Drama Rhys Lewis/Act 1

Oddi ar Wicidestun
Cyfarwyddiadau Drama Rhys Lewis

gan Daniel Owen


golygwyd gan John Morgan Edwards
Act 1 Golygfa 2


DRAMA

RHYS LEWIS.

————————————

Y PERSONAU A GYNRYCHIOLIR,—


  • RHYS LEWIS.
  • MARI LEWIS, mam Rhys.
  • BOB, brawd Rhys.
  • WIL BRYAN.
  • MARGED PITARS cymdoges.
  • SERGEANT WILLIAMS.
  • TOMOS BARTLEY, y crydd.
  • BARBARA, gwraig Tomos Bartley.
  • Miss HUGHES, chwaer Abel Hughes.
  • JAMES, brawd tad Rhys.
  • LLETYWRAIG RHYS A WILLIAMS.
  • WILLIAMS, Myfyriwr yn y Coleg.
  • ATHRAW A MYFYRWYR YNG NGHOLEG Y BALA.
  • SUS, yr hon y mae Wil Bryan yn ei phriodi.

——————

ACT I.

CARTREF MARI LEWIS.

BWRDD, TAIR CADAIR, CLOC, A RHAI DODREFN. GOLYGFA 1.—Lle mae MARI LEWIS yn achwyn am y streicio, ac yn cwyno fod BOB yn cymeryd rhan.—MARGED PITARS yn ymweld a MARI LEWIS.—BOB yn dychwelyd o helynt y Glowyr, ac yn ymddiddan a'i fam.—MARI LEWIS yn ofni'r canlyniadau.—SERGEANT WILLIAMS yn dod i'r ty, ac yn cyflwyno'r wys i BOB. —BOB yn garcharor.—RHYS yn dychrynnu, a'i fam yn wylo.

MARI LEWIS (yn siarad wrthi ei hun), Wn i ddim be ddaw o honom ni 'rwan. Dyma Bob wedi colli ei waith, a Rhys yn cael dim ond digon i'w gadw mewn 'sgidiau. Mae'r streics 'ma yn bethe creulon. Dyden nhw ddim yn perthyn i ni,—y Cymry. Pethe wedi dwad oddiwrth y Saeson yde nhw. Fu 'rioed son am streics yma cyn i Abram Jones gael ei droi i ffwrdd. Wn i ddim be oedd yn corddi Bob ni i fynd i'r row heddyw o gwbl. Mae Bob yn rhy ddiniwed o lawer. Mae y lleill yn 'i stwffio fo ymlaen, ond Bob sydd yn colli ei waith, nid y nhw; a dyma ninne yn gorfod diodde. Oni bai mod i'n gwybod b'le i droi, wn i ddim be wnawn i, na wn i yn wir."

(Enter Marged Pitars).

MARGED PITARS,—"Sut yr ydach chi, Mari Lewis?"

MARI LEWIS,—"Yr ydw i yn reit fflat, Marged Pitars, ydw'n wir. 'Steddwch i lawr."

MARGED PITARS,—"Na, rhaid i mi fynd, ond mod i jest yn troi i mewn i weld sut yr oeddech chi yn yr helynt yma. Mi na'th y dynion yn riol â Mr. Strangle. Dase nhw wedi hanner 'i ladd o, fase o niwed yn y byd—"

MARI LEWIS,—"Be ydi'ch meddwl chi, Marged Pitars?"

MARGED PITARS,—"Dim; ond fod yn hen bryd i rywun godi row, fod y cyflogau mor fychain, fel nad yw yn bosib cadw teulu; ond, yn wir, yr oeddwn wedi siarsio y gwr acw i beidio dweyd yr un gair, nac i wneyd ei hun yn amlwg mewn ffordd yn y byd."

MARI LEWIS,—"Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac ereill ymladd y frwydr, ac i Wmphre, eich gwr, a phawb arall sydd yn perthyn i chwi, fod fel y Dan hwnnw gynt, yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fynd drosodd. Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davies, Nerquis, yn deyd."

MARGED PITARS,—"Gobeithio na chollith Wmphra mo'i waith, beth bynnag. Rhaid i mi fynd. Nos da."

MARI LEWIS,—"Nos da, a diolch i chi am alw."

(Exit MARGED PITARS).
(Enter BOB).

BOB,—"Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt?"

