Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Canig Serch

Oddi ar Wicidestun
Y Wlad Ddedwyddaf Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Myfyrdod wrth wrando ar y Fronfaith yn canu

CANIG SERCH.

Oddiar y wybr pan y bo,
Cymylau eirian lu,
Yn ffurfio hardd amryliw do,
Troi'm trem yn anhawdd sy.

Anhawdd i'm droi fy nhrem yn ol
Oddiar y dagrau gwlith
Arianant wyneb gwyrdd y ddol
Ar ol y gawod flith.

Mae'n hoff i'm dremio ar y llwyn
Pan fyddo'i wyrddion ddail
O flaen yr awel esmwyth fwyn,
Yn chwareu bob yn ail.

Hoff gennyf weld yr haul o draw
Yn machlud dros y bryn,
A'r llechwedd coediog sydd gerllaw
Mewn ardeb yn y llyn.

Ond balm ni r'ont i'r galon friw
Sy'n cael ei hysu'n gudd,
Gan danbaid serch at eneth wiw,
Swyn yn ei henw sydd.

Mae'n byw mewn bwth yn nghwr y twyn
Mewn swynol fan ddigur,
Lle cân y fwyalch emyn fwyn,
A byw mae symledd pur.


Yr ysgafn droed a'i chynog lwys
Ar draws y waen â'n llon.
Ni wyr oddiwrth y pigyn dwys
Mae'n roi dan lawer bron.

Corelwa llonder ar ei grudd
Dan wallt sydd felyn iawn,
Oddiwrth fursendod mae yn rhydd,
Er bod o serch yn llawn.

Gwynfyd na bai fy nghalon don
Yn eiddo'i chariadllwyr,
A'i braich yn rhydd i'm rodio'n llon
Dan gysgod bron yr hwyr.

A'r lleuad wemp yn ddisglaer iawn
'N cusanu'r blodau mân,
Distawrwydd dwfn arddiwedd nawn,
Yn enyn serch yn dân.

Awn hwnt i'r llwyn dros gwrlid gwyrdd,
Ynmhell o sŵn a chri;
Lle'n tarddu mae briallu fyrdd
O ddeutu'r llwybrau'n llu.

Mewn c'lymau serch wrth rodio 'nghyd
Dan osglawg bren y cawn,
Alltudio ymaith ofn o'm bryd,
A thywallt calon lawn.

Y cyfryw ddedwydd dawel hynt
A wnai falmeiddio'r briw,

A roddwyd gan ei glendid gynt
I'm tyner galon wiw.

Ac ymneillduo i gydfyw
I anedd dawel glud,
Gerllaw y ffrwd sy'n nhroed y rhiw
Yn mhell o dwrf y byd.

I dreulio f'oes, a chael у fraint
O fywyd dedwydd llon,
A marw yno'n un o'r saint,
Dan bwyso ar ei bron.

—PAULINURUS.


Nodiadau

[golygu]