Neidio i'r cynnwys

Drych yr Amseroedd/Moeswersi

Oddi ar Wicidestun
Y Gymdeithas Genhadol Drych yr Amseroedd

gan Robert Jones, Rhoslan


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon

YMOF. Fe allai fod rhywbeth eto ar eich meddwl, y byddai yn fuddiol ei goffâu.

SYL. Chwi a wyddoch, er fod ein gwlad wedi ei dyrchafu hyd y nef o ran breintiau, fod gormodedd o blant, ac ereill, yn ddiarswyd yn halogi y Sabbath. Adroddaf hanes byr am ddau blentyn a ddaethant i ddiwedd dychrynllyd wrth halogi dydd yr Arglwydd. Yn agos i Gapel Curig, byddai plant yr ardal yn arfer ymgynull i ryw ofer-gampau ar y Sabbath; ond yn nghanol eu hynfydrwydd rhyfygus syrthiodd careg fawr o ochr y ffordd, a lladdodd un o honynt yn farw. Bryd arall, yr oedd bachgen yn dringo i olwyn oedd yn perthyn i waith mwn, ac yn ddisymwth trôdd yr olwyn nes gwasgu ei ben rhyngddi a'r mur, a dryllio ei esgyrn, a bu farw yn y fan. Bydded i blant ac ereill, oddiwrth yr esiamplau hyn, feddwl am gofio cadw yn sanctaidd y dydd Sabbath.

Yn gymaint a bod, yn mhob oes o'r byd, rai dynion yn meddu tymher haelionus ac elusengar, ac ereill yn dra chreulon ac annhrugarog, adroddaf i chwi hanes nodedig am ŵr cyfoethog, a haelionus iawn i'r tlodion, oedd yn byw yn Ysgeifiog, yn Sir Filint, tua'r flwyddyn 1739. Dygwyddodd, yn ei amser of, dymhor o gyfyngder mawr ar dlodion, ie, braidd newyn: ond po mwyaf oedd y. wasgfa ar y tlodion, mwyaf yr oedd yntau yn ymhelaethu i dosturio. Yr oedd ganddo, yn y cyfamser, faes o bys, a phan ddechreuodd aeddfedu, parodd gyhoeddi trwy yr holl ardaloedd, fod cenad i dlodion yr holl gymydogaethau gasglu faint a fynent o'r pys, a byddai lluoedd dirfawr bob dydd yn ymborthi arnynt. Wedi dyfod y cynauaf i mewn, cafodd pawb ddigonedd o fara.

Yn mhen amser gorchymynodd y meistr gasglu y gwellt ynghyd, gan feddwl nad oedd dim o'r ffrwyth wedi ei adael ar ol y tlodion; ond ar ol ei ddyrnu, cafwyd cymaint o bys ag a fyddai arferol fod flwyddyn arall. Ond er maint oedd ef yn ei gyfranu, cynyddu fwyfwy yr oedd ei gyfoeth yn feunyddiol. Yn fuan ar ol hyny priodwyd y gŵr âg un oludos o ran cyfoeth, gyfaddas iddo ei hun; wedi i hon ddechreu llywodraethu y tŷ, edrychodd yn gilwgus ar y fail fawr, â pha un y rhenid cardodau y tlodion: taflodd hòno heibio yn ebrwydd, a thrôdd allan mor annhrugarog a chybyddlyd, fel o'r diwedd nad oedd yn werth amser i'r tlawd alw wrth ei drws. Ond nid hir y bu y farn heb eu goddiweddyd yn amlwg; bu farw eu hanifeiliaid; ehedodd eu cyfoeth oddi wrthynt fel aderyn, a darostyngwyd hwynt, cyn diwedd eu hoes, i dlodi dirfawr. Nid oes un rheswm i'w roddi am hyn ond geiriau Solomon, "Rhyw un a wasgar ei dda, ac fo chwanegir iddo: rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi."

