Drych y Prif Oesoedd 1884/Rhan I Pennod IV

Oddi ar Wicidestun
Rhan I Pennod III Drych y Prif Oesoedd 1884

gan Theophilus Evans


golygwyd gan William Spurrell
Rhan I Pennod V

PENNOD IV.

Y RHYFEL A FU RHWNG Y BRYTANIAID A'R SEISON. BRAD Y CYLLYLL HIRION. HANES UTHR BENDRAGON, AC ARTHUR, &c. TYWYSOGION CYMRU. YCHYDIG O GYFRAITH HOWEL DDA.

WEDI dangos eisys i ba amgylchiadau tosturus y dygpwyd yr hen Frytaniaid iddynt gan eu lleithder a'u meddalwch, ond yn anad dim gan eu bywyd diras a'u diystyrwch ar Dduw, mi a af rhagof i ddangos eu hynfydrwydd a'u gwallgof tu hwnt i ddim, yn deisyf cymhorth y Seison;[1] canys yr un peth a fuasai iddynt osod y blaidd yn geidwad ar yr ŵyn, i'w hachub rhag y cedni, a gwahawdd y Seison hwythau drosodd i ymladd drostynt yn erbyn y Brithwyr. Ac eto nid oedd hyny ond y peth y mae Duw yn fygwth yn erbyn anufudddod: "Oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, yr Arglwydd a'th dery di ag ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon." (Deut. xxviii. 15, 28.) Ofnent y Seison o'r blaen, megys plant y fall ac ellyllon o waelod annwn; eto y fath hurtrwydd a'u perchenogai ar hyn o dro, fel y danfonasant genadon atynt i'w gwahodd hwy drosodd i Frydain i fod o'u plaid i ymlid ymaith y Brithwyr, y rhai nid oeddynt mewn un modd yn wrolach pobl na hwynt—hwy eu hunain, pe nis gadawsent i fusgrellni a lleithder eu gorthrechu, megys y dywad y Rhufeiniaid lawer gwaith wrthynt.

Ni wyddys ddim yn dda ddigon am ba ham y danfonwyd am y Seison yma gyntaf, y rhai oedd bobl o Germani ger llaw Hanofer. Dywed rhai fod amgylchiadau yr hen Frytaniaid y pryd hwnw fel y canlyn:—Fe ddisgynodd coron y deyrnas o iawn dreftadaeth i wr graslawn a elwid Constans, yr hwn a gafas ei ddygiad mewn mynachlog, ar fedr ei ddwyn ef i fyny yn grefyddwr, ac o'r achos hwnw oedd adnabyddus ag arferion y llys ac â chyfreithiau'r deyrnas. Ac o'r achos hwnw efe a osododd ddystain, neu ben rheolwr, dano, i farnu materion y llys a'r deyrnas. Y dystain hwnw a elwid Gwrtheyrn; a dyn rhyfygus, ystrywgar, a ffals, oedd efe; canys ar ol cael yr awdurdod freninol yn ei law, ei amcan nesaf oedd cael meddiant ei hun, a lladd ei feistr. Felly efe a roddes wobr anwiredd i o gylch cant o feibion y fall, ar iddynt ruthro am ben ystafell y brenin, a'i ladd ef. Ac ar hyny, wedi gwneuthur sen a gogangerdd er anfri i Constans, a chaniad o fawl i Gwrtheyrn, dysgwyl oedfa a wnaethant i ruthro arno; a'i ladd a orugant, a dwyn ei ben ger bron y bradwr; ac yntef a gymmerth arno wylo, er na bu erioed lawenach yn ei galon. Ond i fwrw niwlen o flaen llygaid y bobl, fel y tybid nad oedd ganddo ef ddim llaw yn y mwrdd-dra, efe a barodd dori penau y can wr hyny a osodes efe ei hun ar waith.[2] Ac felly, barn rhai yw i wrtheyrn wahodd y Seison i fod yn osgordd ac yn amddiffyn iddo, rhag y difreinid ef am ei fradwriaeth a'i ysgelerdra. Ond boed hyny fel y myno, hyn sydd ddilys ddigon, fod pob peth allan o drefn, fyg fag, bendraphen, ym mysg y Brytaniaid ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid oddi yma. Prin, ïe prin iawn yr ystyrid pa wir hawl, neu deitl, nac ychwaith pa gynneddfau da a fyddai gan neb un a osodai gais i fod yn ben rheolwr gwlad; ond yr hwyaf ei gleddyf a'r direitiaf a ymhyrddai i awdurdod, ac a gadwai y rheolaeth hyd oni ddeuai un trech nag ef, a'i wthio ymaith. A hyn y mae Gildas, yr hwn a ysgrifenodd o gylch y flwyddyn o oedran Crist 546, yn ei dystiolaethu yn eglur. Ac felly Gwrtheyrn, rhag y difreinid ef, megys y gwnaed i laweroedd ereill o'i flaen, a alwodd am gymhorth y Seison i ddiogelu ei hun ar yr orseddfainc:[3] a hyn, yn wir, a allai fod yn un rheswm ym mysg ereill; ond i ymladd â'r Brithwyr y cyflogwyd y Seison yn benaf dim.

Felly Gwrtheyrn, ar ol ymgynghori â'i benaethiaid, a anfonodd bedwar o wŷr anrhydeddus ei lys i wneuthur ammod â'r Seison, a'u gwahodd hwy drosodd i Frydain, sef oedd enwau y pendefigion hyny, Cadwaladr ab Tudur Ruddfaog, Rhydderch ab Cadwgan Freichfras, Meurig ab Trehaern, a Gwrgant ab Maelgwn Ynad, heb law ereill o is radd yn osgordd iddynt. Ac yna wedi myned i ben eu siwrnai, os gwir a ddywed cronicl y Seison (canys Sais cynhenyd sydd yn adrodd hyn o fater,[4] ond nid oes air yn un cronicl Cymraeg am dano), y cenadon a wnaethant araith[5] ger bron eisteddfod o Seison, yn y geiriau hyn:—"Nyni, y Brytaniaid truain, wedi ein harcholli a'n blin gystuddio gan aml ruthrau ein gelynion, ŷm yn deisyf eich porth a'ch nawdd yn y cyfyngdra trallodus y'n dygpwyd ynddo ar hyn o bryd. Ein gwlad sydd eang ddigon, fflwch a diamdlawd o bob peth buddiol i gynnaliaeth dyn; cewch feddiant ynddi; digon yw hii ni a chwithau. Hyd yn hyn y bu y Rhufeiniaid yn ymgeleddwyr tirion i ni; nesaf at ba rai ni adwaenom neb a roddes brawf mor helaeth o'u grymusdra a chwychwi. Bydded i'ch arfau seinio allan eich gwroldeb yn Ynys Brydain; ac ni fydd flin genym wneuthur o'n rhan ninnau, un fath o wasanaeth a esyd eich ardderchawgrwydd arnom." Ac yna yr atebodd y Seison wrth fodd eu calonau, gan ddywedyd, "Chwi ellwch hyderu arno, Frytaniaid anrhydeddus, y bydd y Seison yn geraint cywir i chwi, ac yn barodol i'ch cynnorthwyo yn yr ing a'r trallod mwyaf." Y gwirionedd yw, nid yw yr araith hon ond chwedl gwneuthur y Sais; nid dim ond ei ddychymmyg ei hun; canys nid oedd awdurdod y cenadon a ddanfonwyd at y Seison, ddim amgen ond ammodi â hwy er cymmaint a chymmaint o gyflog, megys y gallent hwy gytuno arno.[6] Nid oedd air o son am gael meddiant mewn un cwr o'r deyrnas.

Yr oedd ambell un, y rhai oedd â'u synwyrau yn effro, yn darogan y wir chwedl, ac yn ofidus eu calon wrth ragweled y distryw gerwin oedd ar ddyfod. "Pan gaffo y cacwn," ebe un, "letty yng nghwch y gwenyn, e orfydd ar wir drigolion y cwch roddi lle i'r pryf gormesol. Gwae fi! na fyddo gwahodd y Seison ddim yn gwirio y ddiareb, 'Gollwng drygwr i ysgubor gwr da;' a llawer gwaith y gwelwyd, mai 'gelyn i ddyn yw ei dda."" "Mi a glywais hen chwedl," eb un arall, "i'r colomenod gynt ammodi â'r barcutanod ar eu cadw rhag rhuthr y brain; y bodaod yn ddilys ddigon a erlidiasant y brain ymaith; ond beth er hyny? Nid hwyrach ag y byddai chwant saig felus ar y bodaod, nid dim arall a wasanaethai eu tro ond colomen at giniaw a phrydnawnfwyd. Mi gaf gan Dduw mai nid hyny fydd corff y gainc ar waith ein brenin da ninnau yn anfon am y Seison." Ond nid oedd ond ambell offeiriad tlawd yn dal hyn o sylw ar bethau; canys ar ol dychwelyd y cenadon adref, bu llawenydd o'r mwyaf yn y llys: a byth ni welai y brenin ynfyd ddigon o arlwy ar eu medr, na digon o ddanteithion a moethau yr ynys i'w croesawu. Ac ym mhen ychydig, ryw bryd ym mis Awst, yn y flwyddyn o oedran Crist 449, y tiriasant mewn tair llong, a dau frawd, Hengist a Hors, yn flaenoriaid arnynt. Ar ol gwledda a bod yn llawen dros rai dyddiau, a llwyr gytuno ar y gyflog yr oedd y Seison i dderbyn am eu gwasanaeth, fel na byddai dim ymrafael am hyny rhag llaw, y Seison yno yn wir a roisant brofiad helaeth o'u gwroldeb a'u medr i drin arfau rhyfel; canys er na allent fod yn nifer fawr iawn, pan y gallasai tair llong eu dwyn, eto, a hwy yn awr yn borth i'r llu egwan oedd yn y deyrnas eisys, y Brithwyr a wasgarwyd, eu byddinoedd a ddrylliwyd, a Niawl Môr Mac Flan a dorodd ei wddf ar ei waith yn ffoi yn frawychus ac yn fyrbwyll.

Ond fe ddarfu am onestrwydd y Seison wrth weled mor ddifraw a musgrell oedd y trigolion (a diammheu mai dynion oeddent wedi ymroddi i feddalwch a maswedd), ond yn anad dim wrth feddwl pa wlad dda fras odidog oedd ganddynt, gymmaint yn rhagori ar y cornel llwm newynog oedd ganddynt hwy gartref. Ac yna hwy a ddanfonasant yn ddirgel at eu cydwladwyr,[7] i wahodd y rhai mwyaf gwaedlyd a'r cieiddiaf o honynt drosodd i Frydain, tuag at ddwyn eu hystryw drwg i ben. Canys er eu bod yn barod ddigon o honynt eu hunain, ond nid oedd eu nifer eto yn ddigon. "Y wlad," ebe hwy, "sydd odidog a chnydfawr! gwlad doreithiog a hyfryd! ond y trigolion ydynt lesg, a llaith, a diofal. Os ydych gall, nac aroswch gartref i newynu, ond cymmerwch galon gwŷr, a deuwch drosodd gyda ni. Ni roddir gwlad i fusgrell.' Ein cydfwriad ni yw, i ruthro ar y trigolion swrth, megys y byddo'r wlad yn eiddo ein hunain; felly, gwybyddwch fod eich arfau yn awchus ac yn gywrain i ladd."

