedd y nifer wedi dwy flynedd o lafurio.

Symudwyd yr Ysgol Sabbothol o'r Pistyll i dy yn Bronllan yn 1804, ty un o'r enw Evan Evans, a Margaret, ei wraig; symudodd Evan a Margaret Evans yn fuan o'r Bronllan i fyw i'r Bettws, i dy o'r enw Court Bach, a symudwyd yr Ysgol Sabbothol yr un pryd. Yr oedd cegin fwy cyfleus i gynal ysgol yma, ac yn y lle hwn yr arosodd am gyfnod faith. Yr oedd y Court Bach yn ddau dy lled hir, isel, heb lofft arnynt, a'u hwynebau i ffordd Abergele, yn y man y saif Minafon yn bresenol. Araf yr oedd yr ysgol yn llwyddo yma eto, o blegid yn 1805-1806, cawn mai pedwar ar ddeg oedd nifer yr ysgolheigion, a dau athraw. Y rheswm, efallai, fod yr ysgolheigion yn llai nag oeddynt ddwy a thair blynedd cyn hyn oedd, fod cangen ysgol wedi ei sefydlu yn y Wern Bach, yn agos i Bodrochwyn, lle yr ydoedd un o'r enw Thomas Jones yn byw. Cawn felly ddwy gangen ysgol yr un pryd: pedwar-ar-ddeg o ysgolheigion a dau athraw yn y Court Bach, a deunaw o ysgolheigion gyda dau athraw yn y Wern Bach. Gwelir felly fod rhwng y ddwy gangen-ysgol hyn yn 1805-06 gynifer ag un-ar-bymtheg-ar-hugain o ysgolheigion. Plant gan mwyaf oedd yn y Wern Bach, un-ar-ddeg o'r deunaw yn dysgu y wyddor. Symudwyd y gangen-ysgol hon drachefn i Wern Ciliau; y tenant ydoedd Thomas Parry, a bu y gangen hon yn Ngwern Ciliau hyd nes codi capel Tabor.

Pan y byddai pregethwr yn d'od ar ei dro, byddai yn pregethu fel rheol yn y Court Bach, ac ar achlysuron neillduol, pan y byddai un o'r cewri yn dyfod i'r plwyf, ceid benthyg ysgubor y Ty Isa' gan John Roberts, y tenant dan goeden gelynen, wrth ben y Court Bach, yr oedd y Parch. W. Davies, Castellnedd, ugain mlynedd neu ragor cyn hyn, yn ceisio pregethu, pan yr aflonyddwyd arno, fel yr adroddir yn Meth, Cymru, cyf. iii., t.d. 272. Cawn i un o'r enw William Jones, oedd mewn gwasanaeth gyda Mrs. Ffoulkes, yn Sirior, fod yn gynorthwy nid bychan i'r Ysgolion Sabbothol hyn ar eu cychwyniad. Yr oedd anuwioldeb yr ardaloedd hyn yn ei flino'n fawr. Dyn distaw, tawel, ydoedd William Jones, yn gallu darllen ei Feibl yn dda, ond heb feddu llawer o ddawn, ac eto nid esgeulusai y ddawn oedd ynddo. Caed colled fawr ar ei ol pan y symudodd oddi yma i'r Bontuchel.

Y penaf oll yn y cyfnod boreuol hwn ynglyn â'r Ysgolion Sabbothol ydoedd Edward Owen, Penybryn; trwy ei lafur ef yn benaf y cadwyd yr ysgolion yn fyw. Dywedir ei fod am gyfnod yn arolygwr, ysgrifenydd, ac yn fynych yr unig athraw fyddai yn bresenol; dechreuai a diweddai yr ysgol ei hunan am amser maith. Bu y ddwy ysgol i raddau mawr dan ei ofal ef. Efe, hefyd, ddaeth a'r arfer dda hono i'r ardal, sef cynal cyfarfodydd gweddio yn y tai. Cynhelid hwy mewn amryw fanau, a bu hyn yn dra bendithiol. Byddai pregeth hefyd yn achlysurol yn y cyfnod hwn yn Sirior Goch, Pistyll Gwyn, Wern Ciliau, Wern Bach, Court Bach, Gwyndy. Ucha', Bodrochwyn, Bwlchgwynt, Llidiart y Porthnyn, a'r Dafarn Bara Ceirch.

Yn gynar yn nechreu y ganrif o'r blaen daeth David Roberts, Bodrochwyn, yn amlwg yn mysg crefyddwyr yr ardal. Dyn wnaeth ei ran yn rhagorol ydoedd yntau; o foddion mwy na chyffredin o amaethwyr y gymydogaeth yr adeg hono, a chyfranodd odid fwy na neb arall o honynt at y weinidogaeth ac achosion da eraill. Os oedd Edward Owen yn ofalus am yr Ysgolion Sabbothol, David Roberts fyddai yn gofalu am bregethwr, a'i gydnabod, a rhoddi iddo letty. Yn y cyfnod boreuaf byddai pregethwr yn do'd i'r Bettws o'r Nant Fawr am ddau o'r gloch, ac i Cefn Coch am chwech. Ceir a ganlyn yn llyfr David Roberts:—

"1802. Mai 3, J. Jones, Nant, boreu; Sirior Goch am 2; a'r Cefn am 6. Medi 14, 1802, J. Parry am 6 yn y Wern Bach. Medi 25, Davies am 2 yn Court Bach; cyfarfod gweddi yn y Pistyll Gwyn am 6. 1803. Am 2, D. Hughes. yn Wern Bach; talu 2s. Ebrill. Eto, am 2, T. Jones, talu 2s. Mai, yn ysgubor Ty Isa'. Eto, am 10, yn Sirior; am 6 yn Court; J. Parry; talu 4s. Gorphenaf."

Yn 1816 daeth y Parch. T. Jones, o Ddinbych, i fyw i Sirior Goch, a Henry Rees yn was gydag ef. Ni bu y Parch. T. Jones ond dwy flynedd yn Sirior, aeth yn ol i Ddinbych; ac aeth Henry yn was i Cefn Castell at David Lloyd. Yr oedd yn aelod o'r Ysgol Sabbothol, ac efe oedd y dechreuwr canu. Efe oedd yn dechreu canu ar agoriad y capel cyntaf. Yr oedd wedi ymadael o Gefn Castell erbyn hyn, a myned i'r ysgol at y Parch. Thomas Lloyd, i Abergele, ac yn dechreu pregethu. Cafodd John Elias odfa ryfedd am ddau o'r gloch, ac aeth Henry i orfoleddu ar risiau y pulpud. Daeth wedi hyny yn Henry Rees, Amwythig, ac yn ddiweddarach o Liverpool. Adroddir fod un o'r enw Edward Evans, o'r Bettws, yn arfer myned i wrando, ynghyd â llanc arall o'r enw Copner Williams. Parhaodd ddau i ddilyn am gyfnod, ac i ddangos mawr sêl. Daeth y ddau yn aelodau eglwysig yn y Bryngwyn, ac hefyd rhyw Miss Williams —dywedir mai nain Mr. Oldfield, Bettws, ydoedd, a hen naini Mr. J. E. Oldfield, presenol o'r Ffarm. Enillodd. Evans a Copner Williams ddigon o wroldeb i fyned i Gymdeithasfa i'r Bala i ofyn cyhoeddiadau gan wyr dyeithr i ddo'd ar eu tro i'r Bettws. Yr oedd y Gymdeithasfa hon yn 1811[1], a cheir enwau nifer o bregethwyr y flwyddyn hon, sef J. Jones, John Davies, T. Jones, W. Jones, P. Roberts, a Davies, ond diau mai nid Davies, Castellnedd, ydoedd hwn. Cawn yn Methodistiaeth Cymru ddarfod i Davies, Castellnedd, dalu ymweliad â'r Bettws tra ar ei daith (mae'n debyg fod hyny ugain mlynedd cyn hyn, neu ragor), ac i ryw hen wraig aflonyddu arno pan wedi dechreu pregethu, trwy geisio gwthio das o frigau ar ei gefn, iddo fethu myned ymlaen, ac iddo adael y Bettws, gan gyhoeddi melldith ar y lle oddi ar Allt Bronllan, ar ei daith i Cefn Coch, ac ni welwyd mohono mwy yn y fro.

Ryw nos Sabboth, yn 1818, yr oedd John Davies, Nantglyn, yn llettya yn Bodrochwyn, cartref y David Roberts y cyfeiriwyd ato uchod, a thranoeth, meddir, bu ymddiddan o'r fath a ganlyn rhwng y ddau:—

"John," ebe Dafydd Roberts, "y mae ar fy meddwl wneuthur rhywbeth at yr achos yn chwanegol cyn myn'd o'r byd, sef gadael rhyw gymaint o arian ato yn fy ewyllys. A wnewch chwi ddysgu i mi pa fodd y gwnaf?"

"Wel, yn wir," atebai John Davies, "os ydych am wneyd rhywbeth, gwnewch ef yn eich bywyd felly, chwi gewch y pleser o'i weled yn cael ei wneyd, a hyny fel y dymunech. Pa ddiolch i rai fel y chwi adael arian ar eich ol pan na fedrech wneyd dim â hwy?"

"Wel, John bach, beth a fynech i mi wneyd?"

"Gwnewch gapel yn y Bettws," oedd yr ateb, "a rhoddwch yr hyn a gaffoch ar eich meddwl at hwnw: ac os bydd rhyw ddiffyg, fe'i gwneir i fyny gan y sir."

"Ie, onide," ebe yntau. "Sut na fuaswn i yn gweled hyny fy hunan? Diolch i chwi, John Davies, am ddweyd wrthyf."

Aeth David Roberts yn fuan wedi hyn at Mr. J. Ffoulkes. Peniarth Fawr, a chafodd dir—rhan o wern Ty Isa'. Mr. Ffoulkes ydoedd perchen y Ty Isa' yr adeg hono. Felly adeiladodd David Roberts y capel cyntaf ar ei draul ei hun, a chyflwynodd ef yn rhodd i'r Cyfundeb. Wele'n dilyn ran o'r weithred, ynghyd â'r ymddiriedolwyr:—

"On the 8th February, 1819, John Ffoulkes, of Peniarth Fawr, Gentleman, who has entered into an agreement to sell to Mr. David Roberts, of Bodrochwyn, Yeoman, joined with Mr. David Roberts in conveying to trustees of the Connexion a part of a field called Y Wern, part of a tenement occupied by John Roberts called Ty Isa', in Bettws, adjoining the highway to Abergele, 20 yards by 20 yards, with a chapel upon it. David Roberts paid the purchase money himself, and presented the property to the Connexion."

Yr ymddiriedolwyr oeddynt:—Parchn. T. Jones, Dinbych; T. Lloyd, Abergele: J. Jones, Mochdre; a Peter Roberts, Llansannan; Mri. T. Lloyd, Ty mawr; J. Owen, Garthewin; a D. Jones, Shopkeeper.

Agorwyd y capel cyntaf (capel David Roberts) gan y Parchn. John Elias a John Davies, Nantglyn, yn y flwyddyn 1819.

Yn 1825 cawn fod 100 o ddyled ar y Bettws. Ymddengys mai gwaith y Cyfarfod Dosbarth yn rhanu y ddyled yn gyftal trwy y dosbarth yn ol rhif yr aelodau ydoedd yr achos o hyn, a lled anfoddog ydoedd y Bettws i'r cynllun hwn, heb gofio mai un corph ydym—"Dygwch feichiau eich gilydd." Yn y flwyddyn 1827 nid oedd eglwys y Bettws ond 30, a'r gynulleidfa ond 51. Y tri wyr mwyaf ymdrechgar gyda'r achos fel swyddogion yr adeg hon oeddynt David Roberts, John Owen. Ty'nyffridd, a David Jones, y crydd. Yr oedd J. Owen wedi cael mwy o addysg na'r cyffredin yn yr oes. hono. Efe ydoedd goruchwyliwr ystad Garthewin; symudodd oddi yma i gymydogaeth Cerrig-y-Druidion i fyw. Ond yr oedd David Jones lawn mor ddefnyddiol, ac efallai yn fwy felly na'r un o honynt, o herwydd ei gyfleusdra. Yr oedd yn ddyn cyson, yn meddu ar ddawn gweddi arbenig, ac yn ymadroddwr rhwydd. Byddai yn rhoddi anerchiad yn fynych ar ddiwedd cyfarfod gweddi, ac yn anog y bobl i sobrwydd. Rhagorai John Owen fel rheolwr a threfnydd, David Jones fel gweddiwr a chynghorwr, a David Roberts fel gofalwr a chyfranwr. Dau swyddog blaenllaw, hefyd, oedd Thomas Pritchard, Gwyndy Ucha', a Thomas Parry, Gwern Ciliau. Bu un gangen-ysgol yn nhy Thomas Parry, am gyfnod maith, a dywedir ei fod yn siriol a dengar gyda'r bobl ieuainc. Byddai yn fynych yn dysgu nifer o adnodau i'w hadrodd ar ddechreu yr ysgol, ac efe fyddai yn dechreu canu, er nad oedd bob amser yn sicr o'r mesur, ond gwnai yr hyn a allai. Dyn tawel ydoedd Thomas Pritchard, ac un tra ffyddlawn; nid oedd yn ymadroddwr llithrig, rhaid ydoedd ei gymell. Pan y deuai achos o ddisgyblaeth efe o bawb fyddai yn cael ei wthio i'r blaen; fifty-six fyddai pwysau Thomas Pritchard ar bob rhyw bechod neu fai. Dau swyddog ffyddlon ac ymroddgar, hefyd, oedd J. Jones, Pentreffudan, a John Jones, Llidiart y Porthmyn.

