Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Marwnad J. Edwards, Ysw., Dolserau, ger Dolgellau

Oddi ar Wicidestun
Marwnad H. Reveley, Ysw., Brynygwin, Dolgellau Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Achau Dafydd Frenin

MARWNAD J. EDWARDS, YSW.,
DOLSERAU, GER DOLGELLAU.
Bu farw Hydref 19eg, 1852.

Och! angau, ei groch ingoedd—gwasgedig,
Ysgydwant deyrnasoedd,
Ei loesion draidd i lysoedd,
Boneddion gwychion ar g'oedd.

Loes irad yn Nolyserau—heddyw
Enhuddodd fwynderau;
Parodd hon i bawb bruddhau
Gan lwythawg ddygnawl aethau.

Tòri boneddwr tirion—o fynwes
Ei fwynaidd gyfeillion,
Bair drallod a briwdod bron
I'w anwyl deulu union.


Dyn ydoedd dianwadal—a gwron
Hawddgaraf yr ardal;
Llid a gw'radwydd—swydd rhy sal
Na gweniaith, ni wnai gynnal.

Nid hawdd ei canfyddid heb
Lon wện ar ei lân wyneb.


Mynwesawl gymwynasydd—cu hyfwyn,
Y cafwyd e beunydd;
Didwyll gyfranwr dedwydd
Oedd ef—ow! darfu ei ddydd!


Priod gwastad, ceinfad cu,
Dihalog yn ei deulu;
A thad hawddgar, clodgar, clau,
Gwiwdeg ei ymddygiadau;
Gonest bendefig uniawn,
Haelionus, croesawus iawn;
A gwladwr mawr ei glodydd,
Llawroddiog, rhywiog, a rhydd;
Siriol gymydog seirian,
A gwir gyfnerthydd y gwan;
Gwr myg yn haeddu gair mawr,
Y daliodd hyd ei elawr;
Ceir llu'n hiraethu ar ol
Y dianair ŵr doniol;
Gwae i luoedd fu glywed
Farw gŵr oedd mor fawr ei gêd;
Hunodd diweddodd ei daith—
Ni welir mo'no eilwaith;
Gorwedd wna'i gorff mewn gweryd,
Nes bydd Iesu'n barnu'r byd;
Ffarwel, yr ynad cadarn,
Mawr ddoniau, hyd forau'r farn!


Nodiadau

[golygu]