Deuddeg penill coffadwriaethol i'r diweddar Barch. John Hughes, Carneddau
← | Deuddeg penill coffadwriaethol i'r diweddar Barch. John Hughes, Carneddau gan Ellis Isfryn Williams |
→ |
Buddugol yn Eisteddfod Craigllwyn, 1899.
Deuddeg Penill Coffadwriaethol
I'R DIWEDDAR BARCH.
JOHN HUGHES, CARNEDDAU,
YR HWN A FU FARW MAWRTH 27ain, 1898, YN 62 MLWYDD OED.
JOHN HUGHES, Carneddau, anwyl sant,
Dirodres fel mynyddig nant;
Dwfn-gerfiodd ef ei enw'n llawn
Ar galon Cymru gyda'i ddawn,
A lifai'n ffrwd wastad-lefn gref—
Ymchwyddai gyda dafn o'r Nef.
Mae Cymru heddyw'n dlottach, ac ni chawn
Ei wrando mwy yn clir glodfori'r Iawn.
John Hughes, Carneddau, siriol sant:
Anhawdd i neb oedd taro tant
Ar delyn fwyn ei galon ef
Na chlywid adsain miwsig nef.
Hardd wêu ymdaenai tros ei bryd
Fel heulwen hâf ar fryniau'r byd;
Ymilidiai ei sirioldeb dristwch gwedd,
Gan ddwyn llawenydd coll i'w freiniol sedd.
John Hughes, Carneddau, diddan sant,
Wnai'r cartref hoff yn nef i'w blant;
Adgofion fyrdd yn felus win
Heb ball ddyferent tros ei fin;
Fel olew ar derfysglyd ddw'r
Oedd gair a gwen yr hybarch wr;
Ir bod yn genad Duw, nid llai o dâd
Oedd ef serch hyny i'w anwyliaid mâd.
John Hughes, Carneddau, gwladwr pur,
A'i fywyd yn ddiffynol fur
I gadw urddas hoff ein gwlad
Rhag saethau gelyniaethus frad :
Halenaidd fywyd llawn o ras
Wrthweithiai lygredd pechod cas:
Dinesydd berchid gan y wlad oedd ef
Am fod ei ymarweddiad pur o'r Nef.
John Hughes, Carneddau, gwr o ddawn
Nodedig i wneyd bugail iawn;
Fe borthai'r wyn, rai gweiniaid, mân,
A didwyll laeth Ysgrythyr lân;
Heirdd seigiau breision ddygai'n rhodd
I'r cryfion saint oedd wrth eu bodd;
A thynai ddwfr o greigiau'r anial dir
Oedd i'r sychedig yn adfywiad gwir.
John Hughes, Carneddau, wnaeth ei sedd
Yn serch ei wlad fel cenad hedd;
Ni ddrachtiodd o ffy nonau mâd
Ddysgeidiaeth yn Ngholegau'r wlad;
Nid oedd yn ddwfn-athronydd mawr,
Na chwaith yn rhesymegol gawr:
Ond meddai ddawn fedyddiwyd gyda thân,
Fel hen ddiwygwyr tanllyd Cymru lân.
Ei lais melodaidd, ystwyth, clir,
Fel udgorn arian dros y tir
Udganai werth y cysgod llawn
Rhag damniol lid oedd yn yr Iawn;
Pelydrai'i wedd ddisgleirdeb byw,
Fel marwor tân o allor Duw,
A'i wên wahoddgar; byddai'r oll ynghyd
Yn tynu'r crwydriaid tua'r gorlan glyd.
'Roedd ganddo floedd—trydanol floedd
Ddychrynai annuwiolion c'oedd ;
Yr oedd ei ddull a'i swynol lais
Yn tynu dyn heb arfer trais;
'Roedd fel Efengyl Crist ei hun,
Yn tynu'n gryf heb dreisio dyn;
Ei lygaid flachiai lymion saethau tân
A loriai hen elynion Iesu glân.
Dyrchafu Crist a'i Groes wnaeth ef
Drwy'r gwledig gwm a'r goegfalch dref;
Nid llosgi rhyw ddieithriol dâu
Ar hen allorau Cymru lân,
Nid cyhwfanu ysgub dlawd
Wnai Groes yr Iesu'n destyn gwawd,
Ond canai athrawiaethau dwyfol ras
I galon gwerin Cymru gyda blas.
Nid cerfio delwau llunaidd mwyn
O ddamcaniaethau llawn o swyn,
A'u dangos yn Areithfa'r Nef
Nes cuddio Croes ei gariad Ef;.
Ond gyda gwres angherddol ryw
Cyhoeddai Iesu'r Ceidwad byw
Drwy'r cwm diaddurn a'r ffasiynol dref,
Hyn oedd drwy'i oes ei fwyd a'i ddiod ef.
Rhwng byd a nef yn fynych bydd
Rhyw fordaith hirfaith-'stormus ddydd ;
Ond croesodd ef yr afon ddofn
Heb donau dig i gasglu ofn;
Ca'dd groesi yn y culaf fàn
I feddiant o'i dragwyddol ràn.
I'r capel aeth ar forau Sabboth cu,
Ond roes ei oedfa yn Nghaersalem fry.
Mae hiraeth dwfn yn nghalon gwlad
Am Efengylydd siriol, mad;
Ond mae ei lais, ei wên, a'i iaeth
Yn aros etto gyda'n gwaith,
Gan wasgar moesol rym drwy'r tir
O blaid y pur a thros y gwir.
Hoff genad Ior, cwsg hun o dawel hedd,
Ar wedd dy Feistr deui'i maes o'r bedd.
—ELLIS ISFRYN WILLIAMS, RHOS.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.