Nid oedd dim llawer iawn o achos canlyn arnynt i'w perswadio: digon o annogaeth oedd cael anrheithio'r wlad ar ol lladd a mwrddro'r trigolion. Felly, yn ebrwydd y cynnullodd llu mawr o honynt, y pedwar cymmaint a'r waith gyntaf, ac ym mhlith ereill, dau fab i Hengist, a merch iddo a elwid Rhonwen. Y sawl o'r Brytaniaid ag oedd â'u llygaid yn agored, a edrychasant yn chwithig ar y fath lu gormesol o farbariaid arfog yn tirio heb genad; ond y brenin ynfyd, Gwrtheyrn dan ei enw, a'u hymgeleddodd, a thuag at ddystewi man son y bobl, efe ddywad, mai yn gynnorthwy yn erbyn y gelynion y daethant, rhag bod y fyddin gyntaf yn annigonol. Yr oedd Hengist erbyn hyn wedi adnabod tymmer y brenin; ac er maint o anrhegion, heb law eu cyflog, ag oedd efe a'i wŷr wedi eu derbyn, eto, efe a fynai gael dinas gaerog dan ei lywodraeth, "fel y byddwyf," eb efe, "yn anrhydeddus ym mhlith y tywysogion, megys y bu fy hen deidiau yn eu gwlad eu hun." Ond atebodd Gwrtheyrn, "Ha, wr da! nid yw hyny weddus, canys estron a phagan ydwyt ti: a phe y'th anrhydeddwn di megys boneddig cynnwynol o'm gwlad fy hun, y tywysogion a safent yn erbyn hyny." "Ond, O Arglwydd Frenin!" ebe Hengist, "caniatâ i'th was gymmaint o dir i adeiladu castell, ag yr amgylchyna carai." "Ti a geffi gymmaint a hyny yn rhwydd," ebe Gwrtheyrn. Ac ar hyny y cymmerth Hengist groen tarw, ac a'i holltodd yn un garai, ac yn y lle cadarnaf, efe a amgylchynodd gymmaint a chae gweddol o dir, ac a adeiladodd yno gaer freiniol, yr hon a elwid gynt gan y Brytaniaid, Caer y Garai, eithr yn awr gan y Seison, Doncaster, hyny yw, Thong-chester.[8]

Ac yna Hengist a wahoddodd y brenin i weled y gaer newydd, a'r marchogion a ddaethant o Germani, a gwnaethpwyd yno wledd fawr o bob moethau da ac ammeuthyn fwydydd dantaith. Ond yn niwedd y cwt (a Hengist yn gwybod eisys mai dyn mursenaidd oedd Gwrtheyrn), efe a barodd i'w ferch Rhonwen wisgo yn wych odidog am dani, ac i ddyfod i'r bwrdd i lenwi gwin i'r brenin. A daeth ystryw Hengist i ben wrth fodd ei galon; canys y brenin anllad a hoffodd yr eneth, ac a ddymunodd gael cysgu gyda hi y noson hòno; a hithau,

"Yr eneth frau anniwair,
Ni ddyd wich, ni ddywad air," [9]

ond cydsynio yn ebrwydd ag ef; a phan geryddwyd ef am ei bechod a'i loddest gan Fodin, Esgob Llundain, megys y gweddai i wr o'i broffes wneuthur, y brenin, yn ei wŷn gynddeiriog, a ergydiodd waewffon at ei galon, ac a gymmerth Ronwen yn gariadferch iddo. Geiriau'r cronicl ynt, "A chwedi meddwi Gwrtheyrn, neidio a orug diawl yntho, a pheri iddo gydsynio â'r baganes ysgymmun heb fedydd arni."

"Tanbaid ei naid yn ei ol,
Tanbeidiach na'r tân bydol."

TUDUR ALED A'I CANT.

Wedi i hyn ddyfod cystal i ben wrth fodd y Seison, yna dysgwyl a wnaethant am amser cyfaddas i ruthro ar eu meistraid. Yn gyntaf, achwyn a wnaethant nad oedd eu cyflog agos cymmaint ag oedd eu gwroldeb yn eu haeddu. Er nad oedd hyn ddim oll ond cweryl gwneuthur, eto i gau eu safnau cawsant ychwaneg,[10] yr hyn a'u dystawodd dros ychydig. Ond, megys y dywed y ddiareb, "Hawdd gan foneddig fin-gamu," felly hefyd hawdd yw digio dig, canys yr un don hagr oedd fyth yn bytheirio yn eu safnau, "nad oedd dim cystadledd rhwng eu cyflog a'r gwasanaeth oeddent hwy yn ei wneuthur.” "A raid i ni," ebe hwy, "fentro ein hoedlau am ffiloreg ac ambell geiniog gwta, i'ch cadw chwi yn ddiogel a difraw i ymlenwi mewn tafarnau, ddynionach musgrell segur ag ydych? Na wnawn ddim: ni fedrwn ranu arnom ein hunain."

Ac felly yn wir y gwnaethant y ffordd nesaf; canys ar ol dyfod rai miloedd o honynt drachefn o Germani, a hwy yn awr yn gweled eu hunain yn gryfion eu gwala o nifer, a chwedi heddychu â'r Brithwyr, rhuthro a wnaethant ar y trigolion, megys cynnifer o gigyddion annhrugarog yn ymbesgi ar waed, heb arbed na dyn na dynes, na boneddig na gwreng, nac hen nac iefanc. Nid oedd o gylch Tafwysg, Caint, a Llundain, a'r wlad oddi amgylch hyd at Rydychain (ac ni chyrhaeddodd crafangau plant y felldith[11] ddim llawer pellach), ddim ond yr wbwb gwyllt, ac oernad, ac ymdrabaeddu mewn gwaed, a drychau tosturus y meirw. Ac ar lan Hafren, o Gaerloew i'r Amwythig, ac oddi yno tua Chaerlleon Gawr, yr oedd y Brithwyr hwythau, rhai â chleddyfau, rhai ấ gwaewffyn, rhai â chigweiniau, a rhai â bwyeill daufiniog, yn dieneidio ac yn difrodi mor ysgeler a phan y bo llifeiriant disymmwth gan gafod twrwf yn ysgubo gyda'r ffrwd, ac yn gyru bendramwnwgl dai a daiar, deri a da, a pha beth bynag ag a fo ar ei ffordd: felly nid oedd ond drychau marwolaeth a distryw o'r dwyrain hyd y gorllewin. Y trefydd a'r dinasoedd oeddent yn fflamio hyd entrych awyr; yr eglwysydd a'r monachlogydd a losgwyd hefyd â thân, ac a fwriwyd i lawr yn gandryll. Ac o herwydd mai yno gan mwyaf y ciliodd y gwŷr İlên, yr esgobion, yr offeiriaid, a gweinidogion crefydd, megys i gynnifer dinas noddfa (ond ni wnai y barbariaid ysgeler ddim rhagor rhwng lle cyssegredig a beudy), yr esgobion, yr offeiriaid, &c., a ferthyrwyd megys ereill, lle y byddai eu haelodau yn gymmysg blith draphlith â thalpau chwilfriw yr adeilad! Y rhai a laddwyd ar wyneb y maes a adawyd yno yn grugiau draw ac yma, naill ai i bryfedu a drewi, neu fod yn borthiant i'r cŵn a'r bleiddiau, ac adar ysglyfaeth! Ar air, preswylwyr y fro a ferthyrwyd agos drwy bob cantref yn Lloegr, ond y sawl a allodd ddianc, yng nghyd ag ychydig luniaeth, i'r ogofäu a'r anialwch. Ond gwŷr blaenau gwlad a'r mynydd—dir a ymgadwasant heb nemawr o daro, ond a gawsant o gyffro. Wedi i'r ffeilstion digred, plant y fall, o'r diwedd flino lladd a llosgi, y rhan fwyaf o honynt (ausier am ba achos) a ddychwelasant adref i Germani. [12] Tybia rhai mai yr achos o'u myned mor ddisymmwth i dir eu gwlad, oedd, rhag y buasai sawyr y celaneddau meirw y rhai a adawsant yn bentyrau ar wyneb y maes, heb feddrod, beri afiechyd, a bod yn bla iddynt; ond barn ereill yw, iddynt lwytho eu cylla cigfreinig yn rhy dyn, ac iddynt ddewis, er mwyn cael eu cynnefinol iechyd, fyned adref dros ennyd i dir eu gwlad, er cael budd a llesâd y fôr-wybr. Y naill neu'r llall oedd yn ddilys ddigon yr achos, neu ond odid bob un o'r ddau, sef drygsawr y celaneddau, ac ymlenwi nes bod yn dordyn. Ond myned adref yn ddiammheu a wnaethant; a chyn belled ag y gellir casglu oddi wrth hen hanesion, hwy a arosasant gartref bum mlynedd neu chwech cyn eu dyfod drachefn i Ynys Brydain. Canys yn y flwyddyn o oedran Crist 449, y gwahoddwyd hwy gyntaf drosodd: o gylch deng mlynedd y buont yn weision cyflog yng ngwasanaeth y Brytaniaid i ymladd drosynt, cyn iddynt yn felltigedig dori eu hammod a rhuthro arnynt; ac nid oes dim son am danynt mwyach nes y flwyddyn 465. Ond boed hyny fel y myno, wedi i weddillion y Brytaniaid ymgynnull o'r tyllau ar ol y lladdfa echrydus uchod, a galw yn egnïol ar Dduw am ei gymhorth, difreinio Gwrtheyrn a wnaethant (ac nid oedd efe ond trawsfeddiannwr ar y cyntaf); a gosod y goron ar ben câr iddo a wnaethant a elwid Gwrthefyr, yr hwn, am ei fod yn wr arafaidd a duwiol, ac eto yn llawn calondid, a gyfenwir Gwrthefyr Fendigaid.

Ar eu gwaith yn bwrw heibio Gwrtheyrn o fod yn frenin, mab iddo a elwid Pascen, o'i lid a'i chwerwder yn gweled gwr arall yn gwisgo coron y deyrnas, a ymadawodd â'r wlad, ac a aeth (Suddas bradychus ag oedd!) yn union at y Seison, a chymmodi a wnaeth efe â hwy, a myned yn un—gar unesgar. A'r bradwr hwnw (a bradwr o hyd a fu distryw Brydain) a fu, ond odid, yr achos penaf o'u dyfodiad y waith hon i Frydain, i ddial y sarhâd o ddifreinio ei dad. Ond gwell a fuasai iddo ef a hwythau fod yn llonydd; canys am y brenin duwiol Gwrthefyr, cymmaint oedd yr enw am dano wedi ymdaenu ar led, fel y bu hoff gan galonau holl ieuenctyd y deyrnas ddwyn arfau dano: ac yntef a osodes ar y llu, yn nesaf ato ei hun mewn awdurdod a gallu wr graslawn a elwid Emrys Benaur, tad yr hwn, yng nghyd â'r rhan fwyaf o'i gyfneseifiaid, a laddwyd yn y mwrdra creulawn a soniwyd am dano uchod. A gwr rhagorol oedd hwn hefyd; canys heb law ei fod yn rhyfelwr enwog, efe " a rodiodd o flaen Duw mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon," ac eto fel llew i ymladd dros fraint ei wlad a'r Eglwys Gatholig. Ac a hwy â'u hymddiried yn yr Arglwydd Dduw, ac yn glynu wrtho â'u holl galon a'u holl enaid, ar waith y ddwy gad yn bloeddio i'r frwydr, Emrys a weddïodd ar yr Arglwydd â'i holl egni; ac yno y ddau lu a ergydiasant yn ffyrnig y naill at y llall, a buan y cuddiwyd y maes â chelaneddau y clwyfus a'r meirw. Emrys, o hono ef, oedd ar farch rhygyngog yn gyru megys mellten o restr i restr, i osod calon yn ei wŷr rhag bod neb o honynt yn llaesu ac yn troi ei gefn ar y gelynion; a thrwy borth Duw, y Brytaniaid a ennillasant y maes, [13] a'u gelynion a wasgarwyd; rhai yn ffoi gyda'r Brithwyr i Isgoed Celyddon, neu Ysgotland, ac ereill i dir eu gwlad y tu draw i'r môr. O gylch y flwyddyn o oedran Crist 465 y bu hyny.

Er ennill y maes ar y gwŷr arfog, a'u hymlid ymaith, eto chwith fu gan y Brytaniaid ruthro ar y gwragedd a'r plant a adawodd y Seison ar eu hol; ond eu gadael a wnaethant i fyw yn llonydd yn y wlad. Ond " Ond "gwneler cymmwynas i ddyn drwg, ac efe a dâl y mawr ddrwg am dano:" ymgoledded dyn sarff yn ei fynwes, ac efe a fydd debyg o gael ei frathu; ac medd hen ddiareb, "Cos din taiog, ac efe a g—ch yn dy ddwrn." Ac felly yma Rhonwen hithau, y Seisones, merch Hengist, a gordderchwraig Gwrtheyrn, yn lle bod yn ddiolchgar am y tiriondeb a'r ffafr a ddangoswyd iddi hi a'i heiddo, a osododd ei synwyr ar waith i wenwyno y brenin da, Gwrthefyr Fendigaid; a thuag at ddwyn ei hystryw uffernol i ben, hi a roddes yr hanner o'r holl drysor a'r a feddai hi yn y byd, i lanc o ysbryd eofn ac ysgeler a elwid Ebissa; ac yntef a ymrithiodd megys garddwr, ac ar foregwaith tra yr oedd y brenin yn rhodio yn ei ardd, y bradwr du a'i hanrhegodd â thusw o flodau briallu, â mwg gwenwyn marwol wedi anadlu arnynt.[14] Ac yno pan gydnabu Gwrthefyr ddarfod ei wenwyno (ond y bradwr a ddiangodd ymaith yn ddystaw at Rhonwen), "efe a barodd alw ei holl dywysogion ato, a chynghori a orug bawb o honynt i amddiffyn eu gwlad a'u gwir ddled rhag estrongenedl. A rhanu ei gyfoeth a wnaeth efe i bawb o'r tywysogogion a gorchymmyn llosgi ei gorff, a rhoddi ei ludw mewn delw o efydd ar lun gwr, yn y porthladd, lle bai estrongenedl yn ceisio dyfod i dir, gan ddywedyd, mai diau oedd na ddeuent fyth tra y gwelent ei lun ef yno." Ond wedi marw Gwrthefyr, ni wnaeth y tywysogion megys yr archasai efe iddynt, ond ei gladdu ef yng Nghaerludd a wnaethant. Y fath oedd dewrder ac arial calon y brenin godidog hwn, fel megys y bu efe yn ffrewyll yn ystlysau'r Seison tra y bu efe byw, felly efe a chwennychai fod yn ddychryn iddynt hyd yn oed ar ol ei farw. Ond ebe'r bardd:

"Er heddwch nac er rhyfel,
Gwenynen farw ni chasgl fêl."

