Diliau Meirion Cyf I/Hafdy Cader Idris
← Rhaiadr Cain, Trawsfynydd | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Martha, y Dafarnwraig → |
HAFDY CADER IDRIS
GWNAETHPWYD plas addas dan ser—i fawrion
Ddifyru eu hamser,
Hwyliwyd coed, a heliwyd cêr,
I'w godi'n mhen y Gader.
Tŷ clodwych, mawrwych, mirain,—tŷ iachus,
Tŷ ucha' yn Mrydain,
Caerog adeilad cywrain,
Nerthawl, o anferthawl fain.[1]
Ei fuddiawl ethawl dylathau—gwiwrwydd,
Sy'n geryg difylchau;
Byrddau trwchus, clodus, clau,
O dderwydd, yw ei ddorau.
Ei gelloedd heb ddim gwallau—dda hinon,
Sydd hynod o olau;
Lle braf tra bo i'r haf barhau,
Draw i edrych drwy wydrau.
Drychwydrau'n ddiau a ddwg—dêr hirfaith
Dir Arfon i'r amlwg;
Gwelir ar yr un golwg
Dir Mon pan 'madawo'r mwg
Gwelir golygiad gwiwlon—oddiyno
Hyd ddinas Caerlleon,
Ac o'r un lle ceir yn llon
Gweled mawredd gwlad Meirion.
Gwelir, pan dremir drwy'r drych,—o'r celloedd,
Dir Callestr a Dinbych,
A swydd Maldwyn werddlwyn wych,
Trwy wiwdrefn, ond troi i edrych.
Gwiwlwys oddiyno gwelir—yr un fath,
Ran fawr o'r Deheudir;
Mae'n werth (nid rhaid amheu'n wir)
Myn'd yno, y man adwaenir.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Meini