Drych y Prif Oesoedd 1884/At y Darllenydd

Oddi ar Wicidestun
Cyflwyniad i'r Ail Argraffiad Drych y Prif Oesoedd 1884

gan Theophilus Evans


golygwyd gan William Spurrell
Subscribers to the Second Edition

AT Y DARLLENYDD.

Y MAE yn awr o gylch pedair blynedd ar hugain er pan brintiwyd y llyfr hwn y waith gyntaf, pryd nad oeddwn ond cryn iefanc; ac er darllen o honof, ïe, y pryd hwnw (yn lled anystyriol, ar frys) y rhan fwyaf o hanesion printiedig yng nghylch hen faterion Brydain mewn llys a llan, eto wedyn, ar ol cael odfa a chyfle i chwilio o amgylch, y cefais i y rhan fwyaf o ysbysrwydd mewn hen groniclau Cymreig o waith llaw. Ac felly drefn a gymmerais yr ail dro hwn yn adgyweirio yn llyfnhau'r gwaith, oedd, (1.) Darllen yr holl hen hanesion Lladin a ysgrifenodd y gwyr y tu draw i'r môr o gylch Brydain yn yr hen amseroedd. (2.) I ddarllen hefyd groniclau yr hen Seison. (3.) Ddarllen gwaith rhagorol y Seison dysgedig diweddar. Ac yno, (4.) Eu cymharu a'u cystadlu oll un ac arall â hen hanesion y Brytaniaid.

Am yr hen hanesion Lladin, neu hanesion gwŷr Rhufain, er mai dynion dysgedig, medrus, a deallgar oeddent, eto prin y gellir eu coelio ar bob achosion, a hyny am y ddau reswm a ganlyn:—(1.) Am mai gwŷr o Rufain, na fuont erioed yn y deyrnas hon, ond ar chwedl eu pen capteniaid, yw y rhan fwyaf o wŷr tu draw i'r môr, sy'n ysgrifenu yr hanesion. (2.) Am eu bod yn rhy dueddol i seinio allan eu clod en hunain, megys y tystia hanes Iulius Cæsar, yr hwn a orfu arno droi ei gefn a dianc, er dywedyd o hono bethau mawr yn ei lyfr. Dyna yn wir yw anian ac hefyd anffawd pob cenedl, sef dywedyd yn wych am eu gwroldeb a'u medr eu hun, a dywedyd yn gras, ac yn chwerw, ac yn ddiystyr am eu gwrthwynebwyr. Am hen groniclau'r Seison, nid oes yn ddilys ond ychydig o goel i'w roddi iddynt, a hyny am y rheswm eglur yma, am eu bod yn anllythyrenog yn yr amser y bu yr ymladdau creulonaf rhwng yr hen Frytaniaid a hwy; ac am hyny os dygwydd i neb feio nad yw yr hanes a roddir yma am y rhyfel rhwng y ddwy genedl ddim yn gwbl gytûn a'r croniclau Seisnig, gwybydded y cyfryw un, nad oedd bosibl i'r hen Seison ysgrifenu hanes yr ymladdau cyntaf dros gant a hanner o flynyddoedd; am na fedrent air ar lyfr, na darllen, nac ysgrifenu; ac felly nid all fod yr hanes a roddant hwy, ond o ben i ben, a chwedl gwlad. Am waith rhagorol y Seison dysgedig diweddar, y maent hwy yn wir yn chwilio pethau allan yn ddidueddol, ac yn deg dros ben, megys Mr Leland, Archesgob Usher, Sr. Henry Spelman, Esgob Stillingfleet, &c. Ond nid allent hwy ddim farnu am ysgrifeniadau Cymreig. Yn awr am y Brytaniaid, yr oeddent hwy yn ddilys ddigon yn medru darllen ac ysgrifenu, ni a wyddom, yn hir cyn amser cred, os nid er amser Brutus y Groegwr o Gaerdroia; a phe bai eu hysgrifeniadau heb fyned lawer ar goll, diammheu y gallai Cymro hyddysg gael amryw ac amryw o hen hanesion nad yw bosibl i'w cael nac yn y Lladin nac yn y Seisoneg; ond y mae bagad eto i'w gweled o ysgrifeniadau yr hen Frytaniaid, a fy ngwaith i oedd eu cymharu a'u cystadlu hwy â hen hanesion y Rhufeiniaid a'r Seison; ac hyd byth oedd yn fy ngallu, i bigo allan y gwirionedd dilwgr. Y mae yma lawer o bethau a adroddir yn y llyfr hwn, na buont erioed yn brintiedig o'r blaen mewn un iaith pa un bynag. Y pigion hyn (megys trysorau cuddiedig) a ddichlynwyd gyda chryn lafur a phoen allan o hen ysgrifeniadau wedi llwydo gan oedran. Ac os dim, hwy ynt harddwch y gwaith.