A glybuwyd son erioed am bobl mor wallgofus ac ynfyd ag a fu y Brytaniaid ar hyn o bryd? Canys Gwrtheyrn, yr hwn a ddifreiniasant rai blynyddoedd o'r blaen am ei ddiddarbodaeth yn bradychu ei wlad i ddwylaw estroniaid, a gas y llywodraeth yn ei law eto. Ac nid oedd Rhonwen yn ewyllysio ond dyfod hyny i ben; canys wedi ei sicrhau ef yn y freniniaeth, hi a anfonodd yn chwipyn genadon hyd yn Germani, i ysbysu i'w thad iddi hi yn ystrywgar ddigon wneyd pen ar Wrthefyr, a bod Gwrtheyrn, gwr ag oedd hoff ganddo genedl y Seison, wedi ei ddyrchafu i eistedd ar yr orseddfainc yn ei le. "Ha ha," ebe Hengist yno wrth ei wŷr, "y mae i ni obaith eto; oes." A hwy a'i hatebasant ef â gwên ddiflas, "Gobaith ansier iawn ydyw hyny; canys nyni a ddirmygasom ormod ar y Brytaniaid eisys, a phobl lewion ydynt hwythau wedi llidio." "Ffi! ffi!" ebe Hengist, 66 na lwfrhäed eich

calon, yr ŷm ni yn gyfrwysach na hwy; pan ballo nerth, ni a fedrwn gynllwyn." Ac yna, efe a gynnullodd yng nghylch pymtheg mil o wŷr arfog, heb law gwragedd a phlant, ac a hwyliodd drosodd i Frydain mor ebrwydd byth oedd bosibl; canys efe a wyddai mai "hawdd cymmod lle bai cariad:" y fath oedd ei hyder ar y brenin hannercall hwnw Gwrtheyrn. Ond pan welodd y Brytaniaid y fath lynges fawr (o gylch deugain o ysgraffau) yn hwylio parth ag atynt, sicrhau y porthladd a wnaethant fel nad allent dirio. Ac ar hyny y gosododd Hengist arwydd tangneddyf i siomi y Brytaniaid, ac a ddanfonodd genadon i fynegu i'r brenin, mai nid er molest yn y byd yr hwyliodd efe i Frydain y waith hòno, â'r fath lu ganddo, ond i gynnorthwyo'r brenin i ennill ei goron, yr hon a gipiwyd yn anghyfiawn oddi wrtho; "Canys ni wyddem ni ddim amgen," ebe hwy, "onid oedd Gwrthefyr eto yn fyw, ac yn trawsfeddiannu y goron." "Teg iawn," ebe Gwrtheyrn, ac a ddiolchodd iddynt am eu cariad. "Boed gwiw gan eich mawrhydi gan hyny," ebe hwy, "i appwyntio rhyw ddiwrnod, fel y caffo Hengist ein harglwydd gael siarad wyneb yn wyneb â'ch breninol uchelder." "O ewyllys fy nghalon," ebe Gwrtheyrn. "Ond, O arglwydd frenin," ebe hwy eto, "fel yr ymddangoso yn eglur i'r byd ein bod ni yn heddychol ac ar feddwl da, deued pawb yn ddiarfog i'r lle gosodedig a welo eich mawrhydi chwi yn dda i'w benu arno. "Da y dywedwch," ebe Gwrtheyrn; "ac nyni a gyfarfyddwn ddydd calan Mai nesaf, yng ngwastadedd Caer Caradog."

Wedi i Hengist fel hyn ymgynhesu â'r brenin didoraeth (a "hawdd cynneu tân yn hen aelwyd"), yno ei ferch Rhonwen a ddaeth i ymweled ag ef, ac adrodd wrtho mor ddichellgar y bu hi i wenwyno Gwrthefyr. "Da merch i!" ebe Hengist, "wele merch dy dad yn llwyr wyt ti; mi a ddywedaf hynny am danat."

Hengist ar hyny a barodd alw yng nghyd ei farchogion; ac ar ol adrodd mor ystrywgar y darfu Rhonwen wenwyno Gwrthefyr Fendigaid, yna efe a ddywad wrthynt, ""Dydd calan Mai nesaf yr ym i gyfarfod â phendefigion y Brytaniaid dan rith i wneyd ammod o heddwch â hwy; ond yn wir ddiau ar fedr eu lladd bob mab gwraig, cystawcwn ag ydynt. Canys wedi i ni ladd y goreuon, e ddyd hyny gymmaint o fraw yn y gwerinos taiog, fel na bo galon yn neb i'n gwrthsefyll. Ond i ddwyn i ben hyn o orchwyl yn gyfrwys, dyged pawb o honoch gyllell awchlem ddaufiniog, megys cyllell cigydd, yn ei lawes; a phan ddywedwyf fi wrthych, "Nemet eour saxes' (h.y., Ymafled pawb yn ei gyllell'), Iladded pawb y nesaf ato. Wele gorchymmyn a gawsoch; ymddygwch fel gwŷr, ac nac arbeded eich llygaid. Ar y dydd appwyntiedig, cyfarfod a wnaethant; ac er chwaneg o argoelion cariad, Hengist a'u perswadiodd yn hawdd i eistedd Fritwn a Sais bob yn ail, blith draphlith o amgylch y byrddau. Ond wedi ciniawa a dechreu myned yn llawen, y cododd Hengist ar ei draed, ac a waeddodd, "Nemet cour saxes." yn ddiattreg ymaflyd a wnaeth pob un gyda'r gair yn ei gyllell, a thrywanu y nesaf ato, a hyny gyda chyn lleied o dosturi a phan y bo cigydd yn gollwng gwaed mochyn. Ychwaneg na thri chant o bendefigion a goreuon y deyrnas a ferthyrwyd yn dra mileinig, yn y wledd waedlyd hòno ar ddydd calan Mai. Ond Eidiol, iarll Caerloew, a ddiangodd yn ddidaro, o nerth trosol a gafas efe dan ei draed, ac â'r trosol hwnw, efe a laddodd ddeng wr a thrigain[15] o blant y fall, y Seison; canys gwr glew oedd hwnw. Er nad oedd ganddo ond trosol, eto ni a welwn wirio hen ddiareb, "Ni ddiffyg arf ar was gwych.' Ac medd diareb arall, "Glew a fydd llew hyd yn llwyd." Y flwyddyn o oedran Crist 472 y bu hyny.

Fe ddamweiniodd i mi weled un o'r cyllyll hirion hyny, ac un hagr hell oedd hi. Y llafn oedd yng nghylch saith modfedd o hyd, ac yn chwaneg na hanner modfedd o led, ac yn ddaufiniog bum modfedd o'r saith. Ei charn oedd elephant [a] a manylwaith cywrain arno, a llun benyw noeth â bwl crwn yn y llaw aswy, a'r llaw ddeheu ar ben ei chlun. Ac yr oedd llun gwas ieuanc wrth y tu deheu o honi â'r haul o amgylch ei ben. Ei gwain oedd elephant hefyd, wedi ei gweithio yn gywrain iawn. Ac meddant hwy, yr oedd y gyllell hon yn un o'r rhai fu gan y Seison yn lladd penaethiaid y Cymry. "Gwae ddydd annedwydd anwir!

Gwae rhag yr hell gyllell hir!
Cyllell hir cuell a llem,
Callestr-fin holl-drin hylldrem.J

"Dagr garnwen, gethern gythrawl,
Neddai ddu a naddai ddiawl.
Yn ei efail y'th luniwyd,
Dart y diawl a'i hawl ef wyd."

IOLO GOCH A'I CANT.

Wedi ymdaenu y newydd galarus o'r mwrdra hwn ar led, y werin bobl a fu agos i ammhwyllo gan ofn, megys ysgolhaig ieuanc, newydd fyned i'r ysgol, yn cyffro bob cymmal ar weled meistr gerwin yn ystwytho llanc diwaith na fyn edrych ar ei lyfr. Nid oedd y pryd hwnw gan y Brytaniaid ddim ychwaneg na saith mil o wŷr arfog, y fath ag oeddent; ac ni a allwn ddal sylw mai pobl anghall o hyd oeddent yn hyn o beth, sef yn gadael y milwyr i fyned ar wasgar ar ol iddynt hwy unwaith gael y trechaf ar eu gelynion. Beth oedd saith mil o wŷr mewn teyrnas â chymmaint o ergyd barbariaid arni? Ac yma, ar waith y llu egwan hwnw, heb yn awr un uchel gadben o wr profiadol calonog yn flaenor arnynt (canys Emrys Benaur a ddiswyddwyd ar ol dyfod Gwrtheyrn i reoli eilwaith); ar eu gwaith, meddaf, yn llaeswynebu eu gelynion, hwy a sathrwyd gan y Seison, megys march rhygyngog yn tori crin-gae, neu megys y difa fflam o dân berth o eithin crin. A'r Seison yno a oresgynasant y cwbl o gylch Llundain a'r wlad o amgylch, heb feiddio o neb symmud ei dafod yn eu herbyn.

Gwrtheyrn yno, dyn pendreigl ag oedd, a aeth ar encil tua Gwynedd; ac megys Saul yn ei gyfyngdra yn ymgynghori â'r ddewines o Endor (1 Sam. xxviii.), felly yntef a ymgynghorodd â'i ddoethion (gwŷr ond odid ddim callach nag yntef) yng nghylch pa beth oedd oreu wneuthur yn y fath adfyd a chaledi. A'u barn hwy oedd yn un a chytûn, i adeiladu castell o fewn Eryri, fel y caffent ryw breswylfa ddiogel mewn lle anial allan o olwg y byd. Ond cymmaint a adefledid y dydd (os gwir yw'r chwedl) a syrthiai yn y nos; ac ni ellid mewn modd yn y byd beri i'r gwaith sefyll. A'r brenin a ymofynodd a'r dewiniaid, a'i ddeuddeg prif—fardd, ond ni fedrent beth i ateb. "Ond," ebe un o honynt ag ychydig fwy o synwyr pen ynddo nag yn y lleill, "dywedwn rywbeth ammhosibl i fod, rhag na bo anair i'r dewiniaid." Felly, ym mhen ychydig, megys pe buasent wedi hylldremio ar y planedau, adrodd a wnaethant, "Pe caid gwaed mab heb dad iddo, a phe cymmysgid hwnw â'r dwfr a'r calch, fe saif y gwaith.' "Garw yw eich chwedl," ebe Gwrtheyrn; ac yn gall ei wala yn hyn, megys ym mhob beth arall, efe a anfonodd swyddogion i bob man o Gymru (canys yng Nghymru yr oedd ganddo awdurdod eto) i ymofyn pa le y ganesid un mab heb dad iddo. A gwedi tramwyo gan mwyaf yr holl ardaloedd er cryn ddifyrwch i'r bobl, y daeth dau o honynt i dref a elwid Caerfyrddin, ac ym mhorth y ddinas, y clywent ddau lanc ieuainc yn ymdaeru: enw'r naill oedd Myrddin, a Dunawd y llall. Ebe Dunawd wrth Myrddin, "Pa achos yr ymrysoni di â myfi? canys dyn tyngedfenol wyt ti, heb dad, a minnau sydd o lin breninol o ran tad a mam." "Boed wir dy chwedl," ebe'r cenadon yno wrth eu gilydd, ac a aethont at faer y dref i ddangos eu hawdurdod i ddwyn Myrddin a'i fam at y brenin i Wynedd. Gwedi eu dyfod ger bron, Gwrtheyrn a ofynodd mab i bwy oedd y llanc. A'i fam a atebodd, mai hyhi oedd ei fam, ond nas gwyddai hi pwy oedd ei dad. "Pafodd y gall hyny fod?" ebe'r brenin. "Un ferch oeddwn," ebe hi, "i frenin Dyfed; fy nhad a'm rhoddes i yn fynaches yng Nghaerfyrddin; ac fel yr oeddwn yn cysgu ryw noswaith rhwng fy nghyfeillesau, mi a dybiwn yn fy hun fod rhyw was ieuanc tecaf yn y byd yn ymgydio â mi, eithr pan ddihunais, nid oedd yno namyn fi a'm cyfeillesau; a'r amser hwnw y beichiogais i, ac a ganwyd y mab rhacw: ac i'm cyffes i Dduw, ni bu i mi achos gwr ond hyny." A rhyfeddu a wnaeth y brenin yn fawr i glywed hyny," ac a archodd ddwyn Meugain ddewin ato, ac a ofynodd iddo, a allai hyny fod. "Gall, O frenin," eb efe, ac a draethodd ei resymau, y fath ag oeddent, i brofi hyny. [16] Y brenin ar hyny a ddywad wrth Myrddin, "Y mae yn rhaid i mi gael dy waed." "Pa les a wna fy ngwaed i mwy na gwaed dyn arall ?" ebe Myrddin. "Am ddywedyd o'm deuddeg prif-fardd y pair dy waed di i'r gwaith sefyll yn dragywydd," ebe'r brenin. A Myrddin yno a ofynodd i'r dewiniaid am yr achos ag oedd yn llestair ac yn rhwystro'r gwaith; a phryd nas gallasant roddi ateb iddo, efe a'u galwodd yn dwyllwyr a bradwyr celwyddog. "Yr achos na saif y gwaith," eb efe, "yw, am fod llynclyn dan wadn yr adeilad." A phan wrth ei arch ef, y cloddiwyd y ddaiar oddi tanodd, fe gafwyd llynclyn yno yn ddilys ddigon, megys yr oedd efe yn barnu ym mlaen llaw. Y brenin ar hyny a anrhydeddodd Fyrddin, ond a barodd ladd y deuddeg prif—fardd, am eu bod yn dwyllwyr ac yn cymmeryd arnynt y peth ni wyddent. Y mae eu beddau i'w gweled yno hyd heddyw, yn adnabyddus wrth enw Beddau'r Dewiniaid.

