Drych y Prif Oesoedd 1884/Gair Am yr Awdwr a'i Waith

Oddi ar Wicidestun
Drych y Prif Oesoedd 1884 Drych y Prif Oesoedd 1884

gan Theophilus Evans


golygwyd gan William Spurrell
Rhagaraith

GAIR AM YR AWDWR A'I WAITH

"YSTYRIAIS y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd," ebe'r Salmydd; felly hefyd y meddyliodd ac yr ysgrifenodd Theophilus Evans, gyda golwg ar y llyfr hwn o hanes yr hen amser. Erbyn heddyw y mae hi wedi myned yn "ddyddiau gynt" gyda golwg ar yr awdwr ei hun a'i helyntion. Ydyw, ydyw, y mae, ddarllenydd anwyl. Llawer tro ar fyd sydd wedi dygwydd er pan syrthiodd ein hawdwr i'r llwch to ar ol to. sydd wedi ymddangos ac wedi myned heibio er pan yr oedd efe yn ei flodau: yn wir y mae gwyntoedd ac ystormydd pedwar ugain gauaf a rhagor wedi chwythu dros ei fedd, o'r cribog fryniau cyfagos, yn eu holl nerth a'u trychineb.

Hoffem yn fawr iawn wybod mwy o hanes ysgrifenwr "Drych y Prif Oesoedd" nag y sydd ar gael yn awr. Y mae'r fath arabedd naturiol a swyn yn ei frawddegau, fel yr ydym braidd yn meddwl weithiau wrth ddarllen ei lyfr, mai gwrando yr ŷm ar ryw wron wedi dianc o'r cynoesoedd yn adrodd yn gyffröus ei anffodau, ei ryfeloedd, a'i helyntion o bob math. Nis gallwn fel hyn lai na charu a pharchu un yn medru hwylio ei ysgrifell mor fedrus. Fe fuasai yn rhyw bleser mawr i ni gael hanner diwarnod o gymdeithas y fath gydymaith. Fe roisem lawer am gael cipolwg arno yn ei wisgoedd offeiriadol ar foreu Sul, a chlywed ei lais yn seinio

"Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Sabbaoth," yn hen gân Sant Ambros.

Ond nid gwiw i ni freuddwydio am bethau fel hyn; nid oes genym chwaithach hyn, na darlun, na delw (bust) o Ficer Llangammarch, er ein bod wedi cael ein bendithio â chofiantau, a bucheddau, a darluniau bron yn ddiddiwedd o bersonau na chlywyd son am danynt allan o'r llefydd ym mha rai yr oeddynt yn blaguro tra buont byw, ac am ba rai ni theimla neb awydd yn awr wybod dim yn neillduol.

Eto, er gwaetha'r cwbl, y mae genym ryw faint o hanes yr ysgolhaig a'r hynafiaethydd enwog hwn; a dywenydd mawr yw i ni allu ei osod i lawr yma, fel y bo ar gof a chadw o dan yr un cloriau a'r Drych.

Un o Sir Aberteifi o enedigaeth oedd y Parchedig Theophilus Evans: yn wir y mae ffraethineb a llithrigrwydd tafodiaith pobl Glan Teifi yn eithaf amlwg yn ei ysgrifeniadau. "Ym mhob gwlad y megir glew," medd yr hen ddiareb; ïe, yn wir, felly y mae yn bod; ond tybiwn fod Ceredigion wedi rhoddi genedigaeth i fwy o ddynion o argraff a chymmeriad Mr Evans nag un swydd arall yn y Dywysogaeth yma.

Yr oedd Mr Evans yn hanu o deulu cymmeradwy, yn byw yn Pen y Wenallt, yn agos i Gastell Newydd yn Emlyn. Ei dadcu, Evan Griffith Evans, a lysenwid yn ei amser "Captain Tory, who for his king fought and bled," oddi wrth, mae'n debyg, ei sel a'i ymlyniad wrth y Brenin Charles I, yn amser y Gwrthryfel.

