Neidio i'r cynnwys

Drama Rhys Lewis (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Drama Rhys Lewis

gan Daniel Owen


golygwyd gan John Morgan Edwards
I'w darllen act wrth act gweler Drama Rhys Lewis

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

[1]

DRAMA

RHYS LEWIS

Seiliedig ar brif waith Daniel Owen.

GAN

J. M. EDWARDS, M.A.,

PRIF ATHRO YSGOL SIR,

TRE FFYNNON.

GWRECSAM:

HUGHES A'l FAB, CYHOEDDWYR.

1909.

Rhagair.

++++++

GOLYGFEYDD O Rhys Lewis geir yn y llyfryn hwn, wedi eu cyfaddasu i'r llwyfan. Mae'r oll yn naturiol a syml, ac ol bys celfydd Daniel Owen arnynt oll. Darlunio cymeriad oedd cryfder ein prif nofelydd,—dangos nodweddion rhai o'r cymeriadau yw neges y dalennau hyn.

Prin mae'r enw Drama yn cyfleu beth yw,—ymgom gegin,— ysgwrs gartrefol heb ymgais at ddim byd mawr,—helyntion dyddiol y werin, heb un plot, ond dod a Wil Bryan yn ol i'r seiat, ac i awyrgylch mwy dyrchafol nag y bu. Eto swynwyd miloedd yn nhrefi Gogledd Cymru a Lloegr gan y Ddrama hon, a chafwyd elw mawr at adgyweirio eglwysi, talu am gapelau, prynnu llyfrau i lyfrgelloedd, harddu cof-golofn Daniel Owen, ac achosion teilwng ereill. Cadwyd y golygfeydd defosiynol o'r naill du, ac nid oes ynddi ddim i frifo teimlad sant nac i lygru moes yr ieuanc.

Methais ufuddhau i ugeiniau o wahoddiadau i berfformio Rhys Lewis, oherwydd prinder amser. Hyderaf y bydd ei chyhoeddi fel hyn yn symbyliad i'r Ddrama yng Nghymru. Mae agosrwydd a naturioldeb y portreadau, a'r arabedd diball sydd yn goleuo y cyfan, yn apelio yn gryf at gyfangorff y Cymry, a thrwy hynny yn palmantu y ffordd i'r ddrama i'n mysg yn well, i'm tyb i, na plots cywrain a golygfeydd dieithr a chynhyrfus. Hyderaf hefyd y bydd gan bob Llan a Thref gwmni yn actio Rhys Lewis er difyrrwch a budd i drigolion eu bro. Cofied yr Ysgolion Elfennol a'r Ysgolion Sirol hefyd roi ei le i Daniel Owen ar eu Dydd Gwyl. Actir darnau llenorion Lloegr a Ffrainc,—cofier am Gymru.

Dyledus wyf i "blant y Bala," a'm cyfaill Mr. Arthur Roberts, Treffynnon, am gyngor; ond y beiau a'r gwendidau i gyd sydd eiddo

J. M. EDWARDS.
Gorffennaf, 1909.

Cyfarwyddiadau

++++++

1—Cadwer y wyneb at y gynulleidfa wrth ddod ar, a phan yn gadael y llwyfan.
2—Byddwch gartrefol,—fel ar yr aelwyd, yn bwyllog ac heb frys.
3—Llefarer yn hyglyw,—nid â'ch cyfaill ar y llwyfan yn unig, ond â'r bachgen sydd yn y gornel bellaf yn yr ystafell. Troer y wyneb felly hanner yn hanner at bob un.
4—Siarader yn araf, pechod parod y dibrofiad yw siarad yn gyflym. Fel "o'r frest," ac nid o lyfr.
5—Gofaler na bo un cymeriad yn sefyll yng nghysgod y llall ar y llwyfan.
6—Tra y byddo dau gymeriad yn siarad, cymered y gweddill sylw, neu ymgomiant yn ddistaw â'u gilydd.
7—Na safed neb fel dyn pren, neu un wedi ei windio. Gwneler popeth yn true to nature, a pob symudiad yn naturiol.
8—Gofaled pawb am ei bethau ei hun, a rhodder hwy'n gyfleus gyda'u gilydd; a bydded pawb barod i gynorthwyo, fel na choller dim amser rhwng y golygfeydd.
9—Gellir trefnu cân rhwng rhai o'r golygfeydd.
10 Na ddyweder un gair amheus, ac na wneler y cysegredig yn watwar.
11—Pobl lanwaith oedd yr hen Gymry,—portreader hwy felly ar y llwyfan. Pan yn gwneyd te,—llian gwyn ar y bwrdd. Yr oedd Tomos Bartley, er yn ddoniol ac ysmala, yn fonheddwr perffaith.
12—Dillad wisgid tua hanner can mlynedd yn ol sydd eisieu,—pais a betgwn, shawl fach a ffedog stwff. Byddai Mari

Lewis yn pletio ei fledog yn ami wrth siarad. Ymddengys Bob yn ei ddillad coliar a'i wyneb du; ond yn ei wisg ei hun pan ddel o'r carchar. Datblyga Rhys Lewis yn raddol o hogyn direidus i wisg ac agwedd pregethwr. Fel crydd yr ymddengys Tomos Bartley yn y Twmpath; ond yn ei ddillad gore yn y Bala, a'i goler fawr, wrth gwrs.
13—Mae Wil Bryan mewn gwisg dda,—well na'i gyfoed,—ac yn ysmygu sigarets weithiau. Mewn siwt gyrrwr cab y mae ym Mirmingham. Gwisgoedd glan Cymreig sydd gan y merched.
14—Os bydd prinder cymeriadau, gall yr un person gynrychioli Mari Lewis, Gwraig y Ty Lodgin, a Sus; Bob a Williams y Student gan un, a James a'r Athraw gan un arall.
15—Gellir cael wigs a paints, &c , oddiwrth J. BURKINSHAW AND SONS, THEATRICAL COSTUMIERS, COLQUITT STREET, LIVERPOOL.

Pethau sydd eisieu i actio.

++++++

1—Cloc wyth-niwrnod. Pedair hen gadair, a phedair o rai cyffredin; canhwyllbren, canwyll, tecell, tebot, chwe cwpan de, torth, &c.; brws llawr, procor, hen focs, basin golchi, a llian.
2—Mainc grydd, morthwyl, lapston, &c., a nifer o hen esgidiau.
3—Dwy norob neu ham i'w hangio yn y Twmpath; bwrdd bach, neu hen ford gron.
4—Cwningen a hen wn i James; darn o facon a chiw iar hanner pluog ym mharsel Tomos Bartley i fynd i'r Bala.
5—Map, blackboard, cloch (i daro 11 o'r cloch, yng Ngolygfa II., Act 1.)

——————

Mae gan MR. JOHN LLOYD, COLENSO HOUSE, BAGILLT STREET, HOLYWELL, dair golygfa Gymreig ar ganfas i'w benthyg,—ystryd a dwy gegin. Mesurant 13 troedfedd wrth 12 troedfedd. Nid ydynt ar rollers, ond gellir eu hoelio ar y mur, a'u gollwng i lawr y naill dros y llall pan fo angen. Bydd yr actio'n llawer mwy byw gyda'r rhai hyn; saith a chwech am fenthyg un, deuddeg a chwech am ddwy, a phymtheg swllt am y tair. Blaendal a'r cludiad i'w dalu gan y benthyciwr.

↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕

DALIER SYLW.

GELLIR CAEL CANIATAD I BERFFORMIO Y DDRAMA

HON AM GYDNABYDDIAETH (fee) ISEL.

YMOFYNNER A'R CYHOEDDWYR YN UNIG.

——————



HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.



↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕↕


DRAMA

RHYS LEWIS.

————————————

Y PERSONAU A GYNRYCHIOLIR,—


  • RHYS LEWIS.
  • MARI LEWIS, mam Rhys.
  • BOB, brawd Rhys.
  • WIL BRYAN.
  • MARGED PITARS cymdoges.
  • SERGEANT WILLIAMS.
  • TOMOS BARTLEY, y crydd.
  • BARBARA, gwraig Tomos Bartley.
  • Miss HUGHES, chwaer Abel Hughes.
  • JAMES, brawd tad Rhys.
  • LLETYWRAIG RHYS A WILLIAMS.
  • WILLIAMS, Myfyriwr yn y Coleg.
  • ATHRAW A MYFYRWYR YNG NGHOLEG Y BALA.
  • SUS, yr hon y mae Wil Bryan yn ei phriodi.

——————

ACT I.

CARTREF MARI LEWIS.

BWRDD, TAIR CADAIR, CLOC, A RHAI DODREFN. GOLYGFA 1.—Lle mae MARI LEWIS yn achwyn am y streicio, ac yn cwyno fod BOB yn cymeryd rhan.—MARGED PITARS yn ymweld a MARI LEWIS.—BOB yn dychwelyd o helynt y Glowyr, ac yn ymddiddan a'i fam.—MARI LEWIS yn ofni'r canlyniadau.—SERGEANT WILLIAMS yn dod i'r ty, ac yn cyflwyno'r wys i BOB. —BOB yn garcharor.—RHYS yn dychrynnu, a'i fam yn wylo.

MARI LEWIS (yn siarad wrthi ei hun), Wn i ddim be ddaw o honom ni 'rwan. Dyma Bob wedi colli ei waith, a Rhys yn cael dim ond digon i'w gadw mewn 'sgidiau. Mae'r streics 'ma yn bethe creulon. Dyden nhw ddim yn perthyn i ni,—y Cymry. Pethe wedi dwad oddiwrth y Saeson yde nhw. Fu 'rioed son am streics yma cyn i Abram Jones gael ei droi i ffwrdd. Wn i ddim be oedd yn corddi Bob ni i fynd i'r row heddyw o gwbl. Mae Bob yn rhy ddiniwed o lawer. Mae y lleill yn 'i stwffio fo ymlaen, ond Bob sydd yn colli ei waith, nid y nhw; a dyma ninne yn gorfod diodde. Oni bai mod i'n gwybod b'le i droi, wn i ddim be wnawn i, na wn i yn wir."

(Enter Marged Pitars).

MARGED PITARS,—"Sut yr ydach chi, Mari Lewis?"

MARI LEWIS,—"Yr ydw i yn reit fflat, Marged Pitars, ydw'n wir. 'Steddwch i lawr."

MARGED PITARS,—"Na, rhaid i mi fynd, ond mod i jest yn troi i mewn i weld sut yr oeddech chi yn yr helynt yma. Mi na'th y dynion yn riol â Mr. Strangle. Dase nhw wedi hanner 'i ladd o, fase o niwed yn y byd—"

MARI LEWIS,—"Be ydi'ch meddwl chi, Marged Pitars?"

MARGED PITARS,—"Dim; ond fod yn hen bryd i rywun godi row, fod y cyflogau mor fychain, fel nad yw yn bosib cadw teulu; ond, yn wir, yr oeddwn wedi siarsio y gwr acw i beidio dweyd yr un gair, nac i wneyd ei hun yn amlwg mewn ffordd yn y byd."

MARI LEWIS,—"Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac ereill ymladd y frwydr, ac i Wmphre, eich gwr, a phawb arall sydd yn perthyn i chwi, fod fel y Dan hwnnw gynt, yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fynd drosodd. Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davies, Nerquis, yn deyd."

MARGED PITARS,—"Gobeithio na chollith Wmphra mo'i waith, beth bynnag. Rhaid i mi fynd. Nos da."

MARI LEWIS,—"Nos da, a diolch i chi am alw."

(Exit MARGED PITARS).
(Enter BOB).

BOB,—"Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt?"

MARI LEWIS,—"Do, machgen i; ond wyt ti yn meddwl dy fod wedi gwneyd dy ddyledswydd? Mi ddaru mi dy siarsio di lawer gwaith i adael i'r lleill godlo hefo'r helynt, onid o? Mi wn o'r gore fod genoch chi, fel gweithwyr, le i gwyno, ac fod yn gywilydd fod rhyw Sais yn dwad ar draws gwlad i gym'ryd lle dyn duwiol fel Abram Jones, na fu 'rioed helynt efo fo; ond 'dwyt ti ddim ond ifanc, pham na faset ti yn gadael i rywun fel Edward Morgan siarad a chodlo,—dyn sydd ganddo dy iddo fo'i hun, a buwch, a mochyn? Ond waeth tewi. Beth ddaw o honom ni ydi'r pwnc 'rwan?"

BOB,—"Mam! nid fel yna ddaru chi nysgu i. Gwna dy ddyledswydd, a gad rhwng y Brenin Mawr a'r canlyniadau,' oedd un o'r gwersi cyntaf ddysgasoch i mi. Nid yw hyn ond y peth oeddwn yn ei ddisgwyl. Mae yn rhaid i rywun ddiodde cyn y daw daioni i'r lliaws; ac os ydw i ac ychydig ereill yn cael ein gwneyd yn fwch dihangol i'r tri chant sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddion i ddwyn eu rhyddid oddi amgylch, a'u llesad, popeth yn dda. Nid ydwyf wedi dweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu a'i deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddioddef er mwyn y lliaws. Mae y'ch Llyfr chi,—y Beibl, yn son llawer am aberthu er mwyn ereill—

MARI LEWIS,—"Taw a dy lol; fedra i ddim diodde dy glywed di yn siarad. 'Does ene ddim son am streics coliars yn y Beibl; ac os wyt ti yn mynd i gymharu y row ene â dim sydd yn y Beibl, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan y mynnost."

BOB,—"Cymerweh bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son.

MARI LEWIS,—"Hwde di, paid di hel dy eirie mawr efo fi; dydi y gair cyfatebiaeth ddim yn y Beibl nac yn 'Fforddwr Mr. Charles."

BOB,—"Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen Butler' ar Gyfatebiaeth"

MARI LEWIS,—"Bwtler! Be wyt ti yn son am dy fwtler wrtha i? Rhyw bagan fel ene, nad ydi o byth yn mynd i le o addoliad, ond i'r Eglwys, ac na wyr o ddim ond am gario gwin i'w feistar."

BOB (yn chwerthin),—"Nid bwtler y Plas oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Bwtler,—dyn da a duwiol."

MARI LEWIS,—"Wel, sut bynnag, yr wyt ti wedi ei gwneyd hi heddyw. Welest ti mo John Powell? Be oedd o yn feddwl o'r helynt?"

BOB,—"'Roedd o yn ofni y cai rhai o honom ein cospi."

MARI LEWIS,—"Wel, mae arna i ofn y canlyniadau."

BOB,—"Beth bynnag fyddant, dydi ddim yn 'difar gen i mod i wedi gwneyd yr hyn nes i, a dase y dynion wedi cadw at fy nghyngor i, fuase'r ynfydwaith hwn ddim wedi ei wneyd."

(BOB yn ceisio darllen papur newydd; MARI LEWIS yn eistedd, a'i phen yn ei dwylaw).

MARI LEWIS,—Mi ges brofedigaeth fawr hefo dy dad, ond yr oedd yn dda gen i 'i weld o'n ffoi o'r ardal, er mai 'y ngwr i oedd o; ond wn i ddim be wnawn i daset ti yn gorfod ffoi rhag dwad i helynt."

BOB—"'Na i ddim, a 'na i mo'ch gadel chi chwaith, tra y caf aros."

(Enter SERGEANT WILLIAMS).

