Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Marwnad Daniel O'Connell, A. S.

Oddi ar Wicidestun
Coffadwriaeth J. Williams, Dolgellau Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Coffadwriaeth am y diweddar Barch. Samuel Jones

GALAR sy'n mysg trigolion—llawenaf,
Holl ynys Iwerddon,
Daniel, prif lyw eu dynion,
Gollasant, synant wrth son.

Daniel oedd berchen doniau—a chedyrn
Wych odiaeth gynheddfau,
Rhyddhawr cwlwm gorthrwm gau,
A thòrwr llyffetheiriau.

Gwir ethawl fyg areithydd
Digyfref, oedd ef i'w ddydd;
Ef oedd ben yn y Senedd,
O lawn faint hyd làn ei fedd;
Er gwiwrwydd fawr ragoriaeth,
Y mirain ŵr, ow! marw.wnaeth!


Yn Ffrainc draw'n ddigon tawel—trwy angau,
Y trengodd O'Connel;
G'nawd yn rhwydd i bob Gwyddel,
Am dano gwyno heb gel.

Dygwyd mewn modd diogel—i'r Werddon,
Gorff harddwych O'Connel;
A'i galon, ffyddlon wr ffel,
Sy'n Rhufain, o swn rhyfel.


A'i enaid wrtho'i hunan—sy etto
Ryw sut yn y purdan
Tan ei fai,—ond daw'n fuan,
Os gwir, yn bur glir a glân.

Wedi'i iawn buro a'i wneud yn barod,
A i fewn yn siriol heb fai na sorod,
At yr hen Babau, rhinau gorhynod,
Rhy' pawb le i Connell, 'be'r publicanod;
Yno bydd dan newydd nod—meddianna
Y man ucha' yn nghôr y mynachod.


Nodiadau

[golygu]