Diwrnod yn Nolgellau/Arweiniad i mewn
← At y darllenydd | Diwrnod yn Nolgellau gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn) |
Sefydliadau → |
DIWRNOD YN NOLGELLAU.
ARWEINIAD I MEWN.
ID oes gangen o wybodaeth yn fwy dyddorol, a derbyniol gan y darllenydd nag hanesiaeth. Trwy hanes y caiff yr efrydydd deithi y pethau a fu, cymeriad y gwrthddrychau a egyr o'i flaen, a dylanwad yr hynodion hynny mewn natur a chymdeithas ar bersonau a chyfeillachau, fel ag i newid osgo a thueddfryd y sylwedydd er ei "well, neu er ei waeth." Yma mae'r perygl yn clorianu, i dda neu i ddrwg, gan y gwrthddrych allanol ar a huda serch neu ddymuniad yr ymwelydd, gan ei berthynas â phechod, neu ddaioni, eithr o bydd gras a rhinwedd yn y galon, yn yr ysbryd a'r pen, yna tebyg y bydd i hoffwr gwrthddrychau fyw ar degwch, neu werth yr unrhyw er ei leshâd, gan achub ei hun rhag y drwg a'r niweidiol. Addefir gan yr hanesydd a'r hynafiaethydd nad oes lanerch fwy dyddorol, mwy amrywiol ei harddangosiadau gan natur gain yn Nghymru na Dolgellau. Y mae ei hamrywiaeth gan natur, ac encilfa dawel i anwesu pob meddwl o bleser, a fuasai olaf yn ildio ei Chymraeg i estron, ac yn ddiweddaf yn y byd i achlesu unpeth o eiddo meib Hengist, gan mor selog a ffyddlawn ydyw i ddefion Cymreig a gwladgarwch Gymröaidd. I ymwelydd â Dolgellau am ddiwrnod, cenfydd y sylwedydd craff, ac a fyn werth ei geiniog, fanau i fwynhau ei hun yn ei ymyl, ar werth pa rai y casgl fêl i'w gwch, tra caiff y teithydd pymthegnos, neu fis, leoedd o hyfrydwch i chwaeth dda a phur, pellach allan i hel mwynhad a chyfoeth meddyliol a ad-dala iddo ar eu degfed, fel y caf nodi yn y tudalenau canlynol.
DOLGELLAU YN EI HENW A'I NHODWEDD.
Saif y dref hon, sydd farchnad-dref a phlwyf, yn nghwmwd Tal-y-bont, a Mawddwy, rhwng dwy afon o'r enwau Wnion ac Aran, braidd ar ymuniad y ddiweddaf â Mawddach, ac ar fynwes dyffryn ffrwythlawn a phrydferth o amrywiaeth natur, gan gusanu
troed Cader Idris, ac a fedr, fel hen Fam hybarchus yn sir Feirionydd, roddi her i unrhyw dref arall yn Nghymru am fangre dlysach i orweddian, yn nghanol teleidion natur a chelfyddyd, llaio droseddau cymdeithasol, a mwy o ymlyniad mewn pobpeth a ddyrch gymeriad Gwalia a'i thrigolion. Bu "cyll" (lluosog o "collen") mewn helaethrwydd yma unwaith, os nad eto, a dyma'r rheswm i'r hen Gymry syml a llygadog roddi yr enw hwn i dref a orweddai ar ddol lawn o'r coed hynny, a rhoi enw arall estronol iddi fuasai "cyrchu dwfr dros afon," a cheisio gwadu'r ddawn Gymreig. Saif Dolgellau ar brif-ffordd Trallwm ac Abermaw, a rhestrir hi yn fwy poblog a chanolog ei sefyllfa nag un dref arall yn y sir. Mae perffeithiad celfyddyd mewn adeiladu wedi gwneyd i ffordd â'r hen anedd-dai tô gwellt, ac ereill anolygus a rhyfedd, a thai heirdd a chostfawr wedi eu codi ar ei heolydd afreolaidd, culion, croesion ac anghyson eu gosodiad. Ysgrifenydd arall a ddyry'r darnodiad canlynol o'r dref: Un o brif drefi sir Feirionydd ydyw Dolgellau, ac nid oes yn y sir gydgasgliad digonedd o annedd-dai i wneyd bwrdeisdref-tref wedi ei chodi ar yr hyn oedd gynt yn Ddol o gyll,' a dyna paham y gelwir y fan yn Dolgellau." Y mae yn lle dyddorol ar lawer ystyr. Gelwir hi weithiau yn ben tref y sir, am, mae'n debyg, fod yno