BOB (yn codi, gan roddi cadair i'r heddwas),—"Noson dda i chi, Sergeant; 'steddwch i lawr. Yr wyf yn meddwl fy mod yn deall eich neges.'

SERGEANT WILLIAMS,—"Wel, neges digon anymunol sydd gen i, Robert Lewis, yn siwr i chi; ond yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn iawn dydd Llun. Mrs. Lewis, peidiwch a dychrynnu,—(gan estyn y warrant i Bob, yr hwn a'i darllennodd),—dydi o ddim ond matter of form. Rhaid i ni wneyd ein dyledswydd, wyddoch; ac fel y dywedais, yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn reit dydd Llun."

(Enter RHYS).

RHYS,—" Mam!" (yn gweld y Sergeant, ac yn tewi mewn syndod).

SERGEANT WILLIAMS,—"Dowch. Robert Lewis, waeth i ni heb ymdroi, wna hynny les yn y byd."

BOB,—"Mam, mi wyddoch b'le i droi. Mae fy nghydwybod i yn dawel."

(MARI LEWIS yn eistedd yn sydyn ar gadair, ac yn rhoi ei phen ar y bwrdd, gan ddweyd yn floesg,—"DYDD Y BROFEDIGAETH!"),

[CURTAIN].

CARTREF MARI LEWIS, ETO.

Y CLOC AR 11 O'R GLOCH.

GOLYGFA 2.—Y teulu yn disgwyl Bob o'r jail.—MARI LEWIS yn cerdded o ddeutu a'r brus llawr yn ei llaw. Yn mawr hyderu fod pawb yn credu fod BOB wedi ei anfon yno ar gam. —MARI LEWIS a WIL BRYAN ar "Bregethu."—MARGED PITARS (dan wau hosan) yn canmol Mr. Broum y Person.—RHYS yn cau ei esgidiau.—WIL BRYAN, weithiau'n eistedd, weithiau'n codi, yn traethu ar "Natur Eglwys," ac yn galw ei dad yn gaffer," &c., a MARI LEWIS yn ei ddwrdio.—Y "Q.P." a'r "looking glass."—Amser tren BOB.—Siom ei fod heb ddod.—MARI LEWIS yn ddigalon. WIL BRYAN yn dadlu ei bod cystal a Job.—MARGED PITARS yn deisyfu na bae Mr. Brown yno i'w chysuro, a MARI LEWIS yn ei hateb.—WIL BRYAN yn chwilio am John Powell.—BOB heb ddod.—WIL yn mynd i aros efo RHYS LEWIS heno, ac adrodda wrtho fel 'roeddynt wedi colli sport.JAMES LEWIS yn galw heibio.—Ei anfon i ffwrdd.—BOB yn dychwelyd, a llawenydd mawr.


MARI LEWIS (ar draws ryw siarad yn y cwmni),—"Wyt ti'n siwr 'does dim d'eisio yn y shop heddyw? Be wyt ti'n ddeyd ddeydodd Abel Hughes wrthat ti neithiwr, Rhys?"

RHYS, "Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail."

MARI LEWIS,—"Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail."

RHYS,—"'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam."

MARI LEWIS,—"Yr ydw i yn synnu fod Mr. Brown, y Person, yn gallu pregethu am gyfiawnder a thrugaredd, ac ynta'i hun wedi bod ar y fainc yn cytuno efo gwr y Plas i weinyddu anghyfiawnder."

WIL BRYAN,—"Pregethu? Be ŵyr hwnnw am bregethu ? Ond mae o wrthi yn cabarddilio rhywbeth bob Sul."

MARGED PITARS,—"Wel, hwyrach na feder Mr. Brown ni wneyd fawr o'r pregethu 'ma, ond mae o'n berson da, anwedd."

MARI LEWIS,—"Mae hynny yr un peth yn union, Marged Pitars, a bydae chi'n deyd fod James Pwlffordd yn deiliwr da, ond na feder o ddim pwytho. Mi fydda i yn diolch llawer mai efo crefydd yr ydw i, ac nid yn Eglwys Loegr."

MARGED PITARS,—"Wel, gadewch iddo; mae Mr. Brown yn dda iawn wrtha i, yn neilltuol oddeutu'r Nadolig 'ma; a mi 'rydw i yn reit hapus yn yr Eglwys."

WIL BRYAN,—"Fel hyn yr ydw i yn 'i gweld hi, Mari Lewis, mae hi yn fwy cyfforddus yn yr Eglwys, ond yn fwy saff yn y capel. Un gwahaniaeth mawr rhwng yr Eglwys a'r capel. Mari Lewis, yw fod pobol yr Eglwys yn meddwl eu hunain yn dda, a phawb yn gwybod eu bod yn ddrwg; a phobol y capel yn meddwl eu hunain yn ddrwg, a phawb yn credu eu bod yn dda, wyddoch."

MARI LEWIS,—"Wel, William, rhaid i ti gael cellwair efopopeth. Mi wnei di lawer o dda neu ddrwg yn y bydyma. Gobeithio'r 'ranwyl y cei di dipyn o ras."

WIL BRYAN,—"Mae digon o hono i'w gael, on' does, Mari Lewis?—ond fydda i byth yn leicio cymyd fwy na fy share o ddim, wyddoch."

MARI LEWIS,—"Paid a siarad yn ysgafn, William. Fedri di byth gael gormod o ras."

WIL BRYAN,—"Felly bydd y gaffer acw yn deyd."

MARI LEWIS,—"Pwy ydi dy gaffer di, dywed ?"

WIL BRYAN.—"Ond yr hen law' acw,—y nhad,—wyddoch."

MARI LEWIS,—"Wil, yr ydw i yn dy siarsio i beidio galw dy dad yn gaffer' ac yn 'hen law.' Weles i 'rioed ddaioni o blant fydde'n galw eu tad a'u mam yn hwn acw,' ac yn hon acw,' neu y 'gaffer,' ' y gyfnor,' ac enwau cyffelyb. Paid di a gadael i mi dy glywed di yn galw dy dad ar yr enwau gwirion ene eto, cofia di."

WIL BRYAN,—"All right. Y tro nesaf mi galwaf o yn Hugh Bryan, Esq., General Grocer and Provision Dealer, Baker to His Royal Highness yr Hen Grafwr, and—

MARI LEWIS,—"Aros di, William; yr wyt ti yn mynd yn rhy bell. 'Dwyt ti ddim i siarad fel ene. Mae arna i ofn fod y diafol wedi cael tipyn o afael arnat ti."

WIL BRYAN,—"Be ddaru mi, Mari Lewis? Ddaru mi ddim lladd neb, ai do? "

MARI LEWIS,—"Naddo; ond mae eisio i ti ladd yr hen ddyn."

WIL BRYAN,—"Pwy ydach chi'n feddwl, Mari Lewis? Ai y gaffer acw? Na na i, neno'r anwyl, ddim lladd yr hen law. Be ddoi o hono i? Mi fyddwn wedi llwgu."

MARI LEWIS,—"Nage, William, nid dy dad yr ydw i'n feddwl, ond yr 'Hen Ddyn' sydd yn dy galon di."

WIL BRYAN,—"'Does yma'r un, mi gymra fy llw."

MARI LEWIS,—"Oes, William bach, ac mi wyddost o'r gore mai yr Hen Ddyn,'—pechod,—ydw i'n feddwl."

WIL BRYAN,—"O! yr ydw i'n y'ch dallt chi 'rwan. Pam na siaradwch yn blaen, Mari Lewis? Ond dydi pechod yn y'n c'lonne ni i gyd, medde'r hen——y nhad acw."

MARI LEWIS,—" Ydi, machgen i, ac mae o'n dwad allan yn dy ben di hefo'r Q.P.' gwirion yna. Yr ydw i'n synnu fod dy dad yn gadael i ti droi dy wallt oddiar dy dalcen fel ene, a synnwn i ddim nad wyt ti'n mynd i edrach arnat dy hunan yn y glass bob dydd i borthi dy falchder. Diolch na fu yr un looking glass 'rioed yn ein teulu ni nes i Bob ddod ag un yma; a mi fase'n dda gan y nghalon i bydase hwnnw 'rioed wedi dwad dros y rhiniog. Mi fydde mam yn deyd fod pobl, wrth edrach i'r glass, yn gweld y gwr drwg, ac mi greda i hynny yn hawdd. Wn i ddim be' ddaw o'r bobl ifinc yma sydd yn gwneyd cymaint o shapri o'u gwalltie a'u dillad,—(y cloc yn taro un—ar—ddeg; yn edrych at y cloc).—Mae hi yn un—ar—ddeg o'r golch, a rhaid i mi dendio, ne mi ddaw Bob adre' cyn y bydd genna i damad yn barod iddo fo. Mae yn rhaid iddo gael rhyw amheuthyn. Be' na i iddo fo, Rhys?"

RHYS,—"Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans."

MARI LEWIS,—"Ie, dyna hi; wneiff honno ddim pwyso arno fo. Mae nhw yn deyd os caiff rhwfun fydd newydd ddwad o'r jail fwyd rhy drwm, yr aiff o'n sâl. Yr ydw i'n meddwl na cheiff o ddim byd gwell na phaned o de a chacen. Os rhedi di i Siop—[2] i nol gwerth tair ceiniog o'r peilliad gore, dimeiwerth o gapten soda, a chwarter o gyrans, fydda i dro yn 'i gneyd hi."

(Exit RHYS, wedi ail ddweyd ei neges).

MARI LEWIS,—"Wyt ti'n meddwl, William, y bydd Bob yn edrach yn go dda?"

WIL BRYAN,—"Wn i ddim, ond mae ene un fantais wrth i goliar gael ei gymryd i'r jail."

MARI LEWIS,—"Be' ydi hwnnw, William?"

WIL BRYAN,—"Fedra nhw ddim rhoi y County crop iddo fo. achos mi ddyffeia i nhw i dorri 'i wallt o yn fyrrach nag ydi o."

(Re-enter RHYS).

MARI LEWIS,—" Well i chi'ch dau fynd i'r relwe 'rwan i gyfarfod Bob."

(Exit RHYS a WIL).

MARI LEWIS (yn paratoi bwyd),—"Marged, waeth i chi dynnu'ch pethe, ac aros yma i gael 'paned efo ni; mi fydd yn dda gan Bob eich gweld chi."

MARGED PITARS,—"Yr ydw i'n disgwyl fod dydd eich trafferthion chwithau wedi darfod pan ddaw Bob adref."

MARI LEWIS,—"Wedi i mi ddeall fod pawb yn credu fod Bob yn ddi—euog, yr wyf yn berffaith dawel."

MARGED PITARS,—"Mae'r tren wedi dwad bellach, a dylai y bechgyn fod wedi cyrraedd y ty."

MARI LEWIS,—"O, mae'n debyg fod Bob yn gorfod siarad gydag amryw ar ei ffordd o'r relwe, ond dyma nhw'n dwad—

(Re-enter WIL a RHYS).

WIL BRYAN (yn sefyll),"Nyth caseg, Mari Lewis! Dydi Bob ddim wedi dwad!"

MARI LEWIS,—"Mi wyddwn na ddoi o ddim. 'Roedd rhwbath yn deyd wrtha i. Mi wn fod rhwbeth wedi hapio iddo fo."

WIL BRYAN,—"Mae'r bechgyn yn deyd y daw o yn siwr efo'r tren nesa. Ty'd, Rhys, gad i ni fynd i'r stesion, mae hi jest yn amser."

(Exit WIL a RHYS).

MARI LEWIS,—"Wel, do's mo'r help; fel hyn mae pethe i fod, a rhaid i ni ymostwng."

MARGED PITARS,—"Dase Mr. Brown yma, mi fase fo yn gallu'ch cysuro chi, mae gyno fo ddigon i ddeyd ar adeg fel hyn."

MARI LEWIS,—"Marged Pitars, peidiwch a son am y'ch Mr. Brown wrtha i. Dydw i yn gwybod am yr un dyn feder roi briw a'i wella fo, feder daflu i lawr a chodi i fyny, cic a chusan ydw i'n galw peth fel ene. Fase Bob 'rioed wedi ei anfon i'r jail tase Mr. Brown wedi gwneyd ei ddyledswydd."

(Re-enter WIL a RHYS).

WIL BRYAN (wrth RHYS),—"Mae'r hen wraig yn sticio i fyny fel brick."

MARI LEWIS,—"Mi welaf mai newydd drwg sy gennoch chi eto, ond dydi o ddim ond y peth oeddwn i yn ei ddisgwyl. Mae rhwbeth wedi hapio iddo fo, ne mi fase adref cyn hyn."

WIL BRYAN,—"Peidiwch a rhoi'ch calon i lawr, Mari Lewis. Yr ydw' i yn credu y troiff Bob i fyny o rywle toc."

MARI LEWIS—"Do's gennat ti ddim sail i obeithio am hynny, William.—Y mae hi yr un fath arna i ag oedd hi ar job."

WIL BRYAN,—"Ond doedd y pregethwr yn deyd y Sul o'r blaen, Mari Lewis, fod hi wedi dwad yn all right ar Job yn y diwedd, er yr holl hymbygio fu arno fo, ond oedd o?"

MARI LEWIS,—"Oedd, William. A daswn inne cystal a Job, mi ddeuthai yn ol reit arna inne hefyd, wel di."

WIL BRYAN,—"Mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chi, Mari Lewis, achos yr ydach mor dduwiol a Job, mi gymra fy llw."

MARI LEWIS,—"Paid a rhyfygu a chablu, William."

WIL BRYAN,—"Yr ydw i yn deyd y gwir o 'nghalon; ac yn ol fel yr oedd y pregethwr yn deyd hanes Job, yr ydw i yn y'ch gweld chi'ch dau yn debyg iawn i'ch gilydd. Mi ddaru chi y'ch dau sticio at y'ch cylars yn first class, ac mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chithe."

MARI LEWIS,—"Yr ydw i yn begio arnat ti i dewi. Mi ddylet wybod nad ydw i ddim mewn tymer heno i wrando ar dy lol di."

WIL BRYAN,—"Lol! Nid lol ydyw at all. Mi fetia,—hynny ydi, mi gymra fy llw, y bydd hi yn all right arnoch chi yn y diwedd."

MARI LEWIS,—"William, oedd ene lawer o'r coliars yn y relwe?"

WIL BRYAN,—"Miloedd ar filoedd."

MARI LEWIS,—"Dene ti eto; 'does dim ond tri chant yn gweithio yn y Caeau Cochion."

WIL BRYAN,—"Wel, ie, mewn ffordd o siarad, wyddoch. Mari Lewis. Yr ydw i yn siwr fod yno just i gant."

MARI LEWIS,—"Ddaru un o honoch chi ddim digwydd siarad efo John Powell? Beth oedd o yn 'i feddwl am fod Bob heb ddwad?"

RHYS A WIL,—"'Doedd John Powell ddim yno!"

MARI LEWIS,—"Ddim yno! John Powell ddim yno!

WIL BRYAN,—"'Roedd o'n gweithio stem y dydd."

MARI LEWIS,—"Pwy oedd yn deyd hynny wrthat ti, William?"

WIL BRYAN,—"Neb, ond 'y mod i yn meddwl hynny."

MARI LEWIS,—"William, fyddet ti fawr o dro yn rhedeg can belled a thy John Powell, a deyd wrtho, os ydi o i mewn, y baswn i'n leicio 'i weld o."

WIL BRYAN,—"No sooner said than done."