Pummed mab Charles Evans, mab Evan Griffith Evans, Pen y Wenallt, o ail wraig, oedd Theophilus Evans. Brawd o'r naill ran i Theophilus, John Evans, a fu'n Athraw yn nheulu y Parch. Philip Henry, tad Matthew Henry. Ganwyd Theophilus yn y flwyddyn 1694, y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Gwilym y Trydydd. Bydd yn dda i'r darllenydd ieuanc gyfio fod hyn yng nghylch naw mlynedd ar ol genedigaeth y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; ac felly fod Person Llanddowror yn gydoeswr â'n hawdwr. Yr oeddynt, y mae yn ddigon tebyg, yn adnabyddus â'u gilydd, er nas gallwn ar hyn o dro roddi sicrwydd ar y pen hwn. Fe gofia'r cyfarwydd mewn hanesyddiaeth, mai dyma yr amser y pallodd amryw o esgobion Eglwys Loegr gymmeryd llw o ffyddlondeb i'r brenin, ac o herwydd hyny, collasant hwy, yng nghyd â llawer o offeiriadon, eu swyddi yn y Sefydliad. Yn y flwyddyn 1698, hefyd, y sefydlwyd y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol, yr hon a dalodd lawer o sylw i'r Dywysogaeth, ac ym mhlith aelodau cyntaf pa un yr ydym yn canfod amryw yn gyssylltedig â Chymru. Dyma yr amser, ynte, yr anadlodd Theophilus Evans gyntaf.

Wedi myned trwy y parotoad gofynol, urddwyd ef yn Ddiacon yn 1718, ac yn Offeiriad mewn llawn urddau, yn 1719, gan Esgob Ty Ddewi, ar yr amser hwnw. Ei guradiaeth gyntaf oedd Tir yr Abad, yng Nghantref Buallt, Brycheiniog, plwyf bach eithaf pellenig ac anadnabyddus. O Dir yr Abad, neu Llanddulais, fel hefyd y gelwir y lle, fe symmudodd i Lanlleonfel, plwyf yn agos i Langammarch. Yn 1728, rhoddodd Esgob Ty Ddewi iddo rectoriaeth fechan Llanynys, yr hon fu yn ei ddwylaw am ddeng mlynedd-hyd nes y cafodd Langammarch. Yn 1739, cafodd Eglwys Sant Dewi, Llanfaes, Aberhonddu. Rhoddodd Langammarch i fyny yn 1763, i'w fab yng nghyfraith, y Parch. Hugh Jones; ond daliodd Sant Dewi tra y bu byw. Cymhares bywyd Mr Evans oedd Alice, merch i Morgan Evan neu Bevan, o Gelligaled, yn Sir Forganwg. Cafodd bump o blant-tri mab, a dwy ferch. Un o'r merched a briododd â'r Parch. Hugh Jones, i ba un, fel y dywedasom yn barod, y rhoddodd ei dad yng nghyfraith Langammarch i fyny; a'r hwn wedi hyny a'i newidiodd am ficeriaeth Llywel. Mab i'r Parch. Hugh Jones, ac ŵyr i'r Ficer, oedd Theophilus Jones, Yswain, yr hynafiaethydd, awdwr "Hanes Sir Frycheiniog," yr hwn a dreuliodd lawer o'i faboed gyda'i dadcu.

Wrth bob hanes, yr oedd Ficer Llangammarch yn ei ddydd a'i dymmor yn enwog am y rhinweddau sydd yn gwneyd dyn yn anwyl i'w gymmydogion a'i gyfoedion, yn gystal ag am ei ddysg a'i ddoniau. Yr oedd yn hynod, mae yn debyg, am ei garedigrwydd cyffredinol; ac mewn diniweidrwydd a symlder diddichell yr oedd yn berffaith blentyn. Arian ni phrisiai fawr. Ei drysorau penaf of oedd ei lyfrau, gyda pha rai treuliai lawer iawn o'i amser.