neuadd sirol, er fod y Bala yn ymffrostio yn yr unrhyw urddas, ac am i'r carchar sirol fodoli yno am gyfnod maith; ond y mae Dolgellau wedi colli hyd yn nod yr " anrhydedd" a'r flaenoriaeth honno. Perthyna i'r lle ar hyn o bryd "fwrdd lleol," neu, os gwelwch yn dda, "gynghor dinesig" erbyn hyn; ond sefydlwyd y cyfryw, mae'n ddiau, yn rhy ddiweddar i osod trefn a dosparth ar gynlluniau y dref, yr hon sydd yn hynod am ei heolydd culion, croesion, a gosodiad anghyson y tai, amryw o'r rhai ydynt henafol a dilun. Dywedir gan Mr. Bingley, efrydydd colegawl o Ddolgellau, yr hwn yn ystod ei ymdaith yn un o drefi Lloegr, a ymffrostiai yn nhegwch ei dref enedigol, iddo gael hèr i ddesgrifio sut le oedd Dolgellau. "Wel, mi a ddangosaf i chwi," meddai, gan gymeryd gafael mewn costrel oedd yn ymyl, ac yna torodd amryw gyrc yn fân ddarnau. Wedi hyn bwriodd y cyrc ar ben y botel nes oeddynt yn blith draphlith ar y bwrdd. Dyna Ddolgellau," meddai: "yr eglwys ydyw y botel, ac y mae'r tai a'r heolydd yn union yr un modd ag y mae'r darnau cyrc ar y bwrdd." Saif y dref ddyddorol hon ar lan yr afon Wnion, cyn iddi ymarllwys i'r Mawddach, a rhed yr afon Aran, a ffrydiau hynod ereill, yn amgylchoedd ereill y dref. Ymgyfyd Cader Idris a'i thrumau ar un llaw iddi, tra y mae palasau enwog Hengwrt, Nannau, Caerynwch, Bronygadair, Brynadda, Garthyngharad, a nifer ereill ar wahanol lechweddau y bryniau sydd yn amgylchynu y Ddôl. Yn y dref ar un cyfnod y bu Owen Glyndwr yn cadw ei Senedd, ond y mae olion yr adeilad hwnw bron wedi diflanu. Adeilad pwysig ynddo yn awr, ac a welir yn ein darlun o'r dref, ydyw Ysgol Dr. Williams, sefydliad addysgol i enethod, a godwyd o arian a ewyllysiodd Dr. Williams yn gyntaf i dref Caernarfon, ond oherwydd claiarineb y trefwyr yno a gymerwyd i fyny yn aiddgar gan drigolion sir Feirionydd, ac a sefydlwyd ar lan yr Wnion. Gallwn sicrhau ein darllenwyr nad oes anad le yn Nghymru mor doreithiog mewn golygfeydd rhamantus, hanesyddiaeth ddyddorol, a swyn-gyfaredd—canys onid. yn yr ardal hon y mae lle yr aur?—na'r doldir hyfryd ar ba un y saif Tref y Cyll.
Gwnaed adgyweiriadau pwysig yn y lle Meh., 1830, gan Syr R. Vaughan, gydag adeiladu heol o'r enw Eldon—terrace, ac y mae ereill wedi codi'r cynllun, a mynu heolydd o dai annedd glanwedd a theg, ag sy'n addurn gan gelf a gwybodaeth. Ceir dwy farchnad wythnosol yma ar ddyddiau Mawrth a Sadwrn, a chynhelir 14 o ffeiriau, dyddiadau pa rai, a chyfnewidiadau y rhai hyn, os digwydda hynny, a chwilia'r ymwelwr yn dra buan o'n Halmanaciau. Cynhelir Sesiwn yr haf, Chwarter Sesiwn y Pasg, a Gwyl Mihangel, tros y sir, yn y lle, ond fel rheol, ychydig a fydd nifer y rhai a brofir, ac aml heb un i'w ddwyn ger bron, yn y "Sesiwn wâg," am drosedd o unrhyw fath. Ymlapia'r dref o dan fynyddau uchel a bryniau ban; ar lethrau y rhai hyn y ceir coedwigoedd helaeth, yn llawn o adar gwylltion yn cadw'r cyngherddau goreu a fedd ein byd. Dyfrheir godreu pob coedfa gan yr Wnion, yr hon a chwardd wrth daflu ei phen ar fynwes ei chwaer—afon Maw, yn ymyl Llanilltyd, a'r hon afon eto sydd y darlun cywiraf o sarph, yn ei cham-ystum a'i thröadau aml a sydyn. Naid hon allan trwy groen daear Trawsfynydd, ac a ymwylltia i lawr trwy'r Ganllwyd. Odditan y Pistylloedd