MARI LEWIS,—"Mae hi yn dywyll iawn, William, ac mae o braidd yn ormod i mi ofyn i ti ddwad yn ol. Mi ddaw Rhys efo ti i gael gwybod rhywbeth gan John Powell, ac er mwyn i tithe gael mynd adre."

WIL BRYAN,—"Stand at ease; as you were! Os bydd y t'wllwch yn dew iawn, mi torra fo efo nghyllell."

(Exit).

MARI LEWIS,—"Mae ene rwbeth yn garedig iawn ac yn glen yn y bachgen ene, a fedra i yn y myw beidio'i hoffi o; ond mi hoffwn o yn fwy pydae o dipyn yn fwy difrifol ac yn siarad llai o Saesneg. Mi fydda i'n ofni llawer iddo fo dy neyd di, Rhys, yr un fath a fo'i hun; ac eto, dydw i ddim yn meddwl fod dichell yn 'i galon o."

(Re-enter WIL).

WIL BRYAN (wrth RHYS),—"Mi alwes i ddeyd wrth y gaffer acw mod i'n mynd i aros hefo ti heno. 'Rydan ni wedi colli sport iawn."

MARI LEWIS,—"Be' ddeydodd John Powell, William?

WIL BRYAN,—"Dydi o ddim gartre'." (Wrth RHYS), "Mae'r coliars wedi bod yn llosgi gwr gwellt o Mr. Brown a gwr y Plas, a rhai iawn oeddan nhw hefyd. Mae ene gryn dair batel wedi bod, a Ned—un—llygad wedi ei gymryd i'r Rowndws; ond mi 'mladdodd fel llew efo'r plisman—"

MARI LEWIS,—" William, mae'n amser i ti fynd adre, machgen i."

WIL BRYAN," Ddim yn mynd adre heno,—wedi deyd wrth y gaffer—

(MARGED PITARS A MARI LEWIS yn sgwrsio; WIL A RHYS yn cysgu.—Cnoc ar y drws).

JAMES (wrth y drws),—"Wel, Mari, sut yr ydach chi ers talwm?"

MARI LEWIS,—"James, yr ydw i wedi deyd wrtho chi laweroedd o weithiau nad oedd gen i byth eisie gweld y'ch gwyneb chi, ac nad ydach chi ddim i ddwad i'r ty yma."

JAMES,—"Onid bachgen Hugh Bryan ydi o?"

MARI LEWIS,—"Ie."

JAMES,—"'Roeddwn i'n meddwl hynny ar 'i drwyn o."

WIL BRYAN,—"Be' ydach chi'n weld ar y nhrwyn i, yr angau pheasant gennoch chi?"

(Yn codi a'r procar yn ei law. MARI LEWIS yn ei atal).

MARI LEWIS,—"William, taw y munud yma, gore i ti."

WIL BRYAN (wrth RHYS),—"Gai roi noled iddo fo?"

RHYS,—"Cymer ofal, Wil."

MARI LEWIS,—"Cerwch i ffwrdd, James, fel 'rydw i yn gofyn i chi,"

JAMES,—"Feder o ddal 'i dafod ar ol heno?"

MARI LEWIS,—"O, meder, ond gore po leiaf weliff o arnoch chi. Well i chi fynd, mae rhywun arall yn siwr o ddwad—

(Enter BOB)

BOB,— "Holo! Gamekeeper, beth ydach chi eisio yma". (BOB yn cau 'r drws ar ei ol, wedi troi'r "gamekeeper" yn ddibris allan).

BOB,—"Wel, mam, sut yr ydach chi?"

(MARI LEWIS yn ddrylliog ei theimladau; RHYS yn crio; WIL yn defnyddio y "poker" ar ei fraich fel bwa fidil, ac yn chwibiannu "When Johnny comes marching home," ac yn dawnsio yn llawn afiaeth yr un pryd).

[CURTAIN.]

ACT II.

Y TWMPATH,—CARTREF TOMOS A BARBARA BARTLEY.

PEDAIR CADAIR A BORD GRON. MAINC GRYDD A MAN DDODREFN.

GOLYGFA 1.—BARBARA yn y ty.—Tomos yn sefyll wrth ei fainc weithio.

TOMOS,—"Wyddost ti, Barbara, fod Rhys a Mari Lewis yn dod yma heno? Mae'n arw gen i o nghalon dros Mari Lewis, wn i ddim ar affaeth hon y ddaear sut mae gwraig mor dda yn cael cymaint o drwbwl. Claddu Bob yn gap ar y cyfan! Faint ydi hi o'r gloch, Barbara?"

BARBARA,—"Saith, Tomos."

TOMOS,—"Wel, mi ddon gyda hyn. Dyma nhw ar y gair. Wel, dowch i mewn."

(Enter MARI LEWIS a RHYS).

TOMOS,—"Wel, dyma chi o'r diwedd. Tynnwch y'ch pethe, Mari, a mi neiff Barbara baned i ni yn union deg, yn newch chi, Barbara?"

BARBARA (yn nodio),—"Gwnaf siwr, Tomos bach."

TOMOS,—"Mari, ydach chi'n meddwl fod Bob erbyn hyn wedi deyd wrth Seth fod Barbara a finne wedi dwad i'r Seiat? Hynny ydi, os daru o drawo arno fo, achos mae yno gymin o honyn nhw i fyny ene, onid oes?

(BARBARA yn paratoi te).

MARI LEWIS,—"Am wn i, hwyrach i fod o, Tomos."

TOMOS,—"Wel, 'does bosib na thrawan nhw ar 'u gilydd ryw dro. Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd, mae nhw'n deyd,—(Swn Moch), Mari, dyma'r moch gore fu gen i 'rioed am ddwad yn 'u blaene."

MARI LEWIS,—"Mae nhw yn edrach yn farus iawn, Tomos."

TOMOS,—"Rown i 'run ffig am fochyn os na fydde fo yn farus. Mi fyte rhein y cafn bydae nhw ddim yn cael 'u pryd yn 'i amser. Hwn-ene heb yr un gynffon ydi mistar y cafn. Mi fydda i'n wastad yn magu dau, achos mae nhw yn dwad yn 'u blaene yn well o lawer. Fydda i byth yn rhoi India Mel iddyn nhw, welwch chi, achos mae'r bacyn pan rowch chi o o flaen y tân, yn mynd yn llymed cyn bod yn ddigon. Tatws a blawd haidd ydi'r stwff gore i besgi mochyn, os ydach chi am facyn da; a berwi dipyn o ddanal poethion weithie iddyn nhw. 'Does dim byd gwell i fochyn pan fydd o wedi colli 'i stumog na berwi penogyn coch yn 'i fwyd o. Pa faeth sydd mewn soeg i fochyn? Dim yt ol! Wyddoch chi be, Mari, fytwn i byth facyn bydae raid i mi brynnu bacyn y 'Merica ene. Mae nhw'n deyd fod moch yn y Merica yn byta blacks fydd wedi hapno marw yn y coed, a mi greda i hynny yn hawdd."

BARBARA,—"Ewch a bwyd i'r ieir, Tomos."

(Ceiliog yn canu,—Dynwareder ef).

TOMOS,—"Hylo, cobyn wyt ti ene? Dacw chi geiliog, Mari; bydase'r bluen wen acw heb fod yn 'i gynffon o, mi fydde yn pure giam! Mi weles yr amser cyn i mi ddwad i'r seiat, y baswn i'n torri'i grib o. Tydw i ddim yn ffeindio fod yr ieir giam yma yn rhyw helynt o ddydwrs, ond just bod 'u wye nhw'n fwy rich. Ydi'r bwyd yn barod, Barbara?"

BARBARA,—" Ydi, dowch at y bwrdd."

Tomos (wedi eistedd wrth y bwrdd),—"Ho! pethe yn talu yn riol ydi fowls, Mari, os can nhw 'u ffidio yn dda. A welsoch chi 'rioed mor ffond yr ydach chi'n mynd o honyn nhw. Ma nhw yn edrach mor gysetlyd wrth droi 'u penne yn gam."

MARI LEWIS,—"Mae'ch ffowls chi yn edrach yn dda, beth bynnag."

BARBARA,—"Dowch, tipyn o'r ham a'r wye 'ma, Mari Lewis."

TOMOS,—"Ia, wir! Wn i ddim sut yr ydach chi yn teimlo, ond rydw i'n teimlo y medrwn i fyta penne pryfed."

MARI LEWIS,—"Mae'r ham yma yn dda iawn, Tomos."

TOMOS,—"Bwyd cry' anwedd ydi ham a wye, os cewch chi'r quality. Wn i ddim sut y mae pobol y trefydd yma yn mentro byta wye. Wyddoch chi be glywes i Ned 'y nghefnder yn deyd, welodd o a'i lygaid 'i hun un tro mewn ty reit spectol yn Llundain?"

MARI LEWIS,—"Na wni."

TOMOS,—"Wel, ar amser brecwast, mi fydde'r forwyn yn dwad a chryn ddwsin o wye wedi 'u berwi ar ddesgil, ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd, a denne lle bydde'r teulu yn 'u torri nhw un ar ol y llall, ac yn 'u hogle nhw; a'r forwyn yn 'u cario nhw yn 'u hole ffastied y medre hi; ac o'r diwedd hwyrach y caen nhw ddau neu dri allan o'r dwsin yn ffit i'w byta. A dene oedd yn od, 'doeddan nhw'n meddwl dim byd at y peth,—'roeddan nhw yn gneyd hynny bob dydd! Wel, wfft i'w e'lonne nhw, meddwn inne."

(Ymgom gyffredin).

MARI LEWIS,—"Bobol bach! mae hi yn amser y capel!"

TOMOS,—"Wel ydi, tawn i byth o'r fan yma. Rhaid i ni hastio; rhaid i ti adel y llestri, Barbara."

(TOMOS yn codi).

[CURTAIN.]

AR Y FFORDD.

GOLYGFA 2. WIL BRYAN yn adrodd wrth RHYS LEWIS ei hanes yn glanhau y cloc, ac yn rhoddi cynghorion iddo ar bregethu.—JAMES yn hysbysu RHYS fod ei dad wedi marw.

RHYS,—"Dacw Wil Bryan yn dwad. Welodd o mona i. Mi drof yn f'ol. Na, fydde hynny ddim yn anrhydeddus at Wil, er fy mod wedi penderfynu peidio cymdeithasu âg ef mwyach. Mi ddeudaf wrtho mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da. Mi fydd yn siwr o fy ngwawdio, yn enwedig os deyda i wrtho mod i am fynd yn bregethwr. Dylaswn fod wedi deyd yn onest wrtho er's misoedd,— paham yr wyf yn ei osgoi."

WIL BRYAN,—"Holo! yr hen fil blynyddoedd! sut sy ers cantoedd? 'Roeddwn i just a meddwl dy fod ti wedi mynd i'r nefoedd, ond y mod i yn credu na faset ti ddim yn mynd heb ddeyd goodbye wrth dy hen chum. Honour bright, 'rwan! Ydi'n ffaith dy fod di wedi cael diwygiad, ne ymweliad, ne be mae nhw yn 'i alw fo? Wyst ti be? 'Rydw inne yn ddigon parod i fynd i'r nefoedd, ne' at y sowidiwrs, waeth gen i p'run, achos 'rydw i wedi glân flino gartref acw. Mae acw andros o row wedi bod yr wsnos yma, a hynny am ddim byd just, a dydw i ddim am ddiodde chwaneg o humbug."

RHYS,—"Beth oedd yr helynt, Wil?"

WIL BRYAN,— "Wel, mi wyddost am yr hen gloc wyth niwrnod sy yn y gegin acw? 'Roedd tipyn o natur colli yno fo yn ddiweddar,—a fault, by the way, not entirely unknown amongst other orders of superior creatures. Yr oeddwn i yn credu o hyd y medrwn i ei giwrio fo bydaswn i yn cael amser, er na fues i 'rioed o'r blaen yn trio glanhau cloc,—achos mi wyddost nad ydw i ddim yn un dwl at rywbeth felly. Wel i ti, mi aeth yr hen bobol i ffair Wrexham,—with strict injunctions that Will, in the meantime, should diligently apply himself to weighing and wrapping sugar, which occupation the said Will considered unworthy of his admitted abilities; and the said Will, following his more congenial inclination, betook himself to clock—cleaning, thinking that thereby he did not waste valuable time by putting the timekeeper to rights. Ond yr oedd hi yn fwy o job nag oeddwn i wedi feddwl, wel di; achos wrth 'i dynnu o yn dipia, yr oeddwn i yn gorfod gneyd notes o ble yr oedd pob darn yn dwad, ac i bwy 'roedd o yn perthyn. Ar ol i mi 'i lanhau o i gyd, a rhoi tipyn o fenyn ar bob olwyn, screw a bar,—'doedd ene ddim oil yn y ty,—'roedd hi wedi mynd ymhell i'r p'nawn, er i mi fod heb fy nghinio rhag colli amser, ac yr oedd hi yn hen bryd dechre ei roi o wrth 'i gilydd cyn i'r gaffer ddwad adre o'r ffair. So far good. Ond pan es i ati i roi yr hen wyth niwrnod yn 'i gilydd, ac i gonsyltio fy notes,—welaist ti 'rioed shwn beth,—roeddwn i'run fath a Mr. Brown, y person, yn ffilio dallt fy notes fy hun! Ond mi ddysges hyn, y dyle dyn sy'n mynd i lanhau clocie, 'run fath ag i bregethu, fedryd gneyd y job heb notes. Welest di 'rod'shwn helynt ges i. Ond rhaid i ti gofio y mod i yn labouring under great disadvantages, achos cyllell ac efel bedoli oedd y nhŵls i. 'Roeddwn i yn chwys diferol rhag ofn y base yr hen Daith y Pererin yn dwad adre o'r ffair cyn i mi roi yr hen gloc wrth 'i gilydd. However i ti, mi weithies fel black, a mi ces o wrth 'i gilydd rywsut. Ond yr oedd gen 'Roeddwn i i un olwyn yn spâr, na wyddwn i yn y byd mawr lle 'roedd o'i fod, na be i neyd â fo, a mi rhois o yn y mhoced,—(yn dangos yr olwyn). Wel, iti, mi 'sodes yr hen wyth yn 'i le, a mi weindies o, a'r peth cynta naeth my nabs oedd taro i lawr hyd i'r gwaelod. Mi darodd filoedd ar filoedd, a mi 'roedd swn y gloch yn y mhen i wedi ngneyd i reit syn; ac 'roedd o'n gneyd ffasiwn row fel yr oeddwn i yn ofni i'r cymdogion feddwl fod merch y Plas yn mynd i'w phriodi! Ar ol iddo daro gymin a fedra fo, y peth nesa naeth my nabs oedd stopio yn stond. Wrth i mi ddal ati i bwtian y pendil yr oedd yr hen wyth yn mynd yn go lew, ond gynted y stopiwn i bwtian, mi stopie fynte fynd. A deyd y gwir ti, mi chwerthes nes oeddwn i yn rholio,—fedrwn i ddim peidio bydase rhwfun yn fy lladd i. So here endeth a true account of the clock—cleaning. But wait a bit. Toc i ti. fe ddaeth yr hen bererinion adre o'r ffair, a'r peth cynta naeth y mam oedd edrach be oedd y gloch. wedi trio gesio faint o'r gloch oedd hi, a rhoi'r bysedd yn o agos i'w lle, bygswn i. Ond fe spotiodd yr hen wraig fod yr hen gloc wedi sefyll, a medde hi,— "Be sy ar yr hen gloc yma, William?" Ydi o wedi stopio? medde finne. Ydi, debyg, er's dwyawr,' medde hithe, a mi roth bwt i'r pendil. Yr oeddwn just a marw eisio chwerthin. 'Be—sy—ar—yr—hen—gloc—yma?' medde'r hen wraig wedyn, a mi roth shegfa iddo fo, fel y gweles di rai yn trio deffro dyn meddw wedi cysgu ar ochr y ffordd. Er mwyn i mi gael esgus i chwerthin, ebe fi,—Yr ydw i'n mawr gredu, mam, fod cwlwm ar 'i berfedd o, run fath a hunter gwr y Plas, a bydd raid i ni ei saethu o neu 'i agor o.' Ond dyma'r forwyn i fewn, ac yn splitio'n syth mod i wedi bod drwy'r dydd yn glanhau yr hen wyth. Wel, weles di 'rod 'shwn row. Mi ath y mam yn yfflon, a'r gaffer yn gynddeiriog. Yr ydw i'n mawr gredu y base yr hen law yn leicio rhoi cweir i mi, ond mi wydde na fedra fo ddim. And Will went to his boots. Drannoeth mi ddaryn yru am Mr. Spruce, y watchmaker, i roi'r hen wyth niwrnod i fynd; ond mi wyddwn na fedre fo ddim, achos 'roedd un olwyn ym mhoced Wil, a mi gafodd Wil ei revenge. Give it up,' ebe'r hen fenspring. Ond pan gaiff y chap yma gefn yr hen bobol am chwe awr, mae o'n bound o neyd gwyrthiau ar yr hen wyth niwrnod. Wel, dyna fi wedi deyd fy helynt i ti. Ond honour bright, ydi'n ffaith fod ti wedi d'aileni?"