Yn 1830 bu adgyweiriad bychan ar gapel David Roberts, a rhaid mai bychan ydoedd, oherwydd nid oedd y draul ond £30; ac yn 1837 gwnaed y ty capel; yr amaethwyr yn cario y defnyddiau. Costiodd £180.

Yn y flwyddyn 1837 daeth y Parch. J. Ffoulkes i fyw i'r Bettws—J. Ffoulkes, Abergele a Liverpool, a Rhuthyn wedi hyny. Efe oedd y cyntaf fu yn byw yn nhy'r capel, a gwnaeth ei ran gyda'r achos tra fu yn y lle. Yn 1850—53 daeth John Roberts i fyw i'r Bettws, a da oedd gan y ddeadell fechan ei gael. Dyn hoffus a siriol ydoedd yntau, pregethwr cymeradwy gyda'r Corph, a chawn ei fod yn pregethu yn fynych yn y Bettws. Symudodd i fyw i Llandudno, lle y bu farw Mai 18, 1860.

Yn y flwyddyn 1856—57 bu adgyweiriad lled drwyadl ar gapel David Roberts—nid oedd ond ychydig o'r muriau yn aros. Yr oedd y draul yr aed iddi yn £600. Jones, Brynffanigl, ydoedd ysgogydd mawr y symudiad hwn, a gwnaeth ei ran hefyd yn well na neb o'r gymydogaeth y pryd hwnw. Agorwyd y capel hwn gan y Parchn. Henry Rees a John Philips, Bangor. Edward Owen, Bodrochwyn, ydoedd y swyddog hynaf, yn cael ei gynorthwyo gan John Jones, Pentreffudan. Gwnaeth Robert Roberts, Rhwng-y-ddwy-ffordd, ei ran fel swyddog am gyfnod, ond symudodd i fyw i gymydogaeth Llanelwy; David Davies, Wern Ciliau, a David Jones, tad Isaac ac Ed. Jones, oeddynt ddynion ffyddlon yn y cyfnod hwn; ac nid ail i neb o honynt oedd Morris Williams, y crydd; ei nodwedd arbenig ef oedd ffyddlondeb a phrydlondeb; ni byddai yn absenol na Sul na dydd gwaith, a byddai bob amser yn brydlawn, a chai eraill hefyd wybod hyny. Cyhoeddai, un tro—"John Roberts i bregethu am 10 y Sul nesa'; ie, cofiwch, nid haner awr wedi deg, ond bydd yr oedfa yn dechreu ddeg o'r gloch."

Edward Owen oedd y mwyaf selog yn mhoethder Diwygiad '59; o bosibl mai efe oedd yr hynaf o'r swyddogion. Yr oedd amryw eraill yn dra ffyddlon yn y cyfnod hwn nad oeddynt swyddogion, sef Harri Jones, Cynant; John Jones, Dafarn Bara Ceirch; James Jones, Glyngloew; Thomas Jones, Pantyclyd; W. Williams, Ffynhonau; Peter Williams, Dolwen; a Joseph Williams, Rhwng-y-ddwy—ffordd. Fel swyddogion, yn nesaf daw Richard Lloyd, Dolwen; John Ffoulkes, Ty Capel (Llannefydd wedi hyny); David Jones, Gwyndy Uchaf (tad Isaac Jones, Tir hwch, Dyserth), a Thomas Hughes, Cefn Castell. Nodwedd arbenig Thomas Hughes ydoedd ei sel a'i frwdfrydedd gyda'r Ysgol Sabbothol. Mae yn amlwg na bu yr Ysgol Sul erioed yn fwy blodeuog yn y Bettws nag yn nyddiau Thomas Hughes, yn 1860—70. Cawn fod yn bresenol amryw weithiau yn y cyfnod hwn dros gant. Rhif yr eglwys yn 1864 ydoedd 51, a'r gynulleidfa ond 94, ac eto ceid yn yr Ysgol Sul weithiau gymaint a 120; o bosibl fod eraill nad oeddynt. yn rhestru eu hunain yn Fethodistiaid yr adeg hono yn do'd i Ysgol Sul y Methodistiaid. Yn 1870, mewn cyfnod diweddarach drachefn, cawn Edward Williams, Bryncar; David Owen, Pencefn; Thomas Williams, Cowper; a Samuel Williams, Penybryn. Yn y cyfnod hwn daeth gwr ieuanc o bregethwr o'r enw John Isaac Hughes, o Lanerchymedd, i fyw i'r Bettws, a symudodd oddiyma i'r America.

Yn 1861—63 cawn i'r Mri. Charles Jones a Robert Roberts, y ddau yn bregethwyr rheolaidd, dd'od yma, a buont yn gymhorth nid bychan i'r eglwys yn y lle. Bu y cyntaf farw Gorphenaf 16, 1867, a'r llall Medi 6, 1879, yn Ngholwyn Bay.

Yn nghyfarfod dosbarth Mai 4ydd, 1868, y Parch. Robert Roberts, Abergele, yn llywyddu, pasiwyd penderfyniad fod rhaniad y ddyled yn sefyll fel yr ydoedd yn niwedd y flwyddyn 1866, a rhaniad y Bettws y flwyddyn hono ydoedd £255. Amlwg ydyw, mewn trefn i dynu y ddyled hon i £255, fod y dosbarth wedi cymeryd dogn da o'r baich, ond bu y £255 yn aros yn hir ar y Bettws. Cawn i aml gais. o'r cyfarfod dosbarth dd'od i'r lle yn eu hanog i symud gyda'r ddyled.

Diwedd y flwyddyn 1868 aeth Lewis Hughes, Bettws, i'r cyfarfod dosbarth, a gofynwyd iddo roddi eglurhad iddynt pa fodd yr oedd y ddyled. Atebodd yntau nas gwyddai, ond fod ganddo arian yr eisteddleoedd a rhent y ty, £11 7s.

Yn 1876 cawn i David Hughes fyned a chais o'r Bettws i'r cyfarfod dosbarth, yn gofyn a fyddai modd iddynt dynu £100 o'r ddyled, a nodwyd dau frawd i dalu ymweliad â'r eglwys ynghylch y mater yma. Nid oedd brys eto i glirio ymaith y ddyled hon ond, o'r diwedd, daeth y dydd i'r Bettws gael rhyddhád, ac aeth pawb allan fel un gwr, a'i lyfr yn ei law, a chafwyd dogn o'r dosbarth i'w cynorthwyo. Dylid cofio mai i'r cyfarfod dosbarth yr oeddynt yn myned ag arian yr eisteddleoedd y blynyddoedd hyn, ac mai Mr. Davies, Roe gau, Llanelwy, ydoedd y Trysorydd; ac mai efe, yn benaf, fyddai yn talu ymaith ddyledion capelau y dosbarth. Y cyfarfod dosbarth, hefyd, fyddai hyd yn nod yn gosod ac yn derbyn rhenti y tai capelau. Cawn a ganlyn yn llyfr y cyfarfod dosbarth:—

"1875, Hydref 25ain, Bettws.—Cymeradwywyd y cynnygion a ganlyn:— (1) Fod yr eglwys i gymeryd i ystyriaeth pwy a gymer y pregethwr bob mis. (2) Fod Isaac Jones yn cael cynyg ar y ty capel ar y telerau canlynol:— Ei fod i dalu ardreth o £5 yn y flwyddyn, ac hefyd i lanhau a goleuo y capel, ac i dalu yr holl drethi ei hunan. (3) Fod y trustees i roi y tô mewn trefn, ac awdurdodi Isaac Jones i baentio y shop, a chael lwfio hyny o'r rhent y flwyddyn gyntaf. (4) Caed sylw ar ddyled y capel, chludo pregethwyr i Groesengan."

Y mae yn amlwg yr adeg hon fod yr eglwys a'r gynulleidfa yn graddol gynyddu, yn hynod araf mae'n wir, eto cynyddu yr oeddynt. Yn 1880 cawn fod yr eglwys yn rhifo 69, a'r gynulleidfa yn 100. Swyddogion y cyfnod hwn oeddynt Samuel Williams, David Hughes, Cwymp; Hugh Parry, Peniarth. Yn ddiweddarach dewiswyd Henry Lloyd, Dolwen (Gwyndy, Llysfaen, yn bresenol); John Hughes. Sirior Goch; a Hugh Jones, Bod Owen; a'r rhai olaf a ddaethant i mewn i'r swyddogaeth ydynt Robert Davies, Rhwng-y-ddwy ffordd; ac Edward Owen, Nant yr efail (yr hwn a symudodd i Gapel Curig yn 1903).

Diau na ddylai llettygarwch y cofnodau hyn fyned heibio heb eu crybwyll. "Nac anghofiwch lettygarwch." Mewn un cyfnod, y cyfnod boreuaf oll, pan fyddai pregethwr yn y Bettws yn yr hwyr, neu drwy y dydd Sabboth, byddai yn llettya yn Bodrochwyn gyda David Roberts, ac yn achlysurol gyda Mrs. Ffoulkes, Sirior Goch. Os yn y prydnawn yn unig y byddai y pregethwr yn y Bettws, byddai yn cael cwpanaid o de gydag Evan a Margaret Evans, yn y Court Bach. Brydiau eraill elont gyda Morris Williams, Bwlch Gwynt, a chyda'r hen langciau i Dalarn Bara Ceirch, ar eu taith i Gefn Coch. Un amlwg, hefyd, mewn llettygarwch, ydoedd Mrs. Jones, Brynffanigl, yn enwedig am y cyfnod y bu y Bettws a Llysfaen yn daith Sabboth. Anrhegodd yr eglwys, hefyd, â llestri cymundeb, y rhai sydd yn aros ac yn cael eu defnyddio hyd heddyw. Lletty pregethwyr am gyfnod maith ydoedd Dolwen hefyd, o ddyddiau Peter Williams (tad y Parch. John Williams, Rhyl), a Richard Lloyd a'r teulu, hyd o fewn ychydig o flynyddoedd yn ol. Peniarth Bach hefyd. Hugh Parry a'r teulu, sydd a'u ty wedi bod yn agored i groesawu y fforddolion. Y tadau, pa le maent hwy? Ychydig o amser sydd yn newid cartrefi, gobeithiwn nad aiff caredigrwydd a llettygarwch y rhai hyn oll yn ofer, "Yn gymaint a gwneuthur o honoch i un o'r rhai bychain hyn, i mi y gwnaethoch."

Y gweinidog cyntaf a alwyd yn ffurfiol i'r Bettws ydoedd y Parch. D. L. Owen, yn 1892, a bu yn gweithio yn egniol yn mhob cylch, ac yn dra chymeradwy fel bugail, ac yn ymwelydd cyson â'r aelodau. Nid oedd yn gryf o ran iechyd, a symudodd i Rhyl yn 1894.

Yn y flwyddyn 1897 daeth y Parch. O. Foulkes i gymeryd gofal yr eglwys. Yn y flwyddyn hon, hefyd, y daethpwyd i'r penderfyniad i wneyd capel newydd. Ymgynghorwyd a'r Parch. T. Parry, Colwyn Bay, ac aed ymlaen o un galon at y gorchwyl. Y cynllunydd ydoedd Mr. Parry; yr adeiladydd ydoedd Mr. J. D. B. Jones, Colwyn Bay, am y pris o £1,150, yn cynwys y capel a'r ysgoldy, ond nid oedd y lampau nac eisteddleoedd yr ysgoldy i mewn. Yr oedd yr amaethwyr i gario yr oll o'r defnyddiau, a gwnaeth pawb eu rhan yn ganmoladwy. Ysgrifenydd y mudiad hwn ydoedd Mr. H. Lloyd, Dolwen; trysorydd, Mr. J. Hughes, Sirior. Aeth pob peth ymlaen yn ddi-brofedigaeth i bawb, a thuag at ddwyn y gost caed addewidion cyffredinol yn ol fel yr oedd y llaw yn gallu cyrhaedd. Yr oedd y rhoddion hyn yn amrywio o £100 i lawr i dair ceiniog. Rhwymedig ydym hefyd i grybwyll am roddion haelionus Mr. Robert Davies, Bodlondeb, Menai Bridge. Agorwyd y capel hwn yn Mehefin, 1898. Yr oedd y Cyfarfod Misol yn cael ei gynal ynddo yr un pryd. Pregethwyd gan y Parchn. Jonathan Jones, Llanelwy; R. T. Roberts, M.A., D.D., Racine, America, a J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), Porthmadog. Gwneir casgliad at y ddyled bob boreu Sabboth, ac y mae hwn wedi bod yn gymorth nid bychan. Erbyn hyn y mae addewidion y pum' mlynedd o'r bron wedi eu talu. Cyfrifir yr oll o'r costau ynglyn a'r capel presenol o ddeutu £1,400, yn cynwys yr oll o'r cludo a'r dodrefnu, &c. Y mae genym yn bresenol dair ffynhonell i'w ddi-ddyledu: Casgliad boreu Sabboth, arian yr eisteddleoedd, ac elw cyfarfod llenyddol dydd Calan; ac y mae y tair ffynhonell hyn wedi sicrhau yn ystod y blynyddoedd diweddaf o ddeutu deugain punt. O herwydd yr ymdrech diflino sydd wedi bod ynghorph yr wyth mlynedd diweddaf, y mae y ddyled wedi ei thynu i lawr i £300. Amser yn ol rhoddwyd gan Mr. a Mrs. Daniel a Catherine Jones y swm o £160 at wasanaeth yr achos yn y Bettws; can' punt gan y naill a thrigain gan y llall. Y mae llogau y can' punt, rhodd Mr. D. Jones, i'w defnyddio at gynhaliaeth y weinidogaeth; a thrigain Mrs. Jones i'w rhanu, deugain punt o honynt i'w defnyddio fel yr eiddo ei phriod, ac ugain tuag at dalu dyled y capel. Y mae yr arian hyn ar y capel newydd presenol. Yn y flwyddyn 1903. gadawodd y diweddar Mr. Evan Hughes, Glanywern, yn ei ewyllys, y swm o £33 35. 3c. tuag at y weinidogaeth.

