Deffro 'nghalon deffro 'nghân
Gwedd
Mae Deffro 'nghalon deffro 'nghân yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)
Deffro 'nghalon, deffro 'nghân
- I ddyrchafu
Clodydd pur yr Arglwydd glân,
- F'annwyl Iesu;
Uno wnaf â llu y nef
- Âm holl awydd
I glodfori ei enw ef
- Yn dragywydd.
Crist yw 'Mhrynwr, Crist yw 'Mhen
- a'm Hanwylyd,
Crist yw etifeddiaeth wen,
- Crist yw 'mywyd,
Crist yw 'ngogoneddus nef
- Annherfynnol:
Gwleddaf ar ei gariad ef
- Yn dragwyddol.