Gwrtheyrn a symmudodd oddi yno i Ddeheubarth, i lan Teifi; ac mewn lle anial yng nghanol creigydd a mynydd-dir yr adeiladodd fath o gastell, yr hwn yn ddiau oedd y pryd hwnw mewn lle anghyfannedd ddigon, ym mhell allan o glybod a golwg y byd. Ond nid er dyben crefyddol y dewisodd efe fyned fel hyn ar encil; o blegid efe, dyn diras ag oedd, megys Ahab yntef, y gwaethaf o freninoedd Israel, "a ymwerthodd i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd." (1 Bren. xxi: 20.) Heb law ei holl ffieidd-dra arall, efe a halogodd ei ferch ei hun, [17] o'r hon y ganwyd iddo fab. Ond ni adawodd Duw mo'r fath ddireidi ysgeler yn hir, nes ymweled ag ef mewn barn; canys fel y gwlawiodd yr Arglwydd dân a brwmstan ar Sodom a Gomorrah, am eu llosgach 'u haflendid (Gen. xix.), felly yma y cafododd eirias dân wybrenol, yr hwn a ysodd yr adeilad, a phawb o'i fewn i ulw. A'r man a elwir hyd heddyw, Craig Wrtheyrn; o gylch hanner y ffordd rhwng Llanbedr Pont Stephan a Chastell Newydd yn Emlyn, ar lan Teifi, o fewn rhandir Caerfyrddin. Yn y flwyddyn o oedran Crist 480 y bu hyny.

Yn y cyfamser yr oedd y Seison hwy yn ddygn ormesol yn creuloni yng Nghaint a'r wlad o amgylch. Y pendefigion, y cyfoethogion, yr uchelwyr, a ddienyddiwyd bob mab gwraig yn y parthau hyn; ond y cyffredin a arbedwyd i fod yn gaethweision, megys cynnifer asyn llwythog, i ddwyn beichiau. Yr oedd hyn yn ddilys ddigon yn fyd caled, ac yn fywyd chwerw eu palasau, eu gerddi, eu perllanoedd, a'u gweirgloddiau, ym meddiant barbariaid annhrugarog a mwrddwyr! —y perchenogion yn gorwedd yn gelaneddau ar wyneb y maes, yn borthiant i eryrod a chigfrain! y cyffredin yn gaethweision i baganiaid ysgeler, plant y felltith, yn addoli delwau! Ond eto, y mae yn weddus i ni addef, mai pobl ddrwg fucheddol oedd y Brytaniaid hwythau—pobl yn wir wedi ymroddi i aflendid, anwiredd, a thywallt gwaed gwirion: am hyny yr Arglwydd a'u purodd hwy mewn pair cystudd, ac a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion. "Os rhodio a wnewch yn y gwrthwyneb i mi," ebe Duw wrth yr Israeliaid gynt, "yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau; a dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddïal fy nghyfammod; a phan ymgasgloch i'ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysg, a chwi a roddir yn llaw y gelyn." (Lef. xxvi. 23, 24.) Pechod yr Israeliaid hefyd oedd godineb ac ymlenwi yn nyddiau hawddfyd. "Oeddent fel meirch porthiannus y boreu; gweryrent bob un ar wraig ei gymmydog." (Jer. v. 8.) "Ond pan laddai efe hwy," h.y., pan ymwelai yr Arglwydd mewn barn â hwynt, "hwy a'i ceisient ef, ac a ddychwelent; cofient hefyd mai Duw oedd eu craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd." (Salm lxxviii. 34.)

Yr un fath bobl oedd y Brytaniaid hwythau: rhai yn ymgeisio â Duw mewn cyfyngdra, ac yn ei wrthod mewn helaethrwydd. Ac felly ar hyn o bryd, tra yr oedd y Seison trwy frad a chreulonder wedi trawsfeddiannu rhan fawr o Loegr, gweddillion y Brytaniaid a ddychwelasant at yr Arglwydd eu Duw â'u holl galon ac â'u holl egni. [18] Emrys Benaur[19] oedd yn awr eu brenin, yr hwn a fu ben capten y llu yn amser Gwrthefyr Fendigaid, megys y soniwyd o'r blaen; a chymmaint oedd ei glod wedi eangu dros yr holl deyrnas, fel prin yr oedd wr o ugain i hanner cant oed, oni chwennychai ddwyn arfau dano. A gwŷr Gwynedd a Deheudir hefyd ar hyn o bryd a ddaethant yn gymhorth cyfamserol idd eu brodyr yn Lloegr; ac, yn wir, achos da pa ham; canys fe rydd pob un fenthyg ei law i ddiffodd ty ar dân; a phob un a ymgyfyd ei arf yn ei law i daro ci cynddeiriog yn ei dalcen. Felly, a hwy yn awr yn llu cadarn, a'u hymddiried yn yr Arglwydd, myned a wnaethant yn uniongyrch, a danfon gwŷs at y gelynion i ymadael o Frydain; neu od oedd calon ynddynt i ymladd, deuent i'r maes, ac ymladdent yn deg, ac nid fel bradwyr yn cynllwyn am waed dan rith cyfeillion. Hengist ar hyny a wrychiodd (canys yr oedd yr hen gadnaw yn fyw byth, ac yn awr o gylch saith a thrigain oed); ac ar ol ymgynghori â'i frawd Hors, ac ereill o'i gapteniaid, efe a atebodd i'r pen rhingyll a anfonasai Emrys ato, fod ganddo ef "gystal hawl yn y tir a oresgynasai efe drwy nerth arfau, a'r goreu o'r Brytaniaid. Seren bren am eu bygwl."

Ar hyny, ryw bryd ym mis Mai, yn y flwyddyn o oedran Crist, 484, y bu ymladdfa greulawn rhwng y ddwy genedl; y naill yn ymwroli er gyru estron—genedl, bradwyr a mwrddwyr, allan o'u gwlad, a'r llall yn ffyrnigo fel ellyllon, er cadw craff yn eu trawsfeddiant anghyfiawn. Ar ol cwympo cannoedd o bob parth, yn enwedig o blaid y Seison, dynesäu a wnaethant yn dra llidiog i ymladd law—law; a chethin oedd yr olwg i weled rhai wedi eu hollti yn eu canol, rhai â'u hymysgaroedd allan, rhai yn fyr o fraich, ac ereill yn fyr o goes. Hors a wanwyd yn ei wddf, a Hengist a ddaliwyd yn garcharor, a'r lleill, ar hyny,, a ffoisant, ond y rhan fwyaf yn archolledig a dart yn eu tu ol. Y sawdwyr yno a lusgasant Hengist gerfydd ei farf, tua phabell y brenin; a phan oedd dadl yn eu mysg yng nghylch pa beth a wneid o hono, Dyfrig, Archesgob Caerlleon ar Wysg, a gododd ar ei draed, ac a ddywad, "Petai bob un o honoch chwi am ei ryddhau ef, myfi, ïe myfi, ag wyf yn esgob, a'i drylliwn ef yn chwilfriw; canys mi a ganlynwn esampl y prophwyd Samuel, yr hwn, pan oedd Agag, Brenin Amalec, yn ei law, a ddywedodd, 'Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ym mysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger bron yr Arglwydd yn Gilgal.' (1 Sam. xv. 33.) Gwnewch chwithau, anwyl wŷr, eb efe, "yr un ffunud i Hengist, yr hwn sydd megys ail Agag." Ac ar hyny, Eidiol, Iarll Caerloew, a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd. Gyda bod y cleddyf yn ei boten, yno chwi a welech yr holl lu yn gwasgaru rhai yma, rhai acw, i geisio bob un ei gareg i daflu arno; a chyn nosi, yr oedd yno gryn garn ar ei ben, megys yr oeddid yn arferol o wneuthur â drwg weithredwyr, y rhai, oddi yma a gyfenwir yn "garn ladron." [20]

Emrys Benaur oedd yn awr yn eistedd yn ddiogel ar ei orseddfainc; a chyn gwneuthur un peth arall (nas adgyweirio ty na dinas), efe a barodd dalu diolch cyffredinol i Dduw ym mhob Eglwys blwyf a chadeiriol o fewn y deyrnas, am deilyngu o hono adael ei fendith i gydgerdded â'u harfau er darostwng y gelynion. Ac yn ebrwydd, y gweddillion o'r Seison a adawyd yn fyw a ymostyngasant ger ei fron, â lludw ar eu penau, a chebystrau am eu gyddfau, yn taer ymbil ar fod yn wiw gan y brenin i ganiatäu ond eu hoedl yn unig iddynt. Y brenin yno a ymgynghorodd â'i benaethiaid; a barn Dyfrig, yr archesgob, oedd hyn: "Y Gibeoniaid," eb efe, "a geisiasant ammodau heddwch gan yr Israeliaid, er nad oedd hyny ond mewn twyll, ac a'i cawsant. Ac a fyddwn ni, Gristionogion, yn greulonach nag Iuddewon, i gau allan y Seison oddi wrth drugaredd? Y mae'r deyrnas yn eang ddigon; y mae llawer o dir eto yn anghyfannedd; gadewch iddynt drigo yn y mynydd—dir a'r diffaethwch, fel y bônt yn weision yn dragywydd i ni." Y brenin, ar hyny, a ganiataodd eu hoedl iddynt, ar eu gwaith yn cymmeryd llw o ufudd—dod i goron Loegr, ac na ddygent ddim arfau fyth rhag llaw yn erbyn y Brytaniaid.

