Neidio i'r cynnwys

Dydd y Farn

Oddi ar Wicidestun
Dydd y Farn gan Joos van Cleve

Mae Dydd y Farn yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).

Dydd y Cyfrif sydd yn agos
Dydd i bawb mewn barn ymddangos
Dydd i'r llyfrau gael eu hagor
Dydd y gwelir dirfawr ragor.

Dydd i Grist fod ar ei orsedd
Dydd i ymddangos yn ei fawredd
Dydd y bloeddia yr archangel;
Dydd dadguddio pethau dirgel.

Dydd y disgyn Crist o'r nefoedd
Dydd i gasglu'r holl genhedloedd
Dydd ca'r byd a'r meirw'u barnu
Dydd bydd myrdd yn casglu parddu.

Dydd i Grist ddod ar y cwmmwl
Dydd i roddi'r cyfrif manwl
Dydd na welwyd tebyg iddo
Dydd mae miloedd yn arswydo.

Dydd i'r meirw gael eu codi;
Dydd y bydd y creigiau'n hollti
Dydd i'r ddaear gael ei llosgi;
Dydd i'r holl elfennau doddi.

Dydd i farnu mewn uniondeb
Dydd pryd na fydd derbyn wyneb
Dydd y derbyn pawb eu gwobrwy
Dydd i fyrdd fydd yn ofnadwy.

Dydd i agor pyrth y beddrod
Dydd ca rhwymau angeu'u dattod
Dydd i ddeffro'r dyrfa gysglyd
Dydd i'r meirw gael ail fywyd.

Dydd i'r dyrfa gael eu didol;
Dydd ca pawb eu Ue priodol;
Dydd i'r geifr fod ar yr arswy
Dydd alaethus annrhaethadwy.

Dydd i ddynolryw gyfarfod
Dydd wrth fodd y rhai fydd barod
Dydd i'r Saint fod oU yn llawen
Dydd llewyrchant fel yr haulwen.

Dydd i'r seintiau godi'eu pennau
Dydd llawenydd heb ddim dagrau
Dydd yr arddel Crist ei eiddo,
Dydd i'r seintiau oll ddisgleirio.

Dydd bydd rhai yn berffaith ddedwydd
Dydd i ymddangos gyda'i Harglwydd
Dydd dychrynllyd i fyrddiynau
Dydd i hollol losgi'r efrau.

Dydd i gosbi annuwiolion
Dydd i dalu i elynion
Dydd gofidus, dydd wylofain
Dydd i annuwiolion ochain.

Dydd bydd miloedd yn llewygu
Dydd y gwelir myrdd yn crynu
Dydd cyfyngder, dydd o drallod
Dydd i dderbyn cyflog pechod.

Dydd difrifol i'r cellwarus
Dydd distewi pob gwag esgus
Dydd i ddiosg y rhagrithiwr
Dydd didwyllo'r hunan dwyllwr.