Neidio i'r cynnwys

Disgyn, Iôr, a rhwyga'r nefoedd

Oddi ar Wicidestun
Tyred, Ysbryd Glân tragwyddol Disgyn, Iôr, a rhwyga'r nefoedd

gan William Griffiths, Caergybi

Ysbryd byw y deffroadau
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

269[1] "O! na rwygit y Nefoedd, a disgyn !"
887. 87. D.

1 DISGYN, Iôr, a rhwyga'r nefoedd,
Tywallt Ysbryd gras i lawr;
Disgyn fel y toddo'r bryniau,
Diosg fraich dy allu mawr;
Rhwyga'r llenni, ymddisgleiria
Ar dy drugareddfa lân;
Rho dy lais a'th wenau tirion,
Achub bentewynion tân.

2 Ti achubaist y rhai gwaethaf,
Annheilyngaf a fu'n bod;
Achub eto, achub yma,
Achub finnau er dy glod.
Ti gei'r mawl pan danio'r ddaear,
A phan syrthio sêr y nen:
Ti gei'r enw yn dragwyddol,
Ti gei'r goron ar dy ben.

William Griffiths, Caergybi



Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 269, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930