MARI LEWIS,—"Do, machgen i; ond wyt ti yn meddwl dy fod wedi gwneyd dy ddyledswydd? Mi ddaru mi dy siarsio di lawer gwaith i adael i'r lleill godlo hefo'r helynt, onid o? Mi wn o'r gore fod genoch chi, fel gweithwyr, le i gwyno, ac fod yn gywilydd fod rhyw Sais yn dwad ar draws gwlad i gym'ryd lle dyn duwiol fel Abram Jones, na fu 'rioed helynt efo fo; ond 'dwyt ti ddim ond ifanc, pham na faset ti yn gadael i rywun fel Edward Morgan siarad a chodlo,—dyn sydd ganddo dy iddo fo'i hun, a buwch, a mochyn? Ond waeth tewi. Beth ddaw o honom ni ydi'r pwnc 'rwan?"

BOB,—"Mam! nid fel yna ddaru chi nysgu i. Gwna dy ddyledswydd, a gad rhwng y Brenin Mawr a'r canlyniadau,' oedd un o'r gwersi cyntaf ddysgasoch i mi. Nid yw hyn ond y peth oeddwn yn ei ddisgwyl. Mae yn rhaid i rywun ddiodde cyn y daw daioni i'r lliaws; ac os ydw i ac ychydig ereill yn cael ein gwneyd yn fwch dihangol i'r tri chant sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddion i ddwyn eu rhyddid oddi amgylch, a'u llesad, popeth yn dda. Nid ydwyf wedi dweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu a'i deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddioddef er mwyn y lliaws. Mae y'ch Llyfr chi,—y Beibl, yn son llawer am aberthu er mwyn ereill—

MARI LEWIS,—"Taw a dy lol; fedra i ddim diodde dy glywed di yn siarad. 'Does ene ddim son am streics coliars yn y Beibl; ac os wyt ti yn mynd i gymharu y row ene â dim sydd yn y Beibl, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan y mynnost."

BOB,—"Cymerweh bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son.

MARI LEWIS,—"Hwde di, paid di hel dy eirie mawr efo fi; dydi y gair cyfatebiaeth ddim yn y Beibl nac yn 'Fforddwr Mr. Charles."

BOB,—"Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen Butler' ar Gyfatebiaeth"

MARI LEWIS,—"Bwtler! Be wyt ti yn son am dy fwtler wrtha i? Rhyw bagan fel ene, nad ydi o byth yn mynd i le o addoliad, ond i'r Eglwys, ac na wyr o ddim ond am gario gwin i'w feistar."

BOB (yn chwerthin),—"Nid bwtler y Plas oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Bwtler,—dyn da a duwiol."

MARI LEWIS,—"Wel, sut bynnag, yr wyt ti wedi ei gwneyd hi heddyw. Welest ti mo John Powell? Be oedd o yn feddwl o'r helynt?"

BOB,—"'Roedd o yn ofni y cai rhai o honom ein cospi."

MARI LEWIS,—"Wel, mae arna i ofn y canlyniadau."

BOB,—"Beth bynnag fyddant, dydi ddim yn 'difar gen i mod i wedi gwneyd yr hyn nes i, a dase y dynion wedi cadw at fy nghyngor i, fuase'r ynfydwaith hwn ddim wedi ei wneyd."

(BOB yn ceisio darllen papur newydd; MARI LEWIS yn eistedd, a'i phen yn ei dwylaw).

MARI LEWIS,—Mi ges brofedigaeth fawr hefo dy dad, ond yr oedd yn dda gen i 'i weld o'n ffoi o'r ardal, er mai 'y ngwr i oedd o; ond wn i ddim be wnawn i daset ti yn gorfod ffoi rhag dwad i helynt."

BOB—"'Na i ddim, a 'na i mo'ch gadel chi chwaith, tra y caf aros."

(Enter SERGEANT WILLIAMS).

BOB (yn codi, gan roddi cadair i'r heddwas),—"Noson dda i chi, Sergeant; 'steddwch i lawr. Yr wyf yn meddwl fy mod yn deall eich neges.'

SERGEANT WILLIAMS,—"Wel, neges digon anymunol sydd gen i, Robert Lewis, yn siwr i chi; ond yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn iawn dydd Llun. Mrs. Lewis, peidiwch a dychrynnu,—(gan estyn y warrant i Bob, yr hwn a'i darllennodd),—dydi o ddim ond matter of form. Rhaid i ni wneyd ein dyledswydd, wyddoch; ac fel y dywedais, yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn reit dydd Llun."

(Enter RHYS).

RHYS,—" Mam!" (yn gweld y Sergeant, ac yn tewi mewn syndod).

SERGEANT WILLIAMS,—"Dowch. Robert Lewis, waeth i ni heb ymdroi, wna hynny les yn y byd."

BOB,—"Mam, mi wyddoch b'le i droi. Mae fy nghydwybod i yn dawel."

(MARI LEWIS yn eistedd yn sydyn ar gadair, ac yn rhoi ei phen ar y bwrdd, gan ddweyd yn floesg,—"DYDD Y BROFEDIGAETH!"),

[CURTAIN].