Cofrestrwyd y capel i weinyddu priodasau ynddo yn 1901. Y ddau bâr ieuanc a unwyd mewn addoldy Ymneillduol yn mhlwyf Bettws, perthynol i'r Methodistiaid, ac, o bossibl, perthynol i unrhyw enwad Ymneillduol arall, ydoedd y Parch. Owen Foulkes, Minafon, a Miss Emma Parry, Peniarth; a Mr. David Parry, Hendre, â Miss Sarah M. Salisbury, Post Office. Y mae yn ffaith ryfedd i'w chofnodi na phriodwyd ond y rhai uchod o fewn y cyfnod o gant a thair o flynyddoedd mewn addoldy Ymneillduol yn y plwyf. Y rheswm, yn ddiau, ydoedd nad oedd yr un capel wedi ei gofrestru hyd yn ddiweddar.

Trwy y Diwygiad yn 1904 a 5 cafodd ein pobl ieuanc ymweliad neillduol. Chwanegwyd at eu nifer, a deffrowyd hwy i weithgarwch nas gwelwyd ei gyffelyb yma er's o leiaf ddeugain mlynedd. Y mae Arholiad Sirol yr Ysgol Sabbothol yn enill nerth o flwyddyn i flwyddyn; y cymdeithasau dirwestol—yr eiddo y brodyr a'r chwiorydd; y Band of Hope, a'r cyfarfodydd canu yn parhau yn llewyrchus. "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hyny yr ydym yn llawen."

Ystadegaeth
1816 Rhif yr eglwys 24 Y Gynulleidfa 40
1827 30 51
1864 52 85
1889 69 100
1903 95 159
1905 106 166
1907 101 142


Rhestr y Gweinidogion, Pregethwyr, a'r Blaenoriaid.


GWEINIDOGION A PHREGETHWYR.
Parch. T. Jones, Sirior Goch 1816-1818
Parch John Foulkes, Ty Capel 1838-1840
Mr. John Roberts 1843-1853
Mr. Charles Jones 1858-1864
Mr. Robert Roberts 1863-1865
Mr. John Isaac Hughes 1872-1874
Parch. D. L. Owen 1892-1894
Mr. W. P. Jones 1894-1896
Parch. O. Ffoulkes 1897-


BLAENORIAID
Y cyfnod y gweinyddent

(oddeutu)

Mr. Thomas Pritchard, Gwyndy Ucha' 1800-1830
David Roberts, Bodrochwyn
Thomas Parry, Wern Cilia
John Owen, Ty'nyffridd
David Jones, y crydd
Mr. John Jones, Pentreffudan 1830-1850
John Jones, Llidiart y Porthmyn
Edward Owen, Bodrochwyn
David Davies, Wern Cilia
Robert Roberts, Rhwng y Ddwyffordd
John Foulkes, Ty Capel 1850-1870
Richard Lloyd, Dolwen
Morris Williams, crydd
Lewis Hughes, Bettws
David Jones, Gwyndy Ucha'
Thomas Hughes, Cefn Castell
Edward Williams, Bryncar
David Owens, Pencefn
Samuel Williams, Penybryn 1870-1890
David Hughes, Cwymp
Hugh Parry, Peniarth
Henry Lloyd, Dolwen 1890-1908
John Hughes, Sirior Goch
Hugh Jones, Bodowen
Robert Davies, Rhwng-y-Ddwyffordd
Edward Owen, Nant yr Efail

NODIAD. Yr ydym yn ddyledus i'r diweddai Mr. Peter Roberts,

dilledydd, am y rhanau boreuaf o'r hanes hwn.-O. F

LLYSFAEN.

GAN MR. HENRY LLOYD, GWYNDY, GYDA CHWANEGIADAU GAN Y GOLYGYDD.

—————————————

CEIR ychydig o hanes dechreuad yr achos yn y lle hwn yn y Drysorfa am 1837, t.d. 26, wedi ei ysgrifenu gan un a eilw ei hun "Glan Dulas." Ond y mae cyfnod maith wedi hyny nad oes fanylion ar gael am dano, gan fod y rhai sydd a'u hadgof yn cyraedd mor bell yn ol, wedi myned yn ychydig iawn eu nifer. Yn y cofnodion hyn, gwnawn ddefnydd o'r adroddiad y cyfeiriwyd ato hyd y mae yn myned, yn nghyd a'r hyn a gasglwyd o adroddiadau hwn ac arall, am flynyddoedd diweddarach.

"Ary 12fed dydd o fis Tachwedd, 1834," medd yr ysgrif yn y Drysorfa, "agorwyd capel Bethel, plwyf Llysfaen, Sir Gaernarfon, ond perthynol i Gyfarfod Misol Sir Ddinbych. Dyma y capel cyntaf a adeiladodd y Trefnyddion Calfinaidd yn y lle hwn. Dywedir fod rhyw son am gapel wedi bod yma er's blynyddau yn ol; feallai cyn i Mr. Thomas Edwards ymadael o'i fro enedigol i Liverpool [yr hyn a fu yn 1785, neu 1786]. Yr odfa gyntaf a ellais gael hanes am dani yn yr ardal hon ydoedd er's yn nghylch deugain mlynedd yn ol [1794], yn ymyl y ffordd yn agos i Landulas. Mr. Evan Lewis, Mochdre, oedd yn pregethu. Ar ol y bregeth, eisteddodd i lawr, ac eisteddodd y gwrandawyr o'i amgylch, a bu yn dywedyd ychydig wed'yn wrthynt o'i eistedd....

Bu pregethu ar amserau, ac Ysgol Sabbothol hefyd, yn cael eu cynal wedi hyn yn yr ardal oddiamgylch mewn amryw fanau. Tua'r flwyddyn 1811 y dechreuwyd pregethu ac Ysgol Sabbothol yn sefydlog genym yn y gymydogaeth hon, mewn lle a elwir y Geuffos, plwyf Llanddulas; ac yn Bryn y Frân, plwyf Llysfaen. Wedi hyny bu pregethu hefyd dros dro mewn lle a elwir Rhyd y foel, ac yn Cefn y castell. Ar ol hyny, symudwyd oddiyno i Ben y cefn, yn y cwr arall i blwyf Llanddulas. Bu Ysgol Sul a phregethu achlysurol am ysbaid yn Mhlas Llanelian hefyd. Fel hyn y byddai yr achos crefyddol yn ein plith yn cael ei symud trwy ryw achlysuron, o'r naill fan i'r llall, fel y babell gynt yn yr anialwch, hyd oni ddangosodd yr Arglwydd y lle a ddewisodd Efe i osod ei enw ynddo, a hyny mewn modd annisgwyliadwy, trwy symudiad teulu o Gonwy i Lysfaen i breswylio, y rhai a gawsant addewid am le i adeiladu capel, Gwnaed y peth yn hysbys i Gyfarfod Misol y Sir. Yna anfonwyd dau oddiamgylch i ofyn boddlonrwydd y gymydogaeth, ac i edrych pa gyn- orthwy a geid at y gwaith. Wedi gweled en parodrwydd, pwrcaswyd y tir, 20 llath o hyd a 12 o led, yn etifeddiaeth oesol i Gorff y Trefnyddion Calfinaidd.

Tra y buwyd yn adeiladu y capel, dechreuwyd pregethu eilwaith yn Mryn y Frân, ac yna yn Nhy'n y coed, am fod y ty yn helaethach. Cyf. lawnodd y cymydogion eu haddewidion i gludo y defnyddiau yn rhad at y gwaith, y tu hwnt i'n disgwyliad. Maint y capel yw 11 llath wrth 9 y tu newn, yn cynwys 33 o eisteddlenedd. Y cyntaf a bregethodd ynddo oedd Mr. David Elias, Pentraeth, Mon, ar Zech. iv. 6, "Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd."

Tachwedd 11eg a'r 12fed, pryd yr agorwyd y capel, pregethodd y brodyr parchedig canlynol: Nos Fawrth, John Roberts, Brynllwyni, ar Preg. v. I, a Moses Parry, Dinbych, ar 1 Cor. iii. 9. Dydd Mercher, am 10, William Morris, Carmel [Rhuddlan wedi hyny], ar Act. v. 31, a William Jones, Rhuddlan, ar Heb. ii. 3. Am 2, William Morris ar 1 Ioan i. 7. a Daniel Jones, Llanllechyd, ar 1 Bren. ix. 3. Am 6, David Pritchard [Pentir], Sir Gaernarfon, ar Matthew xi. 5, a Daniel Jones ar Act. ii. 37. Cawsom yr hin yn hyfryd, ac yr oedd y gwrandawyr yn lliosog iawn, ac arwyddion fod yr Arglwydd yn gwrando ein gweddiau a'n deisyfiadau; a chysegrwyd y ty yma a adeiladasom, i osod ei enw Ef ynddo byth, &c. Gwel testyn Mr. D. Jones, yn odfa y prydnawn.

Y Sabboth canlynol, symudodd yr ysgol o Ben y cefn i'r capel. Ei nifer yn bresenol [sef yn 1836] ydyw o 60 i 70. Yr ydym wrth y gorchwyl o adeiladu ty a stabl wrth y capel, yr hyn fydd yn ddiau yn dra chyfleus yn y lle hwn pan ei gorphenir. Mae yma hefyd gynulleidfa fechan [eglwys?] ynghylch 20 o nifer, heblaw plant—rhai wedi dyfod o'r eglwysi cymydogaethol, ac ambell un o'r newydd wedi dyfod atom, er tystiolaeth nad ydyw llafur gweision yr Arglwydd yn hollol ofer ac aneffeithiol yn ein plith. Yr ydym wedi ein neillduo yn gangen eglwys i gynal yr achos ar ein traul ein hunain, mewn undeb a thaith Sabbothol y Bettws a Llanelian. Er fod ein nifer yn fychan, a'r achos yn isel a gwael, mae yn ymddangos yn hynod o siriol, er cyfarfod â gwrthwynebiadau o amryw fath. Yr hyn sydd yn tarfu y gwrandawyr fwyaf, ac yn ein digaloni ninau gyda'r gwaith, yn nesaf at ein camymddygiadau fel crefyddwyr, ydyw prinder pregethwyr; gan hyny, yr ydym yn deisyf ar ein brodyr yn y weinidogaeth ymweled â ni mor fynych ag y gallant, cany trwyddynt hwy yr ydym yn disgwyl cael ein hadeiladu."

Ymddangosodd yr hanes uchod ymhen ychydig gyda dwy flynedd ar ol agoriad y capel; ac wrth ei ddarllen, anhawdd peidio sylwi ar ddistawrwydd yr awdwr am y blaenor, neu y blaenoriaid oedd yma pan sefydlwyd yr eglwys. Dywedir. mai Robert Roberts, y Geuffos, Llanddulas, oedd y cyntaf a alwyd i'r swydd: ac nid anhebyg, oherwydd y distawrwydd yma, nad efe oedd Glan Dulas." Pan godwyd capel Beulah, Llanddulas, symudodd ef yno, a bu yn flaenor defnyddiol a gweithgar yn Beulah hyd ddiwedd ei oes. Ceir rhagor o'i hanes ef ynglyn a'r achos yn Llanddulas.