RHYS,—"Wil, wyt ti ddim yn meddwl fod yn bryd i ni droi dalen ? Fedra i ddim deyd wrthat ti yn groew mod i wedi fy ail-eni, ond y mae fy meddwl wedi mynd dan gyfnewidiad rhyfedd yn ddiweddar. 'Roeddwn i eisio cael deyd wrthat ti mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da, os ca i help i fod felly, a 'does dim ar y ddaear a ddymunwn yn fwy nag i tithau neyd yr un penderfyniad. Yr wyt bob amser wedi bod yn ffrynd mawr i mi, ond neiff hi mo'r tro i fynd ymlaen fel y buom ni,—mae hi yn siwr o ddiweddu yn ddrwg. Fyddi di ddim yn meddwl am hynny weithie, Wil?"

WIL BRYAN,—"Go on efo dy bregeth; 'ni a sylwn yn yr ail le,' dywed."

RHYS,—"Nid pregeth mo honi, Wil, ond ymgom gyfeillgar."

WIL BRYAN,—"Wel, os nad pregeth ydi hi, mi glywis 'i salach lawer gwaith. Ond i fod yn sad; 'roeddwn i wedi spotio er's tipyn dy fod wedi mynd i'r lein yna, a mi ddeudis hynny wrthat ti, onid o?

RHYS,—"Do siwr."

WIL BRYAN,—"Roeddat ti'n meddwl y baswn i'n gneyd sport am dy ben di. Far from it. Mae'n dda gan 'y nghalon i dy fod wedi cael tro. 'Rwyt ti am fod yn bregethwr, yn 'dwyt ti, (RHYS yn ysgwyd ei ben).—Waeth i ti heb ysgwyd dy ben, pregethwr fyddi di. Mi wyddwn pan oeddat ti'n kid mai dyna fyddet ti, a mi rof air o gyngor i ti. Wel, cofia fod yn true to nature. Ar ol i ti ddechreu pregethu, paid a newid dy wyneb a dy lais a dy got cyn pen y pythefnos. Os gnei di, mi fydda i'n bound o dy hymbygio di. Paid a thrio bod yn rhywun arall, ne fyddi di neb. Wyst ti be, mae ene ambell i bregethwr fel ventriloquist, pan fydd o yn y ty, mae o 'run fath a fo'i hun; ond pan aiff o i'r pulpud, mi dynget mai rhwfun arall ydi o, a mae y rhwfun arall yn salach na fo'i hun, achos tydi o ddim yn true to nature. Paid a chanu wrth ymresymu, 'run fath a phydaet ti ddim yn dy sens, achos dydi'r ffaith dy fod ti yn y pulpud ddim yn rhoi licence iti fod yn wirionach nag yn rhywle arall. Pan fyddi di yn bregethwr, a mi 'rwyt yn bound o fod,—(RHYS yn ysgwyd ei ben), waeth i ti heb ysgwyd dy ben,—paid a chymryd arnat fod ti yn fwy duwiol nag wyt ti, ne' mi fydd gan blant dy ofn di. Wyst ti be, 'roedd ene bregethwr yn lodgio yn ein ty ni y Cyfarfod Misol dweutha, a 'roedd gen i ofn o drwy nghalon. 'Roedd o'n reit iach, ac yn byta yn riol, ond 'roedd o'n ochneidio fel bydase'r ddannodd arno fo o hyd,—'roedd o 'run fath a bydase geno fo blât arch ar 'i frest o hyd, a 'roeddwn i fel bydaswn i mewn claddedigaeth tra bu o acw. Mi gymra fy llw y baswn i yn fwy hy ar yr Apostol Paul pe basa fo acw. 'Doedd o ddim yn true to nature, wyddost. Os byddi di eisio rhoi rhyw airs fel yna i ti dy hun, cadw nhw nes byddi yn y ty 'rwyt yn talu rhent am dano fo. Cofia fod yn honourable. Pan fyddi di yn lodgio yn rhywle, cofio roi chwech i'r forwyn, bydae gen ti 'run chwech arall, ne chredith hi 'run gair o dy bregeth di. Os byddi di yn smocio,—a mae y prygethwrs mawr i gyd yn smocio,—cofia smocio dy faco dy hun, rhag iddyn nhw rwmblan ar ol i ti fynd i ffwrdd. Wrth bregethu, paid a beatio gormod o gwmpas y bush,— ty'd at y point, taro'r hoelen yn 'i phen, a darfod hefo hi. Cofia fod yn true to nature yn y ty, ac yn y pulpud, ac os na fedri di neyd i bob one yn y capel wrando arnat ti, rho i fyny am bad job, a cher i werthu calico. Os byddi yn mynd i'r College, a mi fyddi, mi wn,—paid a bod 'run fath a nhw i gyd. Mae nhw'n deyd fod y students 'run fath a'u gilydd, fel lot o postage stamps. Treia fod yn exception to the rule. Paid a gadael i'r blaenoriaid dy gyhoeddi yn wr ieuanc o'r Bala. Pregetha nes byddan nhw yn dy gyhoeddi Rhys Lewis,' heb son o ba le 'rwyt ti'n dwad. Pan fyddi di yn y college, beth bynnag arall fyddi di'n ddysgu, stydia Nature, Literature, a Saesneg, achos mi daliff rheiny am 'u bwyd iti rw ddiwrnod. Os byddi di yn dwad yn dy flaen, ac yr wyt ti yn bound o ddwad,—paid a llyncu poker, ac anghofio dy hen chums. Paid a gwisgo spectols i dreio rhoi ar ddeall dy fod ti wedi stydio mor galed nes colli dy olwg, ac i gael esgus i beidio nabod dy hen chums, achos mi ŵyr pawb mai fudge ydi'r cwbl. Paid byth a thori dy gyhoeddiad er mwyn cael chwaneg o bres, neu mi nei fwy o infidels nag o Gristionogion. Er mwyn popeth, paid a bod yn bregethwr cybyddlyd, a bedyddio dy hun yn ddyn cynnil. Honour bright! gobeithio na chlywa i byth hynny am danat ti. Mi fuasa well gen i glywed dy fod wedi mynd ar dy spri, na chlywed dy fod yn gybydd. Weles i 'rioed gybydd yn altro, ond mi welis ugeinie yn sobri. Mae o'n stranger than fiction. i mi; bydaet ti'n mynd ar dy spri dim ond unwaith, mi dy stopien di i bregethu; ond bydae ti'n mynd y cybydd mwya yn y wlad, mi lowian di bregethu yr un fath. Old fellow, wyt ti ddim yn meddwl mod i'n rhoi cynghorion go lew i ti, a chysidro pwy ydw i? Does gan y Cyfarfod Misol mo'r courage i roi cynghorion fel 'rydw i wedi roi. Ond mi wela dy fod ar frys. Give us thy paw, and wire in, old boy."

(Exit WIL BRYAN). (Enter JAMES).

JAMES,—"Holo, Rhys! Sut yr wyt ti? Be? Nei di ddim yagwyd llaw efo mi?"

RHYS,—"F'ewythr, pe ysgydwn law â chwi, disgwyliwn iddi fraenu y foment honno. Yr wyf yn eich cashau â fy holl galon. Gadewch i mi basio."

JAMES,—"Be' sy arnat ti, fachgen? Be' wyt ti mor groes? Pam yr wyt ti yn fy nghashau i?"

RHYS,—"Pam, yn wir! Gwyddoch yn burion. Chi fu yr holl achos o'r holl drueni y bu fy mam ynddo. Chi ddysgodd fy nhad i boachio. Chi a'i dysgodd i segura. Pa sawl gwaith y rhoddodd fy mam y swllt ola i chi er mwyn cael gwared o honoch?"

JAMES,—"Na hidia son am dy dad; mae o wedi mynd i ffwrdd."

RHYS,—"I ble? I'r Merica?"

JAMES,—"Na, i le cynhesach o lawer."

RHYS,—"Siaradwch yn eglur. Lle mae o?"

JAMES,—"Sut y medra i ddeyd wrthat ti? Fum i 'rioed ar y grounds lle mae dy dad 'rwan; y cwbwl fedra i ddeyd ydi fod o wedi cicio'r bweed."

'RHYS,—"Ydach chi'n deyd y gwir am unwaith?"

JAMES,— "Fu 'rioed well gwir. Mi yfodd ormod o wisci, a mi gafodd stroc,—(RHYS yn ceisio pasio), Aros! thales di ddim am y newydd eto."

(RHYS yn taflu darn o arian iddo, ac yn ymadael).

JAMES,—"Dau swllt! Ho! Dase'i le fo hefo Abel gen i, nid dau swllt faswn i yn fedru roi i mherthynasau."

(Exit JAMES).

[CURTAIN.]

Y TWMPATH,—ETO.

GOLYGFA 3.—TOMOS BARTLEY ar y fainc grydd; hen esgidiau o'i ddeutu.—MISS HUGHES yn eistedd, a BARBARA yn glanhau.

MISS HUGHES,—"Mae Rhys yn hir iawn yn dwad."

TOMOS,—"O, mi ddaw o yn y munud, gellwch fod yn dawel. Mi gawsoch golled fawr wrth golli yr hen Sergia Majiar."

MISS HUGHES,—"Do, wir."

BARBARA,—"Wn i ddim be ddaw o honoch; wyddoch chi,Tomos ?

MISS HUGHES,—"Rhaid i mi ymddiried yn Rhagluniaeth."

TOMOS—"Weles i 'rioed ddioni o'r stori ene. Mae Rhagluniaeth yn gyfalu am bawb ofalith am dano'i hun. 'Roedd yma ddyn yn byw yn y gymdogaeth yma ystalwm, cyn i chi ddwad yma,—a 'roedd o dipyn o grefyddwr hefyd, y dyn mwya di—sut at fyw welis i 'rioed, a mi fydde fynte'n wastad yn son am i ni myddiried yn Rhagluniaeth. A wyddoch chi lle bu o farw ? Yn wyrcws Treffynnon, poor fellow."

TOMOS,—"Wel, dewch i mi fesur y'ch troed chi, Miss Hughes bach, i aros i Rhys ddod. (Yn mesur y troed). Wel, ma' gynoch chi droed del,—y dela weles i erioed,—ond un."

MISS HUGHES,—"Tybed, Tomos Bartley. Troed pwy oedd hwnnw ynte?

TOMOS,—"Wyddoch chi ddim, Miss Hughes."

MISS HUGHES,—"Na wn i 'neiwr. Sut y gwn i, 'n te ?"

TOMOS',—"Wel, y troed arall sy' gynoch chi, tw bi shwar!"

(Enter RHYS, i eistedd yn ymyl TOMOS).

TOMOS,—"Wel, y machgen i, ddoist ti?"

BARBARA,—"'Steddwch, Rhys."

MISS HUGHES,—"Na wir, rhaid i ni fynd."

TOMOS,—"Dewch chi ddim nes y ca i dipyn o ymgom efo Rhys. Eistedd fan yna, Rhys."

RHYS,—"O'r gore, Tomos Bartley. Prysur iawn ydych o hyd, 'rwy'n gweld."

TOMOS,—Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd."

RHYS,—"Esgidie pwy yw y rhai yna

TOMOS,—"'Sgidie Wil Pont y Pandy,[3]—welest ti fath draed erioed, ma' nhw fel cwarter i dri, da'i byth o'r fan 'ma!" A rwyt ti wedi pendrafynu mynd i'r Bala? Wyst ti be, mi fydd yn chwith gynnon am danat ti, yn fydd, Barbara ?—(BARBARA yn nodio).—Bydd, tw bi shwar. Fum i 'rioed yn y Bala, a dydw i ddim yn 'nabod neb ono, ond y ddau ddyn sydd yn dwad yma ar y ffeirie i werthu 'sane, a dynion digon clen ydi'r dynion. Mi faswn i yn leicio yn anwedd gweld y Llyn y daru dyn hwnnw gered ar 'i draws pan oedd o wedi rhewi. Tro garw oedd hwnnw. Pan ddalltodd o be oedd o wedi neyd, mi fu farw ar y spot. Mi fydde nhad yn deyd am rwbath reit saff,— Fod o can sowndied a chloch y Bala." Just cymer notis o honi hi pan ei di ono. Wyst ti be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a finne 'run bluen pwyntydd a dwad i edrach am danat ti, a hidien ni, Barbara?"

RHYS,—"Mi leiciwn eich gweld chi yn arw iawn."

TOMOS,—"Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gweld ni. Oes yno lawer o honyn nhw, dwed, yn y Bala yn dysgu pregethu?"

RHYS,—"Nid dysgu pregethu mae nhw yno, Tomos Bartley."

TOMOS,—"O wel, wir, dwed di hynny, achos mi glywais i rai o honyn nhw a doeddwn i yn gweld dim byd ynyn nhw,—i nhast i. Well gen i William Hughes, Abercwmant, na'r gore o honyn nhw. Ond dydw i ddim llawer o judge, tw bi shwar. Wel, be yn y byd mawr mae nhw yn ddysgu yno?"

RHYS,—"Ieithoedd, Tomos Bartley."

TOMOS,—"Hyhy! Pw ieithoedd, dwed?"

RHYS—"Lladin a Groeg."

TOMOS,—"Hoho! mi gwela hi 'rwan, iddyn nhw fynd yn fisionaries, ynte? rhag ofn y bydd raid Ac er mwyn iddyn nhw fedryd prygethu i'r Blacks, ynte? Riol peth, yn wir. Wyt ti ddim am fynd at y Blacks, wyt ti?"

RHYS,—"Nag ydw."

