Diliau Meirion Cyf I/Y Ceiliog a'i Gân
Gwedd
← Adgyfodiad Dysgeidiaeth yn Nolgellau | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Y Dysgedydd → |
Y CEILIOG A'I GAN
Cyfansoddedig wrth ei glywed yn canu yn y bore
Y CEILIOG enwog a gân—yn brydlon
Bêr odlau greddf gyngan,
Yn unol â threfn anian
Dyry glod i'w Awdwr glân.
Yn ei glwyd e gwyd, ac wed'yn—ysgwyd
Ei esgyll yn ddillyn;
Siampl felly ddyry i ddyn,
Deilwng i bawb ei dilyn.
Heb aros yn y borau—un eiliad,
Yn ol ei drefniadan,
Mae'n adwaen y mynydau
I ddechreu'i gan fwynlan fau.