Yn fuan wedi codi y capel, daeth gwr o'r enw David Owen, o gyffiniau Gwytherin, i fyw i Ben y Cefn, a chafodd ei alw yn flaenor yn Llysfaen. Yn ol a gofiwn ac a gasglwn am dano ef, yr ydoedd yn wr tra ffraeth. Pan yn siarad, gwnai hyny mewn tôn lled uchel Meddai ddawn gweddi hapus. Yr oedd ol darllen a myfyrio llawer yn Llyfr y Psalmau arno. Nis gellir dyweyd ei fod yn dduweinydd cryf, ond gallai ddefnyddio ei wybodaeth yn dra effeithiol pan yn arwain yn y cyfarfod eglwysig. Bywiogrwydd a byrdra oedd yn ei nodweddu, ynghyd a ffyddlondeb, a phrydlondeb. Bu ei dy yn llety gweinidogion y Gair am flynyddau. Gan fod Pen y Cefn yn sefyll rhwng Llysfaen a'r Bettws, yr oedd yn gyfleus i'r pregethwyr ar eu ffordd o'r naill le i'r llall. Oddeutu y flwyddyn 1865, symudodd ei aelodaeth i'r Bettws, a dewiswyd ef yn flaenor yno hefyd. Yn 1870, aeth i bentref y Bettws i fyw, ac yno y bu farw ymhen ychydig flynyddoedd, wedi cyrhaedd oedran teg.

Blaenor arall yn yr adeg yma oedd John Evans, Bryniau Cochion,—gwr rhagorol a defnyddiol. Symudodd oddiyma i fyw i Ty isa'r Gell; ac yn flaenor yn Cefn Coch y bu farw yn 1859.

Un arall oedd Hugh Williams, Brynydefaid, ar ol hyny Bodhyfryd. Ymddengys ei fod ef wedi bod yn swyddog eglwysig ac yn flaenor y gân yma am lawer o flynyddoedd. Gwr tawel, yn dangos cryn lawer o allu meddyliol, ac ôl darllen arno, ydoedd ef. Ystyrid ef yn wr o brofiad a barn dda. Ni chafodd fanteision addysg bore oes; ond trwy ei yni a'i ymroad, llwyddodd i ddysgu cyfundrefn y Tonic Sol-ffa pan y daeth gyntaf i arferiad yn y cylchoedd hyn, a hyny pan ydoedd ef wedi myned i hen ddyddiau. Yr oedd yn gerddor gwell na'r cyffredin yn ei ddydd. Gwasanaethodd yr achos gyda llawer o ffyddlondeb a gweithgarwch. Bu farw yn y flwyddyn 1877, a chladdwyd ef yn mynwent y plwyf.

Y nesaf o'r blaenoriaid oedd John Hughes, Pant y Clyd, wedi hyny o Ben y Cefn. Brawd ffyddlon gyda'r achos fu yntau. Er ei fod yn byw ymhell o'r capel, byddai bron bob amser yn bresenol yn moddion y Sabboth a'r wythnos. Nid oedd ei ddoniau yn ddisglaer; ac yn y cywair lleddf y byddai fel rheol o ran ei brofiad ysbrydol. Eto yr oedd iddo "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Yr oedd yn gyfranwr cyson a hael hyd eithaf ei allu at yr achos, a dangosai lawer o ofal drosto. Bu farw yn 1884, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn y Bettws. Erys adgofion serchus am dano

Un arall o'r blaenoriaid a fu yn cydoesi â'r tri diweddaf a enwyd oedd David Jones, Pentre-du,—gwr tawel, dirodres. Er nad oedd wedi ei gynysgaeddu â doniau gwych, eto, meddai allu hapus i arwain yn y cyfarfodydd eglwysig, a theimlai y rhai fyddai yn bresenol mai hawdd oedd adrodd eu profiad iddo, gan mor gartrefol y teimlid gydag ef. Fel rheol, byddai ei brofiad crefyddol ef ei hun yn obeithiol. Enillodd iddo ei hun "radd dda" fel swyddog eglwysig. Bu ei dy yn fynych yn llety pregethwyr y daith. Yn 1881, symudodd i fyw i'r Clwt, Bettws, a bu farw yno yn 1902, a chladdwyd ef yn y Bettws.

Cyn myned yn mhellach gyda'r blaenoriaid, nodwn ychydig enwau eraill fu amlwg gyda'r achos yma yn y cyfnod hwn:—

Un oedd Robert Roberts, Bryn y Frân, Saer maen wrth ei alwedigaeth. Efe a'i fab o'r un enw, a adeiladasant y capel.

Samuel Roberts, a'i frawd Robert Roberts, y Pebi, oeddynt gymeriadau rhagorol. Bu eu chwaer, Elizabeth Roberts. yn briod â Robert Roberts, y Geuffos. Yr oedd hithau yn athrawes ffyddlawn a medrus yn yr Ysgol Sul.

Un arall y dylid ei henwi oedd Ann Evans, Plas—helyg: gwraig dawel a chrefyddol; a byddai yn arfer cymeryd rhan yn y moddion gweddio, pan na byddai yno frodyr i wneyd hyny; peth lled ddieithr yr amser hwnw.

Brawd arall selog oedd Robert Llwyd, Plas yn y Coed; hefyd, Hugh Jones, Tai newyddion. Ei nodwedd arbenig ef oedd ei wybodaeth Ysgrythyrol. Bu farw yn 1868.

Hefyd, Robert Parry. Tai'r capel; Edward Roberts, Croes onen; William Hughes (Farrier): Robert Jones. Tai newyddion; Hugh Hughes, a'i wraig, Elizabeth Hughes, Bryngwylan, a bu y ddau yn amlwg mewn duwioldeb; Thomas Hughes, Cefn y Castell, yn nodedig o weithgar gyda'r Ysgol Sul.

Yn awr, deuwn at y blaenoriaid a'r gweinidogion mewn adeg ddiweddarach. Y nesaf o'r blaenoriaid oedd Robert Hughes, Ty'r capel. Yr oedd ei gysylltiad agos ef a'r achos cyn ei alw yn swyddog, wedi ei gyfaddasu i'r gwaith ar ol ei alw yn ffurfiol iddo. Yr oedd ganddo brofiad dwfn of wirioneddau yr efengyl, ac yr oedd Llyfr y Psalmau yn "borfeydd gwelltog" ganddo; a bu hyny yn fantais fawr iddo yn y cyfarfodydd eglwysig. Meddai gasgliad gweddol dda o lyfrau crefyddol, a gwnai ddefnydd da o honynt. Hynodid ef gan barodrwydd a phertrwydd lawer. Bu farw yn 1887, a chladdwyd ef yn mynwent y plwyf. Merch iddo ef yw Miss Hughes, sydd yn awr yn cadw ty'r capel. Mae hithau yn un o blant yr eglwys hon, ac yn hysbys am ei mawr sel dros yr achos.

Un arall oedd David Jones, Ty isa'. Daeth yma o Lanelian oddeutu 1883. Heblaw bod yn flaenor, yr oedd hefyd yn arweinydd y gân. Symudodd i Golwyn oddeutu 1887.

Y blaenoriaid a alwyd ac sydd eto yn fyw ydynt y rhai canlynol:—

Yn 1887, galwyd pedwar o frodyr, sef William Parry, Ysgubor newydd (yn awr Ty gwyn); John Parry, Shop newydd: Robert Parry, Brynonen (symudodd ef i'r America yn 1890); a Hugh Hughes, Glasfryn (symudodd yntau i Golwyn yn 1897).

Yn 1895, dewiswyd Hugh Roberts, Brynonen, ac Owen Parry Jones, Penygeuffos, yr hwn a symudodd i ardal Abergele yn 1900. Ac yn yr un flwyddyn, dewiswyd ei frawd, Wm. Parry Jones, a Henry Lloyd, Gwyndy. Buasai y diweddaf yn flaenor yn y Bettws am flynyddau lawer cyn dyfod yma.

GWEINIDOGION.

Yn 1877, daeth y Parch. Thomas Hughes yma yn weinidog i'r daith. Efe oedd y bugail cyntaf a fu yma, a gwnaeth waith da. Derbyniodd alwad o Vale Road, Rhyl, a symudodd yno yn 1882.

Yn 1891, daeth y Parch. Evan Hughes yma hyd 1894. Cafodd alwad oddiyma i Talybont. Yna y Parch. John Evans, o 1895 hyd 1899. Cafodd yntau alwad i London Road, Caergybi.

Yn 1899, daeth y Parch. Moses Roberts, a chafodd ei alw oddiyma i Spennymor yn 1903. Y Parch. W. Wilson Roberts, o Felinheli, ddaeth yma yn 1905, sydd yn llafurio yma yn bresenol.

Heblaw y gweinidogion hyn, bu y Parch. Edward Roberts. (Llanfairfechan gynt), yn aelod yma am ysbaid, ond yn byw yn Ngholwyn Bay.

Yn y bylchau, pryd na byddai yma weinidog, cawn fod y Parchn. Thomas Parry, Colwyn Bay (1885), D. L. Owen, Bettws (1893) wedi bod yma yn cynal cyfarfodydd eglwysig. Er pan y sefydlwyd yr achos yn Llysfaen, bu y cyfnewidiadau canlynol ar y daith Sabbothol. Ar y cyntaf, yr oedd Bettws, Llanelian, a Llysfaen yn daith. Wedi adeiladu capel Colwyn, yn 1862. Bettws a Llysfaen oedd y daith hyd 1874. O hyny hyd yn bresenol, Llysfaen a Llanddulas, ac yn ofalaeth fugeiliol.

YR ADGYWEIRIADAU.

Yn y flwyddyn 1877 y cawn hanes yr adgyweiriad cyntaf o bwys fu ar y capel ar ol ei adeiladu. Y pryd hyny y rhoddwyd nenfwd (ceiling) ynddo, y paentiwyd yr eisteddleoedd, y gostyngwyd y pulpud, ac y rhoed llawr newydd yn y lle nad oedd eisteddleoedd. Y draul oddeutu £55.

Drachefn, yn 1891, bu adgyweiriad helaethach, dan arolygiaeth y Parch. Thomas Parry, Colwyn Bay, a Mr. Thomas Jones, asiedydd, Llysfaen, yn gwneyd y gwaith. Yr oedd i'r hen gapel ddau ddrws yn gwynebu y ffordd, a'r pulpud rhwng y ddau. Yr eisteddleoedd yn codi o ris i ris, a'r sêt dan y pulpud yn cael ei hamgylchu â rhai llai, gyda meinciau rhyddion yn nghanol y llawr. Ond yn yr adgyweiriad yma, cauwyd un o'r drysau,—y nesaf at y ty—a dodwyd y pulpud yn y pen hwnw. Rhoed ynddo bulpud ac eisteddleoedd newyddion. Porth y tuallan i'r drws, a mur newydd rhyngddo â'r ffordd. Traul oddeutu 150.

Yn Hydref, 1907, bu adgyweiriad ac ychwanegiad at yr adeiladau. Cafwyd darn o dir yn rhodd gan yr olaf o'r blaenoriaid a enwyd, sef Mr. Henry Lloyd, ac adeiladwyd arno ystafell yn gysylltiol a'r capel, yn yr ochr dde i'r pulpud, a drws dwbl (folding door) rhyngddi â'r capel, fel y gellir defnyddio yr ystafell a'r capel yr un adeg, pan y bydd angen am hyny. Maint yr ystafell yw 10 llath wrth 6. Cafodd y capel ei liwio, a'r eisteddleoedd eu glanhau yr un pryd. Y cynllunydd y tro hwn eto oedd y Parch. Thomas Parry, U.H.. Colwyn Bay, a'r adeiladwyr oeddynt Mri. Davies a Jones, Colwyn Bay. Traul o £250.

Wrth fwrw golwg dros y cyfnod maith yma, araf yw cynydd yr achos wedi bod. Gan fod yma yn 1836 o 60 i 70 yn yr Ysgol Sabbothol. disgwyliasid cynydd cyflymach; eto, os yn araf, y mae yn gynydd sefydlog. Ac yn ddiau. "y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob."

BEULAH, LLANDDULAS.

GAN Y DIWEDDAR MR. THOMAS WILLIAMS, BRYNYDON, GYDAG YCHWANEGIADAU GAN Y GOLYGYDD.

ADEILADWYD y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn yr ardal hon yn 1844—5, ar brydles o un mlynedd ar hugain, a phunt yn y flwyddyn o ground rent. Cafwyd cynorthwy rhad gan amryw o'r ffermwyr cymydogaethol i gario defnyddiau ato, ac felly nid oedd y draul ond oddeutu trigain punt. Wedi i'r brydles ddod i ben telid ardreth o bum' punt y flwyddyn; a gwnaed hyny am namyn un deugain mlynedd.