TOMOS,—"'Roeddwn inne yn meddwl hynny. Ie, am yr ieithoedd 'roeddem ni yn son. Be daru ti galw nhw?"

RHYS,—"Lladin a Groeg."

TOMOS,—"Tw bi shwar,—Lladin a Groeg, iaith y Blacks, ynte?"

RHYS,—"Nage."

TOMOS,—"Iaith pwy, ynte?"

RHYS, "O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd."

TOMOS,—"Ieithoedd pobol wedi marw! Wel, be ar affeth hon y ddaear sy eisio dysgu ieithoedd pobol wedi marw? Gneyd sport o hono i 'rwyt ti, dwed?"

RHYS,—"Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi, maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt."

TOMOS,—"Wel, da i byth gam i geibio os clywais i ffasiwn beth. Wel, dywed i mi, prun ydi iaith y Blacks? Mae nhw yn dysgu honno?"

RHYS,—"Nag ydynt, yn y Coleg. Mae'r Missionaries yn mynd at y Blacks 'u hunain i ddysgu honno?"

TOMOS,—"Wel, ys clywes i a'm clustie ffasiwn beth. Gwneyd sport o hono' i wyt ti, Rhys, fel y bydde Bob dy frawd. Cymer di ofal. Beth arall mae nhw yn 'i ddysgu ono, dwed?"

RHYS,— "Mathematics."

TOMOS,—"Mathew Matic! Mi glywes son am Ned Matic, ond wn i ddim byd am Mathew, tw bi shwar. Be ydi hwnnw, dywed?

RHYS,—"Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly."

TOMOS,—"Dene rwbath digon handi, a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o brygethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn shopwrs. Be arall ma nhw yn 'i ddysgu ?

RHYS,—"Saesneg a Hanesiaeth."

TOMOS,—"Eitha peth. Mae Saesneg yn useful iawn y dyddie yma, a peth digon difyr ydi Hanesiaeth. James Pwlffordd ydi'r gore glywis i 'rioed am ddeyd stori. Pan fyddwn i yn arfer mynd i'r tafarne, mi fyddwn yn dotio ato fo, a 'does dim gwell gen i glywed mewn pregeth na dipyn o hanes. Pan fydd Barbara a finne wedi anghofio'r bregeth i gyd, mi fydd gennom ni grap go lew ar y stori fydd y pregethwr wedi deyd, yn bydd, Barbara?—(BARBARA yn nodio).—Tw bi shwar. Tydwi ddim yn gweld y stiwdents 'ma yn rw helynt am stori chwaith. Yr ydw i'n gweld William Hughes, Abercwmant, yn llawn top iddyn nhw. Wyst ti be, mi ddeydodd William stori y tro dwaetha 'roedd o yma, am eneth fach yn marw, anghofia i byth moni hi tra bo chwythiad yno i. Bydaswn i'n marw ar y clwt, faswn i ddim yn medryd peidio crio pan oedd o yn 'i deyd hi. Ond dywed i mi, ddyliwn fod y ffâr yn go lew ono?"

RHYS,—"Nid ydynt yn profeidio i neb. Mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun."

TOMOS,—"Wel, sut yn y byd mawr mae'r bechgyn yn cael profisiwns? Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yr wsnos at fyw?"

RHYS,—"Nag ydynt; mae nhw yn cael mynd yma ac acw i brygethu, ac yn cael ychydig am hynny, ac yn byw arno."

TOMOS,—"Wel, da i byth i Ffair Caerwys os nad y College ydi'r lle rhyfedda y clywis i son am dano. Wyst ti be? Mae o'n taro i meddwl i 'r munud yma fod pob un weles i yn dwad yma o'r College i brygethu a golwg eisio bwyd arno fo, a dydi o ryfedd yn y byd, erbyn i ti ddeyd fel mae nhw'n managio yno. 'Hwya bydd dyn byw, mwya wel, mwya glyw."

MISS HUGHES," Rhaid i ni fynd, yn wir."

TOMOS," Wel, na i mo'ch stopio chi bellach. Aros, dyma ti, gan dy fod di wedi pendrafynu mynd i'r College, os na fydd o'n ormod trafferth gynnot i'w gario, mi gei ddarn o'r norob 'ma a chroeso. Mi fydd gynnon ni ddigon wedyn."

RHYS, " Na, fydd arna i ddim angen, yn siwr, Tomos Bartley, diolch yn fawr i chwi."

TOMOS, "Wel, wel! Arnat ti mae'r bai. Mi wyddost fod iti gan' croeso ohono. Nos dawch."

(RHYS yn ffarwelio â TOMOS a MISS HUGHES a BARBARA).

[CURTAIN.]

TY ABEL HUGHES.

GOLYGFA 4.—Lle mae RHYS mewn penbleth beth i'w wneyd gyda'r Pregethu, ac yn penderfynu y mater.—MISS HUGHES yn boddloni i'w gyngor i osod y busnes.—Dyfodiad WIL BRYAN.—Yn dychrynnu MISS HUGHES.—Hanes y Seiat gan WIL BRYAN.—MISS HUGHES yn cysgu.—WIL yn troi y cloc, ac yn deffro MISS HUGHES er cael ymwared a hi—WIL yn adrodd wrth RHYS hanes yr helynt yn ei gartref.—Am ei gloewi hi.Y ffling.—Y farwel.

RHYS (yn siarad ag ef ei hun yn y Parlwr),— "Wel, mae yr amgylchiad oeddwn wedi ei hir ddisgwyl wedi pasio. Yr wyf yn awr wedi fy ngalw gan eglwys Bethel i bregethu, ond beth wnaf ?—dyna y cwestiwn. 'Dydw i ddim ond bachgen tlawd, a rhaid cael arian i fynd i'r Coleg. Hwyrach y dylwn i aros adref i gadw y busnes ymlaen efo Miss Hughes. Mae hi wedi cynnyg cyflog da i mi; ond 'rwyf yn meddwl mai mynd i'r Coleg ddylwn er hynny, neu roi fling i'r pregethu yma am byth. Dywedodd fy hen feistr, Abel Hughes, wrthyf lawer gwaith na ddylai yr un dyn ieuanc feddwl am bregethu, heb ar yr un pryd benderfynu treulio rhai blynyddoedd yn y Coleg. Dywedodd Abel wrthyf na fuasai raid i mi fod eisiau dim tra yn y Coleg, ac y isgwyliai ef i mi wneyd Shop y Gornel yn gartref. Ond waeth tewi am hynny. Fuasai wiw i mi son wrth neb am hynny, choelie nhw mona i. Beth wna i? Wn i ddim. Yr ydw i yn synnu ata fy hun mor ddi—adnoddau ydwyf. Hwyrach fy mod wedi arfer ymddiried mwy yn Abel Hughes nag mewn Rhagluniaeth. Ydi o ddim ond rhyfyg arnaf fynd i'r Coleg heb ddim o fy nghwmpas ond dillad ac ychydig lyfrau. Be ydw i'n siarad? Y cwestiwn ydyw, "Beth a wnaf am arian? 'Does gen i fawr; dyma nhw,—(yn tynnu allan ei bwrs, ac yn cyfrif ei arian,—un, dwy, &c.), chwe phunt a deg swllt a chwe cheiniog! Erbyn byddaf wedi talu rhyw ychydig bethau, a phrynnu rhai ereill, fydd gen i ddim ond digon i dalu fy nhren i'r Bala,"—(yn dal ei arian yn ei law).

(Enter Miss HUGHES).

MISS HUGHES,—"Yr ydw i'n mynd i gadw 'rwan, Rhys."

RHYS,—"Arhoswch funud. Mae gen i eisio siarad gair efo chwi. Heb ofyn eich caniatad, yr wyf wedi gwneyd ymchwiliad lled fanwl i amgylchiadau eich diweddar frawd, ac yr wyf yn cael fod digon ar ol i chi fyw yn gysurus arno, ac i chi gael byw i fynd yn hen. Fy nghyngor i ydyw,—gellwch ei wrthod os dewiswch,—gwerthu yr ystoc a'r busnes. Yr wyf yn meddwl y gwn am gyfaill i mi y byddai yn dda ganddo gymeryd popeth oddiar eich llaw. Mae allan o'r cwestiwn i mi aros yma i edrych ar ol y busnes. wyf yn benderfynol o fynd i'r Coleg. Ac yr wyf yn sicr, pe gallech ymgynghori â fy hen feistr, y dywedai ef fy mod yn gwneyd yn fy lle."

MISS HUGHES,—" Yr ydw i wedi siarad yn gas iawn lawer gwaith wrthat ti, Rhys. Mi wn y gwnei di fadde i mi."

RHYS,—"Gwnaf; 'ran hynny, ddigies i 'rioed wrthoch chi."

MISS HUGHES,—"'Roeddwn i wastad yn dy leicio di, mi wyddost o'r gore. Pan ddost ti yma gyntaf, roeddet ti yn wicked iawn, ac Abel mor strict, a mi fyddwn yn wastad yn cymeryd dy bart di, a mi wn fod gennat ti fwy o sense na fi. Y ti ŵyr ore, a mi wnaf fel wyt ti yn deyd."

RHYS,—Yr wyf yn sicr mai dyna y peth gore i chi, a mae yn dda gen i weld eich bod yn cydweld â mi."

MISS HUGHES,—" Bydawn i yn cael rhwfun yn dy le di, fy robio i wnai o, hwyrach, ynte?"

RHYS,—"Wn i ddim yn wir."

MISS HUGHES,—" Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti?"

RHYS,— "Dim. Yr oeddwn ers mis wedi codi fy nghyflog, hyd i ddydd Sadwrn diweddaf."

MISS HUGHES,—"Dyma ti, mi wn y cei yn y College bopeth fyddi di eisio; ond hwyrach na chei di fawr o boced 'myni.' Dyma i ti bum punt, nei di gysept o honyn nhw. Nos da, Rhys."

(Enter WIL BRYAN, gan fynd ar draws Miss HUGHES, nes syrthio y ganwyll).

WIL BRYAN,—" Ddaru chi ddim dychryn, Miss Hughes, gobeithio? Very sorry, begio'ch pardwn."

MISS HUGHES,—"Mi ddarum ddychryn tipyn, William."

WIL BRYAN,—"Be' ddyliech chi o Rhys am fynd i'r Coleg?"

MISS HUGHES,—"Ie, ynte, William?"—(yna mynd i ddarllen a syrthio i gysgu).

WIL BRYAN,—"Wel, aros di, welis i monot ar ol y seiat y ces di dy alw i bregethu, ond dyma ni, just y peth, 'roeddwn i eisio cael ymgom efo ti."

RHYS,—"Mi wyddwn, Wil, y cawn i'r hanes i gyd gennyt. Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyrru i allan?

WIL BRYAN,—"Bydawn i yn rhoi verbatim report i ti, wnai o les yn y byd i ti. Yr unig beth ddaru diclo tipyn ar 'y ffansi i, oedd yr Hen Grafwr yn insistio am i ti bregethu o flaen y seiat iddyn nhw weld ffasiwn stwff sydd ynnot ti, a'r hen Water Wyres yn'i ateb o y basa'r cynllun yn un iawn bydaset ti newydd ddwad o'r Merica, a neb yn gwybod am danat ti. Dydw i ddim yn gwybod am ddim arall gwerth ei adrodd wrthot ti, heblaw fod yr hen thorough bred, Tomos Bartley, pan oeddan ni'n codi llaw o d'ochor di, wedi codi ei ddwy law,—'run fath a phictiwr Whitfield, a hynny, 'roeddwn i yn meddwl, fel apology am the unavoidable absence of Barbara Bartley, owing to a severe attack of rheumatism. 'Rydw i wedi dwad yma i gael ymgom difrifol hefo ti, ond rhaid cael Miss o'r ffordd. Sut? Mi wn i," (Troi y cloc, wedi boddloni ei hun fod Miss Hughes yn cysgu, o 11 p.m. 1 a.m., yna tery ei law ar y bwrdd).

MISS HUGHES (yn edrych ar y cloc),—"Dear me! fel mae yr amser yn mynd wrth ddarllen. 'Rydw i'n mynd. Nos da. Peidiwch aros i fyny yn hir."

WIL BRYAN,—"Love story sydd gennych yn siwr, Miss Hughes. Well i chwi aros peth eto?"

MISS HUGHES,—" Na, rhaid i mi fynd" (gan oleu y ganwyll).

WIL BRYAN (yn ei chwythu allan)," Mae 'ma ryw draft garw, Miss Hughes."

MISS HUGHES,—" Peidiwch ag aros ar eich traed yn hir, fechgyn."

WIL BRYAN,—"Nawn ni ddim. Good night, Miss Hughes, happy dreams."

(Exit Miss HUGHES).

WIL BRYAN,—"Bravo! Wel, Rhys, 'rwyt ti wedi cyrraedd y point yr ydw i wedi bod yn edrach am dano ers talwm. Yr wyt ti 'rwan wedi dewis dy brofession; a choelia fi, mae yn dda gen i feddwl mai pregethwr wyt ti am fod. Mae nghydwybod i heno dipyn yn fwy tawel. Mi wn o'r gore mai fi ddaru dy daflu di oddiar y metals, a fum i byth yn hapus nes dy weld ar y metals yn d'ol. Yr ydan ni wedi trafaelio llawer efo'n gilydd, ond yr ydan ni wedi dwad i'r junction heno. Y fact o'r matter ydi, rhaid i ni ffarwelio, fel y mae y gân yn deyd, â'r Dear happy hours, that can return no more. Yr ydw i am 'i gloewi hi, a hwyrach na wela i monot ti byth eto, a mae ene lwmp yn y ngwddw i wrth i mi ddeyd hynny, mi gymra fy llw. Glywes di am danom ni acw?

RHYS.—"Clywed be, Wil? Dydw i ddim yn dy ddallt di."

WIL BRYAN,—"Wel, mae hi yn 'U P' acw, a mi fydd pawb yn gwybod hynny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi. Be ydi'r prospect? Liquidation by arrangement a starvation! Ac am hynny yr ydw i am 'i gloewi hi. I ble? Wn i ddim. Be fedra i neyd? There's the rub. Fy nyleit i, fel y gwyddost, oedd dreivio ceffyl, a doedd o ddim odds gen i prun ai dreivio llwyth o fara ai dreivio llwyth o ferched ifinc nawn i; ond wythnos i heddyw, fydd gan Hugh Bryan, Provision Dealer, yr un ceffyl i'w ddreivio! Wyddost ti be?—Fum i 'rioed o'r blaen yn really down in the mouth."

RHYS,—"Wil, yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt! Sut y daeth pethau i hyn?"

WIL BRYAN,—"Rhy faith i fynd drostyn nhw, was. Y nhad yn rhy grasping,—mi drodd i speculatio. Fifty pounds a month, ddyn bach! Sut yr oedd yn bosib iddo ddal? Hwyrach y bydd pobol yn y ngweld i'n selfish wrth skidadlo, ond fedra i ddim dal y disgrace. A dyna Sus,—poor girl—fedrwn i ddim edrach yn 'i gwyneb hi. Mae'n lwc nad oes ene ddim byd definite rhyngom ni. Mae'n rhaid i mi fynd,—mae rhywbeth yn fy ngyrru."

RHYS,—"'Rwyt ti wedi ngneyd i'n brudd, Wil. Wnei di dderbyn un cyngor?

WIL BRYAN,"Beth ydi hynny, old fellow?'