Y mae chwant arnaf, cyn i mi eich gadael, grybwyll am eneth amddifad ag oedd yn byw gyda rhai o'i pherthynasau yn Nolyddelen. Cafodd genad un tro i fyned i ymweled âg ereill o'i pherthynasau encyd o ffordd oddiyno. Ond ar ei dychweliad adref, tarawodd wrth blant ar y ffordd, a threuliodd ei hamser gyda y rhai hyny, heb gofio am y nos, a'r daith oedd o'i blaen. Wedi cychwyn, aeth yn dywyll, ac yr oedd yr eira yn gorchuddio y ddaear: dyrysodd, a chollodd y ffordd, a daeth o'r diwedd at afon; methodd fyned trwy hono heb wlychu hyd ei gwasg; teithiodd ymlaen dan wylo, yn flin arni, nes llwyr ddiffygio; nid oedd ganddi, erbyn hyn, ond ymrôi yn ochr craig i rynu i farwolaeth. Yn y sefyllfa anghysurus yma, canfu ddyn yn myned heibio iddi yn dra chyflym—gwaeddodd arno, ond nid atebodd mo honi; hithau a redodd ar ei ol of dan waeddi arno yn dra chwynfanus, nes y daeth at feudy, ac yno y collodd hi ef; aeth i mewn i hwnw, ymdrôdd yn y gwair, a chysgodd yno hyd y bore; ar ol codi adnabu y lle, a daeth adref mor fuan ag y gallodd; wedi adrodd ei hanes, aeth dyn yn union i'r lle, a chanfu ôl ei thraed hi o'r graig i'r beudy, ar hyd yr eira, heb ddim ôl neb arall. Gadawaf i chwi ac ereill farnu pwy a allai yr arweinydd fod. Y mae yr apostol yn dywedyd am yr angylion, mai ysprydion gwasanaethgar ydynt hwy, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth. A chan i'r eneth hon gael ei thueddu yn mhen amser i ddewis y rhan dda, a bod hyd ei diwedd yn amlwg mewn crefydd, pwy a all ddywedyd nad angel a anfonwyd i achub ei bywyd, fel y caffai fywyd a barhai byth. Gall y ddau adroddiad uchod ymddangos i rai mor ddiystyr ag oedd y llawnder mawr y dywedwyd am dano yn ngolwg y tywysog yn Samaria.

YMOF. Er mor felus a hyfryd oedd genyf wrando yr amrywiol hanesion a adroddasoch, eto rhaid ymadael: wele, yr haul ar gyrhaedd ei gaerau yn y gorllewin; gan hyny ni cheisiaf ddim yn rhagor genych wrth ymadael, ond crybwyll ychydig am y diwygiad sydd yn y gwledydd y dyddiau hyn.

SYL. Grybwyllais eisoes am y diwygiad yn Nghymru, a manau ereill, a ddechreuodd tua'r flwyddyn 1739, a'r modd y cafodd ei aflwyddo trwy yr ymraniad gofidus a glywsoch am dano. Tua'r flwyddyn 1762, torodd allan ddiwygiad mawr trwy amryw o ardaloedd Cymru (soniais ychydig am dano o'r blaen;) trwy hwnw cafodd yr eglwysi eu hadfywio a'u cadarnhau, a helaethu eu terfynau, trwy lawer o ardaloedd. Bu amryw ddiwygiadau ar ol hyny trwy y Deheudir a Gwynedd; a'r gwaith yn myned rhagddo yn llwyddiannus. Pan y byddai yn auaf dros amser ar rai ardaloedd, byddai manau ereill dan dywyniadau cynhes haul cyfiawnder. Ac fe allai, yn mhen ychydig flynyddoedd, byddai yr hin yn cyfnewid, y manau tywyll yn oleu, a'r lleoedd oedd yn oleu yn ddiweddar yn awr dan gwmwl. Bu yn parhau yn y dull hwnw lawer o flynyddoedd, a'r gwaith yn llwyddo yn raddol yn gyffredin trwy y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru. Ond er's rhyw gymaint o amser a aeth heibio, nid oedd effeithiau mor rymus yn cydfyned a phregethiad y gair ag y buasai yn yr amseroedd gynt: dim llawer yn cael eu hychwanegu at yr eglwysi. Yr ieuengctyd, er cymaint eu manteision crefyddol, yn myned ymlaen yn dalgryfion a diarswyd i bechu yn rhyfygus yn erbyn Duw: er dyfod yn lluoedd i wrando y gair, yr oedd yr olwg arnynt yn ddibris ac yn dra anystyriol: yr oeddynt yn ymdrybaeddu yn y pechodau mwyaf gwarthus yn ddigywilydd, megys meddwdod, puteindra, a'r cyffelyb. Yr oeddynt yn cael eu rhybuddio yn ddwys a difrifol o'r pwlpudau, a thaer-weddiwyd llawer drostynt; eto nid oedd dim yn tycio i'w diwygio.