Y prif symudydd ynglyn â'r capel hwn oedd Robert Roberts, o'r Geuffos,—mab i'r gwr o'r un enw ac o'r un lle y coffeir am dano yn rhestr blaenoriaid Abergele. Yr oedd efe wedi cael mwy o fanteision addysg na'r cyffredin yn y dyddiau hyny; yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn dduwinydd da. Efe am flynyddau oedd yr unig flaenor. Yn gydweithwyr âg ef yr oedd John Jones, o'r Bryngwyn, ger Plasnewydd: Robert Hughes, o'r Lodge, Tanyrogo: a John Hughes, Fforddhaiarn. Bu J. Jones a R. Hughes yn arwain y gân am flynyddoedd, y naill yn niffyg y llall. Y mae un arall na ddylid myned heibio iddi heb wneyd coffa parchus am ei henw, sef Mrs. Hughes, Ty Ucha; modryb chwaer ei fam i'r diweddar Barch. Thomas Gee. Dinbych. Yr oedd hi yn foneddiges wir grefyddol, wedi cael diwylliant uwch, ac yn rhagori mewn nerth meddwl ar y lliaws o'i chymydogion. Yr oedd hefyd yn dra haelionus a gwir ofalus am yr achos yn ei holl ranau. Yn y Ty Ucha y lletyai y pregethwyr bob amser. "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Yr oedd ei phriod hefyd yn wr dichlynaidd ei foes, ac yn wrandawr cyson, ond ni bu erioed yn aelod eglwysig.

Dyma y prif rai fu yn cychwyn achos y Methodistiaid yn Llanddulas. Cyn adeiladu capel Beulah arferai Robert Roberts a Mrs. Hughes fyned i gapel Llysfaen; a'r pryd hwnw cynhelid cyfarfodydd gweddio ar adegau yn y Ty Ucha.

Tua'r adeg yma daeth gwr o'r enw Edward Williams, a fuasai yn gadben gwaith mwn, o Gilcen, i fyw gyda'i fab yn y Pant, sydd yn awr yn adfeilion, ger Garthgogo. Bu hefyd yn gynorthwy sylweddol i'r achos yn Llanddulas. Yn gymaint a bod Beulah yr adeg hono, ac am lawer blwyddyn ar ol hyny, sef o 1845 hyd 1874, yn daith Sabbothol gydag Abergele, ac na cheid ond un bregeth bob Sabboth, a hono am ddau o'r gloch, gofynid yn achlysurol i Edward Williams roddi gair o gyngor. Yr oedd efe wedi bod yn pregethu yn gymeradwy am flynyddau, ond wedi ei atal oherwydd yfed i ormodedd. Eithr yn y Diwygiad Dirwestol yn 1835 adferwyd ef i fod yn llwyr ymwrthodwr, ac yn areithiwr gwresog ar Ddirwest; ond nid ymddengys y gwnaeth gais o gwbl am gael ail ddechreu pregethu. Oherwydd hyny, geiriau gochelgar Robert Hughes, y Lodge, wrth ei gyhoeddi ef fyddent, "Heno, bydd Edward Williams yn dweyd gair neu ddau." Yma dylid crybwyll mai Mr. Henry J. Roberts, Manchester House, Abergele, a gymerai y drafferth yn ddidraul i bawb ond efe ei hun, i gludo y pregethwr o'r dref i Llanddulas ac yn ol, tra y bu y ddau le yn daith.

Dywedasom mai un bregeth a gaem yma bob Sabboth, ond nid anfantais o bob cyfeiriad oedd hyny. Oherwydd ein cysylltiad â'r dref, yr oedd yr un hono yn fynych gan rywun o brif bregethwyr y Cyfundeb. Hwyrach y dylasem fod wedi dweyd cyn hyn mai y Parchn. Henry Rees a John Hughes (hynaf), Liverpool, fu yn gweinyddu yn agoriad y capel hwn, pryd y traddodai Mr. Rees ei bregeth ryfeddol ar "werthfawr waed Crist," gydag arddeliad neillduol. Ac heblaw hyny, os un odfa a gaem, bu hyn yn achlysur i godi tô o ddarllenwyr a gweddiwyr cyhoeddus na chawsid eu cyffelyb oni buasai yr angenrhaid a osodid arnynt i ymbarotoi trwy fyfyrdod ac ymarferiad. Dau amlwg ymysg y cyfryw oedd David Davies, y Gadlas, a David Hughes, y Cwymp.

Yn 1874, modd bynag, gwnaed cyfnewidiad yn nhrefn y daith. Yr oeddys er's tro cyn hyny yn cael pregethwr i fod yma yn unig, tuag un Sabboth o bob mis. Ond yn y flwyddyn a nodwyd, trwy ganiatad a chynorthwy arianol y Cyfarfod Misol, anturiwyd i ymysgar oddiwrth Abergele, ac ymgysylltu yn daith gyda Llysfaen, fel ag i gael dwy odfa bob yn ail Sabboth. Yn daith gyda'r Bettws y buasai Llysfaen hyd hyny, ac yn cael un odfa bob Sabboth gan y sawl fyddai yn pregethu yno. Yr oedd amryw deuluoedd parchus yn perthyn i Beulah yr adeg yma, ac agorodd saith o honynt eu drysau ar unwaith i letya y pregethwyr—pob teulu ei fis. Yn wir, yr oedd yr achos yn ei holl ranau y blynyddoedd hyny yn dra lewyrchus. Trwy ymroad a medr Mr. J. T. Jones, yn awr o Bodaled, Rhyl, yr hwn yn wr ieuanc gweithgar oedd yn byw yma ar y pryd. Beulah, Llanddulas, oedd un o'r lleoedd cyntaf os nad y cyntaf oll yn yr amgylchoedd hyn i ymgymeryd ag astudio cerddoriaeth yn ol cyfundrefn y Tonic Sol—ffa. A thrwy y symbyliad a dderbyniwyd oddiwrth ieuenctyd y lle hwn, y cymhellwyd Llysfaen, Colwyn a'r Bettws i wneyd yr un peth.

Naturiol gan hyny yw gofyn, Pa fodd na buasai yr achos yn y lle yma yn dal ei ffordd ac yn llwyddo yn amgenach? Yr ateb yw, yn ol pob golwg ddynol, mai bychandra y capel, ac o'r diwedd ei stad adfeiliedig, oedd y prif os nad yr unig achosion. Eisteddleoedd i bedwar ugain yn unig oedd ynddo ar y cyntaf. Meddyliwyd am ei helaethu mor gynar a 1859, ymhen deg mlynedd wedi ei adeiladu; ac ymgymerodd pedair merch ieuanc a theithio yr ardaloedd o afon Clwyd hyd afon Conwy, a phellach na hyny, i gasglu at yr amcan. Diau na raid ymesgusodi am gadw eu henwau rhag myned ar goll—Miss Caroline Hughes (Mrs. William Williams, Ffynhonau, Abergele), a'i chwaer Miss. Emma Hughes (Mrs. Thomas Jones, Esmore House, Abergele), merched Mr. Robert Hughes, y Lodge; a Miss Jane Hughes (Mrs. Roberts, Llysfaen). llysferch Mr. Robert Jones, un o'r blaenoriaid, a Miss Ellen Williams (Mrs. Robert Davies), chwaer i'r blaenor adnabyddus Mr. Thomas Williams, a fu farw yn ddiweddar; a llwyddasant i gasglu swm sylweddol. Ond oherwydd anhawsder gyda'r brydles ac hwyrach rai pethau eraill, ni wnaed dim yn rhagor y pryd hwnw gyda'r capel na gosod un cor yn ychwaneg ynddo. Syn yw adrodd y buwyd am ddeugain mlynedd neu fwy yn methu cael tir i adeiladu capel newydd arno. O'r diwedd, modd bynag, yn 1904 cafwyd prydles am gan' mlynedd ond un, ar y tir y safai yr hen adeilad arno, gyda chwanegiad ato—y ground rent yn bum' punt y flwyddyn. Erbyn hyn y mae addoldy hardd, cadarn a chyfleus, gyda thy ac ystafell i gynal Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd eraill yn ystod yr wythnos wedi eu codi. y rhai a gostiodd yn agos i £1,600 Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol Gorphenaf y 6ed a'r 7fed, 1905. Pregethwyd ynddo y waith gyntaf nos Iau y 6ed, gan y Parch. Francis Jones, Abergele, a thranoeth gan y Parchn. Robert Williams. Tywyn; John Roberts, Warren Road. Rhyl, a D. Tecwyn Evans, B.A. (W). Y blaenoriaid a fu yma o ddechreuad yr achos hyd yn awr yw y rhai canlynol:—

YMADAWEDIG:

Mr. Robert Roberts, y Geuffos.
John Hughes, Ffordd Haiarn.
John Jones, Bryngwyn.
Robert Jones, Y Waen.
David Davies, Gadlas.
William Hughes, Bronydon.
Thomas Williams, Bronydon, 1873—1907.

Mr. Thomas Williams, yr olaf ar y rhestr uchod, yn ddiau a wnaeth fwyaf o wasanaeth i'r eglwys ac i'r ardal hon o neb o honynt. Yr oedd amlder y swyddi cyhoeddus a ddaliai yn brawf o'r ymddiriedaeth lwyr a feddai ei gymydogion ynddo fel gwladwr, ac ni siomwyd hwynt erioed ganddo. Fel crefyddwr, bu yn flaenor yn eglwys Beulah am bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yn arweinydd y gân am o leiaf bymtheg ar hugain. Efe hefyd oedd ysgrifenydd yr eglwys er's blynyddau lawer, ac y mae trefnusrwydd y cyfrifon a gedwid ganddo o flwyddyn i flwyddyn o dderbyniadau a thaliadau yr eglwys, ei gofnodion destlus o'r gohebiaethau, &c., ynglyn ag adeiladaeth y capel newydd, gan gynwys y copi o'r brydles, yn ddrych lafur, gofal, medr a doethineb tra eithriadol. Colled anrhaethol i'r eglwys fechan hon, ac i ardal Llanddulas yn gyffredinol oedd marwolaeth gwr o gymeriad mor gyflawn a phur. Cymerodd hyny le yn y Royal Infirmary, Liverpool, nos Fawrth, Rhagfyr 10fed, 1907, ar ol bod dan driniaeth lawfeddygol, a chladdwyd ef yn mynwent y plwyf, Llanddulas, y Sadwrn dilynol, ynghanol arwyddion o alar diffuant.

YN AWR YN FYW:

Mr. J. T. Jones, yn awr o Rhyl. Bu yma o 1868-1875.
Edward Jones.
John Williams.
Owen Hughes.
John R. Evans.


Ceir enwau y gweinidogion a lu yma yn fugeiliaid,

ynglyn a hanes Bethel, Llysfaen.

PEN Y BRYN LLWYNI A'R MORFA.

GAN Y PARCH. JONATHAN JONES, LLANELWY.

FE ddeallir mai yr un achos sydd yn bresenol yn y Morfa ag oedd gynt yn Mhenybryn. Saif Penybryn tua milldir a haner yn nes i Lansantsior ac Abergele na'r Morfa. Mae capel y Morfa yn sefyll ar y tafod o Sir Fflint sydd yn ymestyn o Ruddlan tua Kinmel, lle y preswylia Arglwydd Raglaw y Sir hono.

Y mae yn amlwg ddarfod i'r Methodistiaid ddechreu ymsefydlu yn ardal Penybryn tua dechreu y ganrif ddiweddaf. os nad yn niwedd yr un flaenorol. Ymddengys y dechreuodd y gwaith yma tua'r un adeg ag y cychwynodd yn Abergele, yr hwn le sydd tua thair milldir yn nghyfeiriad y gorllewin ar un llaw, ac hefyd tua'r un amser ag y dechreuodd Methodistiaeth yn Nghefn Meiriadog, yr hwn sydd le tua thair milldir i gyfeiriad y de o Benybryn ar y llaw arall. Fel mewn llawer o ardaloedd eraill yn y wlad, dywedir mai mewn ysgubor y cychwynodd yr Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd crefyddol eraill yma gyntaf. Mae yn debyg hefyd y cynhelid rhai o'r cyfarfodydd mewn tai cyfagos pan fyddai hyny yn gyfleus a dymunol. Yr oedd yr ysgubor hono yn agos i'r fan lle, ar ol hyny, yr adeiladwyd capel Penybryn. Safai y capel hwn ar dir sydd yn awr yn faes agored, yn agos i'r tai newyddion a elwir Terfyn Cottages sydd ar fin y ffordd rhwng Bolelwydden ac Abergele. Nid oes unrhyw olion o hono i'w gweled erbyn hyn. Daeth y brydles ar yr hon yr oedd wedi ei adeiladu i ben tua'r fwyddyn 1864, a thynwyd ef i lawr yn ddibetrus gan berchenog etifeddiaeth Kinmel. Nid ydym yn gwybod beth oedd hyd y brydles, ac felly nis gallwn wybod yn fanwl pa bryd yr adeiladwyd y capel. Credwn i hyny gymeryd lle yn bur agos i ddechreu y ganrif ddiweddaf, o leiaf yn ystod yr ugain mlynedd cyntaf o honi, os nad cyn hyny. Yr oedd wedi ei adeiladu o flaen hen gapel y Tywyn, a elwid "Salem" neu "Miller's Cottage." Yr oedd yn adeilad bychan destlus, yn cynwys lle i tua 120 i eistedd, a dau ddrws yn ei ochr i fyned i mewn iddo, a'r pulpud rhwng y ddau ddrws, yn ol cynllun cyffredin capelau y dyddiau hyny. Cynwysai ddwy sedd ysgwar i gantorion wrth y set fawr, y naill i feibion a'r llall i ferched, a lle yn mhob un honynt i ddeg o bersonau. Codwyd ty capel hefyd yn gysylltiedig ag ef. Bu cartref yr achos crefyddol, fel y credwn, yn y capel bychan hwn am haner cant neu driugain o flynyddoedd, os nad am ragor na hyny. Gan nad yw y brydles, hyd y gwyddom, ar gael erbyn hyn, ac nad oes neb bellach yn fyw sydd yn cofio yn ddigon pell yn ol, nis gallwn fod yn fanwl am amser ei adeiladiad, nac am y nifer o flynyddoedd y parhaodd.