Chwi a glywsoch eisys fod i Wrtheyrn fab a elwid Pascen, yr hwn, pan goronwyd Emrys Benaur yn frenin, a aeth eilwaith yn llidiog i Sermania, gwlad y Seison, i'w cymhell drosodd i Frydain i ennill y deyrnas oddi ar Emrys. Ac ar ol iddo, drwy weniaith ac addewidion mawr, gynnull ato lu mawr o wŷr arfog, efe a hwyliodd gyda hwy, mewn pymtheg llong, ac a diriodd yn ddiangol yn Isgoed Celyddon, a elwir heddyw Ysgotland, lle y gadawodd efe y Seison gyda'u cydwladwyr, y rhai a arbedodd Emrys Benaur, ac a ganiataodd eu hoedl iddynt ar ddeisyfiad Dyfrig, Archesgob Caerlleon ar Wysg. Am dano ei hun, gydag yng nghylch hanner cant o wŷr ei wlad, efe a hwyliodd i'r Iwerddon, o'r lle yr oedd efe yn dysgwyl ychwaneg o gymhorth oddi wrth Gilamwri, un o freninoedd yr ynys hòno. Cilamwri a'i derbyniodd ef yn anrhydeddus, ac a adawodd iddo gael saith mil o wŷr dewisol i fordwyo gydag ef i Frydain. Pascen a'i lu a diriodd yn Aberdaugleddeu, ym Mhenfro; ac oddi yno y cerddodd yn y blaen yn llidiog (megys arthes yn ymgynddeiriogi wedi colli ei chenawon), gan ddifa a dinystrio y cwbl, tua Chaerfyrddin, glan Tywi, ac oddi yno i Aberhonddu a glan Wysg, hyd at Fôr Hafren.

Emrys, brenin y Brytaniaid, yn y cyfamser oedd yn glaf yng Nghaerwent; ac hyfryd iawn oedd y newydd yng nghlustiau Pascen, ac a ddymunasai o eigion calon ei fod efe mewn rhyw le arall nag yn nhir y rhai byw. Ac yno neidio wnaeth y diawl i galon Pascen, a dyfalu ffordd i ladd y brenin; ac fe wyddai eisys fod ganddo Sais yn ei gymdeithas (Eppa oedd ei enw) o gystal un at y fath orchwyl ag a fu erioed yn ysgoldy Belzebub. Yr oedd efe yn deall y iaith Gymraeg, yn ryw ychydig o feddyg, ac yn ddyn dewr ystrywgar hefyd. Ac fel y bai efe fod yn fradwr hollol, efe a ymrithiodd megys offeiriad, ac eto yn deall meddyginiaeth. "Wele yn awr,' ebe Pascen wrtho, "dos a llwydda; a gwybydd fyned yn ebrwydd at y Seison, i Isgoed Celyddon, ar ol gwneuthur o honot dy orchwyl: a danfon air ataf finnau." Y Sais, mewn rhith gwr crefyddol, ac yn un yn deall meddyginiaeth, a gas fynediad yn hawdd i lys y brenin, ac a roddes iddo ddïod o lysiau a gasglodd efe o'r ardd, yng ngŵydd pawb; ond efe yn ddirgel a gymmysgodd wenwyn â hi, ac o fesur cam a cham a ddiflanodd o'r golwg; a phrin y gorphwysodd efe yn iawn nes myned â'r newydd at ei gydwladwyr i Isgoed Celyddon, a'u hannog i wisgo eu harfau. Dydd du yn ei wyneb, a phob bradwr cas megys yntef!

Fe ddywedir i seren, a phaladr iddi, anfeidrol ei maint, ac yn echrydus yr olwg, ymddangos i Uthr Bendragon, ar y mynyd y bu farw Emrys ei frawd. A phan oedd Uthr, a phawb o'r rhai oedd gydag ef, yn ofni wrth edrych ar y fath weledigaeth, yno Myrddin a ddywedodd, "O genedl y Brytaniaid! yn awr yr ydych chwi yn weddw o Emrys: y colled ni ellir ei ennill; ac er hyny nid ydych yn ymddifad o frenin; canys ti a fyddi frenin, Uthr; brysia, di, ymladd â'th elynion; canys ti a orfyddi arnynt, ac a fyddi feddiannus ar yr ynys hon: a thydi a arwyddocâ y seren a welaist ti." [21]

Uthr Bendragon yno a goronwyd ar ffrwst; ac ar y fath amser terfysgus a hwn, nid oedd dim cyfle nac adeg i lawer o sermoni a rhialltwch; canys yr oedd Eppa, mab Hengist, wedi perswadio ei gydwladwyr, y Seison, eu bod hwy yn awryn rhydd oddi wrth y llw a gymmerasant i Emrys Benaur. "Beth!" eb efe, "ai gwneuthur cydwybod yr ydych o ffol eiriau ffiloreg? Emrys nid yw mwy; mi a roddais gwpanaid iddo i'ch rhyddhau o'r llw a wnaethoch iddo ef. Gan hyny, gwisgwch am danoch eich arfau; yr ŷm ni yma, o honom ein hunain yn llu cadarn; a Phascen yntef sydd â llu owŷr dewisol tua Chaerlleon ar Wysg. Y mae'r Brytaniaid wedi digaloni; wele holl gyfoeth Ynys Brydain yn wobr o'n gwroldeb." [22] Nid oedd dim achos wrth lawer o araith: yr oedd y gwŷr â'u cydwybod yn ystwyth ddigon i lyncu llw a'i chwydu allan, pan fyddai hyny at eu tro. Felly, a hwy yn awr yn llu mawr erchyll, wedi ymgaledu mewn drygioni, ac mor chwannog i dywallt gwaed a difrodi ag yw haid o gigfrain gwancus yn gwibio am ysglyfaeth, cymmeryd eu cyrch a wnaethant, gan ladd a dinystrio, i gyffwrdd â Phascen, yr hwn, erbyn hyny, oedd wedi treiddio Môr Hafren, tua Chaer Bristo. Uthr Bendragon o hono yntef a wnaeth ei ran gystal ag oedd bosibl yn y fath amgylchiadau cyfyng; canys efe a ddanfonodd bedwar rhingyll, un i Gerniw, un i'r Gogledd, un tua Rhydychain, a Llundain, ac un i Gymru, yng nghyd â llythyrau at y gwŷr mawr, i godi gwŷr, bob un yn ei fro a'i ardal, i achub y deyrnas rhag bod yn ysglyfaeth i'r fath elynion a bradwyr annhrugarog. Pa gynnorthwy a ddaeth o Loegr, ni wyddys; ond o Gymru y daeth rhyw arglwydd mawr a elwid Nathan Llwyd,[23] a phum mil o wŷr dewisol gydag ef. Ac ymgyfarfod oll a wnaethant ar dwyn, ger llaw Caerbaddon, neu'r Bath, yng ngwlad yr Haf; sef Pascen Fradwr a'i wŷr, y Seison hwythau dan Eppa a Cherdig, dau ben capten y llu; ac o'r tu arall, Uthr Bendragon a'i luoedd, a Nathan Llwyd a'i wŷr o Gymru. Yno wedi byddino eu gwŷr o bob ochr, dechreuodd yr ymladdfa greulonaf a fu, ond odid, erioed rhwng y Brytaniaid a'r Seison. Yno y gwelid y saethau yn chwifio o'r naill lu at y llall, megys cafod o gesair yn ymdyru pan fo gwynt gwrthwyneb yn eu gwthio draw ac yma. Och! pa fath olwg dosturus a fyddai gweled rhai â'u hymysgaroedd allan, a'r meirch rhyfel yn ymddyrysu ym mherfedd a choluddion ereill; ambell ddart yn nhwll y llygad, a'r dyn eto yn fyw, ac yn cynddeiriogi gan ei boen! ambell ddart yn y safn, y naill hanner y tu hyn, a'r hanner arall y tu draw i'r gwddf allan! ambell ddart yn y talcen, dros yr adfach, a'r ymenydd yn glafoerio allan! ambell ddart yn disgyn ar y llurig neu yr astalch pres, ac yn seinio yn rhonc, megys cloch! ac ambell ddart yn union at y galon, ac yn diboeni mewn mynyd. Ac am ben hyn yn lle meddygon i drin eu clwyfau, y meirch rhyfel yn ystrancio draw ac yma dros y clwyfus truain, yn briwo esgyrn rhai, yn llethu ereill, yn cernodio allan ymenydd rhai, a chalonau ac ymysgaroedd ereill.

Ďros chwech awr, nid oedd dim ond y distryw gwyllt o bob ochr, ond yn enwedig o du y Seison, megys y mae Gildas, ein cydwladwr, yr hwn a aned yn y flwyddyn hòno, yn sicrhau. Eu lluoedd, y waith hon, er eu hamled, a sathrwyd fel nad arosodd cymmaint a rhestr gyfan yn ddiglwyf; a'r maes a guddiwyd cyn dewed â chelaneddau'r meirw, fel mai nid gwaith ysgafn dros rai diwrnodau oedd eu claddu. Y frwydr hon a ymladdwyd yn y flwyddyn 495. Arthur, mab y brenin, a ymddygodd yma yn llawn calondid a medr i drin arfau. Am ba ham y mae beirdd yr oes hòno yn canu ei fawl mewn amryw bennillion ac odlau; ac ym mysg ereill, yr hen Daliesin Ben Beirdd fu'n canu:—

"Gwae hwynt—hwy yr ynfydion,[24]
Pan fu waith Faddon;[25]
Arthur, ben haelion,
(Y llafnau bu gochion)
Gwnaeth ar ei alon[26]
Gwaith gwŷr gewynion.[27]

Ni bu dim rhyfel ar ol hyn dros amryw flynyddoedd; canys y Seison a dorwyd i'r llawr y waith hon; ac hyd y gall dyn farnu ni fuasent fyth yn abl i godi eu penau drachefn ym Mrydain, oni buasai anghydfod ac anras y Brytaniaid yn eu mysg eu hunain;[28] canys ar ol iddynt gael preswylfa ddiogel, a llonyddwch oddi wrth eu gelynion o amgylch, ymroddi a wnaethant i bob aflendid ac anwiredd, gormodedd a meddwdod, anudon a dywedyd celwydd, megys pe buasent yn beiddio Duw, a dywedyd, "Ni fynwn ni ddim o'th gyfraith." Ond yn anad un drwg arall, y gwŷr mawr yn enwedig a ymroisant yn ddigydwybod i bob aflendid a godineb, yr hyn a barodd eu bod yn cynllwyn am waed, yn mwrddro eu gilydd, ac yn difrodi dros gydol y deyrnas, yn waeth eto er y lles cyffredin nag un gelyn amlwg, neu estron pellenig. Ac ym mysg amryw ddrygau ereill, beth a wnaeth rhai mewn gwŷn fyrbwyll a chynddaredd o lid, ond gollwng penaethiaid y Seison o'r carchar; y rhai, cyn gynted ag y cawsant eu traed yn rhyddion, brysio a wnaethant i dir eu gwlad, sef i Sermania, ac adrodd wrth eu cydwladwyr, er iddynt, "digon gwir, gael y gwaethaf wrth ymladd â'r Brytaniaid lawer tro, megys y mae hynt rhyfel yn ansicr, eto nid oedd hyny ond eisieu ychwaneg o ddwylaw, ac nid eisieu na chalondid na chyfrwysdra, wrth fel y gwelwn ni bethau yn dygwydd; eto," ebe hwy, "nid allwn lai na chredu oni bydd Ynys Brydain ryw bryd neu gilydd ym meddiant y Seison, ac ond odid cyn y bo hir; canys yn awr," ebe hwy, "nid oes dim ond yr annhrefn wyllt dros wyneb yr holl wlad. Gadewch iddynt i ladd eu gilydd oni flinont; ysgafnaf gyd fydd ein gwaith y tro nesaf."

Nid neb ond goreuon y Seison, eu captenaid, a swyddogion eu lluoedd, a ddiangasant y pryd hwnw o garchar, a myned i dir eu gwlad i Sermania. Tuag at am yr ysgraglach bach y werin sawdwyr, ni charcharwyd mo honynt hwy; eithr (a hwy heb un pen arnynt) a wnaethpwyd yn gaethweision i'r Brytaniaid. Ond er hyny, yr oedd y natur ddrwg yn brydio yn y rhai hyn, megys ag yn eu gwŷr mawr. Chwennych yr oeddent i godi mewn arfau, lladd eu meistraid, a bwyta brasder y wlad, ond eu bod yn ofni fod y Brytaniaid yn rhy galed iddynt megys y gwelwch chwi bedwar neu bump o gorgwn yn dilyn y sawr at furgyn, os dygwydd fod yno waedgi neu ddau yn ciniawa eisys, yna y corgwn, er cymmaint a fo eu chwant, a safant o hirbell, gan edrych o yma draw, heb feiddio peri aflonyddwch idd eu goreuon. Ond er bod eu gallu yn wan, eto yr oedd eu hewyllys yn gref; canys y drwg ag oedd o fewn eu cyrhaedd, hyny a wnaeth y dynionach hyn, sef bwrw gwenwyn yn ddirgel i'r ffynnon, lle, er ys rhai dyddiau, yr arferai Uthr Bendragon yfed o honi; canys yr oedd efe ryw ychydig allan o hwyl, a chynghor ei feddygon oedd yfed dwfr ffynnon bob boreu. Ond efe, wr glew a chalonog ag oedd, a gollodd ei fywyd gan frad y Seison; yn lle ei dynerwch iddynt, yn arbed eu bywyd, hwynt—hwy, blant annwn, a wnaethant iddo ef anrheg o wenwyn marwol.