Ond er cryfed ydoedd llywodraeth Satan ar ieuengctyd ac ereill, eto yn eu hisel-radd, fe gofiodd yr Arglwydd am ei bobl; oherwydd fod ei drugaredd Ef yn parhau yn dragywydd. Dynoethodd ei fraich a gwnaeth rymusderau. Agorwyd dyfrddorau y nefoedd, a thywalltwyd y gwlaw graslawn yn gawodydd ar y sychdir. Yna yr anialwch a'r anghyfaneddle a orfoleddasant, dechreuodd y diffaethwch flodeuo fel rhosyn. Cyflawnwyd, i raddau helaeth, yr addewid hono o eiddo Duw, "Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir. Yna y llama y cloff fel yr hydd, ac y cân tafod y mudan."

Tua'r flwyddyn 1817, ymddangosodd yr arwyddion cyntaf fod yr addewid hono ar gael ei chyflawni ar lawer ardal, mewn mesur; "Wele y gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymaith; gwelwyd blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad." Ac o bob man, Beddgelert a gafodd y fraint o fod yn flaenffrwyth y diwygiad presennol. Cyn hyn gallesid dyweyd am yr ardal hòno, "Dyma Sïon, nid oes neb yn ei cheisio." Ond yn nghanol y nos dywyll o ddigalondid, y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr: ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angeu y cyfododd goleuni. Nid oes neb yn cofio gweled yn un man arddeliad mwy grymus ar foddion gras nag a fu yn yr ardal yma, a llawer o fanau ereill. Yr oedd yr argyhoeddiadau yn fwy nerthol yn deffroi y gydwybod, yn dwysbigo y galon, a'r tywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn fwy grymus, nag y gwelwyd ef mewn rhai diwygiadau o'r blaen. Yr oedd yn rhagori ar un diwygiad a fu cyn hyn yn ei ledaeniad; canys cyrhaeddodd gradd o hono i bob sir yn Ngwynedd, a rhai o siroedd y Deheudir, a hyny yn yspaid dwy flynedd neu dair o amser; a chwanegwyd at yr eglwysi, er pan ddechreuodd, rai miloedd, rhwng yr amrywiol wledydd sydd wedi cyfranogi o hono. Chwanegwyd at gymdeithas Beddgelert ei hun ynghylch naw ugain; chwech ugain yn Mrynengan, heblaw niferoedd mawr mewn amryw fanau ereill hefyd.

Nid oes ond ychydig o ardaloedd Sir Gaernarfon heb radd o'r tywalltiadau grasol hyn arnynt. Cyrhaeddodd y gawod fendithiol hon, sef y gwlaw graslawn, fynydd-dir a dyffrynoedd Sir Feirionydd. Yr oedd y ddwy Gymdeithasfa ddiweddaf a fu yn y Bala yn dystion amlwg fod ôl llaw yr Arglwydd ar y dorf luosog oedd yn gwrando; felly Caernarfon a Phwllheli yn yr un modd; ac amryw o Gymdeithasfaoedd ereill yn lled gyffelyb. Mae Sir Ddinbych a Flint dan yr unrhyw dywalltiadau, lawer ardal o honynt, a llawer wedi eu chwanegu at yr eglwysi. Ni chafodd Sir Drefaldwyn mo'i gadael yn amddifad; mae yno mewn rhai manau gryn rifedi yn ymofyn y ffordd tua Sïon; yn dechreu codi baner Iesu i fyny, ac yn myned yn mlaen yn siriol fel tyrfa yn cadw gwyl. Y mae Sir Fôn, aml ei breintiau, yr hon a ragorodd ar lawer mewn ffyddlondeb a llafur gyda'r gwaith yn ei holl ranau, wedi profi eisoes, mewn rhai manau, felusder y grawn-sypiau, ac yn hiraethu yn fawr am gael eu profi yn helaethach. Y mae y cwmwl bychan wedi dyrchafu o'r môr, pwy a wyr nad yw y gwlaw mawr ar ddisgyn? Brysied y bore!

Mae yn Sir Aberteifi hefyd, yn y dyddiau hyn, ddiwygiad grymus iawn; sef yn Llangeitho, Tregaron, Lledrod, a manau ereill; ond gan fy mod yn ddyeithriol yno, nis gallaf roddi ychwaneg yn bresennol o hanes crefydd yn y gwledydd hyny. Gan fod cymaint o ddiystyru ac o gablu ar y tywalltiadau o orfoledd a fu, ac sydd yn awr yn Nghymru, fe allai y byddai yn addas chwilio, ai yn mhlith ein cenedl ni yn unig y mae, ac y bu, y cyffelyb weithrediadau.