Y mae cyflawnder o dystiolaethau y bu yr eglwys fechan yn Mhenybryn o wasanaeth mawr a sylweddol i grefydd a moesoldeb yn y fro am faith flynyddoedd. Y blaenoriaid cyntaf y gallwn gael gafael ar eu henwau, a'r rhai cyntaf a fu yn y lle o gwbl, fel y credir, oedd y rhai canlynol:—

JOHN JONES, Y LLETY.—Er nad oedd ond un cyffredin ei ddawn a'i amgylchiadau, eto meddai dduwioldeb diamheuol, a bu o ddefnydd mawr i'r achos, a bu farw mewn tangnefedd.

Jous HUGHES, PENYFFRIDD.—yr hwn a fu yn ffyddlon gyda'r achos am flynyddoedd lawer, hyd ei farwolaeth. Wedi hyny galwyd WILLIAM HUGHES, ei fab, o'r un lle i'r swydd, a gwasanaethodd yntau gydag ymroddiad am amser maith. Cyfarfyddodd ef à damwain a derfynodd yn ei farwolaeth, er gofid mawr i'w deulu yn Mhenyffridd, ac er colled bwysig i'r eglwys a'r achos yn Mhenybryn. "Yr un ddamwain a ddigwydd i'r cyfiawn ac i'r drygionus."

Bu JOHN JONES, Y SHOP, LLANSANTSIOR, hefyd yma yn flaenor am dymor maith. Buasai ef yn un o ysgolheigion cyntaf y Parch. Thomas Lloyd, yr athraw enwog, yn Abergele. Arferai John Jones ymffrostio llawer yn ei hen athraw a'i ysgol, ac yn enwedig yn y ffaith ei fod ef yn un o'r rhai cyntaf o'r disgyblion. Mr. Lloyd hefyd oedd yn y seiat yn Mhenybryn y noson y dewiswyd John Jones yn flaenor, a choleddai yr athraw syniadau uchel am ei hen ddisgybl. Y John Jones hwn oedd tad Mrs. Hughes, sydd yn bresenol yn byw yn y Ty Newydd, Llanelwy.

Blaenor arall fu yma am flynyddoedd oedd ISAAC HUGHES (gwr Mrs. Hughes a grybwyllwyd ddiweddaf), a breswyliai yn Llansantsior. Parhaodd ef i wasanaethu yn y swydd tra y bu capel Penybryn yn aros, ac am beth amser wedi tynu y capel i lawr, pryd y gwnaed yr achos yn ddigartref, ac y gorfodwyd yr eglwys fechan i gartrefu fel y gallai mewn ty anedd, a elwid y pryd hwnw, ac a elwir eto, "Y Sun." Yn y flwyddyn 1865 symudodd Isaac Hughes i fyw i ardal Cefn Meiriadog, lle y galwyd ef drachefn i fod yn flaenor, ac y gwasanaethodd yn y swydd yn ymdrechgar hyd ei farwolaeth yn 1899.

Bu JOSEPH HUGHES, brawd Isaac Hughes, hefyd yn flaenor am flynyddoedd yn Mhenybryn, ac yn ddefnyddiol yn y swydd hyd nes y symudodd o'r gymydogaeth i fyw i Golwyn. Galwyd ef yn flaenor hefyd yno, a bu yn ffyddlon hyd angau. Gwr darllengar, myfyrgar, ac o duedd i gyfranu goleuni i eraill mewn cymdeithas oedd efe. Y rhai fu yn gwasanaethu fel arweinwyr y canu, yn ol eu medr a'u gallu amrywiol, oedd, y cyntaf, JOSEPH JONES, "Y Prydydd," fel y'i gelwid, am ei fod wedi ei ddonio a gradd o'r awen farddonol, neu o leiaf, yr oedd ef ei hun dan yr argraff hono. Olynydd Joseph Jones fel arweinydd y canu oedd HARRY HUGHES, Tanycae, goruchwyliwr ar waith mwn Bodelwydden, a bu ei wasanaeth i ganiadaeth y cysegr yn dderbyniol am gryn dymor. Gydag ef, ac ar ol ei amser ef, bu JOSEPH HUGHES ac ISAAC HUGHES, y ddau frawd y cyfeiriwyd atynt eisoes fel blaenoriaid, hefyd, yn gwneyd eu rhan gydag arwain mawl yr eglwys a'r gynulleidfa.

Gosodwyd yr eglwys yn Mhenybryn dan ddyled am y gwasanaeth ffyddlon a gafodd gan amryw o chwiorydd crefyddol a duwiol. Gellir enwi Mrs. Davies, y Gofer, a Mrs. Pierce, Bodegwal, fel rhai a gymerasant lawer o boen, neu yn hytrach a gawsant lawer o bleser "er mwyn ei enw Ef," drwy lettya pregethwyr a gweini llawer ar yr achos mawr am lawer blwyddyn.

Heblaw y brodyr a'r chwiorydd a nodwyd fel rhai fu'n flaenoriaid, yn arwain gyda'r canu, &c., bu yma hefyd gyda hwy frodyr selog a defnyddiol gyda'r Ysgol Sabbothol— John Williams, y Parc; Robert Hughes, yr Hendy; John Jones, Tanybargod (Ty Newydd ar ol hyny). Thomas Roberts, Penybont, ac eraill.

Bu dau bregethwr yn perthyn i'r eglwys yn Mhenybryn am dymor. Un oedd JOHN ROBERTS, ar ol hyny o'r Bettws, ac yn ddiweddarach o Llandudno, yr hwn oedd bregethwr mwyn a buddiol, ac a fu o wasanaeth effeithiol yn y seiat, a chylchoedd eraill, tra yma. Nid un mawr ei ddawn, ond dwfn ei dduwioldeb, oedd ef. Preswyliai yn y Ty Capel. Yma y dechreuodd ef bregethu yn 1830. Yma hefyd yr oedd y Parch. EMRYS EVANS, ar ol hyny o Cotton Hall, Dinbych, yn aelod tra y bu yn amaethu yn y ffarm a elwir y Llwyni, lle heb fod ymhell o Benybryn. Rhoddodd yntau a'i deulu lawer o wasanaeth i'r achos, yn arbenig yn y cyfarfod eglwysig. Gwr coeth, urddasol, doeth, wedi cael addysg dda, oedd efe. Yr oedd yn un o'r efrydwyr hynaf yn Ngholeg y Bala, a bu cyn diwedd ei oes yn Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd. Yr oedd cael gweinidog felly mewn eglwys fechan yn llawer o galondid ac o nerth iddi. Cafwyd colled drom drwy ei symudiad ef oddiyma i Cotton Hall.

Fel y crybwyllwyd, daeth y brydles oedd ar y tir yr oedd y capel wedi ei adeiladu arno i ben tua'r flwyddyn 1864. Syrthiai y capel a'r ty cysylltiedig âg ef i ddwylaw perchenog etifeddiaeth Kinmel. Tynwyd y cwbl i'r llawr. Gwnaed yr un peth ag amryw-tua 10 neu 12-0 amaethdai a thai anedd yn yr ardal, er mwyn troi yr oll yn rhanau o barc Kinmel. Lleilaodd hyn boblogaeth yr ardal yn fawr. Dyma y rheswm am fod llawer o enwau tai a thyddynod yn hyn o hanes, y rhai nad ydynt mewn bod erbyn hyn. Collwyd y cwbl yn y parc. Diau fod perffeithio y parc yn fwy pwysig yn ngolwg ei berchenog nag oedd capel ac eglwys Ymneillduol. Gadawyd achos Gwaredwr y byd heb le i roi ei ben i lawr am ddwy flynedd; ac o ran y tir-feddianwr hwnw, buasai yn yr un cyflwr hyd y dydd hwn. Canlyniad hyn oedd symud y capel tua milldir a haner o'i le priodol a'r lle mwyaf cyfleus i'r boblogaeth. Am y ddwy flynedd hyny, fel yr awgrymwyd eisoes, ymgynullai y gynulleidfa a'r eglwys mewn ty a elwir" Y Sun." sydd ar ochr y ffordd rhwng Rhuddlan ac Abergele, heb fod ymhell oddiwrth gapel presenol y Morfa. Y blaenoriaid pan ddaeth yr eglwys i'r Sun oeddynt Isaac Hughes a John Jones, Ty Newydd (Tanybargod gynt). Ymadawodd Isaac. Hughes, fel y nodwyd, yn 1865. Gallodd yr eglwys fechan fyw felly rywfodd am ddwy flynedd, megis heb gartref. Nis gall erlidwyr ddiffodd y tân Dwyfol, er iddynt chwythu hyd eithaf eu gallu. Yr oeddid ar hyd y misoedd yn chwilio yn ddyfal am le i osod pabell Duw ar ei ddaear Ef ei hun, ac yn methu cael lle felly iddi. Yr oedd byd ac uffern fel am drechu yr eglwys. O'r diwedd, disgynodd llygaid craff Mr. David Roberts, Tan rallt, Abergele, ar faes bychan o ychydig erwau. Prynodd y maes. Rhoddodd ddarn digonol o hono i Gyfundeb y Methodistiaid i adeiladu cartref i'r eglwys fechan hon oedd yn ddigartref. Ar gongl y maes hwn yr adeiladwyd capel presenol y Morfa, yn y flwyddyn 1866. Nid oedd ar Mr. Roberts eisiau y maes iddo ei hun, ond yr oedd arno eisiau congl o hono at wasanaeth ei Dduw; ac ar ol sicrhau hono, gwerthodd y gweddill. Dyna y fath wr oedd Mr. David Roberts. Gwyn ei fyd. Mae y gwyn yn ymddangos yn wynach pan osodir ef i sefyll yn ymyl y du. Mae mab ac ŵyr Mr. Roberts, sef Mr. John Roberts a Mr. J. Herbert Roberts, i'w rhestru ymysg Seneddwyr Prydain. Nid felly neb o berchenogion yr etifeddiaeth a wnaethant yr eglwys fechan heb gartref. "Yr Arglwydd a edrych i lawr o'r nefoedd, ac a genfydd holl feibion dynion."

Pan sefydlodd hen eglwys Penybryn yn ei chartref newydd yn nghapel y Morfa, yn 1866, y blaenoriaid oeddynt y rhai canlynol:—

JOHN JONES, TY NEWYDD, yr hwn a ddewisasid i'r swydd cyn yr ymadawiad o Benybryn. Cawsai ei ddal gan yr efengyl ar brydnawn Sabboth, pan ar ganol hel afalau i'w bwyta. Ymsaethodd y geiriau hyny i'w feddwl gyda grym, "Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth." Gwnaed ef yn greadur newydd o hyn allan. Daliwyd ef â gwys oddiuchod. Glynodd yn ffyddlen wrth grefydd tra bu yn Mhenybryn, yn y Sun, ac yn y Morfa. Nid gwr aml ei dalentau oedd, ond un a'i galon yn gwir ofalu am achos ei Waredwr, a hyny hyd derfyn ei daith, tua'r flwyddyn 1886.

Bu WILLIAM WILLIAMS, PLAS LLWYD, hefyd, yma yn flaenor am flynyddoedd olaf ei oes. Gwelir crybwyllion am dano ynglyn â hanes yr achos yn y Tywyn.

Yr un modd am THOMAS EDWARDS, TY CANOL, TYWYN; fel aelod a blaenor yn eglwys y Morfa y terfynodd yntau ei oes.

HENRY WILLIAMS, PLAS LLWYD, mab William Williams. Yma y dewiswyd ef yn flaenor pan yn wr pur ieuanc. Yr oedd wedi cael addysg dda, a bu am beth amser yn y Coleg yn y Bala, fel yr elai lleygwyr, weithiau, yn y dyddiau hyny, ar anogaeth Dr. Lewis Edwards. Gwr o deimladau llednais, mawr ei sel dros lwyddiant crefydd, a gwresog iawn ei ysbryd oedd Henry Williams. Symudodd i Abergele amryw flynyddoedd cyn diwedd ei oes. Gwel hanes Abergele.