Y fath a hyn oedd y gydnabyddiaeth a ddangosodd y gwŷr bach; ac am y blaenoriaid, y rhai a ddiangasant o garchar i dir eu gwlad, mynegu draw ac yma a wnaethant pa fath wlad odidog a rhagorol oedd teyrnas Loegr, nad oedd eu gwlad eu hunain ddim mwy i'w chystadlu â hi nag yw ysgall i ros cochion. Mynegu hefyd a wnaethant pa annhrefn ac anghydfod oedd ym mysg y trigolion, ac nid oedd dim ammheu ganddynt oni byddent berchenogion ar y wlad, os caffent hwy rydd-did i godi digon o wŷr ac arfau tuag at hyny. Ac, megys pan fo carw wedi ei glwyfo, y bydd corgwn, a bytheuadgwn, a brain, a phïod, a barcutanod, bawb o un chwant. yn llygad—tynu tuag ato, eu gyd yn blysio am olwyth o gig carw; felly yma yr ymgynnullodd amryw bobl o dylwythau ereill, heb law y Seison,[29] nes eu bod yn llu mawr iawn, o gylch ugain mil o wŷr, eu gyd â'u hergyd i gael rhan o ysglyfaeth Ynys Brydain, yr hon, yn rhy fynych ar ei lles, oedd yn glwyfus gan anghydfod a rhy aml ymbleidio o'i mewn.

Ond erbyn eu dyfod hwy i dir Brydain, yr oedd yma wr, y brenin Arthur dan ei enw, yr hwn ni roddes iddynt ond ychydig hamdden i wledda ac ymdordynu. Ar y cyntaf, yn wir, pan nad oedd neb yn eu gwrthsefyll, y gwnaethant hafog echrydus o gylch y lle y tiriasant, ac oddi yno tua Llundain; do, y fath ddistryw a phan y bo eirias dân yn difa perth o eithin crin; y fath oedd eu cynddeiriogrwydd a'u creulonder! Yn y cyfamser, y brenin Arthur a gynnullodd ei wŷr, ac a ddanfonodd wŷs (megys yr oedd efe yn ben rheolwr y deyrnas) at Caron, Brenin Isgoed Celyddon, at Caswallon Lawhir, Brenin Gwynedd, at Meurig, Brenin Deheubarth, ac at Cattwr, larll Cerniw, yn gorchymmyn pob un o honynt i arfogi eu gwŷr, gan fod y gelynion, â llu cadarn, wedi dyfod i'r wlad, ac yn distrywio y ffordd y cerddent. Pa gymmaint o wŷr arfog a ddaeth yng nghyd ar wŷs y Brenin Arthur, ni wyddys yn sicr; ond y mae yn ddilys ddiammheu nad oedd yma agos ddigon i wynebu y gelynion yn y maes. Ambell ysgarmes frwd yn wir, a fu, ac ambell ymgipris a chynllwyn; ond y Seison oedd drechaf, ac yn ymgreuloni yn dra ffyrnig. Y Brenin Arthur yno, ar ol ymgynghori â'i arglwyddi, a ddanfonodd lythyr gydag Owen ab Urien Rheged, at Hywel, Brenin Llydaw, [30] ei nai fab chwaer, i ddeisyf porth ganddo yn erbyn y gelynion. Dyma i chwi eiriau'r llythyr: [31]

"Arthur, Brenin Brydain, at Hywel, Brenin Llydaw, yn anfon anerch. Y barbariaid anystywallt, y Seison, sy fyth yn gormesu yn dra ysgeler yn ein teyrnas. Hwy a gyflogwyd ar y cyntaf, fel y mae yn ysbys ddigon i'ch mawredd, i ymladd drosom; eithr hwynt—hwy, yn lle bod yn wasanaethyddion, a fynant fod yn feistraid, yn erbyn pob gwirionedd a chyfiawnder. Ein cais ni, gan hyny, gâr anwyl, yw, ar deilyngu o honoch ddanfon yn borth i ni wyth mil o wŷr dewisol; ac y mae fy hyder ar Dduw, y bydd yn fy ngallu innau, ym mhen ychydig, wneyd attaledigaeth i chwi. Eich câr diffuant,

ARTHUR, BRENIN BRYDAIN."

Y nai, fel gwir Gristion teimladwy, a wnaeth fwy eto nag oedd ei ewythr yn geisio ganddo; canys efe a anfones yn garedig ddeng mil o wŷr; a gwŷr glewion yn wir a dewr oeddent. Y fath gymhorth a hwn a adfywiodd galon Arthur a'i Frytaniaid; ac yn ebrwydd y bu ysgarmes greulawn ac ymladdfa waedlyd, yr hon a barhaodd, agos yn ddiorphwys, dros dri diwrnod a thair nos. Ac er bod Arthur yn rhyfelwr enwog o'i febyd, ac hefyd ei wŷr yn llawn calondid ac egni i ymladd dros eu gwlad, eto y mae yn rhaid addef y gwir, hi a fu galed ddigon arnynt y waith hon. Mor ffyrnig oedd y Seison i gadw craff yn eu trawsfeddiant anghyfiawn, megys ag y drylliwyd blaenfyddin y Brytaniaid, y dydd cyntaf, a'r Seison yn eu herlid yn archolledig, nes lladd cannoedd o honynt; ond Cattwr, Iarll Cerniw, a'u hymchwelodd drachefn, a mil o wŷr meirch a thair mil o wŷr traed gydag ef. Y rhyfel a drymhaodd yr ail ddydd; ac Arthur o serch at ei genedl, a ddibrisiodd ei einioes gymmaint, megys yr aeth efe i ganol y frwydr, ym mysg ei elynion, â'i gleddyf noeth yn ei law, a elwid Caledfwlch; ac â'i law ei hun (heb law Ꭹ lladdfa a wnaeth ei farchogion) efe a wanodd dros dri chant o Seison ar hyny y lleill a ffoisant, ond nid cyn tywallt llawer iawn o waed o bob ochr. O gylch y flwyddyn 520 y bu hyn.

Erbyn hyn o amser, yr oedd goreuon Sermania (gwlad y Seison) wedi cael prawf o ddaioni a brasder Lloegr; a chymmaint oedd eu trachwant anghyfiawn i feddiannu y wlad odidog hon, fel y gwnaethant lawn fwriad yn un a chytûn na ddiffygient hwy fyth i ddyfod â gwŷr y tu draw i'r môr i oresgyn Lloegr wrth rym y cleddyf; ïe, pe gorfyddai arnynt gwbl arlloesi eu gwlad ou hun o bob copa walltog o'i mewn. O hyn y mae, na chafas y Brenin Arthur ond ychydig lonyddwch nac esmwythder yn holl amser ei deyrnasiad; canys o'r dechreu i'r diwedd, efe a ymladdodd ddeuddeg brwydr â'r Seison. Ac er hyn i gyd, er maint o ddyhirwyr a chigyddion gwaedlyd oedd ym ymwthio yma o du draw y môr, eto, oni buasai bradwyr gartref, ni roesai y brenin Arthur bin draen er eu holl ymgyrch; ond "teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun a anghyfanneddir." Felly yma, gan fod rhai yn haeru mai nid mab o briod oedd Arthur, y gwyrodd rhan fawr o'r deyrnas, ac eneinio câr iddo yn frenin o wnaethant, a elwid Medrod, yr hwn a fu chwerwach i Arthur na holl ruthrau ei elynion; canys heb law ei fradwriaeth yn erbyn y goron, a'i waith yn ymgoleddu y Seison, efe a gymmerth drwy drais, Gwenhwyfar y frenhines, ac a'i cadwodd yn wraig iddo ei hun. Dynion drwg, aflan, a chynhenus oedd yr hen Frytaniaid o hyd, gan mwyaf; a hwn yw un o'r "tri bradwyr Brydain; " y ddau arall ynt Afarwy, fab Lludd, yr hwn a fradychodd y deyrnas i Iul Caisar, a Gwrtheyrn, yr hwn gyntaf a wahoddodd y Seison drosodd.

Y mae llawer o ystorïau am Arthur, y rhai ynt yn ddilys ddigon ddim angen na hen chwedlau gwneuthur. Dywedir fod ymrafael ym mysg y Brytaniaid yng nghylch dewis brenin ar ol marw Uthr Bendragon, tad Arthur; ac i Fyrddin alw yng nghyd oreuon y deyrnas i Lundain, a gorchymmyn i'r offeiriaid weddïo Duw, ar deilyngu o hono ysbysu, drwy ryw arwydd, pwy oedd frenin teilwng Ynys Frydain; ac erbyn y boreu dranoeth, mewn careg fawr bedairochrog, y cafwyd yn ei chanol gyffelyb i eingion gof, ac yn yr eingion yr oedd cleddyf yn sefyll erbyn ei flaen, a llythyrenau euraid yn ysgrifenedig arno, nid amgen:—"Pwy bynag a dyn y cleddyf hwn allan o'r eingion, hwnw fydd frenin cyfiawn i Ynys Brydain." A phan wybu y pendefigion a'r offeiriaid hyny, hwy a roisant y gogoniant i Dduw. A rhai o honynt a brofasant i dynu y cleddyf allan, ond nis gallent. A dywedodd yr offeiriaid wrthynt nad oedd yno neb yn deilwng i wisgo coron y deyrnas. Ond Arthur a ymaflodd yn y cleddyf, ac a'i tynodd allan yn ddirwystr.

Y fath chwedlau a'r rhai hyn ac amryw o'u cyffelyb ynt gymmaint yn anfoddloni rhai dynion, megys y beiddiant daeru yn safnrwth eu gwala na fu erioed y fath frenin ag Arthur. Ond ni ddylid gwadu gwirionedd amlwg, er ei fod wedi ei drwsio â hen chwedlau ofer. Dyn allan o berfedd ei gof a fyddai hwnw a daerai na chododd yr haul erioed, o herwydd ei bod yn fachlud haul pan yr ynfydai efe hyny. Ac y mae mor ddilys ddiammheu fod y fath frenin ag Arthur a bod Alecsander; er fod hanes bywyd y naill a'r llall wedi eu cymmalu â hen chwedlau. Canys (1) y mae beirdd yr oes hòno yn crybwyll am dano yn eu pennillion. Mi a adroddais o'r blaen awdl o waith Taliesin: clywch un arall o waith Llywarch Hen:—

"Yn llongborth llas i Arthur
Gwŷr dewr, cymmynent â dur,
Amherawdr, llywiawdr llafur."

Barn rhai yw mai Llanborth, o fewn plwyf Penbryn, yng Ngheredigion, yw'r lle a eilw'r bardd Llongborth, yr hyn nid yw annhebyg i fod yn wir. Mae lle yn gyfagos yno a elwir yn gyffredin, Maesglas; ond yr hen enw yw Maes y Llas, neu Maes Galanas; ac yno, drwy bob tebygoliaeth, y lladdwyd rhai o wŷr Arthur drwy fradwriaeth Medrod. Y mae man arall yn y gymmydogaeth, o fewn plwyf Penbryn, a elwir Perth Gereint, lle wrth bob tebygoliaeth y claddwyd Geraint, yr hwn oedd uchel gadben llongau Arthur, ac a laddwyd yn Llongborth, megys y cân yr un hen fardd godidog, Llywarch Hen:

"Yn Llongborth y llas Gereint,
Gwr dewr a goettir Dyfneint,
Hwynt—hwy yn lladd, gyd as lleddeint."

(2) Heb law hyn, fe gafwyd beddrod Arthur yn niwedd teyrnasiad y brenin Harri yr Ail, o gylch y flwyddyn un mil un cant pedwar ugain a naw; a'r geiriau hyn oeddent argraffedig ar groes blwm, yr hon oedd wedi hoelio wrth yr ysgrîn, "Yma y gorwedd Arthur, brenin enwog y Brytaniaid, yn Ynys Afallon."[32] Wrth rai o bennillion yr hen feirdd y daeth y goleuni cyntaf yng nghylch y man a'r lle y claddwyd ef. Defnydd ei ysrîn ef oedd derwen gau, ac yn gorwedd mewn naw troedfedd o ddyfnder daiar.

