Duw, fy nghyfiawnder, clywaist fi
Gwedd
Mae Duw, fy nghyfiawnder, clywaist fi, yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Duw, fy nghyfiawnder, clywaist fi,
I'm cyni pan y'th elwais;
Rhyddheaist fi, dod im un wedd
Drugaredd; clyw fy oerlais.
Gwybyddwch ethol o Dduw cun
Iw ran ei hun y duwiol;
A phan y galwyf arnom hŷ,
Fe'm gwrendy yn amserol.
Pwy, medd llaweroedd, y pryd hyn,
A ddengys i'n ddaioni?
Arglwydd! Dyrcha'th wyneb-pryd,
Daw digon iechyd inni.
I'n calon rhoist lawenydd mwy,
A hynny drwy dy fendith,
Nag fyddai ganddynt hwy yn trin
Amlder o'u gwin a'u gwenith.