EDWARD EDWARDS, Y FACHELL.—Yr oedd ef yn fab i'r Thomas Edwards a enwyd o'r blaen, wedi ei fagu yn yr eglwys, a glynu wrthi ar hyd ei fywyd, hyd nes y'i galwyd i fod yn flaenor. Bu ffyddlon hyd angau, ac nid oes amheuaeth na dderbyniodd goron y bywyd. Gwasanaethodd yr achos yn gyson ac ymroddedig yn y Morfa am y 40ain mlynedd diweddaf. Yr un noson ag y galwyd Edward Edwards yn flaenor, dewiswyd hefyd WILLIAM JONES, PENYFFRITH, y pryd hyny, ar ol hyny o'r Faerdre, ac er nad ymgymerodd ef â'r swydd, gwnaeth lawer o'i gwaith, ac yn arbenig, yr oedd yn athraw galluog, a medrus, a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol: gwr darllengar, gwybodus, a doniol.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt—Mri. Moses Williams, John Edwards, y Fachell, a W Morris Owen, Ty Newydd. Yn nechreu y flwyddyn 1874, y daeth y gweinidog cyntaf yma ar alwad yr eglwys hon ynglyn ag eglwys y Tywyn, sef y Parch. Jonathan Jones. Bu ef yma hyd 1883. Ar ol hyny, galwyd y Parch. Phillip Williams; ac yn ddiwedd— arach, y Parch. Robert Williams, y gweinidog presenol. Ceir manylion pellach ynglyn â hanes y Tywyn.

Fel rhai fu yn ffyddlon fel athrawon yn yr Ysgol Sabbothol, heblaw y brodyr a grybwyllwyd eisoes fel blaenoriaid, dechreuwyr canu, &c., dylid enwi Morris Jones, Glanymorfa, Robert Jones, Penymorfa, a Thomas Roberts, Penybont. Yr oedd y diweddaf yn perthyn i'r Ysgol pan oedd yn Mhenybryn, ac y mae wedi parhau yn ffyddlon iddi, fel athraw a holwyddorwr, hyd y dydd hwn. Efe, erbyn hyn, yw yr unig un sydd yn aros o'i hen gyfoedion cyntaf.

Dylid cofio am y gwasanaeth gwerthfawr a roddodd Isaac Jones (Eos Morfa), mab John Jones, Ty Newydd, y blaenor a grybwyllwyd, i ganiadaeth y cysegr yn yr ardal hon. Dysgodd gyfundraeth y Sol-ffa i ugeiniau yn yr ardal, yn gystal ag yn yr ardaloedd cylchynol, pan ddygwyd y gyfundraeth hono allan gyntaf yn Nghymru, dros 40 mlynedd yn ol. Mae ef eto yn aros, ac yn byw yn y Rhyl. Bu ei wasanaeth i ganiadaeth y cysegr yn y cylchoedd hyn yn fawr, ac yn ddechreuad cyfnod o welliant diamheuol. Canu fyddo ei ran byth. Bu chwaer iddo, hefyd, Miss Ann Jones, yn arwain y canu yn y lle hwn am dymor lled faith, a chyflawnai ei gwaith yn dra medrus, diymhongar, a llednais, ewbl weddus i'w rhyw, a chymeradwy gan y gynulleidfa.

Er na fu eglwys y Morfa ond anfynych, os un amser, yn fwy na rhyw haner cant mewn rhif, na'r gynulleidfa ond tua chant yn gyffredin, a'r Ysgol Sabbothol rywbeth yn gyffelyb, er hyny, hauwyd llawer o'r hâd da yn y fro hon drwy y moddion syml a ddefnyddir, ac nid oes ond y dydd hwnw a ddengys pa faint fydd y ffrwyth. Cafwyd gafael ar lawer perl i'w gosod yn nghoron Prynwr y byd. Yr wyf y fynyd hon yn cofio am Miss Williams, Plas Llwyd, Mrs. Edwards, y Fachell, ac aml un arall sydd yn y gwynfyd er's llawer blwyddyn. Er fod Morfa Rhuddlan yn wastat-tir gwych am wenith a fla a phorfa, buasai yn wlad dlotach oni bai am yr eglwys Fethodistaidd fechan sydd yno yn darparu ymborth ysbrydol ar gyfer y trigolion gwasgaredig.

Heddwch fyddo iddi, a ffyniant i'w holl aelodau.

TYWYN.

GAN Y PARCH. JONATHAN JONES, LLANELWY

—————————————

NID ydym yn cael prawf fod nemawr neu ddim wedi ei wneyd cyn dechreu y ganrif ddiweddaf tuag at sefydlu Methodistiaeth yn y gymydogaeth hon. Y pryd hyny, nid oedd nac Ysgol Sabbothol nac unrhyw foddion arall gan unrhyw blaid grefyddol. Yr oedd y trigolion yn aros yn nhir tywyllwch, ofergoeledd, ac anfoesoldeb. Fel pob ardal bron yn Nghymru, cyn codiad Methodistiaeth, anialwch hefyd oedd y fro hon. Nid oedd unrhyw ymdrech yn cael ei gwneyd i'w goleuo a'u dyrchafu gan neb, gan Eglwys Loegr, na chan neb o'r Ymneillduwyr. Ac felly, rhaid cofio mai pren a dyfodd yn gwbl yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw Methodistiaeth yn Nhywyn. Nid oedd wedi ei blanu cyn hyny.

Yn ystod y deng mlynedd cyntaf o'r ganrif, dechreuodd nifer fechan o'r trigolion fyned i Abergele i wrando y Methodistiaid, ac yn raddol, ymunai ambell un o honynt â'r eglwys yno. Ac felly y goleuwyd aml i ganwyll i oleuo yma. Yn ddilynol i hyn, dechreuwyd meddwl beth a ellid ei wneyd er dwyn moddion gras yn nes i gyraedd y fro esgeulusedig hon. Cychwynwyd Ysgol Sabbothol yn ysgubor y Gainge Fawr. Dyma hedyn y pren. Y gwr oedd yn byw yn y Gainge ar y pryd oedd Henry Williams, tad y blaenor adnabyddus William Williams, Plasllwyd, a thaid Henry Williams, a fu yn flaenor yn y Morfa, ac ar ol hyny yn Abergele, hyd ei farwolaeth ychydig flynyddoedd yn ol. Cynhaliwyd yr ysgol, a cheid ambell bregeth a chyfarfod gweddio, yn ysgubor y Gainge am amryw flynyddoedd. Gwelid yn amlwg fod yr hedyn yn gwreiddio i lawr, ac yn tyfu tuag i fyny, canys yr oedd bywyd a bendith ynddo. Yn Abergele yr oedd y rhai a ofalent am yr Ysgol, &c., yn aelodau eglwysig; a chafwyd peth cymorth yn ystod y cyfnod hwn hefyd i ddwyn y gwaith ymlaen gan frodyr a ddelent yma o Ben y Bryn Llwyni.

Yn y flwyddyn 1818 yr adeiladwyd capel yma gyntaf. Adroddir am y modd y cafwyd tir i adeiladu arno ynglyn â hanes Abergele a Betti Thomas. Mae y capel bychan hwnw yn awr, ac er's dros driugain mlynedd, yn ffurfio rhan orllewinol y ty a adnabyddir fel Muller's Cottage. Enw y capel oedd Salem. Gellir canfod y capel hyd heddyw fel rhan o'r ty. Sefydlwyd eglwys yma rywbryd yn fuan ar ol codi capel, ac yr ydym yn credu mai William Williams, Plas Llwyd, a Thomas Edwards, Ty Canol, oedd y blaenoriaid cyntaf. Y Beibl oedd ar y pulpud oedd hen Feibl Peter Williams." Mae y copi hwn eto ar gael a chadw, yn bres- enol yn ngofal Mrs. Phebe Jones, gynt o Dy Nant, Tywyn, ond yn bresenol sydd yn byw yn y Rhyl. Y trefniant sydd yn ysgrifenedig ar ei glawr ydyw, ei fod i gael ei gadw dan ofal y chwaer hynaf berthynol i eglwys Tywyn o oes i oes. Mae yn velic dyddorol ynglyn a'r achos yn y lle. Argraffiad 1770 ydyw. Gofaler am ei ddiogelwch.

Cynyddodd yr achos Methodistaidd yn dda mewn siriol- deb a grym yn ystod yr ugain mlynedd y bu ei gartref yn hen gapel bychan Salem, neu Muller's Cottage, fel y'i gelwir mewn traddodiad ar dafod-leferydd yn yr ardal. Bu y Parch. Henry Rees yma yn pregethu lawer gwaith, pan oedd yn yr ysgol yn Abergele gyda y Parch. Thomas Lloyd. Testyn y pregethwr ieuanc enwog unwaith oedd 3 loan 12, "Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Ni adroddwyd dim o'r bregeth wrthym; ond dywedwyd fod rhai cŵn yn y gwasanaeth, a darfod iddynt dori ar ei dawelwch drwy ymrafaelio, er gofid mawr i galon y gwr ieuanc dwys oedd yn pulpud. O Abergele, ac ar brydnawn neu fore Sabboth, fynychaf, y ceid y pregethwyr yn ystod y cyfnod hwn. Yr oedd gwedd fyw a chynyddol. ar yr ysgol a'r eglwys a'r gynulleidfa. Bu Betti Thomas yn ddiarhebol am ei ffyddlondeb, ei sêl. a'i haelioni, yn ol ei gallu, gyda'r gwaith. Pan ofynid iddi o ba le neu pa fodd yr oedd yn cael arian, a phethau eraill, i'w rhoi at yr achos, ni roddai byth ddim manylion fel atebiad. Y cwbl a ddywedai fyddai, "Ganddo Ef yr wyf yn cael y cwbl."

Yn y flwyddyn 1838 yr adeiladwyd capel newydd yn lle Salem, a hyny ar y fan lle y mae y capel presenol. Y mae llawer o'r muriau, a pheth o'r to, eto yn aros fel rhanau o'r capel sydd yno yn awr. Ar gongl cae perthynol i'r Penisa' yr adeiladwyd y capel hwn, a chafwyd y tir ar brydles gan Roger Hughes, o Ruddlan. Ar farwolaeth Roger Hughes. yr oedd ffarm y Penisa' yn myned ar werth. Yr oedd llygaid rhai o dirfeddianwyr mwyaf y cylchoedd hyn arni. Teimlai y Methodistiaid fod eu capel mewn enbydrwydd mawr pe syrthiai y ffarm a'r tir oedd dan eu haddoldy i ddwylaw rhai erledigaethus, a gelynion i Ymneillduaeth. Prynwyd y ffarm gan Mr. H. R. Hughes, Kinmel, ond llwyddodd y diweddar Mr. David Roberts, Tan'rallt, Abergele, i gael meddiant o'r cae yr oedd y capel arno, a rhoddodd y tir sydd dano yn eiddo rhad a diogel i'r Cyfundeb dros byth. Capel lled fychan, ond mwy o gryn lawer na Salem, oedd hwn, gyda dau ddrws yn ei ochr, a'r pulpud rhyngddynt, ac eisteddleoedd ysgwar i gantorion yn ymyl y "sêt fawr." Yn y flwyddyn 1871, helaethwyd llawer ar y capel hwn eto, drwy chwanegu y ty capel ato; a gwnaed yr oll o hono yn newydd oddimewn. Yn yr un ffurf yr erys hyd yn bresenol, ac y mae yn gwbl gysurus a buddiol i'r gynulleidfa.

Mewn blynyddoedd dilynol, ychwanegwyd tair adeilad arall, y cyntaf oedd ty a shop i fod at wasanaeth un o'r aelodau,—John Jones oedd yn cael ei droi o dy a shop fechan yr oedd ynddynt, gan dirfeddianydd Ceidwadol ac Eglwysig a gelyniaethus i Ymneillduaeth, oherwydd ei ymlyniad wrth Fethodistiaeth, a'i sel drosti. Cafodd John Jones, er nad oedd ganddo ond un law i enill ei gynhaliaeth gartref cysurus yma er gwaethaf yr erlidwyr, tra y bu arno eisiau cartref ar y ddaear, a bu o lawer o werth i'r achos crefyddol. Adeiladwyd hefyd yr Ysgoldy sydd yma, a thy y gweinidog, ar adeg ddiweddarach. Cafwyd yr holl dir angenrheidiol i'r amcanion hyn gan Mr. J. Herbert Roberts. A.S. Mae y pedair adeilad—y capel. y shop, yr ysgoldy, a thy y gweinidog, yn eiddo gwerthfawr, ac yn ateb eu dibenion yn rhagorol. Ac y maent oll yn feddiant diogel in Corff Methodistaidd. Ynglyn a'r holl ymdrechion i godi yr adeiladau, ar y gwahanol adegau, bu yr aelodau eglwysig a thrigolion yr ardal yn gyffredinol, yn ffyddlon a llafurus i gludo yr holl ddefnyddiau, a hyny o gryn bellder ffordd, yn rhad ac am ddim. Ysgrifenir llyfr coffadwriaeth ger ei fron Ef;" nid yw yr Arglwydd yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith a'ch llafurus gariad."