Yr ydym yn clywed am effeithiau tra thebyg, trwy bregethiad yr efengyl, yn disgyn yn rymus iawn ar amryw fanau yn Affrica. Mae yr argyhoeddiadau mor llym a grymus nos y bydd amryw yn methu ymatal heb lefain allan dan y weinidogaeth, "Pa beth a wnaent i fod yn gadwedig" (a'r dagrau yn llifo i lawr ar hyd eu hwynebau duon.) Ac wedi tori eu cadwynau, a chael datguddiad o'r Cyfryngwr bendigedig yn eu hachub fel pentewynion o'r gyneu dân, bydd y fath ganiadau peraidd yn eu plith, a sain cân a moliant fel tyrfa yn cadw gwyl.

Cawsom hefyd rai hanesion tra sicr fod tywalltiadau cyffelyb i hyn yn disgyn yn rymus ar laweroedd yn rhai manau yn America, yn canlyn diwygiadau mawrion; heblaw amryw wledydd ereill, mewn oesoedd a aethant heibio, a fu gyfranog o'r un cyffelyb effeithiau ag sydd yn awr yn Nghymru. Ond ni oddef rhai i'r hen Frutaniaid ganmawl eu Duw mewn llais clodforedd â llef uchel, rhag (meddant) aflonyddu yr addoliad. Mae yn wir fod rhai yn profi gweithrediadau grymus ar eu serchiadau dros amser, heb gyfnewidiad yn y galon a'r fuchedd, yn debyg i'r hâd ar y graig, neu i'r rhei'ny a oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o'r Yspryd Glân, ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw. Pwy er hyny a all brofi, nad hâd da a hauwyd ar y graig, er iddo wywo? ac mai nid nerthoedd y byd a ddaw a brofodd y rhai hyny a syrthiasant ymaith? Ond ni fyn llawer yn ein dyddiau ni nad rhyw benboethder, neu wallgofrwydd (enthusiasm) yw y dylanwadau nerthol sydd yn gorlenwi nifer fawr o wrandawyr yr efengyl (yn enwedig dychweledigion ieuaingc:) ac am fod llawer o honynt yn gwrthgilio, y mae hyn yn eu cadarnhau nad yw y cyfan o hono ond rhyw dân dyeithr, annheilwng i neb sefyll drosto, na'i amddiffyn; ond yn hytrach y dylid dywedyd yn ei erbyn, a'i wrthsefyll. Ond wrth ganfod y ffrwythau grasol a welir ar lawer sydd yn brofiadol o hono, ni all neb diragfarn lai nag addef mai llaw Duw a wnaeth hyn. Ond yr un pryd, nid oes lle i amheu na chais y diafol, fel swynwyr yr Aipht gynt, gynhyrfu rhai o'i deulu yntau (yn enwedig rhith-grefyddwyr,) i geisio dynwared gwaith yr Yspryd Glân, er mwyn gwaradwyddo yr efengyl, a chadarnhau yr annuwiolion yn eu casineb a'u gelyniaeth at grefydd.

Ond er holl ymgeision a dichellion y gelyn uffernol, y mae diwygiad amlwg ar fucheddau cannoedd trwy y gwledydd, a alwyd trwy nerthol weithrediad yr efengyl, tan arddeliad yr Yspryd Glân, yn ei ddylanwadau nerthol, yn y blynyddoedd hyn. Mae hefyd ryw radd o gywilydd ac arswyd wedi meddiannu amryw o'r ieuengctyd gwamal, dibroffes, fel nad ydynt mewn ffeiriau, neu rhyw dyrfaoedd lluosog o'r fath, ddim mor dalgryfion, a rhyfygus, i gynal i fyny eu hysgeler annuwioldeb ag, yr oeddynt yn yr amseroedd a aeth heibio. Pa beth yw yr achos fod llawer o ardaloedd Lloegr, yr Iwerddon, ac amryw yn Scotland, yn terfysgu, ac yn codi gwrthryfel yn erbyn llywodraeth dirion Ynys Prydain? Onid eu dyeithrwch i'r Bibl, a gwir grefydd; ac o herwydd hyny nid ydynt yn ofni Duw, nac yn anrhydeddu y brenin; nac ychwaith yn arswydo cablu urddas; ond yn ymdrybaeddu mewn tywyllwch a phob ffieidddra, a llawer o honynt yn Ddeistiaid amlwg, sef yw hyny, gwadu Crist, a dwyfoldeb y Bibl: a miloedd ereill yn ymdroi yn y fagddu o Babyddiaeth, yn meddiant y tywyllwch; ac o'r farn yn hollol mai mammaeth duwioldeb yw anwybodaeth. A pha beth a ddysgwylir gan y naill na'r llail o'r rhai hyn? ond pob math o arferion halogedig a phechadurus, megys meddwdod, godineb, lladrad, celwydd, balchder, cybydd-dod, didduwiaeth, tyngu, cablu Duw a'r brenin, a chyffelyb i'r rhai hyn; am ba rai mae Duw yn dywedyd, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw: a bod digofaint Duw yn dyfod ar blant anufudd-dod. Rywfodd fe gadwyd ein cenedl ni yn rhyfedd, yn nghanol terfysgoedd, yn ffyddlawn i'r llywodraeth. Dywedodd un gŷr anrhydeddus yn y Senedd, y gallasid yn hawdd adael y Cymry allan heb son am danynt pan yr oeddynt yn sefydlu'cyfreithiau newyddion i atal ac i gospi terfysgwyr gwrthryfelgar yn erbyn y llywodraeth.

