Dy ras, dy nawdd, fy Nuw, i'm dod
Gwedd
Mae Dy ras, dy nawdd, fy Nuw, i'm dod yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Dy ras, dy nawdd, fy Nuw, i'm dod,
Sef ynod ymddiriedaf;
Nes myned heibio'r aflwydd hyn,
Dan d'edyn ymgysgodaf.
Ymddyrcha, Dduw, y nef uwchlaw,
Oddi yno daw d'arwyddion;
A bydded dy ogogiant ar
Y ddaear a'i thrigolion..