Duw, crea galon bur
Gwedd
Mae Duw, crea galon bur yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Duw, crea galon bur,
Dod imi gysur beunydd;
I fyw yn well tra fwy'n y byd,
Dod ynof ysbryd newydd.
O Dduw! na ddyro chwaith
Fi ymaith o'th olygon;
Ac na chymer dy Ysbryd Glân
Oddi wrthyf, druan gwirion.
Gorfoledd dwg i mi
Drwy roddi i'm dy iechyd;
A chynnal â'th ysbrydol ddawn
Fi i fyw'n uniawn hefyd.
Duw! agor y min mau,
A'm genau mi a ganaf,
O Arglwydd! gerdd o'th fawl a'th nerth,
Fel dyna'r aberth pennaf.
Aberthau Duw i gyd
Yw ysbryd pur drylliedig;
Ac ni ddiystyri, O Dduw Iôn !
Y galon gystuddiedig.
Bydd dda wrth Seion fryn,
O Arglwydd! hyn a fynni;
Ac wrth Gaersalem, dy dref tad,
A gwna adeilad arni.