Ond pa fodd y cafodd y Cymry eu cadw mor heddychol rhagor ereill? A oeddynt wrth naturiaeth yn well na'r rhei'ny? Nac oeddynt ddim. A oedd y tlodi a'r cyfyngderau a fu arnynt yn lai, ac yn haws ei oddef, na'r caledi sydd ar y terfysgwyr? pa un bynag am hyny, nid am hyn y cafodd ein gwlad ni ei chadw mor dawel ynghanol iselder mawr ar filoedd o dlodion. Diau mai y Bibl, dan fendith Duw, a'r pregethiad o hono, ynghyd a'r Ysgolion Sabbathol i ddysgu darllen y gair, a'i drysori yn y cof; y mae yn yr ysgolion hyn hefyd (lle maent yn cael eu hiawn drefnu,) addysgu a hyfforddi ieuengctyd ac ereill yn egwyddorion gwir grefydd, ynghyda dyledswyddau perthynol i bob sefyllfa, at Dduw a dyn; a thrwy y moddion hyn (ac arddeliad yr Arglwydd arnynt,) y cadwyd ein cenedl rhag y pla dinystriol o ddidduwiaeth, a gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth. —O! Gymru, dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di.

Rhaid ymadael bellach, fy nghyfaill caredig. Ychydig a feddyliais pan gyfarfum chwi, y buasai ein hymddiddanion yn parhau cyhyd: methu yr oeddwn adael eich serchiadol gyfeillach, gan ystyried hefyd mai un o fil y cawn gymaint a hyn o gymdeithas â'n gilydd mwyach ar dir y rhai byw. Mae yr oriau bron a dirwyn i ben, pan y bydd y cyfan a welir yma is yr haul yn ein gadael, fel mantell Elias gynt. Duw yr heddwch a'ch llwyddo, ac a'ch cynyddo ymhob gras, hyd ddiwedd eich taith. Nos dda i chwi, byddwch wych.

YMOF. Yr wyf yn dra diolchgar i chwi, fy anwyl gyfaill, am eich cymdeithas ddiddanus, ac am yr hanesion tra rhyfedd a adroddasoch i mi; pa rai oedd yn deilwng o fod coffadwriaeth am danynt yn ysgrifenedig i'r genedlaeth a ddêl; gan hyderu y bydd yn ddifyr gan amryw eu ddarllen pan y byddom ni yn llechu yn dawel yn ngharchardy tywyll angeu. Yr wyf yn teimlo hiraeth yn fy llenwi wrth feddwl (fel y soniasoch) nad yw yn debyg y cawn weled ein gilydd mwy tu yma i'r byd tragywyddol. Ond er hyny yr ydym yn hyderu, trwy rad drugaredd, yn enw, a thrwy iawn ac eiriolaeth y Cyfryngwr Iesu Grist, y cawn gydgyfarfod yn yr aneddle lonydd, heb ymadael mwy; lle cawn weled ein Gwaredwr heb len, a bod yn debyg iddo, a byw byth yn ei nefol gymdeithas. A chan eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr wyf yn cymeryd fy nghenad oddiwrthych, dan golli dagrau; er hyny ni allaf lai na chanu ynghanol fy ngalar, ddymuniad yr hen fardd am lwyddiant yr efengyl:

Os wyt ti am ddybenu'r byd,
Cyflawna ar frys Dy Air i gyd,
Dy Etholedig galw yn nghyd
O gwmpas daear fawr;
Aed sain dy efengyl trwy bob gwlad,
A golch fyrddiynau yn dy waed,
A dyro iddynt wir iachad;
Ac yna tyr'd i lawr.






CAERNARFON: ARGRAFWYD GAN H. HUMPHREYS.


Nodiadau

[golygu]