RHYS,—"Treia newid dy ffordd o fyw."

WIL BRYAN,—"Fedra i ddim, Rhys. Yr oeddwn i wedi meddwl troi dalen newydd ar ol i mi gael fy fling, ond mi gymres ormod o fling. 'Rydw i'n ffaelio dwad yn f'ol. 'Rydw i past feeling, mae gen i ofn, 'does dim byd yn effeithio arna i. Yr wyf yn teimlo bron 'run fath a Wolsey,—' Had I but served my God,'—mi wyddost am y geirie."

RHYS,—"Wil bach—"

WIL BRYAN,—"Waeth iti heb siarad ! Fedri di ddeyd dim newydd wrtha i. Nid wyf ond kid o ran oed, ond yr wyf yn teimlo fy hun yn hen mewn pechod. Be' nes i ?—(yn codi), Laddes i ryw un?—Dim danger! Eis i ar fy spri ryw dro?—Dim perygl! Wnes i gam â rhywun? Nid wyf yn gwybod. Rhys, raid i ti wneyd yr un o'r pethe mawr yna i gael dy adael ar ol. Be' nes i?—Dim ond lot o bethe bach, Rhys, canu comic songs yn lle emynau Williams ac Ann Griffiths; gwneyd sport o dy hen fam dduwiol ac Abel Hughes; mynd at y billiard table gan' amlach nag i'r seiat a'r cyfarfod gweddi. Yr wyf wedi cymeryd fy fling, ond cymerais ormod o fling, fel yr wyf yn methu dod yn ol. Yr ydw i yn teimlo yn ddigalon, ac etc i ddim yn edifeiriol. Yr i yn teimlo remorse, ond yr un blewyn o edifeirwch! Os ydw i'n dallt be' ydi edifeirwch. Ond waeth tewi! Nos dawch. A ffarwel,—

'It may be for years,
And it may be for ever!"


[CURTAIN.]

ACT III.

YMWELIAD TOMOS BARTLEY A'R BALA.

GOLYGFA 1.—Llety Rhys—TOMOS wedi cyd—deithio â'r students o Gorwen i'r Bala.—taro ar MR. WILLIAMS, cyd—letywr RHYS.—RHYS yn dychwelyd o'i gyhoeddiad, ac yn synnu wrth gyfarfod Tomos.—Trawsfynydd.—Hanes Morgan Llwyd—TOMOS yn dweyd ei farn am y Bala, ac yn mynd am dro.—WILLIAMS eisieu ei smyglo i'r class i'r Coleg.—RHYS LEWIS yn derbyn dau lythyr pwysig.

(Enter WILLIAMS a TOMOS, a'i goler a'i umbrella mawr, a'i barseli).

WILLIAMS,—" Wel, dyma ni o'r diwedd, Mr. Bartley."

TOMOS,—"Tw bi shwar! Ond lle mae Rhys?"


WILLIAMS,—"O, mi ddaw yn y munud. 'Steddwch i lawr."

(TOMOS yn dal y parseli). (Enter y LETYWRAIG).

WILLIAMS,—"Dyma Mrs. Jones, gwraig y ty lodging."

TOMOS,—"Sut yr ydach chi, &c.?"

WILLIAMS,—"Gwnewch fwyd i Mr. Bartley—"

TOMOS,—"O na, yn siwr; mi fytes i'r bara, a'r golwyth bacyn oedd Barbara wedi roi yn y mhoced i cyn cychwyn. Mi ges champion o bryd. Stwff wedi 'i besgi ar datws a blawd haidd, welwch chi."

(Y LETYWRAIG yn ceisio cymeryd y parseli, TOMOS yn ei hatal). (Exit LLETYWRAIG.)

TOMOS,—"A dene wraig y ty? Un glen anwedd ydi hi'n edrach. Mi glywes i James Pwlffordd yn deyd englyn i'r Bala o waith Robin Ddu,—

'Y Bala aeth, a'r Bala aiff,
A Llanfor eiff yn llyn.'

ne rywbeth tebyg i hynne,—hwyrach y'ch bod wedi glywad o, Mr. Williams?

WILLIAMS,—"Do, neno dyn,—(yn edrych drwy'r ffenestr),—Dyma Rhys yn dwad."

(Enter RHYS).

TOMOS,—"Wel, fachgen? Sut yr wyt ti ers cantoedd a miloedd?

RHYS,—"Reit iach, Tomos. Pwy yn y byd mawr fase yn disgwyl y'ch gweld chi yn y Bala?

TOMOS,—"Tw bi shwar! Ond chwech o'r gloch bore heddyw, wel di, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn, mi gymes ffit yn y mhen y down i edrach am danat ti. Ond ddylies i 'rioed fod y Bala mor bell. Wyst ti be', mae ene gryn step oddacw yma; a roeddwn i'n meddwl fod ene dren ar hyd y ffordd; ond erbyn dallt, Corwen ydi'r stesion ola. Ond welest ti 'rioed mor lwcus fum i. Yng Nghorwen, mi ddaru Mr. Williams fy 'nabod i, ond mae'n myddangos fod o wedi ngweld i yn y stesion acw, pan oeddat ti'n mynd i ffwrdd. A mi ges ride efo lot o stiwdents, a mi gawsom mygom reit difyr, ond do, Mr. Williams?"

WILLIAMS,—"Campus."

TOMOS,—"Tw bi shwar! Bechgyn clen ryfeddol yden nhw; ond 'rydech chi'n debyg i'ch gilydd, yn od felly. Lle buost ti cy'd, dwad? Lle 'roeddat ti wrthi ddoe?"

RHYS,—"Trawsfynydd."

TOMOS,—"Trawsfynydd? Wel, aros di, nid un oddiyno oedd Morgan Llwyd?"

RHYS.—Ië.

TOMOS,—TWw bi shwar! 'Roeddwn inne'n meddwl. Un garw ydi Morgan Llwyd. Mi fydda i'n wastad yn deyd, bydawn i'n hapno mynd i ryw drwbwl, mai Morgan Llwyd gymerwn. Glywsoch chi am y tro hwnnw yn Rhuthyn, Mr. Williams?"

WILLIAMS,—"Naddo wir, Mr. Bartley."

TOMOS,—"Naddo? Wel, mi ddeyda fo i chi,—mae o cyn wired a'r pader. Wel i chi, 'roedd ene ddyn, adeg y Seisus oedd hi, yn cael 'i dreial am ddwyn bacyn,—bacyn, dalltwch, a 'roedd pawb yn ofni y cawse fo 'i dransportio. 'Roedd y siopwr ag yr oedd y dyn wedi dwyn y bacyn oddi arno, bacyn, cofiwch, wedi pluo Macintaiar i brosiciwtio; a'r dyn, druan, wedi pluo Morgan Llwyd i'myddiffyn o. Wel i chi, 'roedd Macintaiar yn dal ac yn gollwng yn ryfeddol, a 'roedd achos y dyn yn edrach yn ddu anwedd. Ond yn y man, mi ddoth tyrn Morgan Llwyd, a dene fo ati! Mi alwodd ymlaen gigydd, a mi ofynnodd iddo,—' Be' oedd o'n feddwl wrth facyn? 'be'r cigydd, Bacyn ydi 'nhorob,—neu mochyn wedi'i halltu a sychu.' 'Tw bi shwar,' ebe Morgan Llwyd; a mi alwodd y siopwr ymlaen, a mi 'fynnodd iddo fo, 'Oedd y cig yr ydach chi'n deyd fod y dyn yma wedi ddwyn, a oedd o wedi halltu a sychu?' Nag oedd,' 'be'r siopwr. Ffals deitment,' 'be Morgan Llwyd; a mi 'nillodd y case yn syth! Un garw ydi Morgan Llwyd. Dywed i mi, oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Trawsfynydd 'rwan?

RHYS,—"Oes y mae, Tomos."

TOMOS,—" Bydase gen i amser, mi faswn yn mynd yno 'u gweld nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! Wyddoch chi be', fechgyn, mae hi'n glos ryfeddol yma; agor y ffenest yna, Rhys. Dydi o ryfedd yn y byd fod chi'ch dau yn edrach mor llwyd,—'does yma lwchyn o wynt. Waeth i chi fyw mewn bambocs nag mewn room fechan fel hon, a'r drws wedi'i gau, a dim ar affeth hon y ddaear yn'i, 'blaw bwrdd a chadeirie a llyfre,—'rydach chi'n bound o golli'ch iechyd! Bydawn i mewn lle fel hyn am ddau ddiwrnod, mi fyddwn farw ar y spot. Wel, Rhys, sut mae hi'n dwad ymlaen? Wyt ti'n leicio dy le ? Wyt ti'n cael digon o brofisiwns yma, dywed ?"

RHYS,—"Mae hi yn dwad ymlaen yn eitha da hyd yn hyn, Tomos. Sut mae Barbara, a sut na fase hi efo chi?"

TOMOS,—"Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siwr i ti. Mae hi'n cael ei thrwblo yn anwedd gan y riwmatis, a phoen yn 'i lode, a mi ges scyffyl ryfeddol i gael dwad yma heddyw. Mae hi yn cofio atat ti yn ods. Wyst ti be, fum i ddim oddicartre o'r blaen er's pum mlynedd ar hugain."

RHYS,—"Beth ydych chi yn 'i feddwl o'r Bala, Tomos?"

TOMOS,—"Tydw i wedi gweld fawr ohoni eto, ond yn ol hynny weles hi, mae hi'n edrach yn debyg iawn, yn ol'y meddwl i—i dre wedi'i bildio ar ganol cae. Sut ar affeth hon y ddaear na thorren nhw'r coed ene? Ydi'r brain ddim yn drwblus weithie, dwed? Weles i 'rioed o'r blaen res o goed mawr fel coed y Plas ar ganol stryt. Ond 'ddyliwn nad oes gynnoch chi 'run Local Board yma?"

WILLIAMS,—" Mae pobol y Bala yn meddwl llawer iawn o'r coed, Mr. Bartley."

TOMOS,—"Erbyn meddwl, wir, Mr. Williams, synnwn i ddim nad ydyn nhw yn ddigon handi ar ddiwrnod ffair i rwymo catel. Ond mi ddaru nhw yn nharo i yn od pan weles i nhw. Ond dyma ti, Rhys, wyt ti am 'y nghymyd i dipyn o gwmpas i weld y dre? 'Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes a i 'nol. Oes gynnat ti" amser

RHYS,—"Oes debyg. Mi ddanghosaf gymaint ag allaf. Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi cael bwyd."

TOMOS,—"Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un—dyn."

RHYS,—"Well i mi 'molchi."

TOMOS,—"'Molchi! I be wyt ti isio molchi? Ond wyt ti fel pin mewn papur! 'Does yna yr un specyn armat ti. Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed?"

RHYS,— "Fydda i 'run dau funud."

(Ymneillduo am funud).

TOMOS,—"Aros di, Rhys, weles i monat ti yn cymeryd dim byd at dy ben er pan ydw i yma. Ches di ddim bwyd?"

RHYS,—"Do, Tomos, mi ges fwyd yn Rhyd—y—fen."

TOMOS,—"Rhyd—y—fen? Lle mae fan honno, dywed? Ydi hi'n daith?

RHYS,—"Na, ty tafarn ydi Rhyd—y—fen, hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog."

TOMOS,—"Be, be? Ydyn nhw'n lowio i brygethwrs fynd i dyfarne yn y wlad ucha yma? Ond 'does dim harm yn y peth ynddo'i hun, yn ol y meddwli; a mi fyddwn yn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy strict efo hynny."

(TOMOS yn tynnu y fowl a'r bacyn i RHYS).

RHYS,—"Diolch yn fawr i chwi, Tomos; a diolchwch i Barbara."

TOMOS,—"Mae i ti groeso, machgen i,—(yn tanio ei getyn).—Mi gychwynna i, fechgyn."

RHYS,—"Hwyrach mai gwell fydda i chi beidio smocio yn y dre, Tomos."

TOMOS,—" Oes drwg am hynny? Ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala?

RHYS,—"'Does dim drwg yn y peth, am wn i, Tomos; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hynny yma."

WILLIAMS,—"Na, smociwch eich gore, Mr. Bartley. Mae Rhys yn hynod o gysetlyd."

TOMOS,—"Hy—hy! a finne'n clwad mai rhai garw oeddach chi am smocio; ond bid a fynno am hynny, chwedl y dyn hwnnw o'r South, dowch i ni fynd i edrach be welwn Mae gen i eisio gweld tri pheth, Green y Bala, y Llyn, a'r Gloch. 'Rydw i'n cychwyn."

(Exit TOMOS. Plant yn chwerthin oddi allan, a TOMOS i'w glywed yn dweyd,—"Welsoch chi erioed ddyn o'r blaen, blant?")

WILLIAMS (Wedi ymlâdd yn chwerthin),—"Rhys anwyl, dyma'r original mwya weles i 'rioed â'm llygaid. Mae'r bechgyn wedi cael gwerth punt o sport hefo fo o Gorwen i'r Bala, a mae nhw wedi fy siarsio i ddeyd wrthat ti am 'i gadw fo yma cyd ag y medri di. Fedren ni mo'i smyglo fo i'r class, dywed? Mi fydde yn perfect treat."

RHYS,—"Fydde hynny ddim quite y peth. Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag o o gwmpas. Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre, mi fase yn dda iawn gen i. Mi fydd pawb yn edrach ar y'n hola ni."

WILLIAMS,—"Paid a chyboli! Fase fo ddim chwarter cystal heb y goler.Mae'r goler yn werth can punt. Ga i ddod hefo chi? Os ca i, mi geiff y mathematics am heddyw'r prydnawn fynd i Jerico.

RHYS,—"Gei di, wir! Yr oeddwn ar fedr cynnyg pum swllt i ti am ddwad i gymeryd peth o'r cywilydd."

(Y LETYWRAIG yn estyn dau lythyr. WILLIAMS yn eu cymeryd).

WILLIAMS—"Rhys Lewis' sydd ar y ddau. Hwde, Rhys, dau fil, mi wn."

RHYS,—(Yn darllen un dan wenu).

WILLIAMS,—"Pa newydd oddiwrth Mary Jane? Ydi hi'n iach?

RHYS,—"Paid a lolian, Williams. Edrych, beth ddyliet ti yw hwn? Gwahoddiad oddiwrth fy hen eglwys, Bethel, i fynd yn weinidog arni."

WILLIAMS,—"Llongyfarchiadau lond gwlad. Unpeth eto, Rhys."

RHYS,—"Beth ydi hwnnw, Williams?"

WILLIAMS,—"Gwraig reit dda."

(Rhys yn darllen y llythyr arall ac yn gwelwi).

WILLIAMS,"—Pam mae dy wedd yn newid, pa newydd drwg?

RHYS,—"Dyma lythyr o garchar Birmingham, yn dweyd fod yno berthynas i mi ar ei wely angeu, ac fod yn rhaid i mi fynd yno ar unwaith i'w weld."

TOMOS(oddiallan),—"Ydach chi ddim yn dwad, fechgyn? 'Rydach chi'n hir iawn."

[CURTAIN.]

YSTAFELL YN Y COLEG.

GOLYGFA 2.—Map.—Blackboard.—Myfyrwyr yn eistedd ynghyd. Ymweliad TOMOS BARTLEY.—Lle mae y myfyrwyr yn croesawu TOMOS, ac yntau ar gais taer Y PRIFATHRAW, yn eu hannerch.

