Drama Rhys Lewis/Act 2 Golygfa 3

Oddi ar Wicidestun
Act 2 Golygfa 2 Drama Rhys Lewis

gan Daniel Owen


golygwyd gan John Morgan Edwards
Act 2 Golygfa 4


Y TWMPATH,—ETO.

GOLYGFA 3.—TOMOS BARTLEY ar y fainc grydd; hen esgidiau o'i ddeutu.—MISS HUGHES yn eistedd, a BARBARA yn glanhau.

MISS HUGHES,—"Mae Rhys yn hir iawn yn dwad."

TOMOS,—"O, mi ddaw o yn y munud, gellwch fod yn dawel. Mi gawsoch golled fawr wrth golli yr hen Sergia Majiar."

MISS HUGHES,—"Do, wir."

BARBARA,—"Wn i ddim be ddaw o honoch; wyddoch chi,Tomos ?

MISS HUGHES,—"Rhaid i mi ymddiried yn Rhagluniaeth."

TOMOS—"Weles i 'rioed ddioni o'r stori ene. Mae Rhagluniaeth yn gyfalu am bawb ofalith am dano'i hun. 'Roedd yma ddyn yn byw yn y gymdogaeth yma ystalwm, cyn i chi ddwad yma,—a 'roedd o dipyn o grefyddwr hefyd, y dyn mwya di—sut at fyw welis i 'rioed, a mi fydde fynte'n wastad yn son am i ni myddiried yn Rhagluniaeth. A wyddoch chi lle bu o farw ? Yn wyrcws Treffynnon, poor fellow."

TOMOS,—"Wel, dewch i mi fesur y'ch troed chi, Miss Hughes bach, i aros i Rhys ddod. (Yn mesur y troed). Wel, ma' gynoch chi droed del,—y dela weles i erioed,—ond un."

MISS HUGHES,—"Tybed, Tomos Bartley. Troed pwy oedd hwnnw ynte?

TOMOS,—"Wyddoch chi ddim, Miss Hughes."

MISS HUGHES,—"Na wn i 'neiwr. Sut y gwn i, 'n te ?"

TOMOS',—"Wel, y troed arall sy' gynoch chi, tw bi shwar!"

(Enter RHYS, i eistedd yn ymyl TOMOS).

TOMOS,—"Wel, y machgen i, ddoist ti?"

BARBARA,—"'Steddwch, Rhys."

MISS HUGHES,—"Na wir, rhaid i ni fynd."

TOMOS,—"Dewch chi ddim nes y ca i dipyn o ymgom efo Rhys. Eistedd fan yna, Rhys."

RHYS,—"O'r gore, Tomos Bartley. Prysur iawn ydych o hyd, 'rwy'n gweld."

TOMOS,—Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd."

RHYS,—"Esgidie pwy yw y rhai yna

TOMOS,—"'Sgidie Wil Pont y Pandy,[1]—welest ti fath draed erioed, ma' nhw fel cwarter i dri, da'i byth o'r fan 'ma!" A rwyt ti wedi pendrafynu mynd i'r Bala? Wyst ti be, mi fydd yn chwith gynnon am danat ti, yn fydd, Barbara ?—(BARBARA yn nodio).—Bydd, tw bi shwar. Fum i 'rioed yn y Bala, a dydw i ddim yn 'nabod neb ono, ond y ddau ddyn sydd yn dwad yma ar y ffeirie i werthu 'sane, a dynion digon clen ydi'r dynion. Mi faswn i yn leicio yn anwedd gweld y Llyn y daru dyn hwnnw gered ar 'i draws pan oedd o wedi rhewi. Tro garw oedd hwnnw. Pan ddalltodd o be oedd o wedi neyd, mi fu farw ar y spot. Mi fydde nhad yn deyd am rwbath reit saff,— Fod o can sowndied a chloch y Bala." Just cymer notis o honi hi pan ei di ono. Wyst ti be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a finne 'run bluen pwyntydd a dwad i edrach am danat ti, a hidien ni, Barbara?"

RHYS,—"Mi leiciwn eich gweld chi yn arw iawn."

TOMOS,—"Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gweld ni. Oes yno lawer o honyn nhw, dwed, yn y Bala yn dysgu pregethu?"

RHYS,—"Nid dysgu pregethu mae nhw yno, Tomos Bartley."

TOMOS,—"O wel, wir, dwed di hynny, achos mi glywais i rai o honyn nhw a doeddwn i yn gweld dim byd ynyn nhw,—i nhast i. Well gen i William Hughes, Abercwmant, na'r gore o honyn nhw. Ond dydw i ddim llawer o judge, tw bi shwar. Wel, be yn y byd mawr mae nhw yn ddysgu yno?"

RHYS,—"Ieithoedd, Tomos Bartley."

TOMOS,—"Hyhy! Pw ieithoedd, dwed?"

RHYS—"Lladin a Groeg."

