Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Flangell i'r Tyngwyr

Oddi ar Wicidestun
Gwerthfawrogrwydd y Gair Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Drygedd Meddwdod

FFLANGELL I'R TYNGWYR.

O! DYNGWYR! fradwyr di fri—dwl anian,
Dilynwyr drygioni,
Na feiddiwch, gochelwch chwi
Yn rhagor dyngu a rhegi.

Atgas a diras yw'r dyn—a dyngo,
Mae'n dangos yn wrthyn,
Dylid peidio a dilyn
Llwybrau'r fall mewn gwall a gwŷn.


Llawer sy'n tyngu llwon—heb ystyr,
A bostio'r arferion;
Iaith ffyrnig hyllig yw hon
Y diawliaid a'u hudolion.

Nodiadau

[golygu]