Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Y Maelwyr

Oddi ar Wicidestun
Thomas Ellis, baban y Parch. R. Ellis, Brithdir Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Nodiadau ar gymhwysderau Beirniaid Eisteddfodau

Y MAELWYR.

Y MAELWYR rhwng y moelydd—ffei honynt,
'Run ffunud a'u gilydd,
Canant, a dawnsiant bob dydd,
Os daw yn rhochus dywydd.

Aml wenant gan ymloni—a didawl
Y d'wedant heb oedi,
'R olwynion sy'n troi 'leni
Etto on waith o'n tu ni.

Ond ni chlywir, dir, air da—o'u parabl
Tra pery'r cynaua';
Os hin hafaidd nawsaidd wna,
Mawr ochant am yr ucha'.

Tremiant oddiar y trumau—am arwydd
Daw mawrion gafodau,

Gan ddysgwyl mewn hwyl mwynhau
'R adeg gwaethyga'r ydau.

Ar hin deg rhai hynod wgus—fyddant,
A rhyfeddol gecrus;
Gwerthu ga'r teulu gwarthus
Lai ar goel o lèr ac ûs.

Codiad y farchnad a fydd—yn destun
Eu distadl lawenydd;
Ond marchnad fâd rad a rydd,
Erwin boen i'r rhai'n beunydd.

Gwae'r maelwyr, tremwyr trymion,—sy'n achos
O nychu'r tylodion;
Twyllwyr breisg ynt oll o'r bron,
Cribddeiliawg grybaidd alon.

Coeliwch y gwna Duw Celi—eich gwysio,
Grach gasweilch, i gyfri';
Dwg i lawn deg oleuni,
Eich geirwon ddichellion chwi.

Ni châr Nêr, ener union,—halogwyr,
Lewygant reidusion,
Di rith anwyliaid yr Iôn
Yw'r hygar drugarogion.

Anamlach bellach drwy'r byd—fo'r maelwyr
Milain a thrachwantlyd,
Cyn hir fe'u gelwir i gyd
Adref, i gael eu dedryd.


Nodiadau

[golygu]