Drych y Prif Oesoedd 1884/Rhagor o gerddi clod

Oddi ar Wicidestun
Subscribers to the Second Edition Drych y Prif Oesoedd 1884

gan Theophilus Evans


golygwyd gan William Spurrell
Cynnwysiad

Englynion o Fawl i'r Britwn dysgedig, yr Awdur.

GWELWCH deallwch da 'wyllys—Cymro
Mewn camrau gwir ddilys,
Anwyl o'r 'sblenydd ynys,
Geirwir llawn agorwr llys,

Sy'n danfon yn llon er gwellâd—atom
Cawn eto'i wir gariad,
Y Prif Oesoedd prawf wysiad,
Hanesion gloewion ein gwlad.

A'i buro dan go' i gyd—gan Awdur
Diadwyth ei fywyd;
Gwir ieithydd frau awyddfryd
Rhyfedd o werthfawr hefyd.

Gosododd yn rhodd heb rin—ei lyfrau
Goleufryd i'n meithrin;
Coffair ef ym mhob cyffin
Gan bob tafod mawrglod min.

Lamp hyfryd i'r byd o wybodaeth—yw
Ac awen bur hyfaeth;
Rhyglyddus hwylus helaeth
Gwawl awydd a phrydydd ffraeth.

Diolchwn i hwn am hau—dyddanwch
Da i ddynion o'i lyfrau;
Gwiwlawn yw'r pelydr golau
O hyd i ni ei fwynhau.

Bendithied Duw byw diball—ei fywyd,
O f' awen, a'm deall;
I foli'r gwar uwch arall,
Hedd air cu a haeddai'r call.

IEUAN BRADFORD O BLWYF Y BETTWS YM MORGANWG A'I CANT.





Gosteg o ddeuddeg Englyn Unodl Union yn unodli drwyddi.

Dos, lythyr difyr, a dyfodd—mewn brys
Myn brysur ymadrodd,
Dwg anerch draserch drosodd,
I'r Cymry, a'i rhanu'n rhodd.'

I'n gwlad o gariad y gyrodd—yr awd'r
Orwydd-deb ymadrodd,
Ddrych gweddus trefnus y trodd
Rhywiawg a rhagorodd.

Edrych yn y Drych a drodd—ar gamrau
'Rhen Gymry a'u hansodd;
Diwall mae'u dull a'u modd,
Edrych wedi'i lawn adrodd.'

Achau'r hen dadau hyn dododd—ar led
I'r wlad fe cyhoeddodd,
Y gwir heb os a ddangosodd,
A'r gau ei law draw a drodd.

Hanesion ddigon a ddygodd—i'r byd
Er bod hyny yn anodd;
Goleuad i'r wlad a ledodd,
A'r tywyll gau i'r ffau a ffodd.

Odiaeth wych helaeth y chwiliodd—y gwr
I gyrau'r hen oesoedd;
Myrdd yn ein mysg a ddysgodd,
Llwyn yw yn wir yn llawn nodd.

Rhoes addysg i'n mysg mewn modd—arbenig
Mawr boen a gymmerodd;
A phob call a'i deallodd
A'r un Drych i'r iawn a drodd.

Adgas waith diflas a daflodd—ymaith
O'i ymyl pan welodd,
A'i lân orchwyl a hwyliodd,
Mewn iaith lefn ei drefn a drodd.

Y mer yn dyner a dynodd yn llwyr
O'r llyfrau ddarllenodd,
Historiau llwyr ystyriodd
Mewn pum iaith yn faith o'i fodd.

Canant ei foliant yn filoedd—beunydd
Am y boen a gymmerodd;
Ei orchwyl pan lewyrchodd,
Llawer o drymder a drodd,

Gwelaf nas medraf ymadrodd—cymhwys
I ganmol ei ansodd,
Drwy fedru anrhegu'n rhodd,
Fawl heddyw fal y haeddodd.


Boed holliach bellach, fe ballodd—gosteg,
Ac estyn ni allodd,
Aeth i ben a gorphenodd,
Tyrfyniad clymiad a'i clodd.

JENKIN THOMAS.