Cafodd yr eglwys yn Nhywyn brofi gradd dda o ddylanwad y Diwygiad enwog yn 1859 a 1860. Dechreuwyd y fflam drwy i frawd perthynol i'r eglwys—Robert Jones, Sand Bank—oedd wedi digwydd bod ar ymweliad ag ardaloedd Llanrwst, lle'r oedd y Diwygiad yn ei rym, fyned yn uniongyrchol, cyn myned i'w dy ei hun, i gyfarfod gweddio oedd y noson hono yn cael ei gynal yn y capel, ac adrodd hanes. y tân Dwyfol yn yr ardaloedd yr ymwelsai â hwy. Cyn iddo eistedd i lawr, enynodd y fflam yn y cyfarfod gweddio, a buwyd yn y lle am oriau maith yn molianu ac yn bendithio Duw. Parhaodd yr eglwys yn dra gwresog am fisoedd; ychwanegwyd tua 50 at ei nifer, a pharhaodd llawer o honynt yn grefyddwyr rhagorol am weddill eu dyddiau. Y mae ychydig o'r enwau ymhlith y rhai byw hyd y dydd hwn. "O Arglwydd, cofia y Jerichoniaid yna," meddai un brawd selog ar weddi ryw noson yn ngwres y Diwygiad. Ymddengys nad oedd trigolion Jericho—rhyw haner dwsin o dai cysylltiol a'u gilydd sydd yn y gymydogaeth—hyd hyny wedi cymeryd eu gorchlygu gan yr awelon nefol. Modd bynag, bu y Diwygiad hwnw yn godiad pen pwysig i waith yr Arglwydd yn yr ardal. Daeth bendith fawr drwy y Diwygiad.

Y brodyr fu'n fwyaf blaenllaw gyda'r achos yn ei wahanol. ranau o'r dechreuad oeddynt:—William Williams, Plas Llwyd: Thomas Edwards, Ty Canol; Isaac Roberts, Gainge Fawr: Thomas Williams, Ty'r Capel; Thomas Jones, Penisa'; John Jones (hynaf). Ty Nant: Thomas Williams, Gainge Bach: a John Jones (ieuangaf), Ty Nant. Yr oedd Isaac Roberts yn ddirwestwr selog, a dilynodd lawer ar y Cyfarfodydd Ysgolion. Cofir yn hir hefyd am Peter Davies, Ty'r Capel, a fu yn dechre canu yma am flynyddoedd maith —pererin ffyddlon. Rhoddwn yma restr gyflawn o'r brodyr fu yn flaenoriaidd o ddechreuad yr achos hyd heddyw, rhai o honynt am dymor faith, ac eraill am amser byrach:—

WILLIAM WILLIAMS, PLAS LLWYD. Gwr pwyllog, addfwyn, o gymeriad cryf, dilychwin, mawr ei barch gan bawb, defnyddiol iawn yn y seiat ac yn yr Ysgol Sabbothol, ac a allai draethu yn dda, ac yn faith, ac yn fuddiol ar y benod a ddarllenai yn y cyfarfod gweddio; colofn gref oedd efe. Bu farw Chwefror, 1872, yn 82 mlwydd oed.

THOMAS EDWARDS, TY CANOL—Yn ffyddlon yn yr holl dy, yn cymeryd rhan helaeth o faich yr achos, yn dra eiddig. eddus dros burdeb yr eglwys, a'r ddisgyblaeth eglwysig. Bu farw yn 1875, yn 83 mlwydd oed, pan mewn cysylltiad ag eglwys y Morfa.

THOMAS JONES, PENISAF.—Ymadawodd yn lled fuan ar ol ei ddewisiad i'r swydd, i fyw i ardal Rhuabon.

JOHN WILLIAMS, mab William Williams, Plas Llwyd.— Gwr ienanc crefyddol a duwiolfrydig, ac a gymerwyd i dangnefedd yn 1856, yn 28 mlwydd oed. Cymeriad pryd— ferth.

EDWARD PARRY, BERTHENGRON.—Gof wrth ei gelfyddyd, oedd yn ddarllenwr helaeth; darllenodd yr oll o "Esboniad James Hughes," yn rhifynau fel y delai o'r wasg a gwnaeth felly hefyd â "Methodistiaeth Cymru," a llawer llyfr helaeth arall. Yr oedd ei gof yn hynod o ddifeth. Siaradwr afrwydd, ond "dyn trwm," a'i gymeryd yn ei gyfanswm. Bu farw yn 1882, yn 70ain mlwydd oed.

WILLIAM DARBYSHIRE, PLAS COCH, oedd un wedi ei fagu ar fronau yr eglwys, ac iddo fam dduwiol iawn, ac yr oedd yntau yn gwybod yr Ysgrythyr Lân er yn fachgen; bu yn y swydd am tua 12 mlynedd, a bu farw o'r darfodedigaeth yn 1881, yn 39 mlwydd oed. Ceir pregeth angladdol iddo yn y Drysorfa am Awst, 1882, oddiar 2 Tim. iii. 15, "Gwybod yr Ysgrythyr Lân yn ieuanc." Gwyddai fod ei ddiwedd yn dangnefedd.

THOMAS HUGHES, PENISA—Dewiswyd ef i'r swydd yn rheolaidd, a derbyniwyd ef i'r Cyfarfod Misol, a bu o lawer o wasanaeth i'r achos am amser maith, er na fynai yn fynych gael ei gyfrif yn flaenor, ac nid eisteddai yn y "sêt fawr."

EVAN WILLIAMS, GAINGC BACH, a fu yma yn flaenor am tua 18 mlynedd, ac a fu yn ffyddlon ac ymdrechgar dros ben gyda'r achos, pan oedd galwad uchel am yr egni hwnw. Rhoddodd lawer o amser ac arian a llafur i'r deyrnas. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes fel aelod o'r eglwys yn Abergele. Daeth ei ddyddiau ef i ben, Gorphenaf 29, 1895, yn 69 mlwydd oed.

JOHN JONES, Y SHOP, at yr hwn y cyfeiriwyd eisoes, oedd. ddarllenwr helaeth, yn cymeryd dyddordeb mawr mewn ymddiddanion am bynciau crefydd, ac athrawiaethau duwinyddiaeth, yn athraw ymchwilgar a medrus, ac yn ffyddlon yn yr holl dy. Bu farw yn 1899, yn 77 mlwydd oed.

EVAN WILLIAMS, GLAN LLYN, a ddygwyd i fyny yn yr eglwys, ac a lynodd yn gyson wrth grefydd ar hyd ei oes. Bu yn ddarllenwr helaeth yn more ei ddyddiau; a phan ddewiswyd ef yn flaenor, gwasanaethodd gyda llawer of flyddlondeb. Gorphenodd ei yrfa yn y flwyddyn 1907.

ELIAS ROBERTS, GAINGC FAWR, a wasanaethodd lawer ar yr achos crefyddol mewn gwahanol ffyrdd am oes faith, ac a barhaodd felly hefyd tra y bu yn y swydd o flaenor. Mae ef a'i deulu wedi rhoi llawer o wasanaeth i'r achos yn y lle.

Y brodyr sydd yn y swydd yn bresenol ydynt—John Williams, Tyddyn Isa'; Hugh Edwards, Gainge Bach; Elias Owen, y Groesffordd; Thomas Jones, Bryn Tywydd; a Lewis Evans, Jericho. Heblaw fel blaenor, y mae Mr. Owen o wasanaeth mawr i ganiadaeth y cysegr yn y lle.

Bu y gweinidogion canlynol yma mew n cysylltiad swyddogol â'r eglwys:—

Y diweddar BARCH. WILLIAM ROBERTS, a ddaeth yma o ardal Salem, gerllaw Llanrwst, yn 1854, ac yr oedd efe yn cynal ysgol ddyddiol ynglyn â'r capel, yn gystal ac yn bugeilio yr eglwys. Ymadawodd oddiyma yn 1860 ar alwad eglwys Abergele, eithr parhaodd i ddyfod i Dywyn am tua to mlynedd i'r cyfarfod eglwysig, a chyfarfodydd yr ieuenctyd, yn gystal ag i fwrw golwg dros yr holl achos. Yr oedd efe yn wr o feddwl cryf, ac o lawer o athrylith.

Bu y PARCH. LEWIS ELLIS, y pryd hwnw o Ruddlan, tua'r blynyddoedd 1872 a 1873, yn dyfod yma am lawer o fisoedd i'r seiat a chyfarfodydd eraill, a bu o wasanaeth mawr i'r achos mewn argyfwng peryglus.

Y PARCH. JONATHAN JONES, yn bresenol o Lanelwy, a ddaeth yma yn nechreu Ionawr, 1874, ar alwad yr eglwys hon ac eglwys y Morfa, ac a barhaodd ei fugeiliaeth yn y ddau le am 9 mlynedd a 4 mis, sef hyd ddiwedd Ebrill, 1883. Yr oedd Methodistiaid y Tywyn newydd fyned trwy brawf tanllyd ar yr adeg hon. Tua'r flwyddyn 1872 yr adeiladwyd yr ysgoldy gwych sydd yno ar gyfer plant yr ardal, ac yn ystod misoedd yr haf, 1873, yr agorwyd yr Eglwys hardd a chostus sydd dros y ffordd o'r capel. Nid oedd eglwyswyr bron o gwbl yn y gymydogaeth yn flaenorol. Yr oedd bron holl drigolion yr ardal yn dilyn moddion gras yn y capel Methodistaidd. Nid oedd yma, gan hyny, ddim eglwyswyr i fyned i'r Eglwys newydd. wych. Dygwyd dylanwadau cryfion o amryw fathau i hudo y Methodistiaid i wadu neu werthu eu Hymneillduaeth; ac am haner diweddaf y flwyddyn 1873 bu yr hudoliaeth yn lled effeithiol. Collodd y Methodistiaid lawer of deuluoedd, a rhai o brif ffermwyr y gymydogaeth,—aethant i'r Eglwys, amryw o honynt oedd yn aelodau eglwysig gyda y Methodistiaid, ac eraill yn wrandawyr. Yr oedd yma ryw dyb yn ffynu ar y pryd yn yr ardal fod yn rhaid i rywrai o'r Methodistiaid fyned i'r Eglwys neu adael hono yn wag. Yr ysgol ddyddiol a dylanwad y tirfeddianwyr, neu yn hytrach, dylanwad "un tirfeddianydd," oedd yr arfau a ddefnyddid i geisio lladd Methodistiaeth yn yr ardal. Ond nid yn hir y parhaodd yr hudoliaeth a'r gorthrwm. Cymerodd yr oll o'r ymadawiadau o'r capel i'r eglwys le yn haner olaf 1873. Nid ymadawodd neb yn 1874 a'r blynyddoedd dilynol, o leiaf dim mwy nag sydd yn digwydd o bryd i bryd mewn unrhyw ardal. Ymhell cyn heddyw. y mae y ffermydd a ddelid y pryd hwnw gan deuluoedd a adawsant y capel, yn cael eu dal bron oll gan Fethodistiaid ac Ymneillduwyr. Ac y mae yr achos Methodistaidd wedi bod am y 30ain mlynedd, ac ychwaneg a ddilynodd, mewn gwedd mor lewyrchus ag ydoedd cyn ymosodiad hudoliaethus ac erlidgar 1873. Canys am Seion y dywedir, "Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn."

Tua'r blynyddoedd 1884 1887, bu y diweddar BARCH, R. AMBROSE JONES yn dyfod yma yn ffyddlon o Abergele i gynal seiat a chyfarfodydd gyda'r plant a'r ieuenctyd, a bu ei wasanaeth o werth mawr. Gweithiwr difafl oedd ef.

Ar ei ol ef, galwodd eglwysi Tywyn a'r Morfa y PARCH. PHILLIP WILLIAMS, O BETHESDA, i'w bugeilio, yr hwn, wedi gwasanaethu yn ddefnyddiol am tua dwy flynedd, a ddychwelodd yn ol i Arfon.

Yn 1891, y galwodd y daith y PARCH. ROBERT WILLIAMS, ac y mae ef wedi parhau yma yn ei ffyddlondeb a'i ddefnioldeb hyd yn awr.

Bu y PARCH. WILLIAM ROWLANDS, am yr hwn y crybwyllir ynglyn â hanes Abergele, yn aelod yma am flynyddoedd olaf ei oes, gan ei fod yn trigo yn y Ty Slates, gerllaw y capel.

Y mae nifer yr aelodau eglwysig ar hyd y blynyddoedd yn gyffredin o dan 100, a'r gwrandawyr tua 150. Ond os meddylir am y lles a'r dylanwad dyrchafol a fu yr achos Methodistaidd yn yr ardal am y can' mlynedd yr ydym wedi bwrw golwg frysiog drostynt, credwn y teimla pawb fod gwasanaeth mawr i Grist a chrefydd wedi ei gyflawni. Tyfodd yr hedyn bychan a blanwyd yn hen ysgubor y Gaingc yn bren o gryn faintioli. Cafodd oes ar ol oes fwyta o'i ffrwyth, ac mae eto yn parhau i flodeuo ac i ffrwytho. O'r Arglwydd y daeth hyn oll, a rhyfedd yw yn ein golwg ni. Efe bia y clod.



DOLGELLAU:
ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS, SWYDDFA'R GOLEUAD."



Nodiadau[golygu]

  1. Y mae amheuaeth am y dyddiad hwn, Cydm. Meth. Cymru, III. 272, ynghyd a Hanes Abergele."—GOL.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.