TOMOS,—"Hoho! mi gwela hi 'rwan, iddyn nhw fynd yn fisionaries, ynte? rhag ofn y bydd raid Ac er mwyn iddyn nhw fedryd prygethu i'r Blacks, ynte? Riol peth, yn wir. Wyt ti ddim am fynd at y Blacks, wyt ti?"

RHYS,—"Nag ydw."

TOMOS,—"'Roeddwn inne yn meddwl hynny. Ie, am yr ieithoedd 'roeddem ni yn son. Be daru ti galw nhw?"

RHYS,—"Lladin a Groeg."

TOMOS,—"Tw bi shwar,—Lladin a Groeg, iaith y Blacks, ynte?"

RHYS,—"Nage."

TOMOS,—"Iaith pwy, ynte?"

RHYS, "O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd."

TOMOS,—"Ieithoedd pobol wedi marw! Wel, be ar affeth hon y ddaear sy eisio dysgu ieithoedd pobol wedi marw? Gneyd sport o hono i 'rwyt ti, dwed?"

RHYS,—"Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi, maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt."

TOMOS,—"Wel, da i byth gam i geibio os clywais i ffasiwn beth. Wel, dywed i mi, prun ydi iaith y Blacks? Mae nhw yn dysgu honno?"

RHYS,—"Nag ydynt, yn y Coleg. Mae'r Missionaries yn mynd at y Blacks 'u hunain i ddysgu honno?"

TOMOS,—"Wel, ys clywes i a'm clustie ffasiwn beth. Gwneyd sport o hono' i wyt ti, Rhys, fel y bydde Bob dy frawd. Cymer di ofal. Beth arall mae nhw yn 'i ddysgu ono, dwed?"

RHYS,— "Mathematics."

TOMOS,—"Mathew Matic! Mi glywes son am Ned Matic, ond wn i ddim byd am Mathew, tw bi shwar. Be ydi hwnnw, dywed?

RHYS,—"Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly."

TOMOS,—"Dene rwbath digon handi, a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o brygethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn shopwrs. Be arall ma nhw yn 'i ddysgu ?

RHYS,—"Saesneg a Hanesiaeth."

TOMOS,—"Eitha peth. Mae Saesneg yn useful iawn y dyddie yma, a peth digon difyr ydi Hanesiaeth. James Pwlffordd ydi'r gore glywis i 'rioed am ddeyd stori. Pan fyddwn i yn arfer mynd i'r tafarne, mi fyddwn yn dotio ato fo, a 'does dim gwell gen i glywed mewn pregeth na dipyn o hanes. Pan fydd Barbara a finne wedi anghofio'r bregeth i gyd, mi fydd gennom ni grap go lew ar y stori fydd y pregethwr wedi deyd, yn bydd, Barbara?—(BARBARA yn nodio).—Tw bi shwar. Tydwi ddim yn gweld y stiwdents 'ma yn rw helynt am stori chwaith. Yr ydw i'n gweld William Hughes, Abercwmant, yn llawn top iddyn nhw. Wyst ti be, mi ddeydodd William stori y tro dwaetha 'roedd o yma, am eneth fach yn marw, anghofia i byth moni hi tra bo chwythiad yno i. Bydaswn i'n marw ar y clwt, faswn i ddim yn medryd peidio crio pan oedd o yn 'i deyd hi. Ond dywed i mi, ddyliwn fod y ffâr yn go lew ono?"

RHYS,—"Nid ydynt yn profeidio i neb. Mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun."

TOMOS,—"Wel, sut yn y byd mawr mae'r bechgyn yn cael profisiwns? Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yr wsnos at fyw?"

RHYS,—"Nag ydynt; mae nhw yn cael mynd yma ac acw i brygethu, ac yn cael ychydig am hynny, ac yn byw arno."

TOMOS,—"Wel, da i byth i Ffair Caerwys os nad y College ydi'r lle rhyfedda y clywis i son am dano. Wyst ti be? Mae o'n taro i meddwl i 'r munud yma fod pob un weles i yn dwad yma o'r College i brygethu a golwg eisio bwyd arno fo, a dydi o ryfedd yn y byd, erbyn i ti ddeyd fel mae nhw'n managio yno. 'Hwya bydd dyn byw, mwya wel, mwya glyw."

MISS HUGHES," Rhaid i ni fynd, yn wir."

TOMOS," Wel, na i mo'ch stopio chi bellach. Aros, dyma ti, gan dy fod di wedi pendrafynu mynd i'r College, os na fydd o'n ormod trafferth gynnot i'w gario, mi gei ddarn o'r norob 'ma a chroeso. Mi fydd gynnon ni ddigon wedyn."

RHYS, " Na, fydd arna i ddim angen, yn siwr, Tomos Bartley, diolch yn fawr i chwi."

TOMOS, "Wel, wel! Arnat ti mae'r bai. Mi wyddost fod iti gan' croeso ohono. Nos dawch."

(RHYS yn ffarwelio â TOMOS a MISS HUGHES a BARBARA).

[CURTAIN.]

Nodiadau[golygu]

  1. ("Gellir nodi unrhyw gymeriad lleol).