Nid yw pawb, ond odid, hyd yn oed o'r rhai sydd wedi derbyn llesâd oddi wrth Ffynnon Llanwrtyd, yn gwybod mai Mr. Theophilus Evans fu gyntaf yn foddion i wneyd rhinweddau da'r dwr yn hysbys i'r wlad. Ond felly bu. Mae yn debyg fod Mr Evans, nid hir ar ol ymsefydlu yn Sir Frycheiniog yn y flwyddyn 1732, yn wir-yn wael iawn iawn gan y scyrfi, yr hwn oedd wedi gwreiddio yn rymus yn ei gyfansoddiad. Yn y cyflwr hwn clywodd yn ddamweiniol am ryw ffynnon wenwynllyd, fel y tybid pryd hyny, yng nghwm Llanwrtyd. O ran cywreinrwydd, ac mewn rhyw obaith am gael gwellâd, cyrchodd goreu gallai tua'r fan. Cyrhaeddodd y Ffynnon Ddrewllyd, fel y gelwid hi, sawr pa un oedd yn ei anerch o hirbell; ac wedi sefyllan yn hir uwch ei phen, gwelodd froga yn neidio yn wisgi o honi, ac megys yn ei lon-gyfarch ac yn erchi iddo wneyd prawf o'r elfen ym mha un yr oedd efe yn bywiolaethu mor gysurus. Deallodd yr offeiriad claf oddi wrth hyn nad allai dim gwenwynllyd fod yn y dwr; cymmerodd galon ac yfodd ddracht dda o honi, yr hyn a wnaeth eilwaith mewn ychydig amser. Mewn tipyn teimlodd ei ystymog yn adfywio, a chwant bwyd yn codi arno; o'r fynyd hòno dechreuodd ei wellâd-ymrodd i yfed y dwr; ac yn fuan daeth yn holl-iach. Dyma ddechreuad enwogrwydd Llanwrtyd. Bu hyn, fel y dywedwyd o'r blaen, yn y flwyddyn 1732. Mae rhyw draddodiad fod y Ffynnon wedi bod mewn enwogrwydd mawr ddau neu dri chan mlynedd cyn hyn; ond nis gallwn gredu hyn yn rhwydd; canys pe gwir hyn, rhyfedd iawn i bawb golli pob gwybodaeth o'i rhinweddau.

Yn y flwyddyn 1767, yr ymadawodd y Parch. Theophilus Evans â'r byd hwn; ei ŵyr Theophilus Jones a fu fyw hyd y flwyddyn 1812. Claddwyd hwynt ill dau ym mynwent Llangammarch.

Yng ngwlad Brychan, fel y gwelwn, y dechreuodd Theophilus Evans ei weinidogaeth, ac yn yr un ardal y bywiolaethodd wedi hyny hyd ei fedd. Dywedir wrthym mai'r peth a'i tynodd yno gyntaf oedd y cyfeillgarwch oedd yn hanfodi rhwng Gwyniaid y Garth, pobl fawr yn Sir Frycheiniog, â'r Llwydiaid, hen fonedd, y penaf, coeliwn, yr amser hwnw, yn Sir Aberteifi, llys pa rai oedd Plas Maes y Felin, ger Llanbedr Pont Stephan. Eu dylanwad hwy a berodd i fab Pen y Wenallt, yr hwn oedd wedi cyhoeddi yr argraffiad cyntaf o'r Drych o ddeutu dwy flynedd cyn iddo gael ei urddo, i ymsefydlu yn Sir Frycheiniog. Bu Theophilus yn gyfaill gwresog i deulu y Garth tra bu byw. Dyma'r lle goreu, ef allai, i roi gair bach i mewn yng nghylch Theophilus Jones. Yr ydym wedi gweled iddo dreulio llawer o'i faboed gyda'i dadcu; ond lled ieuanc oedd pan y bu'r Ficer farw. Fe ymddengys i Mr Jones gymmeryd sylw neillduol o'r diweddar enwog hynafiaethydd ac ysgrifenydd, y Parch. Thomas Price (Carnhuanawe), awdwr "Hanes Cymru," pan oedd yn fachgenyn. Rhoes Carnhuanawc, pan yn yr ysgol Ramadegol yn Aberhonddu, gynnorthwy i Mr Jones tuag at ei "Hanes Sir Frycheiniog," gyda golwg ar hanesion amryw leoedd a theuluoedd.[1] Felly y mae Theophilus Jones fel rhyw dorch gyssylltiadol rhwng yr hen haneswr a anwyd yn y ddwyfed ganrif ar bymtheg a'r enwog Carnhuanawc, yr hwn mewn cymhariaeth sydd ond wedi newydd lithro i'r ceufedd! Yr oedd yn ddiau gan Theophilus Jones lawer i ddywedyd am ei dadcu wrth Carnhuanawc, ac yr oedd yn ddiammheu gan Carnhuanawc lawer i adrodd am y ddau. Dywedir mai wrth wrando ar Herodotus yn adrodd ei Histori yn gyhoeddus y cyffrowyd ysbryd ac awyddfryd Thucydides i ysgrifenu hanes o'r un fath. Yn yr un modd, ef allai, mai darllen "Drych y Prif Oesoedd" a gynhyrfodd ym mab Ficer Llanwrthwl yr ysbryd hynafiaethol ac ymchwiliadol a'i gwnaeth yn Garnhuanawc. Ond rhaid ymattal â'r pen hwn a myned ym mlaen.