Yr oedd gan Arthur amryw lysoedd heb law ei ben palas yn Llundain: ambell waith yng Nghaer y Gamlas, dinas hyfryd gynt yng Ngwlad yr Haf; ambell waith mewn lle a elwid y Gelli Wyg, yng Ngherniw; ac yn fynych yng Nghaerlleon ar Wysg, yr hon oedd gynt y drydedd ddinas o ran tegwch a maint drwy yr holl deyrnas, ac yn eisteddfa archesgobaeth.

Ac efe yn wr call i ragachub cynhen ym mysg ei farchogion yng nghylch y lle uchaf ar y bwrdd, dywedir mai efe oedd y cyntaf a ddyfeisiodd y ford gron, fel y gallai pawb eistedd blith draphlith yn ddiwahân, heb ddim ymryson am oruchafiaeth. A'r rhai hyn yw y cynneddfau a ofynid gan bob un o farchogion Arthur, y rhai y caniateid iddynt eistedd ar ei fwrdd ei hun: 2

"1. Y dylai pob marchog gadw arfau da, ac yn barod at bob rhyw wasanaeth a osodid arno, ai ar fôr ai ar dir.

"2. Y dylai yn wastad wneyd ei oreu er darostwng pawb a fyddai yn gorthrymu ac yn treisio'r bobl o'u hiawn.

"3. Y dylai amddiffyn ac ymgoleddu gwragedd gweddwon rhag magl a niwed maleiswyr; edfryd plant a dreisid o'u heiddo at eu gwir feddiant; a maentumio'r grefydd Gristionogol yn wrol.

"4. Y dylai, hyd eithaf ei allu, gadw llonyddwch yn y deyrnas, a gyru ymaith y gelynion.

"5. Y dylai ychwanegu at bob gweithred glodfawr, tori lawr bob campau drwg, cynnorthwyo y gorthrymedig, dyrchafu braint yr Eglwys Gatholig, ac ymgoleddu pererinion.

"6. Y dylai gladdu y sawdwyr a fyddent yn gorwedd ar wyneb y maes heb feddrod, gwared y carcharorion a'r rhai a gaethiwid ar gam, a iachäu y rhai a glwyfid yn ymladd dros eu gwlad.

"7. Y dylai fod yn galonog i fentro ei hoedl mewn pob rhyw wasanaeth anrhydeddus, eto fod yn deg a chyfiawn. "8. Y dylai, wedi gwneuthur unrhyw weithred odidog, ysgrifenu hanes am dani mewn coflyfr, er tragwyddol ogoniant i'w enw a'i gydfarchogion.

"9. Os dycer dim achwyniad i'r llys am dyngu anudon, neu orthrwm, yno y dylai'r marchog hwnw a appwyntiai'r brenin, amddiffyn y gwirion, a dwyn y drwg weithredwr i farn cyfraith.

"10. Os dygwyddai ddyfod un marchog o wlad ddyeithr i'r llys, ac yn chwennych dangos ei wroldeb, yna y dylai'r marchog a appwyntia'r brenin ymladd ag ef.

"11. Os rhyw bendefiges, gwraig weddw neu arall, a wnai ei chŵyn yn y llys ddarfod ei threisio hi, y dylai un, neu chwaneg o farchogion, os byddai rhaid, amddiffyn ei cham, a dial y sarhâd.

"12. Y dylai pob marchog ddysgu arglwyddi a phendefigion iefainc, i drin arfau yn gywrain, nid yn unig i ochelyd seguryd, ond hefyd i chwanegu anrhydedd eu swydd a'u gwroldeb."

Ni chas y Seison ddim meddiant, na'r deyrnas chwaith ddim llonyddwch parhäus, tra bu Arthur yn teyrnasu, ar ei fod efe, yn ddilys ddigon, cyn enwoced brenin a chyn enwoced rhyfelwr a'r a fu erioed yn y byd Cristionogol. Ond ar ol ei farwolaeth ef, yr hyn a ddygwyddodd yn y flwyddyn 543, tra yr oedd y fath luaws gwastadol o draw yn heidio arnom, gormes y Seison a eangodd fwy—fwy; megys cornant gwyllt, ar waith cafod yn pistyllio i lawr, sy'n rhuthro dros y dibyn, ac yn gorchguddio'r dyffryn isod â llaid, a graian, a cheryg. Ac eto ni chawsant ddim cwbl feddiant yn holl Loegr hyd yn amser Cadwaladr, o gylch y flwyddyn 664; ym mha amser y bu marwolaeth fawr iawn yn Lloegr, a elwid "pla Ꭹ fall felen." Ac o achos y pla yr ymadawodd Cadwaladr a rhan fwyaf o'r Brytaniaid tan ei lywodraeth ef, ac a aethant at eu cydwladwyr i Lydaw, yn nheyrnas Ffrainc. Dyma'r pryd y darfu i'r Seison gael cwbl feddiant yn Lloegr; ond nid yn wobr o'u gwroldeb, ond o achos cynhen ac ymraniad yr hen Frytaniaid; ac am y mynai Duw eu cospi am eu holl ffieidddra, a'u diystyrwch ar ei sanctaidd gyfreithiau. Y Brytaniaid yng Nghymru a arosasant yn eu gwlad; hwynt—hwy o Loegr (lawer iawn o honynt), a aethant gyda Chadwaladr eu brenin i Lydaw: ond ym mhen amser, sef ar ol attal y pla ym Mrydain, dychwelyd adref a wnaethant,[33] a phreswylio yn y wlad y tu hwnt i Fristo, a elwir Cerniw, [34] lle yr arosasant fyth wedyn, ond bod y iaith wedi darfod yn awr yn llwyr, oddi eithr ryw ychydig mewn naw neu ddeg o blwyfau. Ac er gwahanu yr hen Frytaniaid oddi wrth eu gilydd, sefi Lydaw, a Cherniw, a Chymru, eto llawer gwaith y gwnaethant ymgais i hyrddu ymaith y gelynion, a bod yn ben drachefn; ond gormod o ymorchest oedd hyny, ac uwch ben eu gallu; megys pan fo neidr wedi ei thori yn dair darn, e fydd pob darn glwyfus dros encyd yn gwingo, ond eto heb allu byth ymgydio drachefn. Y sawl a chwennycho hanes gyflawn am helynt tywysogion Cymru, darllened Gronicl Caradog o Lancarfan. Ar y cyntaf, un tywysog a reolai Gymru oll; ond Rhodri Mawr, yr hwn a ddechreuodd ei deyrnasiad yn y flwyddyn 843, a ranodd Gymru yn dair rhan, rhwng ei dri maib. Gosododd un yng Ngwynedd, yr ail ym Mhowys, a'r trydydd yn Neheubarth. Breninllys Tywysog Gwynedd oedd Aberffraw, ym Mon. Palas Tywysog Powys oedd ym Mathrafael; a phen cyfeistedd Tywysog Deheubarth ydoedd Castell Dinefwr, ar lan Tywi. Am hyn o beth y cân Dafydd Nanmor, yr hwn a ysgrifenodd o gylch y flwyddyn 1450.

"Tri Maib i Rodri mewn tremyn—eu câd
Cadell, 'Narawd, Merfyn,
Rhanu wnaeth yr hyn oedd un
Rhoddiad, holl Gymru rhy' ddyn'.

Wyth cant llawn a'i w'rantu,―pen rhinwedd,
Pan rhanwyd holl Gymru;
A saith deg llawn waneg Ilu,
Eisoes oedd oed yr Iesu.

"Rhanodd a gadodd er gwell,—dawn ufudd,
Dinefwr i Gadell,
Y mab hynaf o'i 'stafell,
Penaf o wŷr, pwy un well?

"Anarawd, gwastawd dan go',—yn gyfan
A gafas Aberffro,
A daioni Duw yno,
Fe biau breiniau a bro.

"Gwir, gwir a ddywedir i ddyn,—paun iefanc,
Powys gafas Merfyn:
Llyna'r modd yr adroddyn'.
Treiir rhwng y tri wŷr hyn."


Amcan Rhodri Mawr yn hyn o beth oedd er diogelwch a chadernid Cymru; fel a hwy yn gyd-dylwyth yng Ngwynedd a Deheubarth, y gallent ddyfod fel brodyr; ac o byddai raid, gydymgynnull eu lluoedd yn erbyn y Seison. Ond hi a ddygwyddodd yn llwyr wrthwyneb; canys benben yr aethant o hyny allan, fel prin y gwladychodd un tywysog heb ymgecraeth a llawer o dywallt gwaed.

Yr enwocaf o holl Dywysogion Cymru oedd Hywel Dda, yr hwn a ddechreuodd ei deyrnasiad yn y flwyddyn 940. Efe a drefnodd gyfreithiau da i'w cadw drwy holl Gymru, y rhai a arferid gan mwyaf hyd yn amser Harri y Seithfed, Brenin Lloegr, ac ŵyr i Owen Tudur, o Ynys Fon. "Pan welodd Hywel," ebe'r cronicl, "gam arfer defodau ei wlad, efe a anfones am Archesgob Ty Ddewi, a'r holl esgobion ereill a oeddent yng Nghymru, a'r holl brif eglwyswyr a oedd danynt, y rhai oeddent i gyd yn saith ugain; ac hefyd holl arglwyddi, baryniaid, a phendefigion y wlad. Ac yna y parodd i chwech o'r rhai doethaf o honynt, ym mhob cymmwd, ddyfod ger ei fron ef yn ei lys, yn y Ty Gwyn ar Daf, lle y daeth efe ei hunan, ac a arosodd yno gyda'i bendefigion, esgobion, eglwyswyr, a'i ddeiliaid, drwy'r Grawys, mewn ympryd a gweddïau am gymhorth yr Ysbryd Glan, modd y gallai adferu ac adgyweirio cyfreithiau a defodau gwlad Cymru, er anrhydedd i Dduw, ac er llywodraethu y bobloedd mewn heddwch a chyfiawnder. Ac ym mhen diwedd y Grawys, efe a ddetholodd ddeuddeg o'r rhai doethaf o'r cwbl, gyda'r doctor enwog o'r gyfraith, Blegwyryd, gwr doeth dysgedig iawn; ac a orchymmynodd iddynt chwilio yn fanwl holl gyfreithiau a defodau Cymru, a chynnull allan y rhai oeddent fuddiol, ac esboni y rhai oeddent dywyll ac ammhëus, a diddymu y rhai oeddent arddigonaidd. Ac felly yr ordeiniodd efe dair ryw ar gyfraith: sef yn gyntaf, cyfraith yng nghylch llywodraeth y llys, a theulu'r tywysog: yr ail yng nghylch y cyfoeth cyffredinol; a'r drydedd yng nghylch y prif ddefodau a breiniau neillduol. Ac yna, gwedi eu darllen a'u cyhoeddi, y perys efe ysgrifenu tri llyfr o'r gyfraith: sef un i'w arfer yn wastadol yn ei lys; yr ail i'w gadw yn ei lys yn Aberffraw: a'r trydydd yn llys Dinefwr; modd y gallai y tair talaeth eu harfer a'u mynychu pan fyddai achosion. Ac i gymhell ufudd-dod iddynt, efe a berys i'r archesgob gyhoeddi ysgymmundod yn erbyn y sawl oll a'u gwrthladdai hwynt. Yma y canlyn rhyw ychydigyn o honi:

"Barnwr a ddylai wrando yn llwyr, dysgu yn graff, dadganu yn wâr, a barnu yn drugarog. A llyma yr oed y dylyir gwneuthur dyn yn farnwr, pan fo pum mlwydd ar hugaint oed. Sef yr achos yw hyny, wrth na bydd cyflawn o synwyr a dysg hyd pan fo barf arno: ac ni bydd gwr neb hyd pan ddêl barf arno; ac nid teg gweled mab yn barnu ar wr hen. "Rheidus a gerddo dair tref, a naw ty ym mhob tref, heb gael na chardod na gwestfa, er ei ddal â'i ladrad ymborth gantho, ni chrogir.

"A oes dau frodyr, y rhai ni ddylyant gael mwy na rhan un brawd un dad un fam? Oes. O genir dau fab yn un dorllwyth y wraig, ni ddylai y ddau hyny, eithr rhan un etifedd.

"O derfydd fod ymryson, pwy a ddylyai warchadw etifedd, cyn y dêl i oedran gwr, ai cenedl ei fam ai cenedl ei dad. Cyfraith a ddywed mai gwr o genedl ei fam a ddylai, rhag i neb o genedl ei dad wneuthur brad am y tir, neu ei wenwyno. "Os ymrwym gwraig wrth wr, heb gynghor ei chenedl, y plant a ynnillir o hòno ni chânt ran o dir gan genedl eu mam o gyfraith.