Englynion[1] o Fawl i'r Gwaith a'r Cyfieithydd.

Dy waith a'th araith euraid,—wr anwyl,
O ryw hen Frytaniaid,
Sydd fendith a blith o blaid
Bywyd dof bwyd y defaid.

Mae yma borfa burfras—gwir luniaeth
I'r gorlan, gair addas,
Llwyn i orwedd llawn o ras,
Cwm, le clyd, ar hyd gamlas.

Mae 'stor o ogor i'r gorlan—yma
Mae lluest mewn gwinllan;
Y geifr mall a ânt allan
At ysgall y fall i'r fan.

THEOPHILUS EVANS, VICAR LLANGAMMARCH.




Englynion i anerch y parchedig Ddysgawdwr, Mr. Theophilus Evans,
pen Cymreigydd Brydain Fawr.

DYMA Ddrych gwych dan go'—dilys,
Dylai fawr roeso;
Rhoed hil Frutus drefnus dro
Bur awch addas barch iddo.

Theophilus glws ei glod—er gwirio
I'r gorau sy'n gwybod,
Uwch na hwy achau a nod
Y Brytaniaid brwd hynod.

'Sgrifenydd hylwydd hy—llusern
Dra llesol i Gymru;
Oreu'i dasg er ein dysgu;
Mawr ei boen, myfyrio bu.

Cymreigydd ufydd anian—cyfieithydd
Cu ethol ei amcan;
Periglor pur rywioglan,
Da lywydd mewn dwy lan.


Addysgu teulu pob talaeth—trwy lafur
Trodd lyfrau perffaith;
Nid oes yn trin y Frytaniaith
O Gymro yn wir gymhar i'w waith.

JOHN JONES LEWELYN, O LANFAIR YNG NGHAEREINION, A'I CANT.




Mawl i'r Llyfr a'r Awdur, Mr Theophilus Evans.

ARDDERCHOG enwog union—clyw d' anerch
Clau ddawnus amcanion
O Wynedd yn ddi-unon,
I'r Deheudir da hoew dôn.

O Arfon dirion dyrog—y tardda
At urdd wawr flodeuog,
Fawl min gân fel y mwyn gog,
Fraich anwyl i Frycheiniog.

[2]Theophilus iaith hofflawn
Oleu ras ail i Aaron
Fel Dafies[3] wiw flodeuyn
Goreu glwys gu eurog lin.

Peryglor Ifor Ifan—ail ydych,
Hael odiaeth berffeithlan,
Ac ieithydd yn gwau weithian,
Cymraeg lwys i'r Cymry glân.

Dosbarthu, rhanu yn rhwydd—hanesion
Hen oesoedd yn ebrwydd;
Gwr hylaw, gywir hylwydd,
Rhywiog lân ar we aeg lwydd.

Drych gwiwlan, dyddan i'n dydd—un ydyw,
Iawn adail waith crefydd;
Goludog iach i'n gwledydd,
Gwiw dw'ffel i gyd a'i ffydd.

Drych y Prif (a rhif ar hyd—yr) Oesoedd,
Aur eisoes o'r cynfyd;
Drych gwiw-lwys edrych golud,
Hynaws bwnc o hanes byd.

Llanddewi, heini, hynod—Llangammarch,
Llawn gymhwys fyfyrdod;
Dwy chwaer glir, da wych ar glod,
Hir einioes i'w lor hynod.

DAFYDD JONES, O DREFRIW, A'I CANT

Nodiadau[golygu]

  1. Yn ol W. Rowlands (Llyfryddiaeth y Cymry, tudal. 329), camsynied oedd printio yr Englynion hyn o flaen Drych y Prif Oesoedd; gan mai gwaith Theophilus Evans ei hun ydynt i "Ymadrodd ynghylch Dychymygion Dynion yn addoliad Duw. Gan y Gwir Barchedig Dr. William King, Arglwydd Esgob Llundain Derry. Ac a gyfieithwyd gan Dafydd Llwyd Ficar Llandefath
  2. Proest gyfnewidiog.
  3. Dr Dafies a ysgrifenodd y Geirlyfr Cymraeg.