'Drych y Prif[2] Oesoedd" a ymddangosodd gyntaf yn 1716; ail argraffiad o hono, gyda llawer o ychwanegiadau, a gyhoeddwyd yn 1740. Yng nghylch yr un amser, cyhoeddodd ein hawdwr lyfr arall, o dan yr enw "Pwyll y Pader," sef esboniad neu gomment ar Weddi yr Arglwydd, mewn amryw bregethau. O ddeutu pymtheg mlynedd cyn ei farwolaeth, cyhoeddodd yn Seisoneg, "Hanes Penboethni Diweddar" (History of Modern Enthusiasm); ail argraffiad o ba un a ymddangosodd mewn ychydig o flynyddau. Dygwydd mawr yn awr yw cwrdd â "Phwyll y Pader" a "Hanes Penboethni Diweddar," gan fod llawer o amser wedi myned heibio er pan argraffwyd hwynt. Y mae yr offeiriad, yn yr Hanes, yn trin sectariaid o bob math yn dra llym; ond y mae yn dwyn ym mlaen eu hawdwyr hwy eu hunain i ddangos eu hegwyddorion. Cymmaint a hyna am "Bwyll y Pader" a "Hanes Penboethni Diweddar."

Heb law y gweithiau uchod, gwelwn y cyhoeddiadau canlynol o dan ddwylaw ein hawdwr, yn llechres werthfawr casglydd selog, diwyd, a medrus "Llyfryddiaeth y Cymry," Parch. Wm. Rowlands:—

"Galwedigaeth ddifrifol i'r Crynwyr, i'w gwahawdd hwy i ddychwelyd i Grist'nogaeth." Cyfieithad. Mwythig, 1715. 8plyg.

Mae yn gyssylltedig â'r "Meddyliau Neillduol ar Grefydd," gan yr Esgob Beveridge, o gyfieithad Iago ab Dewi, 'Bedwar Englyn o folawd i'r Llyfr,' gan Theophilus Evans. 1717.

"Prydferthwch Sangcteiddrwydd yn y Weddi Gyffredin, mewn pedair Pregeth o waith y Parch. Thos. Bisse, D.D." Cyfieithad. Mwythig, 1722.

"Llythyr Addysc Esgob Llundain at y Bobl o'i Esgobaeth." Cyfieithad. Caerloew, 1740. Yr Argraffydd oedd Raikes, sylfaenydd y gyfundrefn o Ysgolion Sul. Llyfryn yn erbyn Whitfield a'i ganlynwyr oedd hwn.

"Gwth i Iuddew." Pregeth. Mwythig, 1752.

"Drych y Dyn Maleisus." Pregeth. Mwythig, 1752.

"Y Gwir Ddoethineb." Pregeth. Mwythig, 1757.

"Y Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân." Pregeth. Mwythig, 1760.

Ni welais i, erioed, ddarllenydd anwyl, un llinell o waith y Parch. Theophilus Evans, ond cymmaint ag a ellir ei weled rhwng cloriau "Drych y Prif Oesoedd." Pe buasai genym gyfle i droi dalenau "Pwyll y Pader," neu "Hanes Penboethni," neu rai o'i Weithiau ereill, cawsem olwg mwy eang a phenderfynol o'i opiniynau a'i gyrhaeddiadau mewn difynyddiaeth; ond gallwn gasglu oddi wrth y Drych ei fod wedi cyfranogi yn helaeth o ysbryd hen enwogion y Brif Eglwys, a'i fod yn aiddgar dros burdeb athrawiaeth a dichlynder buchedd. Dywed Theophilus Jones, ei ŵyr, fod ei dadcu yn bregethwr grymus ac effeithiol, a phe na buasai genym y dystiolaeth hon, gallasem yn rhwydd gredu fod y gwr a ysgrifenodd "Ddrych y Prif Oesoedd" yn areithiwr rhwydd a gafaelgar.