Lle mae yr hanes yn y bennod gyntaf oll, i Fadog ab Owen Gwynedd a'i wŷr ymgyfathrachu a myned yn un bobl o'r diwedd ag hen drigolion America yn awr er ys chwaneg na phum cant o flynyddoedd a aethant heibio; ond y mae yn debygol eu bod yn ymgadw yn bobl wahân, ac yn cadw eu hiaith hyd y dydd heddyw. Canys y mae'r parchedig Mr Morgan Jones (gwr eglwysig a aned ger llaw Tredegar, yn Sir Fynwy), yn dywedyd, iddo, yn y flwyddyn 1660, dramwy drwy yr anialwch, nes dyfod o'r diwedd i wlad gyfanneddol; yno efe a ddaliwyd yn garcharor, am fod y trigolion yn drwg dybied mai bradwr ac ysbiwr oedd efe a ddaethai i edrych noethder y wlad. Yno ar eu gwaith yn myned i'w ddienyddu ef, fe ddygwyddodd iddo (ac achos da pa ham) drwm ocheneidio, a dywedyd yn Gymraeg, "O Dduw, a ddiengais i allan o gymmaint a chymmaint o beryglon ar for ac ar dir, ac yn awr gael fy nharo yn fy nhalcen megys ci?" Ar hyny fe ddaeth y cadben ato, ac a'i cofleidiodd, ac a ddywedodd wrtho yn Gymraeg, na chai efe ddim farw; ac a fu yn wir yn gystal a'i air; canys efe a'i derbyniodd ef yn garedig, ac a'i dug ef ganddo i'r rhan hono o'r wlad a elwir Dyffryn Pant—teg, lle yr oedd ei gydwladwyr yn byw. Yno y bu Mr Jones dros bedwar mis cyfan yn fawr ei barch a'i roesaw yn eu mysg, yn siarad Cymraeg â hwy beunydd, ac yn pregethu yr efengyl dair gwaith yn yr wythnos yn y iaith Gymraeg, megys y mae yr hanes (wedi ei phrintio yn Seisoneg) yn dangos, yng nghyd ag ychydig o eglurhâd a ychwanegais i ati. [1]

Lle y dywedir yn y llyfr hwn i'r Rhufeiniaid fenthycio amryw eiriau Cymraeg oddiar y Gwylliaid, megys y geiriau Lladin terra, aer, mare, amnis, mel, mutus, &c., oddi wrth y geiriau a ganlyn yn ein hiaith ni, tir, awyr, mor, afon, mêl, mud; fe ddichon fod rhai yn mingamu, ac yn dywedyd nad yw hyn ond chwedl gwneuthur heb awdurdod: ond gwybydded y cyfryw un, fod y geiriau hyny erioed ac hyd heddyw yn iaith y Gwyddelod, lle ni chyrhaeddodd holl arfau y Rhufeiniaid; ac am hyny yn ammhosibl iddynt hwy eu benthycio ganddynt; a phrin y troseddai un oddi wrth y gwirionedd pe dywedai, fod y geiriau yma yn yr iaith Gymraeg cyn gosod sylfeini dinas Rhufain erioed. [2]

Nid oes neb yn gwadu, oni fenthyciodd yr hen Frytaniaid amryw eiriau Lladin tra fu y Rhufeiniaid yn rheoli yma, ac eto heb golli yn llwyr yr hen eiriau priodol i'r iaith. Ac yn wir yr oeddid yn cymmysgu y ddwy iaith yng nghyd yn rhy arw yn yr hen amser hwnw, megys y tystia yr ysgrifen—fedd a gafwyd yn ddiweddar yn eglwys Brynbuga, yng ngwlad Fynwy, yr hon a osodwyd yno gyntaf ym mhell cyn dyfodiad y Seison i'r deyrnas hon. Yr ysgrifen yw hon, cymmysg o Gymraeg a Lladin: Noli cloddi yr ellrhod Caerlleon, advocad llawnhaedd Llundain, a barnwr bedd breint apud Ty'n ei Aro, Ty Avale; Selif synwybr sumæ sedum Usk, val kylche deg kymmyde; doctor kymmen, lleua loer in i llawn oleuni." A hyn yw yr ystyr, yn ol barn y dysgedig, yn Lladin llawn: "Noli effodere professorem Caerlegionensem, advocatum dignissimum Londinensem, et judicem sacri privilegii apud Fanum Aaronis et Fanum Avaloniæ; Solomonem astrologum summæ civitatis Usk, tenentis circiter decem comotos; doctorem eloquentem, lunam lucidam ni plenilunio lucentem."

Nid oes genyf ddim i ddywedyd chwaneg na bod yma amryw ac amryw o bethau newydd nad oedd ddim yn yr argraffiad cyntaf; yr wyf yn tybied fod yr iaith yn awr yn rhwydd ac yn ddeallgar trwy Wynedd a Deheudir; a chwedi ei thrwsio (os harddwch yw hyny) ag amryw o gyffelybiaethau cynnefin, ac hawdd eu hystyried. Yr wyf yn gobeithio fod yr hanes oll mor gywir ac mor llawn hefyd a'r a ellir ei ddysgwyl dros yr amser yr wyf fi yn myned drosto; canys er nad yw maintioli y llyfr ond bychan, eto pe buasai wedi ei brintio â llythyrenau breision, e fuasai (o leiaf) o ddau cymmaint ei faintioli ag yw yn awr. Y fath ag ydyw, derbyniwch ef, atolwg, megys yr anrheg oreu a chywiraf o hanes yr hen Frytaniaid a feidr yr awdwr annheilwng.

THEOPHILUS EVANS.
Dydd Calan Mai, 1740.

Nodiadau[golygu]

  1. Gentleman's Magazine, March, 1740
  2. Camd. in Ordovic, p. 659, Llwyd Annot.