Diliau Meirion Cyf I/Cân Debora a Barac

Oddi ar Wicidestun
Debora a Barac Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Elias ar ben Carmel

CAN DEBORA A BARAC

Yna Debora anwyl,
A'i hysbryd mewn hyfryd hwyl,
A Barac lân, seirian sant,
Gwiw, nawsaidd, gydganasant
Bur eirioes ber arwyrain,
Nefolgar, gysongar sain;

Eiliasant gân felysawl—soniarus,
A dawn fedrus, i'w Duw anfeidrawl.

Llawenydd uwchllaw anian
A geir yn nhestun y gân;
Sef gwaith y perffaith Dduw pur,
Teyrn ne' fâd, tirion Fodur,
Yn talu'r pwyth i'w ammwythion—craidd,
Draws greulonaidd dreisgar elynion.

"Clywch! O edlin freninoedd,
"Ystyriwch, gwelwch ar g'oedd;
"Chwithau'r trystiog d'wysogion,
"Gwŷr breisg, arswydwch ger bron;
"Duw Tôr, y cadarn Farnydd,
"I'r saint yn gyfnerthwr sydd.

"Myfi, myfi, fy Rhi fawrhaf,
"Gogoniant i'm Duw a ganaf.

"O'r Aifft y dygodd yr Ion—hil Iago,
"Ei olygus weision;
"Ymrwygodd y môr eigion—mewn llwyddiant,
"Hoff rwydd y glàniant o ffordd eu gelynion.

Arglwydd Dduw y duwiau—drwy'r oesoedd
"Dirif ydd ydoedd dy ryfeddodau.

"Deilliodd, pan aethost allan
"O Seir, ddychrynadwy san,
"Rhyw nerthawl, drystiawl farn drom——aruthrawl,
"Dyrfäau swydawl, darfai faes Edom;
"Y gronwech ddaear grynodd—gan flyngfawr
"Drystiawg gni' erfawr drosti cynhyrfodd.


"Y nefoedd eresawl a ddyferasant,
"Cymylau tewion, mawrion ymwriant,
"Diofn iawn weision y defnynasant
"I lawr o'r entrych fawrwych lifeiriant;
"Mynyddoedd uthrawl, oesawl, doddasant
"O flaen Dofydd, i gyflawni difiant
"A'r Sinai hwnw yn eres hwy unant,
"Dieisawr weithredasant—dros burder
"Duw Ior y Gwiwner a'i der ogoniant."

Unodd cenadau'r wiwnef
O blaid anwyliaid y nef.

Fe ddygodd Duw'n fuddugol—y genedl
I'r Ganaan naturiol
Addawodd roi i'w dduwiol
Weision mâd, a'u hâd o'u hol.

Tarianawg mewn tirionwch—y daethant
Trwy deithiau'r anialwch,
Tan unben, hoff lawen fflwch,
Llawn aidd, i dir llonyddwch.

Y ddedwydd wlad dda odiaeth—lifeiriawl
O fawrwych ddarbodaeth,
Rhi y nef ei rhoi a wnaeth
Iddynt yn etifeddiaeth.

Achles mewn tir heddychlawn
Fwynhasant, a llwyddiant llawn;
Ced oesawl, tra cadwasant
Gyfraith lân seirian Duw sant;
Chwyrn eiddig ddychryn oeddynt,
Lawn gwae, i'w holl alon gynt;


Ymledodd ofn teimladwy
Dros y tir drwy'u harswyd hwy:
Ond blyngder a digter du
Droes iddynt am drosedda,
Ingawl ryfeloedd engyrth,
Anhap erch, oedd yn y pyrth;
Dyddfu mewn annedwyddfyd,
Tan gosb, yr oeddynt i gyd.

Hwythau a'u gyddfau yn gaeth—wnaent ruddfan,
Yn dorf egwan a diarfogaeth.

Gwaewffon na glàn darian nid oedd
I weled yn mhlith eu miloedd,
Truenus tan law estroniaid
Hil Iago yn gwywo a gaid.
Eu rhoddi dan geryddon
Am bechu ddarfu Dduw Ion.

Yn lle ffyddlon fyw'n dduwiolion,
Dawel weision, fel dylesynt,
Dewis gwaelion dduwiau meirwon
Yn annoethion yno wnaethynt.

"Gwelwyd hwy'n drwm eu galar—flynyddoedd,
"Fel yn nyddiau Samgar,
"Dan 'winedd dynion anwar—wnai'u drygu,
"Ie 'u bradychu a braw diachar.

"Cwynaw yn fawr eu cyni
"A wnaent yn ein dyddiau ni,
"Cyn i mi godi'n gadarn
"Yn y byd i weini barn.


"Fy nghalon union anwael—sydd addfwyn
"::At syw ddeddfwyr Israel,
"Gwrolion ffyddlon ddiffael—a llonydd,
"O dymher ufydd a diymrafael.

"Rhai sydd enwog farchogion—eres iawn
"Ar asenod gwynion;
"A'r dethawl farnwyr doethion
"Molwch, mawrygwch yr Ion.