(Enter TOMOS, WILLIAMS, a RHYS.—Cheers).

WILLIAMS (wrth y myfyrwyr),—"Mr. Tomos Bartley, foneddigion, cyfaill Mr. Rhys Lewis,—(TOMOS rhwng WILLIAMS a RHYS). Mae Mr. Bartley wedi dwad i'r Bala i ymweled a——"

TOMOS, "Wyst ti be? Mae 'ma lot ryfeddol o honoch chi, a 'rydach chi'n debyg iawn i'ch gilydd, 'blaw y dyn acw a'r trwyn cam. Ydi o yn biwpyl techar?"

(Enter yr ATHRAW).

ATHRAW,—"Where did we leave off?"

WILLIAMS,—"The first paragraph on page 10, sir."

ATHRAW,"—Mr. Evans of Denbigh, will you read?"

RHYS,—"He is not here, sir."

ATHRAW,—"Where is he? I must mark him absent. We shall begin here."

(Un o'r myfyrwyr yn darllen tra y graddol gysga TOMOS).

ATHRAW,—"That is very good, and you are a great credit to the schoolmaster who taught you to read. Perhaps we had better leave off here. You see that Mr. Lewis, with my permission, has brought a friend with him to the class this evening. This is an unusual thing, and must not be looked upon as establishing a precedent. But I thought that Mr. Lewis' friend might give you, as preachers, a word of advice. Words of wisdom are not to be despised. from whatever quarter they come. Yr oeddwn i yn dweyd, Mr. Bartley—

TOMOS (hanner cysgu),—"Ie, syr. Maddeuwch i mi, ond mae gwynt y Bala yma 'n gryf iawn. Mae arna i eisieu cysgu anwedd."

ATHRAW,—" Yr oeddwn i yn dweyd wrth y dynion ieuainc y gallai fod gennych air o gyngor iddynt. Dywedwch air, Mr. Bartley. Mae eisieu dweyd llawer y dyddiau hyn wrth ein dynion ieuainc."

TOMOS,— "Welsoch chi 'rioed fy salach i am ddeyd rhywbath, syr; ond fydda i byth yn leicio bod yn od ac anufudd. Mi glywes lawer o son am y Bala, syr, a phan ddoth Rhys yma atoch chi, 'roedd i fam o a finne yn ffrindie mawr, y hi ddaru nwyn i at grefydd, a doeddwn i yn gwybod dim nes iddi hi 'sponio i mi, a gwraig ryfeddol oedd hi,―mi ddeydis wrthi lawer gwaith, bydase hi yn hapno bod yn perthyn i'r Ranters, y byse hi'n gneyd champion o brygethwr, (cheers).—'Hoswch chi, be oeddwn i'n mynd i ddeyd. O ie, pan ddoth Rhys atoch chi, mi bendrafynnes y down ii weld y Bala rwdro, a heddyw'r bore, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn,—(cheers),—'be fi—Heddyw am dani. O Gorwen i'r Bala, mi ges ride efo lot o'r prygethwrs ifinc yma, a mi ges fy synnu yn fawr ynyn nhw, syr. 'Roeddwn i'n wastad yn meddwl am y students mai rhw bethe a'u penne yn'u plu oeddan nhw,—wedi hannar dorri'u clonne, ac yn darn lwgu'u hunen; ond weles i 'rioed fechgyn cleniach,—'doeddan nhw ddim yn debyg i prygethwrs, achos "roeddan nhw'n od o ddifyr. Wyddoch chi be, syr? 'Roedd Mr. Williams, (gan roddi ei law ar ei ysgwydd), yn medryd y'ch actio chi i'r blewyn; byadswn i yn cau fy llygaid, faswn i ddim yn gwybod nad y chi oedd o. Ond rhaid i mi ddeyd y gwir yn'u gwynebe nhw, syr,—dydw i ddim yn 'u gweld nhw mor glyfar wrth brygethu. Mi na i gyfadde mod i'n ddwl, achos yr oeddwn i yn hen yn dwad at grefydd. A mi na i gyfadde mai ychydig o honyn nhw glywes i yn prygethu, a hwyrach nad oedd y rheiny y rhai gore. Pan fyddwch chi yn prygethu, syr, yr ydw i yn y'th dallt chi'n champion. Ond, a deyd y gwir yn onest, fedrwn i neyd na rhawn na bwgan o'r stiwdents fu acw, a fedre Barbara neyd dim ar chwyneb y ddaear o honyn nhw. Wrth bygethu yn Gymraeg ma'r bechgyn yma yn disgwyl ennill i byfoliaeth, ond ma' Rhys yma yn dweyd wrtha i nad ydach chi ddim yn dysgu Cymraeg yn y Coleg. Most y piti ydi hynny! achos waeth iddi nhw heb ddysgu ieithodd pobol wedi marw ers cantodd, os na fedra nhw bygethu mewn iaith y medrai pobol i dallt nhw. Wrach y mod i yn misio hefyd, achos dydw i ddim yn llawer o slaig, tw bi shwar. A fedra i ddim ond ryw grap ar y llythrena, welwch chi. Yr ydw i'n synnu mai mewn ty gwâg yr ydach chi'n cadw'r ysgol, a ma'n dda gen i, ar ol i mi y'ch gweld chi, y mod i wedi rhoi hanner sofren i'r dyn bychan hwnnw fu'n casglu at i chi gael ysgol newydd. Dene un o'r dynion noblia, syr, weles i 'rioed a'm llygad,—faswn i byth yn blino gwrando arno fo. 'Roedd o'n deyd mai o'r Bala 'roeddan ni yn cael ceiliogod i ganu, a fydda i byth yn clywed y ceiliogod ifinc acw yn canu ar y buarth heb gofio am 'i air o. Os ddaru chi sylwi, syr, rhw nad ddigon rhyfedd fydd y ceiliogod ifinc yn 'i neyd am gryn bedwar mis, yn enwedig os na fydd ene hen geiliog i roi patrwm iddyn nhw. Ond waeth i chi prun, mae nhw yn dwad bob yn dipyn i diwnio yn nobyl. Yr ydw i yn cymyd dipyn o interest mewn fowls, syr,—mae Rhys yn gwybod, (cheers).—a'r cywion casa gen i ydi rheiny na wyddoch chi prun ai iâr ai ceiliog ydyn nhw. Os na fyddan nhw yn dangos yn o fuan be ydyn nhw, mi fydda yn torri'u penne nhw,—(cheers).—Wel, mae yn dda gen i o nghalon ych gweld chi mor gyfforddus, a gobeithio y gwnewch chi fadde i mi am gymyd cymin o'ch hamser chi,—(cheers)."

TOMOS (wrth WILLIAMS),—"Be ydi menin y cheers yma, Mr. Williams? Ddaru mi siarad yn o deidi?"

WILLIAMS,—"Campus."

ATHRAW,—" Wel, Mr. Bartley, yr ydw i'n gobeithio yn fawr y bydd i'r dynion ieuainc ddal ar eich cynghorion gwerthfawr, a'ch sylwadau pwrpasol. Y troion nesaf y bydd y students yn pregethu acw, cymerwch sylw manwl ohonynt,—a ydynt yn gwella. Os na fyddant yn dangos yn eglur pa un ai iâr neu geiliog ydynt, gadewch i ni gael gwybod, Mr. Bartley, er mwyn i ni gael torri eu penne nhw."

TOMOS,—"Tw bi shwar, syr. 'Roeddwn i wedi meddwl cael gweld yr ysgol pan oeddach chi wrthi. Mae cystal gen i a choron mod i wedi cael caniatad i ddod yma,—mi fydd gen i gymin mwy i ddeyd wrth Barbara pan a i adref. Diolch yn fawr iawn i chwi, syr, a ph'nawn da 'rwan."

(Exit TOMOS, RHYS, a WILLIAMS, TOMOS yn troi yn ol).

TOMOS," Begio'ch pardwn, syr, oes gynnoch chi ddim ffasiwn beth a matsien yn y'ch poced? Wn i ddim sut y dois i oddi cartre heb yr un."

ATHRAW (yn chwilio yn ei logell am un, gan fwynhau'r cymeriad gwreiddiol).

[CURTAIN.]

ACT IV.

YN BIRMINGHAM.

GOLYGFA 1.—Ar yr heol.—Lle mae RHYS LEWIS ar ymweliad a'r Carchar.—Yn clywed yr hen "Gaersalem " yn cael ei chanu ar yr heol.—Yn cyfarfod WIL BRYAN, ac yn mynd gydag ef i weld 65 Gregg Street.

RHYS (wrtho ef ei hun),— Dyna'r gorchwyl ene drosodd, ac mae'n dda gen i mod i wedi dwad yma. Waeth i mi droi i edrych am lety.— (Clywed chwibiannu).—Dyna'r hen 'Gaersalem.' Wyddwn i ddim fod y Saeson yn ei harfer o'r blaen. Mi gaf weld, mae y chwibianwr yn dwad ffordd yma."

(Cwrdd a'u gilydd yn y stryd).

WIL BRYAN,—"Wel, yr hen ganfed! Ai ti wyt ti, dywed?"

RHYS (yn synn),—Nid Wil Bryan?"

WIL BRYAN,—"Wil Bryan! At your service. Wyddost ti pwy weles i rwan just?"

RHYS,—"Na wn i."

WIL BRYAN,—"Wel, mi weles yr hen Niclas yn dwad allan o'r lle yna, a mi canlynais o, a mi weles 'i fod o yn byw ar hyn o bryd yn 65 Gregg Street, ac mi ddois yn ol yma i edrych welwn i chwaneg o'r breed, a strange to tell, dyma tithe. Ond be ydi'r row? O ble yn y byd mawr y doist ti? Wyst ti be, rydw i wedi meddwl am danat ti filoedd o weithie, ac wedi bod yn gofyn, tybed fase Rhagluniaeth yn ein tymblo ar draws ein gilydd rywdro. Ond tyrd adre hefo fi. Does gynnom ni fawr o ffordd i'r crib acw. Fyddwn ni 'run dau funud hwy yn mynd heibio'r ty, 65 Gregg Street. Mi danghosa i oiti. Tyrd."

(Exit o'r stryt). (Enter i'r crib).

CRIB WIL BRYAN.

BWRDD BACH, DWY GADER, BOCS I DDAL DESGIL OLCHI, A LLIAN YMSYCHU.

GOLYGFA 2.—Lle mae RHYS yn adrodd beth welodd yn y Carchar.—WIL yn dweyd fath letywraig oedd ganddo.—Yn adrodd ei hanes ar ol gadael cartref.—RHYS yn dweyd ei fod wedi cael galwad gan ei hen eglwys.—WIL BRYAN yn dechreu dwad yn ei ol.—Cynnwrf wrth y drws.—Eu trybini yn 65 Gregg Street.—Cynllunio os cymerid hwy yn garcharorion.—Yr heddgeidwad yn dod i'r ty.—SERGEANT WILLIAMS yn hysbysu ei hun.—Cydgyfarfyddiad hapus.—WIL BRYAN yn dwad yn ei ol.

WIL BRYAN,—"Dyma'r crib iti. Dydw i ddim wedi dechra cadw bwtler eto. Aros di, lle mae'r ganwyll? Dyma hi. Fase'n well i ni beidio mynd at y ty hwnnw, ond pwy fase'n meddwl y base raid i ti gael mynd i hen y ffenestr? Ond be ydi'r row? Be ydi meaning of all this? Spowtia."

RHYS,—"Wel, mi ges lythyr fod 'ne rywun yn y Carchar yna wedi marw, ac yn gofyn am danaf cyn marw. Dois yma ar unwaith, ac aethum i'r Carchar, a phwy oedd yno ond fy ewythr James Lewis wedi marw. Prin y medrwn i gredu ei fod wedi marw o ddifrif; ond mai rhyw gynllun cyfrwysddrwg oedd ganddo i ddyfod allan o'r carchar. Er mwyn bod yn sicr, teimlais ei ddwylaw a'i dalcen, ac yr oeddynt can oered a'r muriau llaith oedd o'n cwmpas. Yr oedd cyn farwed a hoel, ac er ei fod yn ewythr i mi, frawd fy nhad, mae arnaf ofn na ddodwyd ond ychydig o'i waeth rhwng pedair ystyllen. Fedra i ddim llai na theimlo yn falch, nad all ef fy mlino i mwy. Mi ddois allan o'r Carchar, ac mi wyddost y gweddill."

WIL BRYAN,—"Gwna dy hun gartref tra bydda i yn ceisio'r grub yn barod. Dacw le i ti 'molchi yn y fan yna, achos chei di ddim byta yn y nhy i heb molchi, a tithe wedi bod yn handlo corff y son of a gun ene.—(RHYS yn ymolchi, ac yn synnu ynddo ei hun dlodi'r crib).—Wel, mi welaf fod ti'n cymeryd stoc."

RHYS,—"Wel, Wil bach, wyt ti wedi dwad i hyn?

WIL BRYAN—" Dwad i be? I un room? 'Rydw i'n dal fod o'n true to nature. Mae pob creadur 'blaw dyn yn byw mewn un room ar ol iddo adael yr open air, a dydi o ddim ond humbug cael lot o rooms, ond paid di a meddwl mai hard up ydw i, fel y ca i ddangos i ti toc. Dywed y gair,—te neu goffi ?"

RHYS,—"Te."

WIL BRYAN,—"Same here. Daset ti wedi dweyd coffi, does yma ddim yn ty. Does dim isio gwell gwraig na'r landlady yma, ond mae gen i ofn 'i bod hi yn go ffri hefo nhe i. Cyn mynd allan heddyw, mi rois i wybedyn yn y canister 'ma, a mi gawn weld ydi o yno 'rwan, edrych di yr ochr yma, a mi edrycha inna yr ochr yna. Wyt ti yna? 'Rwan. Gone! Dene ti certain proof. Ond arna i mae'r bai, hefyd. Mae'n debyg fod y wraig yn eitha gonest daswn i yn cloi y cwpwrdd. Draw your chair to the table. Mi wela fod yna un drawback,—'does yma ond un gwpan a sowser; ond am y tro, cymera di y gwpan, a mi gymera inne y sowser. Does gen i ddim llefrith chwaith,—ma'r tuberculosis yn enbyd ar y gwartheg yma, ac mae te heb laeth ynddo 'n torri syched yn well lawer, Rhys."

RHYS,—"Wel, 'rwan, Wil bach, dywed dipyn o dy hanes i mi."