Tri dyn sy enaid faddeu (h.y., euog o farwolaeth), ac ni ellir eu prynu: bradwr arglwydd, a dyn a laddo arall yn ffyrnig, a lleidr cyfaddef am werth mwy na phedair ceiniog.

"Os gwr a gwraig a ysgarant cyn pen y saith mlynedd, taler iddi ei hegweddi,[35] a'i hargyffreu,[36] a'i chowyll,[37] os yn forwyn y daeth hi. Ond os cyn pen y saith mlynedd yr ymedy hi â’i gwr, hi a gyll y cwbl ond ei chowyll.

"O derfydd bod dau ddyn yn cerdded drwy goed, ac esgynio gwrysgen ar lygad yr olaf gan y blaenaf, onis rhybuddia, taled iddo am ei lygad os cyll; ac os rhybuddia, ni thâl ddim. O derfydd bod dau yn cerdded ffordd, a chaffael o'r naill denot; os y blaenaf a'i caiff, rhaned â'r olaf; os yr olaf a'i caiff, nis rhan â'r blaenaf.

"Ni pherthyn dau boen am yr un weithred.

"Y neb a ddyweto air garw neu air hagr wrth y brenin, taled gamlwrw i'r brenin.

Pwy bynag a gwyno rhag arall, ac a fo gwell ganddo dewi na chanlyn, cenad yw iddo dewi, a thaled gamlwrw[38] i'r brenin; ac yn oes y brenin hwnw ni wrandawer. "Os dyn cynddeiriog a frath ddyn arall â'i ddannedd, a'i farw o'r brath, nis diwg cenedl yr ynfyd; canys o anian yr haint y colles efe ei enaid.

"O derfydd i ddyn brynu anifail gan arall, ac wedi ei brynu bod dannedd iddo yn eisieu, a mynu eu difwyn; cyfraith a ddywed, na ddiwygir; canys anaf eithr y croen yw; a pha le bynag ni thoro na chig na chroen, anaf eithr y croen yw.

"Sef yw mesobr[39] o caiff gwr foch yn ei goed, o'r pummed dydd cyn Gwyl Fihangel, hyd y pymthegfed dydd wedi calan Gauaf, lladded y degfed o honynt."

Cymmaint a hyn yn fyr o blegid cyfraith Hywel Dda.

Yn y flwyddyn 1108, y soddes rhan fawr o iseldir Flanders. Y trigolion, gan mwyaf, a ddiangasant, ac, a hwy heb un gartref, a ddaethant i Loegr, gan ddeisyf ar y brenin Harri y Cyntaf ar iddynt gael rhyw gwr o'r ynys i fyw ynddo. Harri oedd hael ddigon o'r hyn nid oedd ei eiddo ei hun, a roddes genad iddynt fyned i Benfro a Hwlffordd, a'r wlad o amgylch. Yn y cyfamser yr oedd y Cymry hwy benben â'u gilydd (megys dyna oedd eu hanffawd a'u hanras o hyd), a gwŷr Fflanders a gawsant yno breswylfa ddiogel, heb nemawr o daro, lle y maent yn aros hyd heddyw. O gylch can mlynedd ar ol hyny, a hwy yn afreolus, y daeth Llywelyn ab Iorwerth, Tywysog Cymru, â llu arnynt. Ond tra yr oedd efe yn gorphwys a'ilu ar Gefn Cynwarchan, yr anfonodd Seison sir Benfro geisio ammodau heddwch. Llywelyn a wrthododd eu cais, ac a fwriadodd unwaith i'w llwyr ddinystrio oddi ar wyneb gwlad Penfro. Ond ar ddeisyfiad Iorwerth, Esgob Dewi, efe a ganiataodd iddynt eu hoedÏ, ar eu gwaith (1.) yn talu iddo swm fawr o aur ac arian; (2.) yn tyngu ufudd—dod iddo ef a'i etifeddion ar ei ol; (3.) yn danfon ato ugain o'u pen bonedd i fod yn wystlon ar iddynt gyflawnu eu gair. [40]

Yn y flwyddyn 1293, y dygwyd Cymru gyntaf gan lywodraeth Brenin Lloegr: drwy frad a ffalsder, digon gwir; ac er hyny yn well, ïe, fil o weithiau yn well er lles cyffredin y wlad, nag yn amser y tywysogion, y rhai oeddent, fel bleiddiaid rheibus, mor chwannog i fwrddro eu gilydd. Canys pan fu farw Llywelyn ab Gruffydd, y tywysog diweddaf yng Nghymru o waed diledryw y Brytaniaid, y danfonodd y brenin Edward y Cyntaf at benaethiaid y Cymry i erchi iddynt ufuddhau i'w lywodraeth ef a bod yn ddeiliaid i goron Loegr. Ond yna yr atebasant, nad ymostyngent hwy fyth i neb, ond i un o'u cenedl eu hun; ac y byddai raid i hwnw fod o ymarweddiad da, ac heb air o Seisoneg ganddo. Ac yno y brenin, pan ddeallodd na thyciai mo eu bygylu, a ddychymmygodd ffalsder i'w siomi. Canys yn y cyfamser yr oedd gwraig y brenin yn feichiog, ac efe a'i danfones hi i dref Caernarfon i esgor. A phan anwyd iddi fachgen, y danfonodd Edward yn gyfrwys ei wala at benaethiaid y Cymry, gan ofyn iddynt a oeddent o'r un bwriad ag o'r blaen; a hwy a ddywedasant eu bod. "O'r goreu," ebe Edward, "mi a enwaf i chwi dywysog o'r cynneddfau pa rai yr ydych chwi yn ewyllysio. Ganwyd i mi fab yng Nghaernarfon, a hwnw a gaiff fod yn dywysog i chwi. Un ydyw ni ŵyr air o Seisoneg, ac nid all fod dim bai ar ei fywyd a'i fuchedd." Prin y buont fodlawn i dderbyn y baban; eto yn lled ddiflas, megys rhai yn yfed diod wermwd, cytuno a wnaethant: ac o hyny allan y cyfenwyd mab hynaf Brenin Lloegr, "Tywysog Cymru." Llywelyn ab Gruffydd a ryfelodd ar unwaith â holl gadernid Lloegr ac Iwerddon, ar fôr ac ar dir. Efe a soddes longau'r Gwyddelod, ac a yrodd Brenin Lloegr, a'i fab, a'i holl lu, ar ffo[41]. Ond yr hwn nid allodd holl gadernid Lloegr ac Iwerddon ei orthrechu, a gwympodd drwy frad yn ei wlad ei hun. Felly derwen fawr, breninbren y tyddyn, a saif yn ddigyffro yn erbyn ystorm, ond diffaethwr ger llaw a'i bwr hi i lawr â'i fwyall. Efe a fradychwyd ym Muallt, ar ddydd Gwener, 11fed o Ragfyr, yn y flwyddyn 1282. Ei ben a osodwyd ar ben pawl haiarn, ar dŵr Llundain, a'i gorff a gladdwyd mewn lle a enwyd o hyny allan, "Cefn y Bedd." Ond pa fan enwedigol y mae ei feddrod ni ŵyr neb o'r trigolion presennol.

"Pob cantref, pob tref yn treiddiaw,
Pob tylwyth, pob llwyth y sy'n llithraw;
Pob mab yn ei grud y sy'n udaw;
Bychan lles oedd im' am fy nhwyllaw,
Gadael pen arnaf, heb ben arnaw;
Pen pan las oedd lesach peidiaw;
Pen milwr, pen moliant rhagllaw;
Pen dragon, pen draig oedd arnaw;
Pen Llywelyn deg, dygna braw
I'r byd fod pawl haiarn trwyddaw."

GRUFFYDD AB YR YNAD COCH A'I CANT.

Nid yw anghymhwys i ddywedyd gair neu ddau yn fyr yng nghylch yr amser a'r modd y dygpwyd yr Iwerddon dan goron Lloegr. Dermot Mac Murroc, un o 5 brenin Iwerddon, wedi ei wthio allan o'i freniniaeth gan Rhydderch Mac Connar, yr hwn oedd yn chwennych bod yn ben ar yr holl ynys, a wnaeth ei gwyn wrth Harri yr Ail, Brenin Lloegr. Dermot a dderbyniwyd yn roesawgar dros ben; canys y gwirionedd yw, yr oedd Harri yn bwriadu er ys talm gael meddiant yn yr Iwerddon, ac yn awr yr oedd efe yn barnu fod y drws yn agored iddo. Felly efe a anfones gyda Dermot lu o wŷr dewisol, y rhai a diriasant yn Iwerddon dydd calan Mai, yn y flwyddyn 1170. Drwy gymhorth y Seison, Dermot yn wir a ennillodd drachefn ei randiroodd; ond yna cyn pen dwy flynedd, y brenin Harri ei hun a hwyliodd drosodd, ac a oresgynodd yr holl deyrnas dan ei lywodraeth.

Nodiadau[golygu]

  1. O altissimam sensus caliginem! o desperabilem crudamque mentis hebetudinem. Gild. 23, p. 20.
  2. Galf.lib 6.c.7,8,9.
  3. Nenn. c. 28. Vide Orig. Brit. c. 5, p . 318 , 319.
  4. Witichindus cit. a Camd. p. 123.
  5. Fe ddygwyddodd camsyniad hagr yn yr argraffiad cyntaf, lle y dywedir ddanfon llythyr at y Seison. Ni fedrent hwy air ar lyfr, na darllen nac ysgrifenu, yn yr amser hwnw.
  6. Vide Annot. in Camd. p. 123. Orig. Brit. p. 318.
  7. Beda ipse hoc asserit. Hist. Eccles. lib. 1 , c. 15.
  8. Galf. lib. 6, c. 12. Camd. in Lincolnshire, p. 471.
  9. Owen ab Llewelyn Moel a'i cânt. Impetrant sibi annonas, dari, quæ multo tempore impetitæ clauserunt (ut dicitur) canis faucem. Gild. p. 21.
  10. Impetrant sibi annonas, dari, quæ multo tempore impetitæ clauserunt (ut dicitur) canis faucem. Gild. p. 21.
  11. Ferocissimi Saxones Deo hominibusque invisi. Gild. p. 20.
  12. Cum recessissent domum crudelissimi prædones. Gild. Ep. p. 22.
  13. Queis [Sc. Britannis] victoria, Domino annuente, cessit. Gild. p. 23.
  14. Ms. Hist. vet. Membranâ scrip
  15. Gwel yr hanes am gedyrn Dafydd, 2 Sam. xxiii.
  16. Merlinus ipse natus est in Cambria, non ex incubo demone, sed ex furtivâ venere cujusdam Romani consulis cum virgine vestali. Poweli annot. in Girald. Itiner. Cambriæ. c. 8. p. 207.
  17. Vide Spelm. Concil. Britan. p. 49, et Uss. Primord. p. 386.
  18. Innumeris onerantes æthera votis. Gild. p. 22 b.
  19. Y rhan fwyaf a'u galwant ef Emrys Wledig.
  20. Hæc narratio decerpta est partim ex Hist. Brit. Galfridi, lib. 8: c. 5, 9, 7, partim ex variis. MSS. N.
  21. Galf. lib. viii. c. 15.
  22. M.S. vet.
  23. In Chronice. Sax, nominatus Nathanleod; de quo doctus Camd. plane de irat. Brit. p. 114, ed. noviss.
  24. Y Seison.
  25. Brwydr y Bath.
  26. Ei elynion.
  27. Nerthol.
  28. Cessantibus licet externis bellis, sed non civilibus. Gild. p. 23. Vid. ilid fusius usque ad p. 30.
  29. Juti, Angli, Sueci, Saxones, &c.
  30. Rhan o deyrnas Ffrainc, lle mae y Brytaniaid yn aros hyd heddyw. Y mae eu gwlad o gylch cymmaint a Chymru.
  31. MS. vet.
  32. Hic jacet sepultus inclitus Rex Arturius in insula Avallonia. Vid. Camd. p. 65. Ed. noviss. 2 Vid. Camb. Triumph. tom. 2, fol. 195.
  33. Powell's Chron. p. 8.
  34. Y mae'r wlad hon i'w gweled oddi ar amryw dwynau ym Morganwg, ac a elwir Cerniw, o blegid ei bod o'r un ddelw â chern, a'r môr o amgylch.
  35. Gwaddol.
  36. Dodrefn ty.
  37. Dillad priodas.
  38. Dirwy, fforffed, neu ffein.
  39. Mes gwobr.
  40. Powel's Chron. p. 277, 278.
  41. Powel's Chron. p. 322.