Cyhoeddwyd, fel yr ydys wedi crybwyll yn barod, yr argraffiad cyntaf o "Ddrych y Prif Oesoedd " yn y flwyddyn 1716, pan nad oedd yr awdwr ond ieuanc mewn cymhariaeth. Mae yn syndod mor lleied sydd wedi ei wneyd yn y rhan hòno o lenyddiaeth yng Nghymru oddi ar hyny hyd yn awr, tra y mae'r Seison wedi eu cyfoethogi ag hanesion Gibbon a Hume, a llawer ereill, pa rai a ymddangosasant ar ol ail argraffiad y Drych.

Yr oedd awdwr y Drych yn ddios yn ysgolhaig medrus; yr oedd yn ddarllenwr diwyd; medrai ysgrifenu Lladin yn rhugl ddigon, yr hyn sydd yn gryn gamp i Gymro; yr oedd yn gyfarwydd â hen lyfrau o wahanol ieithoedd, fel yr ymddengys oddi wrth y nodau yn y Drych. Nid dywedyd rhywbeth ar antur y mae, ond gesyd ar lawr ei awdurdod, er ef allai fod ei farn yng nghylch amryw bethau yn gamsyniol. Y mae ei ddullwedd yn fath ag y cynghorem i efrydwyr ac ysgrifenwyr ieuainc i astudio ac i efelychu; nid rhywbeth mursenaidd diflas yw, ond y mae yn rhedeg yn rhwydd ac yn naturiol, yn gymhwys i foddhau a difyru'r darllenydd yn gystal a'i addysgu. Mor fywiog ac argraffol yw ei ddysgrifiad o ddyfodiad y Rhufeiniaid. Y mae'r darllenydd yn barod i feddwl ei fod wrth ddarllen yn gweled yr hen Caisar a'i Rufeiniaid yn ymgynddeiriogi wrth ganfod mor bybyr a dewr yr oedd y Brythoniaid yn ymladd dros eu gwlad. Y mae pin yr ysgrifenydd fel yn anadlu'r digder a'r blinder a deimlai wrth feddwl am dwyll y Sacsoniaid a ffolineb y Cymry yn amser Hengist. Y mae ei hanes am athrawiaeth y Brif Eglwys, a moesau y prif Gristionogion, yn dangos ei fod yn gwerthfawrogi ac yn coleddu ysbryd yr hen dduwiolion. Yr arferion a'r defodau a osodir i lawr yn y rhan hon o'r gwaith, ydynt yn siamplau godidog i Gristionogion y dyddiau presennol.

Dyma ni ar hyn o achlysur wedi dybenu â "Drych y Prif Oesoedd." Meddiant dros byth,[3] ys dywedodd yr hen haneswr Groegaidd, yn ddiau yw i'r Cymry. Yr ydym yn ymadael ag ef ar hyn o dro fel â chydymaith hoff, ac yn ei gymmeradwyo i ti, y darllenydd, fel dyddanwch teuluaidd, i dy ddifyru, dy addysgu, a'th lesoli. Ar ol ei ddarllen, y Cymro mwyn, os dygwydd i ti byth ar dy hynt fyned trwy bentref Llangammarch, tro i mewn i'r fynwent i weled claddle Theophilus Evans. Ni chai weled yno, yn wir, golofn ardderchog o bres, neu faen o farmor gwyn cerfiedig, fel ag i ddenu sylw'r teithiwr; ond ti a ganfyddi, mewn cornel cul o'r fynwent, lech lwyd lyfn,* wedi ei chloddio, digon tebygol, o un o'r mynyddau cyfagos, wedi eu gosod ar y fan lle y gorwedd yr hen offeiriad, yr ysgolhaig, yr hynafiaethwr-awdwr "Drych y Prif Oesoedd," yng nghyd â'i ŵyr o'r un aidd, doniau, ac ysbryd ag ef ei hun, Theophilus Jones, o Aberhonddu, awdwr "Hanes Sir Frycheiniog." Heddwch i ysbrydoedd yr hen bererinion! Iechyd a llwyddiant i tithau, ddarllenydd.

Caerfyrddin, Calan Hydref, 1851.

Llanbedr, Calan Gauaf, 1863.

  • Dyma gopi o'r hyn a ddarllenir ar y gareg:—

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel yr Haul am Ionawr, 1849, tudal. 18.
  2. Prif, hyny yw, cyntaf, boreuol, primitive.—Y Brif Eglwys, the Primitive Church.
  3. Κτῆμα ἐς ἀει.—THUCYDIDES.