WIL BRYAN,—"Wel, mi wyddost pan yr es i oddi cartre. Wel i ti, mi fu dipyn yn galed arna i tan ges i job i ddreivio cab. Mi weithies yn galed, a byw yn gynnil,—a deyd y gwir i it, mi es yn gybydd, ac yr oeddwn i yn cyfri mhres bob nos. Un nosweth, mi ges mod i yn werth £48, heblaw y ceffyl a'r cab, a mi brynnes chwarter o sausage i'm swper; ar ol y swper, yr oeddwn i yn teimlo rwsut yn hapus ac independent. Y sausage nath y job, 'rydw i'n meddwl. Mi ddechreuais fwmian canu, a be ddyliet ti oedd y dune? 'Yr hen flotyn du!' A dydw i ddim yn meddwl i neb 'blaw fi gael bendith wrth 'i chanu hi 'rioed. Pan ddois i at y geirie,—

'Pa sut mae hynt fy mam a'm tad?
Pa sut mae'r stad yn 'styried?

mi ges break-down, a mi ddoth hireth sobor arna i, a mi gries lond y mol. Doeddwn i ddim wedi 'sgrifennu at yr hen bobol er pan es i oddicartre; a wyddwn i ddim oeddan nhw yn cael bwyd, ne oeddan nhw'n fyw. This is not true to nature,' 'be fi, a mi gries spel wedyn, a mi es ati i'sgrifennu at y gaffer i ofyn oedd o yn fyw, sut yr oedd o'n dwad ymlaen, faint oedd amount 'i failure o? A mi rois y llythyr yn y post y noswaith honno. Yr oeddwn i ar dân nes cael ateb, a mi ges by return. Yr hen wraig oedd wedi'i sgrifennu o, achos 'roedd y nhad, medde hi, yn rhy cut up. Ond mi wyddwn mai dodge yr hen wraig oedd hynny, achos dydi'r hen Hugh ddim mor dyner—galon a hi. 'Roedd yr hen wraig yn crefu fel cripil arna i ddwad adre, ac yn deyd mor dda oedd ganddi glywed oddiwrth ei 'mab afradlon.' 'Roedd hi yn gneyd mistake yn y fan ene hefyd! 'Does ene ddim analogy rhwng y Mab Afradlon a fi. 'Roedd tad y chap hwnnw yn wr bonheddig, a mi roth hanner 'i stad iddo fo, a mi wariodd ynte filoedd o bunnau, a mi ath i dendio ar y moch, a mi ath adre mewn rags! 'Roedd 'y nhad i wedi torri i fyny, a ches i 'rioed mo'r chance i wario pum punt o'i arian, a ddaru mi ddim lorio fy hun i fynd i dendio ar y moch, a da'i byth adre mewn rags, mi gymra fy llw! Does ene ddim analogy at all. Wel, £400 oedd failure yr hen law, ac yr oedd y creditors wedi acceptio pum swllt yn y bunt. 'Roedd o'n dwad yn 'i flaen yn o lew, a just ffansia gyfrwystra 'r hen wraig,—mae hi'n deyd yn y llythyr,— Mae Sus yn ferch ifanc o hyd.' Fasa'r gaffer byth yn meddwl am tactics fel ene, wyddost. Mi effeithiodd hynny yn arw arna i, a mi faswn yn rhoi cymin ag oedd gen i am gipolwg arni hi. Ond to make a long story short, mi yrris yn ol i ddeyd nad awn i ddim adre nes bydde nhad wedi talu pob dimai o'i ddyled, a mi ddeydis yr helpiwn i o, a dene sydd yn mynd ymlaen rwan. Mae'r cwbl just a chael ei dalu rhyngom ni."

RHYS,—" Yr oeddwn yn deall fod dy dad bron a thalu ei holl ddyled, ond bychan y gwyddwn i dy fod di yn 'i helpu o. Yr wyt yn gwneyd yn dda iawn, ond fe wnaet yn well pe ddoit adref."

WIL BRYAN,—"Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir."

RHYS, " Be ddyliet, Wil, yr wyf fi wedi cael galwad i fod yn fugail yr hen eglwys y cawsom ein dau ein magu ynddi. A fuasai ddim yn well gennyf, os atebaf yr alwad yn gadarnhaol, na dy gael di unwaith eto yn aelod ohoni."

WIL BRYAN, "Wait till the clouds roll by. Stranger things have happened. Hwyrach na choeli di mona i; ond mi gymra fy llw, yr ydw i yn credu fod Wil Bryan yn dechreu dwad yn ei ol."

(Cyffro wrth y drws).

WIL BRYAN (yn synn),—"Beth oedd y swn yna, dywed? Ddylies i'n siwr mai y got las oedd ene, having run us down to earth."

RHYS,—"O na, mae'n debyg ei fod yn gweld nad oeddym yn gwneyd drwg, ac wedi ein rhoi i fyny."

WIL BRYAN,—"Never be too sure! Rhai garw ydi'r bobbies yma. Synnwn i ddim na welwn ni o eto. Os daw'r officer yma, be ddeydwn ni wrtho, dywed?"

RHYS,—"'Does dim i'w wneyd ond deyd y gwir, a chymeryd y canlyniadau. Ond mi fynnaf wybod pwy oedd ar y gwely yn y ty yna, dae raid i mi fynd i ben y ffenestr eto."

WIL BRYAN,—"Deyd y gwir! Chreda nhw byth mo'r gwir. Bydae ni yn deyd mai eisio gweld drwy shutters y ffenestr pwy oedd yn y ty ene hefo'r hen Niclas, wyt ti'n meddwl y coelien nhw ni? Dim peryg!

(Enter SERGEANT WILLIAMS yn ddirgel).

SERGEANT WILLIAMS (yn ddistaw),—"Here are my men as safe as rats in a trap. I'll teach them to go prying around honest people's houses at night."

WIL BRYAN,—"Os ffeindiff y got las ni, mi eiff a ni o flaen His Worship,' a mi baliff lot o glwydde am danom ni, a mi gawn 14 days cyn i ti ddeyd Jack Robinson. Mi fydd yn go chwith i brygethwr Methodus fod yn y quad, hefyd. Mae o'n taro i meddwl i ydi Rhagluniaeth wedi penderfynu i bob un o'ch teulu chi gael y fraint o fynd i'r carchar am spel? 'Roedd dy dad a dy ewythr, no offence, cofia, quite at home yno; a dene dy frawd Bob, —un o'r dynion gore allan, mi gafodd yntau spel; a dyma tithe 'rwan. Aros di, fu Paul a Samson,—be oedd 'i enw o, Rhys?—Seilas, ddim mewn durance vile unwaith? Wel, yr ydan ni mor ddiniwed ag oedden nhwthe'u dau. A sut y daethon nhw allan o'r row? Ai nid wrth ganu ? Wel, mi gana inne nes bydd y lle yn speden, mi gymra fy llw!"

SERGEANT WILLIAMS,—" Boys!" (dychryn mawr).

WIL BRYAN," Officer, I must give you credit, you are a smart fellow. But I am at a loss to understand what has been the cause of giving us the honour of this visit?" SERGEANT WILLIAMS,—"Fechgyn, mi welaf mai Cymry ydych."

WIL BRYAN," Holo ! John Jones o Hen Wlad fy Nhadau ! Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg Cymru Rydd! Cymru Fydd!"

SERGEANT WILLIAMS,—"Rhys Lewis a William Bryan, os nad ydw i'n methu ? Rhys, a ydych yn fy adnabod?

RHYS,—"Nag ydw i'n wir."

SERGEANT WILLIAMS,—"Bryan, a ydych chwi?"

WIL BRYAN—"To be sure! Bydawn i byth yn bren gwely os nad y chi ydi Sergeant Williams. Wel, sut yr ydach chi yr hen A 1? Take a seat." (Gan estyn ei gadair iddo ac eistedd ar y bocs ei hun).

SERGEANT WILLIAMS,—"Yr ydych chwi'n debyg iawn i chwi eich hun o hyd, William."

WIL BRYAN,—"Wel, mi fuase'n rhyfedd iawn i mi fod fel neb arall, Sergeant. Yr ydych chwi wedi newid yn fawr."

SERGEANT WILLIAMS, "Chwith iawn yw byw mewn mwg tref yn lle awelon iach Cymru."

WIL BRYAN,—"Sylwi 'ron i fod eich trwyn chwi'n gochach lawer nag oedd o."

SERGEANT WILLIAMS,—"Wyddoch chi pwy oedd yn y ty hwnnw, Rhys Lewis?"

RHYS,—"Mi wn fod yr hen Niclas yno."

SERGEANT WILLIAMS,—" Ydi, ac y mae eich tad yno hefyd.—ar ei wely angau."

WIL BRYAN," It never rains but it pours! Newydd i ti fod yn gweld corff d'ewythr yn yr Old Bailey, dyma'r newydd yn cyrraedd fod dy dad yn cicio'r bwced mewn private house."

SERGEANT WILLIAMS,"Fuasech chi yn leicio ei weld o?"

RHYS, "Na fuaswn! Ond yr ydw i wedi gwneyd addewid,—Buaswn."

WIL BRYAN,—"Ie, cyn iddo'i gloewi hi."

SERGEANT WILLIAMS,—"Mi ddof hefo chwi."

RHYS, "Wel, mi awn; ond aros di, Wil, 'does gen i ddim llawer o amser i ddal y tren, achos rhaid i mi fynd yn ol i'r Bala yn ddiymdroi, am fod yr Exam. gennon ni drwy'r wythnos nesaf."

WIL BRYAN,—"Wel, paid a synnu os bydd yours truly yn troi adref yn fuan, achos rydw i yn mawr gredu fod Wil Bryan yn dwad yn ei ol."

(Sefyll ar eu traed).

[CURTAIN.]

Y TWMPATH.

GOLYGFA 3.—Lle mae Rhys Lewis yn ymweld a'r teulu.—THOMAS BARTLEY yn gwneyd te a BARBARA yn llegach yn y gornel. WIL BRYAN a SUS yn dilyn.—Ymgom.—WIL yn mynd i briodi, ac o'r diwedd wedi dwad yn ei ol.

TOMOS,—"Rhaid i ti styrio, Barbara, a dwad i'r capel heno. Wyddost ti fod Wil Bryan yn mynd i gael ei dderbyn yno heno?"

BARBARA,—"Tomos bach, fedra i ddim dwad heno,—mae fy lode i yn boenus ryfeddol."

TOMOS,—"Peth od iawn na ddaethai Rhys Lewis i edrach am danat ti."

BARBARA,—"O, dydw i ddim yn sâl felly chwaith, Tomos."

TOMOS, —"Dacw fo'n dwad ar y gair i ti."

RHYS,—"Wel, gyfeillion bach, sut yr ydach chi heddyw?

TOMOS,—"Digon symol ydi Barbara wir, wel di. Wyst ti be, Rhys, mae 'i gweld hi yn sal fel hyn yn codi hireth arna i am Seth."

(TOMOS yn paratoi te).

RHYS, " Wel, yr ydw i yn disgwyl y cawn ni gyfarfod Seth eto."

TOMOS,—"Mae natur tranne yni hi heno, wel di; ac wrth feddwl am hynny, dene sy'n gneyd Barbara deimlo mor sal heno. Mae un o'r moch ola ges i yn colli'i stumog bob amser cyn tranne."

RHYS,—" Mae'n ddrwg gen i nad ydi Barbara ddim gwell. Mi ddowch chi i'r capel, Tomos?"

TOMOS,—"Tw bi shwar. Rhaid iti aros i gael paned o de efo fi, os gnei di fy sgiwsio i yn 'i neyd o,—feder Barbara ddim symud."

(Cnoc ar y drws).


TOMOS,—"Edrych pwy sydd yna, Rhys."

(WIL a SUS wrth y drws).

WIL BRYAN,—"Found at last. Mi fuon ni acw yn edrach am danat, a mi ddeydodd Miss Hughes dy fod wedi dwad yma. And to kill two birds with one stone, drwy ymweld â'r hen thorough—breds, mi ddeuthom yma ar dy ol di."

RHYS,—"Dowch i fewn."

TOMOS,—"Wel, William, mi 'rwyt ti'n edrych yn dda. A mae Sus yn edrach yn reit hapus."

WIL BRYAN,—"Wel, Mrs. Bartley, sut yr ydach chi?"

TOMOS,—"Dydi Barbara ddim fel hi ei hun heno. Feder hi ddim symud o'r gader. Mae hi cyn wanned a chyw giar. Rhaid i chi'ch dau gymeryd rhwbeth at y'ch penne: dowch at y bwrdd, closiwch Sus; dowch, peidiwch bod yn swil. Sut mae'r hen bobol, William? Hwdiwch, byclwch ati. Mae yma ddigon o fwyd fel y mae o."

WIL BRYAN,—"Dydi'r gaffer ddim quite up to the knocker heno."

TOMOS,—"Ho! y tywydd, debicin i. Fydda i'n wastad yn deyd fod y tywydd yn effeithio ar rai pobol. Lwc garw na phriododd Barbara mo dy dad, wel di. Cyn y prioda i eto, Sus, 'dwyt ti'n byta dim,—mi ofala i gael gwraig nad ydi'r tywydd ddim yn effeithio ar 'i hiechyd hi. Nid am fod gen i ddim yn erbyn Barbara, cofia, yr ydw i'n ffond iawn o Barbara,—mi feder hi ddeyd hynny, achos, ar ol colli Seth, 'does gen i neb ond y ddau fochyn a'r ffowls ene, 'blaw Barbara."

BARBARA,—"Ydi o'n wir, William, dy fod di yn mynd i briodi?"

RHYS,—"Rhaid i chi ddim swilio'ch dau. Ydi o'n wir?"

WIL BRYAN, "Fel secret, gan ddisgwyl nad eiff o ddim ymhellach, yr ydw i'n deyd wrthoch chi yma fod ene o'r diwedd definite understanding rhwng Sus a minne, ac yn wir ynglŷn â'r cwestiwn yna y daethom i yma i edrach am Rhys"

TOMOS,—"Barbara, rhaid i ni ladd y mochyn cynffon gwta yna, er mwyn i ni fedru rhoi clamp o ddarn o asen fras iddyn nhw yn wedding present. Pryd yr ydach chi yn mynd, William?

WIL BRYAN,—"Mae hynny yn dibynnu ar Rhys yma."

RHYS,—"O na, mi fydd yn bleser gen i roi fy hun at eich gwasanaeth a'ch cyfleustra chwi eich dau."

WIL BRYAN,—"Well, that settles it. I will leave it to Sus to name the day. Rhys, dyma yr eneth ore fu 'rioed ar y ddaear yma. Wyt ti'n cofio mod i'n deyd wrthat ti mod i'n past feeling?"

RHYS,—" Ydw."

WIL BRYAN,—"Yr oedd hynny pan oeddwn i'n meddwl fod Sus wedi fy anghofio i. Ond pan ddois i adra, a ffeindio fod Sus, fel y deydodd yr hen wraig, yn ferch ifanc o hyd, mi es i edrych am dani, a phan ddalltodd hi mod i yn 'back—slider, be' ddaru hi ddyliet ?—nid fel buase llawer o enethod yn gneyd, rhoi y cold shoulder i mi, ond mi fyelodd Sus ati hi, a mi ymresymodd â fi, a mi siaradodd yn ddifrifol a mi. Ond oeddwn i ddim yn meddwl am give in. Yr oeddwn i wedi sefyll tân yr hen Ddeg Gorchymyn, ac had got the best arnat tithe sydd yn bregethwr Methodus, a doeddwn i ddim yn leicio'r idea o gael fy mowlio allan gan eneth ifanc. Ond waeth hynny na chwaneg. mi ddaliodd Sus ati nes y bu raid i mi o'r diwedd throw up my colours, and make an unconditional surrender, ac y mae yn dda gen i ddeyd wrthoch i gyd heno,

FOD WIL BRYAN O'R DIWEDD WEDI DWAD YN EI OL."

[CURTAIN.]

DIWEDD.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Morgan Edwards
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Daniel Owen
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Rhys Lewis
ar Wicipedia

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Sgan o'r llyfr wedi ei gyhoeddi ar drwydded Parth Cyhoeddus gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  2. (Gellir enwi siop rhywun yn yr ardal lle y perfformir Rhys Lewis.")
  3. ("Gellir nodi unrhyw gymeriad lleol).