ymferwa'r Cain iddi. Yn narnau ucha'r Ganllwyd, yn Nglyn Eden, neidia'r Eden i'w mynwes, yna rhed yn llawn gwenau trwy Waelod y Glyn, pan y cofleidir hi wrth Lanilltyd gan yr Wnion. Am brydferthwch hyhi a'i gororau ystyrir y cyfryw yn nesaf at lenydd y Rhine, o un lle yn Mhrydain, a geiriau Syr R. C. Hoare am danynt yw, eu bod "yn anarluniadwy o arddunol a thlws." Mae pentref Llanilltyd fel ar haner tyfu,—fel plentyn a'r rickets arno, heb nemor i alw sylw namyn ysgol ddyddiol ar yr ochr ddeheu i'r bont, siop a'r Eglwys blwyfol, ac i'w mynwent yr "hidlwyd llawer cenhedlaeth," a bu llawer o'i dyddiau yn cydredeg âg eiddo'r hen Fynachlog hybarch ac unig a orphwys draw ar ei chyfer, oddiwrth ddyddiau ei gweinidogaeth. Mae'r Eglwys yn gysegredig i Illtyd Farchog (Iltutus), fab Bicanys, o chwaer Emyr Llydaw, ac un a wnaeth enw iddo ei hun yn moreu oes am ei orchestion milwraidd. Brodor o Lydaw ydoedd, a daeth efo Garmon hyd Lys Arthur Frenin, ac yn fuan perswadiwyd ef gan Gatwg Ddoeth i arwedd buchedd grefyddol. Bu'n benaeth ganddo ar athrofa Côr Tewdws, yr hon a sylfaenwyd gan yr Ymherawdwr Tewdws (Theodosius). Dinystriwyd athrofa Llanilltyd Fawr (Caerworgorn) gan y Gwyddelod paganaidd, a dygasant Padrig gyda hwynt i'r Iwerddon, a dyma eu hapostol wedi hynny. Dygodd Illtyd welliant mewn garddu, yn lle ceibiau a'r aradr orsang dygodd gyfryngau mwy pwrpasol i aredig. Ystyrid ef yn noddwr pymtheg o eglwysi a chapeli. Yn ol y Cambrian Biography, gan Dr. W. Owain Puw, bu farw yn y flwyddyn 480 O.C., a chladdwyd ef, medd traddodiad, yn Bedd Gŵyl Illtyd," yn sir Frycheiniog. Coffheir ei wyl, yn ol Cressy, Chwef. 7. Mae golygfeydd teg ac amrywiaethol Llanilltyd hyd y Bermo yn brydferthwch byw dolydd, dyffrynoedd, y man fryniau bàn, a'r creigiau crôg y'nt mewn cystadleuaeth beunydd i ryfeddu'r ymwelydd o chwaeth bur.
Mae dyffryn Dolgellau yn un o'r rhai glanaf a phrydferthaf ag y gellir meddwl am dano, yn meddu ar olygfeydd ar ardaloedd pell hyd gyflawnder, yn eu cyfoeth, mawredd ac amrywiaeth. Mae rhodfeydd y fangre swynol yn rhamantus a niferog, a dyma a rydd gyfrif, yn ddiau, am y lluaws ymwelwyr a ddaw yma bob haf o wahanol fanau o'r deyrnas. Ystyrir plwyf Dolgellau yn 16 milltir o hyd a 4 o led; gwelir felly mai rhimyn cul ydyw, a llawer ohono'n fynyddig a bryniog, yn llawn o lwybrau defaid ac ebolion, a nifer helaeth o fân lynau ynddo, o ba rai y caiff y bobl dylodion gynud tân—mawn a choed. A'r weithred Seneddol, yn 1811, enillwyd chwe' mil o aceri o dir gwael ac ysgymun: ac y mae Dolgellau wedi cael y blaen ar bob lle arall am ei brethyn a'i gwlanen, neu y "Wê Gymreig," a bu cynifer a 1400 o ddynion mewn cyflawn waith a'r gorchwyl hwn. Cychwynwyd y gweithfäoedd yma cyn teyrnasiad lago I., a daeth eu rheoleiddiad i gyfrif pwysig yn nheyrnasiad Siarl I. Gwelwyd 130,000 o ysgubau, neu fwrneli (bundles), yn cynwys 110 o latheni mewn hyd, ar loriau y gweithfäoedd hyn, y rhai a ddanfonid mewn llongau i Lerpwl, Carolina Ddeheuol, Charleston, a manau ereill; eithr daeth y cludiadau hyn i lwyr derfyniad oddeutu y f. 1793, pryd yr ail- gychwynwyd y fasnach ag Amwytbig, gyda chario'r brethyn yno mewn pedrolfeni. Y mae crwynyddiaeth yn fasnach bwysig yma hefyd, mŵnyddiaeth mewn plwm, efydd