Dyddanwch yr Aelwyd/Can Doli
← Fy Anwyl Fachgen Mwyn | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Milwr Ieuangc idd ei Gariad → |
CAN DOLI
DEWI:—
A welaist, a 'dwaenaist ti Doli,
Sy' a'i defaid ar ochr Eryri?
Ei llygad byw llon
Wnaeth friw ar fy mron,
Melusach na'r diliau yw Doli.
HYWEL:—
O do, mi adwaenwn i Doli,—
Mae'i bwthyn wrth droed yr Eryri;
'D oes tafod na dawn
All adrodd yn iawn
Mor hawddgar a dengar yw Doli.
Un dyner, un dawel yw Doli,—
Mae'n harddach—mae'n lanach na'r lili;
'Does enw îs nen
A swnia'n ddisen
Mor ber gyda'r delyn a Doli.
DEWI:—
Ow! ow! nid yw'n dyner wrth Dewi,—
'Does meinir yn delio fel Doli,
Er ymbil â hi
A'm llygad yn lli,
Parhau yn gildynus mae Doli.
Ymdrechais wneyd popeth i'w boddio,
Mi gesglais ei geifr idd eu godro,
Dan obaith yn llwyr
Y cawn yn yr hwyr
Gusanu yn dalu gan Doli.
Mae'i mynwes mor wynned a'r eira,—
Mae'i chalon mor oered mi wiria';
Ar f' elor ar fyr
Fy nghariad a'n ngyr—
O oered a deled yw Doli!
Tri pheth a dim mwy wy'n ddymuno,—
Pob bendith i Doli lle delo,—
Cael gweled ei gwedd
Nes myned i'm medd,—
A marw yn nwylo fy Noli.
—ALUN