Diliau Meirion Cyf I/Ahab a Jezebel
← Elias ar ben Carmel | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Fflangell i Genfigen → |
AHAB A JEZEBEL
AHAB, chwibanfab ynfyd—noeth rwygwr,
Wnaeth ddrygan dychrynllyd;
Cofir ei wraig ddrwg hefyd,
Jezebel, tra oes y byd.
Ymwerthu o'u bodd, a 'mroddi—wnaethant,
I wneuthur drygioni;
Merch diafol hudol oedd hi,
A bleiddes heb ail iddi.
Llofruddion chwerwon a chas—iawn oeddynt,
Yn nyddiau Elias;
Teryll fileiniaid diras,
Gorthrechawl, treisiawl eu tras.
Melldigedig, ddieflig ddau,
Chwyddog, a drwg fucheddau.
Hen ormesiaid anniwair eu moesau ,
Tra llewaidd oeddynt trwy eu holl ddyddiau,
Dreigiau anwadal a drwg eu nwydau,
Llawnion o halawg frudiawg fwriadau,
Hwy roddent achles i ddiles ddelwau,
Rhai trawswyrawg, yn rhoi eu trysorau
A mawr ddyhewyd i'w hanmhur dduwiau,
Aur â llawrydd ro'ent ar eu hallorau;
Ah ! ynfydion gweigion gan—gwrthnysig,
Ac halogedig eu golygiadau.
Berwi mewn gwŷn a bariaeth—y byddent,
A baeddu'r freniniaeth,
Gorfodent, gwysient yn gaeth
Iuddewon i audduwiaeth.
Ffromwyllt y gwnaent offrymu—i ddelwau
Eiddilon y fagddu;
Ond gweision cyfion Duw cu
Laddent, yn lle'u coleddu.
Jezebel, tra'n oesi bu—lywyddai
I ladd a gorthrymu,
Gwnai ddig fileinig flaenu
Gyda'r diawl yn gadr o'i du.
Ond Jehu a'i handwyodd—yn union
O'i nenawr disgynodd;
Tua'r hwyr yntau a'i rhodd
Yn safnau'r cwn—nis ofnodd.
Llyfwyd ei gwaed ' rol llefain—gan ddiriaid
Gynddeiriog gwn milain;
Chwalu a rheibio'i chelain
Yn eitha' rhwydd wnaeth y rhai'n.
Dyna ben am dani byth,—ac Ahab,
Coeg ehud deyrn gwarsyth;
Nolwyd y ddau annilyth
Gan safngwn annwn i'w nyth.
Dau oeddynt yn eu dyddiau—â ffyrnig
Uffernol galonau,
Weithion fe'u poenir hwythau
Yn ffwrn boeth hen uffern bau.
I echryn derfyn y daeth—yn boenus,
Bob un o'u hiliogaeth;
Jehu, 'n gawr nerthfawr, a wnaeth
Roi'r rhelyw i farwolaeth.
Da eiriau Duw a wiriwyd—i'r eithaf,
A draethodd y prophwyd;
Tŷ Ahab, anarab nwyd,
Oedd foethus, a ddyfethwyd.
Dylion addolwyr delwau—rai anmhur,
Ga'u rhwymo'n ysgubau,
Bwrir hwy oll i beiriau
Llosgfaol, uffernol ffau.
Arddelwir y gwir dduwiolion—grasol,
Pan groesont yr afon;
Cânt fwynhau, trwy radau'r Ion,
Sywiol drigfanau Sion.
Dygir y gwaredigion—i wynfyd
Y wenfawr nef dirion,
Lle pynciant, lleisiant fawl llon,
I'w Prynwr a'u Pôr union.
Ond llidiawg droellawg drallod—a ddilyn
Addolwyr eulunod,
Diesgus, gynhyrfus nôd,
Ydynt i saethau'r Duwdod.
Pob addurn fedd Pabyddiaeth—â'n ufel
Yn afon marwolaeth;
Daw egwyl poenedigaeth—dra echrys,
I deulu'r chwil-lys a'u dwl or'chwyliaeth.
O! 'r fath ragor ryw forau—a welir
Rhwng duwiolaidd seintiau,
A'r rhai sydd yn rhydd barhau—mor ynfyd
Trwy eu holl fywyd mewn teryll feiau.