"Seiniwch anthem gysonawl
"I Dduw myg sy'n haeddu mawl,
"Na foed ein llwythau'n fudion
"Heb foli ein Rhi'r awr hon.

"Deffro, deffro gyda'r côr, Debora,
"A thithau, Barac, gyda'th iaith bura ';
"Hwylia alawon, cân halaluia
"O groew hyfawl i y gwir Iehofa,
"Sy'n addfwyn rymus noddfa—i'w ffyddlon
"A'i anwyl weision y rhai ni lysa.

"Mawl cyson Duw Ion y wiwnef
"Gawriwn oll hyd gaerau y nef.

"Esmwythyd gawsom weithion—dinystriwyd
"Ein hastrus elynion;
"Cwerylus fleiddiaid creulon
"Ysgubwyd, daflwyd i'r dòn.

"Unodd y Zabuloniaid——wŷr erfai,
"A'r arfog Naphtaliaid,
"Ac o'u tu, heb lysu, 'n blaid
"Hoff rymus fu'r Ephraimiaid.


"Rhifer llwyth Issacer hefyd—hwythau
"A ddaethent yn unfryd,
"Yn gawri llawnfri llonfryd,
"Ymdrechgar, gweithgar i gyd.

"Drwy wych odiaeth ymdrechiadau—enwog
"Wroniaid ein llwythau,
"Ac arfaeth rhagluniaeth glau
"Yn arwedd ein banerau,
"Dw'r a thân diwrthuni
"A'r gwynt a'n cyfnerthynt ni;
"Anian ei hun a wenawdd,
"Yn erfai gweinyddai nawdd."

Gwiwlwys caed buddugoliaeth—ar filain
Ryfelawg genedlaeth;
Ar un dydd i'w rhan y daeth
Du wgus farnedigaeth.

"Yr hen afon hòno'n hawdd
"O'u holl obaith a'n lleibiawdd.


"Llwyr ysgubwyd y llerw weis cibawg
"Gan ffrydiau gwylltion mawrion murmurawg,.
"Trwy wyw ochenaid i'r eigion trochionawg
"Yr afon ffrochwyllt, ferwwyllt lifeiriawg,
"Sef Cison chwyddfawr lwydfawr ddofn leidiawg;
"Fy enaid, oedd ruddfanawg,—adlonwyd,
"A hylwyr ddyrchwyd i hwyl ardderchawg. "

Fe unodd yr elfenau—ymwylltiodd
Y mellt a'r taranau;
Cenadon mawrion Duw mau—a'u dryllient,
Ac ni arbedent hwy na'u cerbydau.


"Y ser o'r uchelderau—yn gedyrn
"A godent fanerau,
"Gan ymladd yn eu graddau—mawreddawg,
Ac uthr odidawg fu'u gweithrediadau.

"Darfu hyder Sisera,
"Wr bostfawr, trystfawr, llawn tra,
"A'i holl ffrostgar, lidgar lu,
"Y gwydlaidd ffyrnig waedlu,
"Eu du ornaidd gadernid
"A fethrais, lleddfais eu llid.
"Minnau mewn per odlau prydlon,
"A mwynaidd baradwysaidd dôn,
"Aberthaf, rhoddaf yn rhwydd
"Fawrglod i enw f'Arglwydd;
"Gwir fawl o ddifrifawl fron
"Arfaethawl a ro'f weithion,
"I'm Hiôr addwyn am roddi
"Ei nawdd a'i gymhorth i ni.

"Ha! Meros ni ymwriodd
"Mewn brawdol ufuddol fodd,
"Trwy iawn chwaeth gyd—daro'n chwyrn
"Rhag rhuthrau'r cadau cedyrn;
"Achreth a chwerw echryn
"A'u gorfydd o herwydd hyn:
"Du afar, eb angel Dofydd,
"Ddaw i'w plith, a throm felldith fydd.

"Moler Jael, wraig ddiffaeledd—wech loewrin,
"Uwchlaw yr holl wragedd;
"Am ei gwaith caed hirfaith hedd
"I'w heinioes yn ei hannedd.


"Ei chlod dros fyth cofnoder
"I'r llwythau hyd seiliau'r ser,
"Darfu gyflawni dirfawr
"Dda orchwyl â'i morthwyl mawr;
"Trywanodd ben terwynwyllt,
"Cigeiddlyd, wr gwaedlyd gwyllt.
"Niwel ei fam annilyth,
"Fygylog, mo'i benglog byth:
"Camsyniodd, ni chafodd chwaith
"Unrhyw fuddugawl anrhaith;
"A'i heres arglwyddesau
"Hunanawl, gwydiawl a gau,
"Er eu sonfawr wers ynfyd,
"Siomiant a gawsant i gyd.
"Eu hir fradawg aufrudiaeth
"Fel y niwl diflanu wnaeth."

Deugain mlynedd o heddwch
Gai'r wlad, heb un trawiad trwch.

"Felly darfyddo'n hollawlm—gelynion
"Y glân Iôr anfeidrawl;
"Ac iddo bo'n dragwyddawl,
"Amen, Amen, emynau mawl."


Nodiadau[golygu]