Neidio i'r cynnwys

Dwy Law yn Erfyn

Oddi ar Wicidestun

Mae Dwy Law yn Erfyn yn Emyn gan T Rowland Hughes wedi ei ysbrydoli gan lun Albrecht Dürer Dwylo'n gweddio, 1508.


Dwy law yn erfyn sydd yn y darlun
Wrth ymyl fy ngwely i;
Bob bore a nos mae'u gweddi'n un dlos,
Mi wn er na chlywaf hi.

Pan af i gysgu, mae'r ddwy law hynny
Wrth ymyl fy ngwely i
Mewn gweddi ar Dduw i'm cadw i'n fyw,
Mi wn er na chlywaf hi.

A phan ddaw'r bore, a'r wawr yn ole
Wrth ymyl fy ngwely i,
Mae'r weddi o hyd yn fiwsig i gyd,
Mi wn er na chlywaf hi.

Rhyw nos fach dawel fe ddwg yr awel
O ymyl fy ngwely i
Y weddi i'r sêr, fel eos o bêr,
A minnau'n ei chlywed hi.