Dyddanwch yr Aelwyd/Can yr Ymyfwr
← Plentyn y Morwr | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Myfyrdod ar Lan Afon → |
CAN YR YMYFWR.
Henffych well' fy ngwydraid siriol!
Genyf fi yn ddiammheuol
Nid oes dim sydd mor ddewisol;
Atat oddiwrth pobpeth äf:
Er y gwn i am dy ddrygau,
Er cael prawf mai twyll yw'th wênau,
Eto wrthyt bob amserau,
O fy ngwydraid' glynu wnâf.
Beth? ymrwymo i beidio yfed
Fy hoff wlybwr sydd felused!
Na! Nid yw fy mhen càn waned!
Dirwest' aed i rywle ymhell:
Gwell yw genyf bob gresyndod
Gwendid corff' ac ing cydwybod,
Nag ymattal rhag y ddiod:
O fy ngwydraid' henffych well!
Am y tipyn blâs a brofaf,
Ymadawn a'm swllt diweddaf;
Boed a fyddo' mi ymyfaf;
O ddioden! Swyn yw hi!
Er i'm gwraig fod heb gysuron;
Yfed wnaf bob nos yn gyson;
Ac er iddi dori ei chalon,
At fy ngwydraid daliaf fi,
Boed fy nheulu yn druenus,
Boed fy enw yn anmharchus,
Mynu wnaf fy niod flasus,—
Beiant hwy—mi yfaf fi:
Och! a fyddaf fi golledig?
Ah! nid oes dim help, mae'n debyg;
Wrth fy chwant wyf yn glymedig:
Wydraid, henffych well i ti!
Parch. ROGER EDWARDS.