Dewch, hen ac ieuainc, dewch

Oddi ar Wicidestun
Dewch, hen ac ieuainc, dewch

gan Morgan Rhys

O! iechydwriaeth fawr

295[1] Galwad yr Efengyl.
66. 66.88.

1 DEWCH, hen ac ieuainc, dewch,
At Iesu, mae'n llawn bryd;
Rhyfedd amynedd Duw
Ddisgwyliodd wrthym cyd:
Aeth yn brynhawn, mae yn hwyrhau;
Mae drws trugaredd heb ei gau.

2 Dewch, hen wrthgilwyr trist,
At Iesu Grist yn ôl;
Mae'i freichiau'n awr ar led,
Fe'ch derbyn yn ei gôl:
Mae Duw yn rhoddi eto'n hael
Drugaredd i droseddwyr gwael.

Morgan Rhys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 295, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930