Diffaith Aelwyd Rheged

Oddi ar Wicidestun
Yr aelwyt honn a’e goglyt gawr,
mwy gordyfnassei ar y llawr
med a meduon yn eiriawl.
Yr aelwyt honn, neus kud dynat,
tra vu vyw y gwercheitwat...
Yr aelwyt honn, neus cud glessin.
Ym myw Owein ac Elphin,
berwassei y pheir breiddin.
Yr aelwyt honn, neus cud kallawdyr llwyt.
Mwy gordyfnassei am y bwyt
cledyual dyual diarswyt.


Yr aelwyt honn, neus cud kein vieri.
Coet kynneuawc oed idi.
Gordyfnassei Reget rodi.
Yr aelwyt honn, neus cud drein.
Mwy gordyfnassei y chyngrein
kymwynas kyweithas Owein.
Yr aelwyt honn, neus cud myr.
Mwy gordyfnassei babir
gloew, a chyuedeu kywir.
Yr aelwyt honn, neus cud tauawl.
Mwy gordyfnassei ar yr llawr
med a medwon yn eiryawl.
Yr aelwyt honn, neus clad hwch.
Mwy gordyfnassei elwch
Gwyr, ac am gyrn kyuedwch.
Yr aelwyt honn, neus clad kywen.
Nys eidigauei anghen
ym myw Owein ac Vryen.
Yr ystwffwl hwnn, a’r hwnn draw.
Mwy gordyfnassei amdanaw
elwch llu a llwybyr arnaw.