Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Y Cristion buddugoliaethus

Oddi ar Wicidestun
Pa beth yw dyn i ti i'w gofio? Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Ymrysoniadau Ysbryd Duw


Y CRISTION BUDDUGOLIAETHUS,

Yr hwn sydd yn gorchfygu'r byd,
A'r drygau i gyd sydd ynddo,
Yn golofn hardd y gwneir ef byth
Yn nheml ddilyth Duw Iago.

Fel milwr dewr yn mlaen yr â,
Ac ni ddiffygia ronyn;
Drwy nerth anfeidrol Ysbryd Duw,
Gorchfyga bob rhyw elyn.

Ni phery'r ymdrech ddim yn faith,
Fe dderfydd gwaith rhyfela,
Ceir gorphwys byth yn Salem lân,
A seinio cân osanna.


Nodiadau

[golygu]