Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Can y Crys

Oddi ar Wicidestun
Caniad i Gariad Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Hedydd lon

CAN Y CRYS.

A bysedd eiddil, blin,
Ac emrynt llawn o gur,
Eisteddai gwraig mewn carpiog wisg,
Gan drin ei nydwydd ddur:
Pwyth—Pwyth—Pwyth,
A ddodai gyda brys,
A chyda llais dan drymaidd lwyth
Hi ganai "GAN Y CRYS."

Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Nes toro gwawr y nen;
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Nes t'wyno'r ser uwch ben;
Gwell bod yn gaeth—ddyn erch
Yn nghanol Tyrcaidd dras,
Lle nad oes enaid gan un ferch,
Na dilyn gwaith mor gas!

Gwaith—Gwaith—Gwaith,
Ymenydd ysgafnha,
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Yn ddwl y golwg wna;
Gwniad—cwysiad—clwm,
Am gyflog fechan geir,
Nes uwch botymau cysgu'n drwm,
A'r gwaith mewn breuddwyd wneir.

Chwi fedd chwiorydd teg,
Mamau, a gwragedd gwiw

Cofiwch nad gwisgo llïain 'r y'ch,
Ond bywyd dynolryw!
Pwyth—Pwyth—Pwyth
Mewn tlodi, newyn, chwys,
Ag edef ddwbl pwytho o hyd
Yr amdo fel y crys!

P'am son am angau du?
Drychiolaeth esgyrn dyn!
Nid ofnaf wel'd ei echrys ddull,
Mae'n debyg im' fy hun!
Mae'n debyg im' fy hun,
Yn fy'mpryd dinacâd—
O Dduw paham mae bara'n ddrud,
A chnawd a gwaed mor rhad!

Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Fy llafur sy'n parhau;
Beth ydyw'r gyflog? gwely gwellt,
Crystyn, a charpiau brau!
Tô drylliedig, a llawr noeth—
Bwrdd—a chadair wan;
Y muriau gwag a'm cysgod gwael
Yn unig ddelw'r fan!

Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Drwy oerfel Rhagfyr hir;
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Pan hin fo'n frwd a chlir;
Odan fargodion, ceir
Nythle gwenoliaid chwim,

A hwy a'u cefnau heulog fydd,
Yn danod gwanwyn im'!
 
O! na chawn arogl chweg
Y blodau tlysaf gaed—
Yr awyr uwch fy mhen,
A'r gwellt-glas dan fy nhrael .
O! am un awr fel cynt
Y bum mewn melus nwyd,
Heb wybod dim am rodfa drist,
A gostiai bryd o fwyd!

O! na chawn orig fach
Yn ngodrau tyner nawn—
Nid serch na gobaith ddenai 'mryd,
Ond gofid monwes lawn!
Ychydig wylo wnai im' les!
Ond grym brwdaniaeth cur
A sych fy nagrau , rhag i ddafn
Rydu fy nydwydd ddur!

A bysedd eiddil, blin,
Ag emrynt llawn o gur,
Eisteddai gwraig mewncarpiog wisg,
Gan drin ei nydwydd ddur :
Pwyth, Pwyth, Pwyth,
A ddodai gyda brys,—
O! na bai'r holl gyfoethog lwyth
Yn deall " CAN Y Crys."
—IORWERTH GLAN ALED


Nodiadau

[golygu]