Drych yr Amseroedd/Ymddiddan Rhwng Ymofyngar a Sylwedydd
← Dangoseg | Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhoslan golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Mr. Wroth, Mr. Walter Cradoc, Mr. William Erbury → |
YMDDIDDAN
RHWNG
YMOFYNGAR A SYLWEDYDD
YMOFYNGAR. Da genyf eich gweled, fy hen gyfaill caredig, ar dir y byw.--Yn ddiweddar bum yn meddwl am danoch, ac yn hiraethu am eich gweled.
SYLWEDYDD. Dywed yr hen ddiareb, mai "Gynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd." Nis gallaf adrodd mor dda genyf gyfarfod â chwithau eto unwaith cyn myned i lwch y bedd. Ond pa beth yn fwyaf neillduol oedd ar eich meddwi, pan yr oeddych cymaint eich awydd am fy ngweled?
YMOF. Myfyrio yr oeddwn ar y gwaith rhyfedd a wnaeth yr Arglwydd, o'i fawr drugaredd, yn yr oesoedd diweddaf drwy yr efengyl yn Nghymru; a bod llaw yr Arglwydd, yn amlwg ac yn wyrthiol, yn dwyn y gwaith gogoneddus ymlaen: ond er mor ryfedd yr amddiffynodd Duw ei achos, ac y cospodd yr erlidwyr, er hyny, meddaf, hyd y gwn i, ni bu wiw gan neb gadw coffadwriaeth, na dodi y pethau hyn mewn ysgrifen, i ddangos i'r oes bresennol ac i'r oesoedd a ddel, ryfedd weithredoedd Duw. A chan na wyddwn am neb o'm cydnabyddiaeth ag oedd mor hysbys â chwi yn holl amgylchiadau crefydd yn ein gwlad; ac yn enwedig gan eich bod gyda'r achos er's mwy na haner can' mlynedd, ac hefyd yn adnabyddus â llawer o hen frodyr, a chlywed o honoch gan y rhei'ny lawer o bethau tra rhyfedd a ddygwyddasant cyn ein geni ni; gan hyny dymunaf arnoch eistedd i lawr (oddigerth bod rhyw rwystr neillduol) dan y cysgod-lwyn hyfryd hwn, ac adrodd, hyd y galloch, y pethau mwyaf neillduol a ddygwyddasant yn y ddwy ganrif ddiweddaf ynghylch crefydd.
SYL. Pe buasech chwi, neu ryw rai ereill, yn gallu fy mherswadio ugain mlynedd yn gynt i gymeryd y gwaith mewn llaw, buasai yn debyg o fod mewn gwell trefn, ac yn gyflawnach, pan oedd y côf a'r cyneddfau ereill heb eu pylu gan hepiant; ond, fel y dywed y ddiareb, "Gwell hwyr na hwyrach.". Yr wyf, gan hyny, yn barod i ateb eich gofynion oreu y gallwyf.