ac aur (Gwynfynydd, cofier), eithr mae'r draul o agor coffrau y trysorau wedi llesteirio yr anturiaethydd er's llawer dydd, fel nad oes son mwyach am ail gynyg am y buddianau cuddiedig, oddieithr am " Waith Aur" nodedig Llanfachraith. Yn 1862 dyry Mynydd y Clogau, a saif cydrhwng Dolgellau a'r Bermo, aur a chopr i logellau yr antur- iaethwyr gwerthwyd gwerth oddeutu £70,000 o'i aur i Ariandy Lloegr. Tybir, ar adeg gwrthryfel mawr 1642-46, i'r gronfa Gymreig uchod mewn aur gyfranu llawer o'i darganfyddiad gwerthfawr i Siarl I., tra na sonir am hyn ond mewn traddodiad, eithr sir Aberteifi a gaiff y clod am hynny, ac am y talpiau euraidd a ddygid i fathdy Aberystwyth i wneyd penaduriaid o'r teyrn a enwyd. Dygid darnau teir-punt allan a bwysent 411 o ronynau, a'r dyddiad 1644 arnynt. Dygai dair pluen ar un wyneb, a'r plu a nod y bathdy ar y llall. Yr argraff yn llawn ydoedd:- "CAROLVS D:G:M. AC: BRI: FRA: ET HIBER: REX." Yna ardeb o ran uchaf o'r brenin, a'i ochrau yn troi i'r dde, wedi ei goroni ag arfogaeth. Yn ei law ddehau y mae cleddyf, a changen olewydden yn ei aswy. Ar y wyneb arall ceir-"EXVRGAI. DEVS. DISSIPENTVRINI MICI." Yn llinellau ar y canol ceir "RELIG: PRO: LEG: ANG: LIBER. PAR." Yna y rhif 111, a'r plu uwch ben, a'r dyddiad 1644 oddidanodd. Credaf fod llawer o'r bathau hyn yn gadwedig ynghudd yn Nolgellau a'r cylchoedd.
Wedi trem frysiog fel yna ar y dref yn rhanol, cymeraf yr ymwelydd yn erbyn ei law i weled desgrifiad Fuller o Ddolgellau yn ei "Worthies in Wales":-
"1. The walls thereof are three miles high.
2. Men go into it over the water; but
3. Go out of it under the water.
4. The steeple thereof doth grow therein.
5. There are more ale-houses than houses."
13 Y modd yr eglurir y pum' dychymyg (enigmas) uchod ydyw fel hyn: "The first is explained by the mountains which surround the place; the second implies that on one side of the town there was a bridge, over which all travellers must pass; and the third, that on the other side they had to go under a wooden trough, which conveyed water from a rock, at a mile distant, to an over- shot mill. For the fourth he says, the bells, if plural, hung in a yew tree; and for the last, that tenements were divided into two or more tippling-houses, and that even chimneyless barns were used often for the same purpose."
Bala | ...... | 18 Milltir |
Abermaw | ...... | 10 " |
Caerlleon | ...... | 57 " |
Machynlleth... | ...... | 15 " |
Maentwrog | ...... | 18 " |
Towyn | ...... | 16 " |
Yn ol Cary Itenarary of the Great and Cross Roads in England and Wales, 1798, trafaelid â'r stage coaches fel y canlyn o Ddolgellau i Lundain a Manceinion: ä'r hen ffordd heibio capel Bethel (A.), Dwyryd, ac oddidan Rhug, a Chorwen:—
Llwybr y Llythyr-gerbyd o'r Brifddinas hyd Ddolgellau a olygid uchod, a'r pellder o'r lleoedd a nodir mewn milldiroedd a ffyr- longau. Wele'n canlyn eto groesffyrdd y goach fawr o Fanchester i Ddolgellau.
A'r tafarnau y byddys yn aros ynddynt er diwallu'r teithwyr, a newid ceffylau oeddynt: Dolgellau: "Golden Lion." Drws y Nant: "Howel Dda." Bala: "Bull." Corwen: "Owen Glendwr." Llangollen: "Hand." O'r ochr arall: "Cannon Office Inn;" Caernarvon: "Hotel." Yn awr galwaf sylw'r ymwelydd at y gwrthddrychau canlynol :-