Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Nesâu at Dduw

Oddi ar Wicidestun
Hau mewn dagrau Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Rhestr tanysgrifwyr (heb drawsgrifiad)

NESAU AT DDUW.

NESAF yn hyderus a pharchus drwy ffydd
At Dduw i byrth Sion yn dirion bob dydd,
Caf yma dawelwch a heddwch o hyd,
I draethu'i weithredoedd ar gyhoedd i gyd.

Mewn hedd y preswyliaf tra byddaf fi byw
Yn mhabell ardderchog fanerog fy Nuw;
Cymdeithas ei Ysbryd yn hyfryd fwynhaf,
A gwerthfawr amlygiad o'i gariad a gaf.


Nodiadau

[golygu]